Sut i ddefnyddio'r adnodd i ddod o hyd i brentisiaeth
Canllawiau i'ch helpu i ddefnyddio ein gwasanaeth i ddod o hyd i brentisiaeth..
Os ydych chi'n gwybod am ba fath o brentisiaeth rydych chi'n edrych, defnyddiwch yr adnodd chwilio Enw neu ddisgrifiad.
I weld pa brentisiaethau sydd ar gael mewn gwahanol ddiwydiannau, chwiliwch yn ôl Sector (e.e. adeiladu neu manwerthu).
Chwilio am brentisiaeth mewn unrhyw leoliad yng Nghymru gan ddefnyddio Lleoliad neu god post. Gall hyn fod yn agos i'ch cartref neu'r man lle'r hoffech weithio.
Gallwch hefyd chwilio yn ôl Lefel Prentisiaeth:
- Mae Prentisiaeth Sylfaen gyfwerth â phasio 5 TGAUs
- Prentisiaeth gyfwerth â phasio 2 Safon Uwch
- Gall Prentisiaeth Uwch arwain at radd sylfaen
- Mae Gradd-brentisiaeth gyfwerth â gradd bagloriaeth neu radd meistr
Gadewch Enw neu ddisgrifiad yn wag i edrych am unrhyw brentisiaeth yn eich Lleoliad neu god post, Sector neu Lefel Prentisiaeth.
Er mwyn chwilio drwy bob prentisiaeth, gadewch bob adran yn wag a dewiswch Chwilio
Dangos cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd yn unig. Ticiwch y blwch os ydych am weld cyflogwyr sydd wedi ymuno â'r cynllun Hyderus o ran Anabledd. Mae hyn yn helpu cyflogwyr i wneud y gorau o'r talentau y gall pobl anabl eu cynnig i'r gweithle.
Bydd ymgeiswyr anabl fel arfer yn cael cynnig cyfweliad os byddant yn bodloni'r gofynion sylfaenol ar gyfer y brentisiaeth wag hon. Cysylltwch â'r cyflogwr i gael y manylion llawn.
Mae'n bosibl y bydd angen i gyflogwyr gyfyngu ar nifer y cyfweliadau sy'n cael eu cynnig os bydd nifer fawr o geisiadau yn dod i law.