Skip to main content

Prentisiaeth Gweinyddiaeth Busnes

Cyflogwr:
Advanced Elastomer Systems (Celanese, Newport)
Lleoliad:
Traston Road, Off Corporation Road, NP19 4XF, Y Deyrnas Unedig.
Cyflog:
Arall
Oriau yr wythnos:
31-40 awr yr wythnos
Darparwr Hyfforddiant:
Cardiff and Vale College
Lefel:
Prentisiaeth (Lefel 3)
Sector:
Busnes a Rheoli
Llwybr:
Gweinyddu Busnes
Dyddiad cychwyn posibl:
15 February 2026
Dyddiad cau:
30 January 2026
Safbwyntiau ar gael:
1
Cyfeirnod y brentisiaeth wag:
6738

Anfonwch CV dros e-bost at michelle.barrett@celanese.com

michelle.barrett@celanese.com


Ynglŷn â'r brentisiaeth

Dyletswyddau

Fel Prentis Gweinyddiaeth Busnes byddwch yn dysgu am bob elfen o weithio mewn amgylchedd swyddfa wrth astudio tuag at eich cymhwyster Gweinyddiaeth Busnes. Fel Cynorthwyydd Gweinyddol, byddwch yn rhoi cy-morth i nifer o weithrediadau allweddol yn y busnes e.e Diogel-wch/Proses/Cynnal a Chadw/Technegol/Ansawdd/Caffael/Gweinyddiaeth a Hyfforddiant Adnoddau Dynol. Bydd gennych fewnwelediad i fusnes sut mae’r gweithrediadau hyn yn gweithio a’r gwasanaethau maent yn eu darpa-ru o fewn amgylchedd gweithgynhyrchu. Mae hwn yn gyfle gyrfagwych i un-rhyw un sy’n awyddus i ddatblygu o fewn busnes mewn amgylchedd gweithgynhyrchu. Byddwch yn gweithio tuag at eich prentisiaeth Gweinyddi-aeth Busnes L3 drwy gynorthwyo gydag ystod o ddyletswyddau perthnasol i’ch astudiaethau. Byddwch hefyd yn cael amser neilltuol i gwblhau eich dysgu.
• Defnydd o Microsoft Word, Excel a Powerpoint i greu adroddiadau, taenlenni a chyflwyniadau
• Dysgu SAP ar gyfer codi archebion prynu a derbyn nwyddau
• Cefnogi gwahanol weithrediadau gyda thasgau gweinyddol arferol
• Dyletswyddau gweinyddol cyffredinol h.y. cadw cofnodion, llungopïo, ffeilio (papur ac electronig)
• Rheoli post swyddfa

Gwybodaeth ychwanegol

Ar hyn o bryd, mae Celanese yn recriwtio Prentis Gweinyddiaeth Busnes i ymuno â ni yma yng ffatri Advanced Elastomer Systems (AES) yng Nghasnewydd. Dyma gyfle cyffrous i weithio o fewn amgylchedd gweithgynhyrchu prysur ac amrywiol, lle rydym yn ymfalchïo mewn darparu perfformiad di-nam. Byddwch yn darparu cymorth gweinyddiaeth busnes fel un o gyfleusterau Vulcanisate Thermoplastig mwyaf blaenllaw Ewrop, sy’n darparu deunyddiau crai ar gyfer y diwydiant modurol byd-eang.

Mae’r Brentisiaeth Gweinyddiaeth Busnes yn gynllun 18 mis a fydd yn eich helpu i gyflawni amrywiaeth o gymwysterau. Byddwch yn anelu at gyflawni Prentisiaeth NQ Lefel 3 gyda bwriad i ddatblygu ymhellach i Ddiploma NVQ Lefel 4 mewn Gweinyddiaeth Busnes. Mae'r Brentisiaeth Gweinyddiaeth Busnes yn rhaglen hyfforddiant galwedigaethol seiliedig ar waith. Byddwch wedi’ch lleoli yn y cyfleuster gweithgynhyrchu am bump diwrnod yr wythnos a byddwch yn dysgu tra byddwch yn y swydd.

Byddwn yn gweithio gyda Choleg Caerdydd a’r Fro, sef un o’r colegau mwyaf yn y DU, gan ddarparu addysg a hyfforddiant o ansawdd dda o fewn Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Mae ganddynt dros 30,000 o ddysgwyr y flwyddyn yn astudio cyrsiau coleg llawn amser a rhan amser, cymwysterau prifysgol a rhaglenni prentisiaeth, ynghyd â darpariaeth hyfforddiant penodol ar gyfer cyflogwyr.

Gofynion

Sgiliau

• Brwdfrydedd a phenderfynoldeb i lwyddo
• Hunan-gymhelliant i sicrhau bod yr holl derfynau amser NVQ yn cael eu bodloni
• Natur chwilfrydig
• Sgiliau cyfathrebu da
• Dull hyblyg o fynd i’r afael â nifer o wahanol adrannau
• Gweithio’n dda mewn tîm
• Yn gallu defnyddio Microsoft Word, Excel a Powerpoint yn fedrus
• Defnyddio eich menter eich hun a chwilio am gyfleoedd i wella prosesau gwaith

Cymwysterau

Fel lleiafswm, meddu ar 5 cymhwyster pasio TGAU, Graddau A-C, gyda Saesneg a Mathemateg yn hanfodol

Language

Sgiliau siarad Cymraeg:
Na
Sgiliau ysgrifennu Cymraeg:
Na

Manylion y Cwrs

Darparwr Hyfforddiant:
Cardiff and Vale College
Training provider course:
Gweinyddiaeth busnes

Ynglŷn â'r cyflogwr

Advanced Elastomer Systems (Celanese, Newport)
Traston Road
Off Corporation Road
Newport
Newport
NP19 4XF

Hyderus o ran Anabledd

Na, nid ydym yn rhan o'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd gan Adran Gwaith a Phensiynau'r DU.

Noder bod pob prentisiaeth yn agored i bawb. Fodd bynnag, mae rhai sefydliadau wedi gweithio i ennill achrediad Hyder Anabledd. Dylech bob amser wneud cais am y brentisiaeth sy'n fwyaf addas i chi.

Trefniadau cyfweliadau

Canolfan Asesu wyneb yn wyneb ar ein safle, a fydd yn cynnwys prawf ymarferol, taith o amgylch y peiriannau a chyfweliad wyneb yn wyneb.

Sut i wneud cais

E-bostiwch y cyfeiriad isod i wneud cais am y swydd wag hon

Anfonwch CV dros e-bost at michelle.barrett@celanese.com

michelle.barrett@celanese.com