- Cyflogwr:
- Country House Childcare
- Lleoliad:
- Cobblers Wood, Alltami Road, Sychdyn, CH7 6RH, Y Deyrnas Unedig.
- Cyflog:
- Cyfraddau prentisiaethau
- Oriau yr wythnos:
- 31-40 awr yr wythnos
- Darparwr Hyfforddiant:
- Coleg Cambria
- Lefel:
- Prentisiaeth Sylfaen (Lefel 2)
- Sector:
- Gofal Plant
- Llwybr:
- Gwaith chwarae
- Dyddiad cychwyn posibl:
- 02 May 2026
- Dyddiad cau:
- 01 May 2026
- Safbwyntiau ar gael:
- 2
- Cyfeirnod y brentisiaeth wag:
- 6848
enquiries@countryhousechildcare.com
Ynglŷn â'r brentisiaeth
Dyletswyddau
● Darparu amgylchedd addysgiadol diogel, gofalgar, ysgogol, y tu mewn a thu allan, bob amser.
● Diwallu anghenion dyddiol plant gan gynnwys bwydo, mynd i’r toiled a newid clytiau
● Mynd gyda staff y feithrinfa ar deithiau cerdded ac ymweliadau â'r warchodfa natur a'r ysgol goedwig gan sicrhau diogelwch y plant
● Cadw'r amgylchedd (dan do ac yn yr awyr agored) yn lân, yn daclus ac yn ddiogel, gan
ddweud am unrhyw broblemau
● Goruchwylio chwarae dan arweiniad plant
● Ymgysylltu â phlant yn ystod gweithgareddau a chwarae
● Cofnodi gweithgareddau dyddiol y plant ar ap ein meithrinfa
Gwybodaeth ychwanegol
Rydyn ni’n lleoliad gofal plant newydd ac unigryw
mewn lleoliad gwledig ond hygyrch. Rydyn ni’n
gofalu am blant 9 mis oed a hŷn (Dydd Llun-dydd
Gwener).
Rydyn ni’n gweithio tuag at achrediad gyda The
Curiosity Approach ac yn canolbwyntio’n gryf ar
chwarae ac addysg tu allan, chwarae dan arweiniad
plant, rhyddid a mynd â’r plant allan am dro ac am
antur cymaint â phosibl. Mae’r diwrnodau’n llawn
hwyl a chwerthin. Bydd yr ymgeisydd/ymgeiswyr
llwyddiannus yn ymuno â’r tîm presennol i ofalu am y
plant 3 neu 4 diwrnod yr wythnos yn ddelfrydol.
www.countryhousechildcare.co.uk
www.facebook.com/countryhousechildcare
Gofynion
Sgiliau
Rydyn ni’n dymuno ehangu tîm ein meithrinfa,
su’n gufle gwych ac yn rhoi a rhagolygon ar
gyfer y dyfodol i'r person/pobl gywir. Mae ein
prentis cyntaf bellach wedi cymhwyso’n llawn ac
yn parhau i weithio gyda ni ar ôl bron i 3
blynedd.
Nodweddion rydyn ni’n chwilio amdanyn nhw:
Gwaith Tîm: cyd-weithio, rhannu gwybodaeth a
phrofiadau i roi’r gofal gorau
⮚ Aelod Da o Dîm: Gonest, ffyddlondeb ac ymrwymiad, synnwyr digrifwch da
Cydwybodol - Parodrwydd i ennill cymwysterau perthnasol. Dealltwriaeth sylfaenol o ddatblygiad
plant, eu hanghenion a darpriaeth chwarae adarnaol. Ymrwymiad i ddamcaniaethau ac arferion
cyfle cyfartal. Ymwybyddiaeth o faterion iechyd a
diogelwch wrth ddarparu cyfleoedd chwarae. Gallu
gwneud dyletswyddau corfforol ysgafn fel codi plant
bach, tasgau cadw ty a gosod yr amgylchedd dysgu.
Natur Agored: gwrando a rhannu; meithrin
ymddiriedaeth a gweithredu gydag uniondeb; trin
eraill gyda pharch a gweithio gyda thryloywder
⮚ Sgiliau Cyfathrebu Da
⮚ Parchus: annog, cefnogi a deall eraill - eu
syniadau, eu safbwyntiau a’u gwybodaeth
Gweithio ar eich liwt eich hun: llawn cymhelliant a hyblygrwydd.
Cymwysterau
Bod yn gymwys i ddechrau cymhwyster lefel 2 mewn
Gweithlu Plant a Phobl Ifanc neu gymhwyster
cyfatebol
Oherwydd lleoliad gwledig, mae’n hanfodol eich bod
yn gallu gyrru car neu trefnu teithio i’r gwaith
Tystysgrif DBS - penodol i'r sector
Dau eirda
Byddai siarad Cymraeg yn fantais ond nid yn
hanfodol
Language
- Sgiliau siarad Cymraeg:
- Na
- Sgiliau ysgrifennu Cymraeg:
- Na
Manylion y Cwrs
- Darparwr Hyfforddiant:
- Coleg Cambria
- Training provider course:
- Gofal, Dysgu, Chwarae a Datblygiad Plant Lefel 2 neu 3
Ynglŷn â'r cyflogwr
Country House ChildcareCobblers Wood
Alltami Road, Sychdyn
Mold
Flintshire
CH7 6RH
Hyderus o ran Anabledd
Na, nid ydym yn rhan o'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd gan Adran Gwaith a Phensiynau'r DU.
Noder bod pob prentisiaeth yn agored i bawb. Fodd bynnag, mae rhai sefydliadau wedi gweithio i ennill achrediad Hyder Anabledd. Dylech bob amser wneud cais am y brentisiaeth sy'n fwyaf addas i chi.
Trefniadau cyfweliadau
I’w gynnal yn y lleoliad
Sut i wneud cais
E-bostiwch y cyfeiriad isod i wneud cais am y swydd wag hon