Mae AaGIC wedi cytuno ar gynnwys y Llwybr hwn mewn cydweithrediad â Chyflogwyr o'r Sector Gofal Iechyd. Dyma'r unig Lwybr Prentisiaeth yn y sector Gofal Iechyd a gymeradwywyd i'w ddefnyddio yng Nghymru, ac sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan Medr.
ISSUE DATE: 1/06/2025 FRAMEWORK NO: M1611
Cynnwys y Rhaglen Ddysgu
Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:
Cymwysterau,
Sgiliau Hanfodol
Hyfforddiant yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
60 credyd yw’r isafswm credydau gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 2 Gweinyddiaeth Feddygol.
70 credyd yw’r isafswm credydau gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 3 Ysgrifennydd Meddygol
Gofynion mynediad
Mae cyflogwyr o'r Sector Iechyd sy'n defnyddio'r fframwaith hwn yn cynnig amrywiaeth eang o hyfforddiant sgiliau drwy'r llwybrau unigol, ac yn croesawu ymgeiswyr o ystod eang o gefndiroedd amrywiol, ac yn rhagweld y bydd ganddynt ystod eang o brofiad, cyflawniadau a chymwysterau. Gall y broses ddethol gan gyflogwyr (neu mewn partneriaeth â darparwyr dysgu) gynnwys asesiad cychwynnol lle gofynnir i ymgeiswyr a oes ganddynt unrhyw gymwysterau neu brofiad y gellir eu hachredu yn erbyn gofynion y brentisiaeth. Bydd angen i brentisiaid allu cydymffurfio â Gwiriadau Cyn Cyflogi y sefydliad sy'n cyflogi.
Nid oes angen unrhyw gymwysterau penodol er mwyn cael mynediad i'r fframwaith prentisiaeth hwn. Dylai prentisiaid:
- Arddangos gwerthoedd sefydliad y cyflogwr
- Dangos brwdfrydedd dros weithio yn y sector iechyd
- Meddu ar sgiliau llythrennedd, rhifedd a chyfathrebu sylfaenol y bydd y brentisiaeth yn adeiladu arnynt
- Bod â lefel addas o ffitrwydd corfforol i gyflawni rhai agweddau ar rolau'r swydd (e.e. cynorthwyo i symud a thrin gwrthrychau difywyd)
- Bod yn barod i dderbyn gwiriadau gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
- Bod yn hyblyg oherwydd gellid bod angen gweithio ar rota.
Efallai y bydd gan gyflogwyr unigol yn y sector iechyd ofynion mynediad cyflogaeth ychwanegol.
Lefel 2
Bydd ymgeiswyr i'r Brentisiaeth hon yn dod o wahanol grwpiau oedran, a bydd eu cefndir a'u profiadau'n amrywio. Fel canllaw, gall ymgeiswyr gael mynediad drwy amrywiaeth o lwybrau, gan gynnwys:
Gwaith (rôl bresennol)
Profiad gwaith
Ysgol
Coleg
Hyfforddiant a/neu brofiad a allai gynnwys portffolio sy'n dangos yr hyn y maent wedi'i wneud
Efallai y bydd ymgeiswyr eisoes wedi ennill amrywiaeth o gymwysterau e.e:
Sgiliau Hanfodol Cymru
Bagloriaeth Cymru
Bagloriaeth Cymru gyda Phrif Ddysgu
Dysgu Sylfaenol ar lefel 1
Cymwysterau lefel 1 eraill
TGAU mewn pynciau cysylltiedig
Rhinweddau Personol
Mae cyflogwyr yn chwilio am brentisiaid yn y sector iechyd sy'n arddangos gwerthoedd ac ymddygiadau'r sefydliad sy'n cyflogi ac sydd:
Yn drefnus ac yn gydwybodol
Yn gallu gweithio mewn tîm
Yn awyddus ac yn frwdfrydig i weithio yn yr amgylchedd gofal iechyd o'u dewis
Yn barod i ddilyn cwrs hyfforddi yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith, ac i gymhwyso'r hyn a ddysgir yn y gweithle
Yn meddu ar sgiliau llythrennedd, rhifedd a chyfathrebu sylfaenol y bydd y brentisiaeth yn adeiladu arnynt
Yn barod i dderbyn Archwiliad Iechyd Galwedigaethol, os yw'r rôl yn gofyn am hynny
Yn barod i dderbyn gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, os yw'r rôl yn gofyn am hynny (e.e. efallai y bydd angen hyn mewn rolau lle gall y prentisiaid ddod i gysylltiad â phlant, pobl ifanc neu oedolion sy'n agored i niwed)
Yn gallu bod yn hyblyg oherwydd gellid bod angen gweithio sifftiau
Mae'n bosibl y bydd gan gyflogwyr unigol yn y sector Gofal Iechyd ofynion mynediad cyflogaeth ychwanegol e.e. y gallu i deithio rhwng gwahanol leoliadau yn dibynnu ar y man lle darperir gwasanaethau.
Lefel 3
Mae’r gofynion mynediad yr un fath â rhai Lefel 3, ond maent hefyd yn cynnwys ymgeiswyr sydd eisoes wedi cyflawni amrywiaeth o gymwysterau o bosib ee:
- Sgiliau Hanfodol Cymru
- Prentisiaeth Lefel 2
- Cymwysterau TGAU
- Cymwysterau Safon Uwch TAG
- Bagloriaeth Cymru
- Bagloriaeth Cymru gyda Phrif Ddysgu
- Cymwysterau lefel 3 perthnasol eraill e.e. BTEC, Lefelau T
Rhinweddau Personol
Mae cyflogwyr yn chwilio am brentisiaid yn y sector iechyd sy'n arddangos gwerthoedd ac ymddygiadau'r sefydliad sy'n cyflogi ac sydd:
• Yn drefnus ac yn gydwybodol
• Yn gallu gweithio mewn tîm
• Yn awyddus ac yn frwdfrydig i weithio yn yr amgylchedd gofal iechyd o'u dewis
• Yn barod i ddilyn cwrs hyfforddi yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith, ac i gymhwyso'r hyn a ddysgir yn y gweithle
• Yn meddu ar sgiliau llythrennedd, rhifedd a chyfathrebu sylfaenol y bydd y brentisiaeth yn adeiladu arnynt
• Yn barod i dderbyn Archwiliad Iechyd Galwedigaethol, os yw'r rôl yn gofyn am hynny
• Yn barod i dderbyn gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, os yw'r rôl yn gofyn am hynny (e.e. efallai y bydd angen hyn mewn rolau lle gall y prentisiaid ddod i gysylltiad â phlant, pobl ifanc neu oedolion sy'n agored i niwed)
• Yn gallu bod yn hyblyg oherwydd gellid bod angen gweithio sifftiau
Mae'n bosibl y bydd gan gyflogwyr unigol yn y sector Gofal Iechyd ofynion mynediad cyflogaeth ychwanegol e.e. y gallu i deithio rhwng gwahanol leoliadau yn dibynnu ar y man lle darperir gwasanaethau.
Rhaid i brentisiaid sydd am achredu unrhyw ddysgu blaenorol ddewis opsiynau o fewn y Llwybr a fydd yn rhoi sgiliau ac addysg newydd iddynt.
Asesiad Cychwynnol
Bydd darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr yn defnyddio asesiad cychwynnol i sicrhau bod ymgeiswyr yn cael cyfle teg i ddangos eu gallu ac i deilwra rhaglenni dysgu i fodloni anghenion unigol, gan gydnabod cymwysterau a phrofiad blaenorol.
Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth
Lefel 2: Prentisiaeth Sylfaen mewn Gweinyddiaeth Feddygol
Lefel 2: Prentisiaeth Sylfaen mewn Gweinyddiaeth Feddygol Cymwysterau
Rhaid i ddysgwyr gyflawni un o’r cymwysterau cyfunol isod:
| Diploma Lefel 2 Agored Cymru mewn Gweinyddiaeth Feddygol | |||||
|---|---|---|---|---|---|
| Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
| Agored Cymru | C00/5160/0 | 60 | 600 | Cyfun | Cymraeg - Saesneg |
Edrychwch ar Atodiad 1 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
| Lefel 2: Prentisiaeth Sylfaen mewn Gweinyddiaeth Feddygol | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
|---|---|---|
| Cyfathrebu | 1 | 6 |
| Cymhwyso Rhif | 1 | 6 |
| Llythrennedd Digidol | 1 | 6 |
Saesneg-Cymraeg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
| Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
|---|---|---|
| Lefel 2: Prentisiaeth Sylfaen mewn Gweinyddiaeth Feddygol | 150 | 179 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
Bydd dysgu yn y gwaith yn cynnwys:
Diploma Lefel 2 Agored Cymru mewn Gweinyddiaeth Feddygol
Bydd tystiolaeth i gefnogi'r cais am dystysgrif cwblhau prentisiaeth ar gyfer hyfforddiant yn y gwaith yn cynnwys copi o'r dystysgrif cymhwyso ar gyfer un o'r cymwysterau uchod ac arni'r unedau a gwblhawyd.
Bydd dysgu i ffwrdd o'r gwaith yn cynnwys:
Lefel 1 Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol
Lefel 1 Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol
Lefel 1 Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol
Gall hyfforddiant i ffwrdd o'r gwaith a gyflawnwyd cyn i'r prentis ddechrau ei brentisiaeth gyfrif tuag at yr hyfforddiant i ffwrdd o'r gwaith sy'n ofynnol ar gyfer y brentisiaeth, os cyflawnwyd yr hyfforddiant hwnnw'n gysylltiedig â chymhwyster achrededig sydd wedi'i gynnwys yn y fframwaith y gwneir cais am dystysgrif cwblhau ar ei gyfer.
Bydd tystiolaeth i gefnogi'r cais am dystysgrif cwblhau prentisiaeth ar gyfer hyfforddiant i ffwrdd o'r gwaith yn cynnwys copi o'r dystysgrif cymhwyso ar gyfer pob un o'r cymwysterau uchod ac arni'r unedau a gwblhawyd.
Disgwylir y bydd:
- Oriau hyfforddi yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith, y naill a'r llall, wedi'u cynllunio, eu hadolygu a'u gwerthuso ar y cyd rhwng y prentis a thiwtor, neu athro, goruchwylydd neu reolwr yn y gweithle a, lle bo'n berthnasol, hyfforddwr neu fentor y prentis.
- Cefnogaeth hyfforddi yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith, naill ai drwy diwtor, athro, mentor neu reolwr yn cael ei darparu os oes angen hynny ar y prentis.
- Bydd oriau hyfforddi yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith yn cael eu darparu drwy un neu fwy o'r dulliau canlynol: addysgu unigol ac mewn grŵp; e-ddysgu; dysgu o bell; hyfforddi; mentora; adborth ac asesu; dysgu cydweithredol/rhwydweithiol gyda chymheiriaid; astudiaeth dan arweiniad.
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd / 45 GLH Lefel 1 Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol
- 6 chredyd / 45 GLH Lefel 1 Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol
- 6 chredyd / 45 GLH Lefel 1 Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol
Lefel 3: Prentisiaeth Sylfaen mewn Gweinyddiaeth Feddygol
Lefel 3: Prentisiaeth Sylfaen mewn Gweinyddiaeth Feddygol Cymwysterau
Rhaid i ddysgwyr gyflawni’r cymhwyster cyfun isod.
| Diploma Lefel 3 Agored Cymru ar gyfer Ysgrifenyddion Meddygol | |||||
|---|---|---|---|---|---|
| Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
| Agored Cymru | C00/5160/1 | 70 | 700 | Cyfun | Cymraeg - Saesneg |
Edrychwch ar Atodiad 2 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
| Lefel 3: Prentisiaeth Sylfaen mewn Gweinyddiaeth Feddygol | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
|---|---|---|
| Cyfathrebu | 2 | 6 |
| Cymhwyso Rhif | 2 | 6 |
| Llythrennedd Digidol | 2 | 6 |
Saesneg-Cymraeg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol
Am wybodaeth am gymwysterau eraill sy'n dderbyniol ar gyfer dysgu blaenorol cydnabyddedig, gweler y Cymwysterau Procsi ar gyfer Lefel 2 a Lefel 3
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
| Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
|---|---|---|
| Lefel 3: Prentisiaeth Sylfaen mewn Gweinyddiaeth Feddygol | 172 | 172 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
Bydd dysgu yn y gwaith yn cynnwys:
Diploma Lefel 3 Agored Cymru ar gyfer Ysgrifenyddion Meddygol
Bydd tystiolaeth i gefnogi'r cais am dystysgrif cwblhau prentisiaeth ar gyfer hyfforddiant yn y gwaith yn cynnwys copi o'r dystysgrif cymhwyso ar gyfer un o'r cymwysterau uchod ac arni'r unedau a gwblhawyd.
Bydd dysgu i ffwrdd o'r gwaith yn cynnwys:
Lefel 2 Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol
Lefel 2 Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol
Lefel 2 Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol
Gall hyfforddiant i ffwrdd o'r gwaith a gyflawnwyd cyn i'r prentis ddechrau ei brentisiaeth gyfrif tuag at yr hyfforddiant i ffwrdd o'r gwaith sy'n ofynnol ar gyfer y brentisiaeth, os cyflawnwyd yr hyfforddiant hwnnw'n gysylltiedig â chymhwyster achrededig sydd wedi'i gynnwys yn y fframwaith y gwneir cais am dystysgrif cwblhau ar ei gyfer.
Bydd tystiolaeth i gefnogi'r cais am dystysgrif cwblhau prentisiaeth ar gyfer hyfforddiant i ffwrdd o'r gwaith yn cynnwys copi o'r dystysgrif cymhwyso ar gyfer pob un o'r cymwysterau uchod ac arni'r unedau a gwblhawyd.
Disgwylir y bydd:
Oriau hyfforddi yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith, y naill a'r llall, wedi'u cynllunio, eu hadolygu a'u gwerthuso ar y cyd rhwng y prentis a thiwtor, neu athro, goruchwylydd neu reolwr yn y gweithle a, lle bo'n berthnasol, hyfforddwr neu fentor y prentis.
Cefnogaeth hyfforddi yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith, naill ai drwy diwtor, athro, mentor neu reolwr yn cael ei darparu os oes angen hynny ar y prentis.
Bydd oriau hyfforddi yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith yn cael eu darparu drwy un neu fwy o'r dulliau canlynol: addysgu unigol ac mewn grŵp; e-ddysgu; dysgu o bell; hyfforddi; mentora; adborth ac asesu; dysgu cydweithredol/rhwydweithiol gyda chymheiriaid; astudiaeth dan arweiniad.
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd / 45 GLH Lefel 2 Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol
- 6 chredyd / 45 GLH Lefel 2 Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol
- 6 chredyd / 45 GLH Lefel 2 Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol
Gofynion eraill ychwanegol
Mae'n ofynnol i brentisiaid:
• fod yn barod i dderbyn gwiriadau gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (mae angen hyn oherwydd gallai prentisiaid ddod i gysylltiad â phlant, pobl ifanc neu oedolion sy'n agored i niwed)
• bod yn hyblyg oherwydd gellid bod angen gweithio sifftiau
• Cydymffurfio â gwiriadau cyn cyflogaeth y sefydliad sy’n cyflogi
Rolau swydd
Lefel 2 Gweinyddiaeth Feddygol
Lefel 3 Diploma Ysgrifennydd Meddygol
Dilyniant
Lefel 2
Llwybrau dilyniant i'r brentisiaeth
Gweler y gofynion mynediad
Dilyniant o'r Brentisiaeth
Gall dysgwyr symud ymlaen o'r fframwaith hwn i gymwysterau pellach sy'n benodol i'w cyd-destun o ran gwaith. Mae ystod eang o gymwysterau ar gael i'w defnyddio o fewn y sector iechyd. Gall y rhain gynnwys llwybrau pellach o fewn y fframwaith hwn (e.e. Ysgrifennydd Meddygol Lefel 3) neu ddefnyddio fframweithiau prentisiaeth eraill (e.e. Rheoli Gofal Iechyd o fewn y fframwaith Cymorth Gofal Iechyd).
Ni ddylid ystyried dilyniant fel rhywbeth fertigol yn unig. Mewn rhai achosion, gall symud ymlaen i rôl arall ar yr un lefel fod yr un mor fuddiol, gan fod hynny'n cynnig cyfle i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth newydd.
Mae llawer o brentisiaid gofal iechyd yn cwblhau eu prentisiaethau ac yn parhau i weithio mewn rolau gysylltiedig a'r unedau y maent wedi'u dewis o fewn eu cymhwyster cymhwyso.
Efallai y bydd eraill yn dymuno symud i rôl glinigol a gallant ddewis dilyn cymhwyster neu brentisiaeth glinigol (e.e. Lefel 2 neu 3 mewn Cymorth Gofal Iechyd Clinigol).
Mae rhagor o wybodaeth fanwl a chyngor ar yrfaoedd o fewn y sector iechyd ar gael yn http://www.wales.nhs.uk/
Lefel 3
Llwybrau dilyniant i'r brentisiaeth
Gweler y gofynion mynediad
Dilyniant o'r Brentisiaeth
Gall dysgwyr symud ymlaen o'r llwybr hwn i Brentisiaeth Lefel 4 neu symud ymlaen i gymwysterau pellach sy'n benodol i gyd-destun eu gwaith. Mae ystod eang o gymwysterau ar gael i'w defnyddio o fewn y sector iechyd.Gall y rhain gynnwys cymwysterau pellach, amrywiaeth o gymwysterau addysg uwch neu addysg a hyfforddiant arall sy'n gysylltiedig â gwaith i gefnogi Datblygiad Proffesiynol Parhaus. Mae fframweithiau rheoli ychwanegol ar gael ar lefelau uwch.
Ni ddylid ystyried dilyniant fel rhywbeth fertigol yn unig. Mewn rhai achosion, gall symud ymlaen i rôl arall ar yr un lefel fod yr un mor fuddiol, gan fod hynny'n cynnig cyfle i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth newydd.
Bydd llawer o Brentisiaid yn cwblhau eu prentisiaethau ac yn parhau i weithio o fewn eu rolau, gydag Ymarferwyr sy'n gweithio ochr yn ochr â nhw yn dirprwyo cyfrifoldebau iddynt. Gall hyn gynnwys hyfforddi a goruchwylio aelodau eraill y tîm.
Mae rhagor o wybodaeth fanwl a chyngor ar yrfaoedd o fewn y sector iechyd ar gael yn http://www.wales.nhs.uk/
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos dull gweithredol o nodi a chael gwared ar ffactorau sy'n atal mynediad a chynnydd. Dylai Llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion sydd â nodweddion gwarchodedig a'r rhai heb y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Y nodweddion gwarchodedig a nodir yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared ar wahaniaethu mewn cyflogaeth.
RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau nad ydynt yn gwahaniaethu yn erbyn ymgeiswyr o ran mynediad i'r diwydiant ar sail y naw nodwedd warchodedig hynny.
Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)
Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach. Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn dilyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.
Cyfrifoldebau
Cyfrifoldeb y Darparwr Hyfforddiant a'r Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu cyflawni’n unol â Chanllawiau Llywodraeth Cymru/Medr ar Brentisiaethau.
Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Medr
Annex 1 Level 2: Medical Administration
Relationship between competence and knowledge qualifications
| Medical Administration (60 credits) | |||||
| Unit title | Level | Credit | Credit for Competence | Credit for Knowledge | |
| Mandatory Group with Mandatory units (35 credits) | |||||
| Practical Medical Administration Skills | 2 | 5 | 5 | 0 | |
| Administration Skills in a Medical Environment | 2 | 10 | 0 | 10 | |
| Communication Skills in a Medical Environment | 2 | 8 | 2 | 6 | |
| Working within NHS Wales as a Medical Administrator | 2 | 12 | 0 | 12 | |
| Mandatory Group with Optional units (A minimum of 25 credits) | |||||
| Provide Reception Services | 2 | 3 | 2 | 1 | |
| Care Navigation in Primary Care | 2 | 2 | 1 | 1 | |
| Medical Audio Transcription | 2 | 6 | 6 | 0 | |
| Medical Terminology for Administrators | 2 | 10 | 0 | 10 | |
| Primary Care Digital and Information Technology | 2 | 4 | 2 | 2 | |
| Environmental Sustainability in the NHS | 2 | 2 | 1 | 1 | |
| Chaperoning | 2 | 1 | 0 | 1 | |
| Understanding Safeguarding | 2 | 1 | 0 | 1 | |
| Study Skills for HCSW: Data Analysis for Health | 2 | 2 | 2 | 0 | |
| Manage Personal Performance and Development | 2 | 4 | 4 | 0 | |
| Archive information | 2 | 3 | 2 | 1 | |
| Maintain and Issue Stationery and Supplies | 2 | 3 | 1 | 2 | |
| Employee Rights & Responsibilities | 2 | 2 | 0 | 2 | |
| Mental Health and Wellbeing | 2 | 2 | 0 | 2 | |
| Autism and Neurodivergence | 2 | 2 | 1 | 1 | |
| Apprenticeship credit allocation totals | 29 credits | 53 credits | |||
Annex 2 Level 3: Medical Secretary
Relationship between competence and knowledge qualifications
Level 3: Medical Secretary
| Medical Secretary | |||||
| Unit title | Level | Credit | Credit for Competence | Credit for Knowledge | |
| Mandatory Group with Mandatory units (58 credits) | |||||
| Medical Administration Skills | 3 | 10 | 0 | 10 | |
| Medical Aspects for the Administrator | 3 | 13 | 0 | 13 | |
| Medical Communication Skills | 3 | 10 | 6 | 4 | |
| Medical Terminology for Administrators | 3 | 16 | 0 | 16 | |
| Medical Word Processing | 3 | 9 | 9 | 0 | |
| Mandatory Group with Optional units Group A (minimum of 7 credits, maximum of 7 credits) | |||||
| Practical Medical Secretary Skills in Secondary Care | 3 | 7 | 7 | 0 | |
| Practical Medical Secretary Skills in Primary Care | 3 | 7 | 7 | 0 | |
| Mandatory Group with Optional units Group B (minimum of 5 credits, maximum of 4 credits at Level 2) | |||||
| Medical Staffing | 3 | 10 | 7 | 3 | |
| Analyse and Report Data | 3 | 6 | 4 | 2 | |
| Medical Audio Transcription | 3 | 9 | 9 | 0 | |
| Principles of Managing Information and Producing Documents | 2 | 3 | 0 | 3 | |
| Maintaining Quality Standards in the Health Sector | 3 | 2 | 0 | 2 | |
| Support Individuals to Access and Use Services and Facilities | 3 | 4 | 3 | 1 | |
| Contribute to the Prevention of Aggressive and Abusive Behavior of People | 3 | 4 | 2 | 2 | |
| Working within Multidisciplinary, Primary, Secondary and/or Community Teams | 3 | 2 | 1 | 1 | |
| Mental Health and Wellbeing | 2 | 2 | 0 | 2 | |
| Autism and Neurodivergence | 2 | 2 | 1 | 1 | |
| Mental Health and Compassionate Responses | 3 | 6 | 1 | 5 | |
| Apprenticeship credit allocation totals | 57 credits | 65 credits | |||