Skip to main content

Llwybr

Gweinyddiaeth Feddygol

Mae AaGIC wedi cytuno ar gynnwys y Llwybr hwn mewn cydweithrediad â Chyflogwyr o'r Sector Gofal Iechyd. Dyma'r unig Lwybr Prentisiaeth yn y sector Gofal Iechyd a gymeradwywyd i'w ddefnyddio yng Nghymru, ac sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan Medr.

ISSUE DATE: 1/06/2025 FRAMEWORK NO: M1611

Cynnwys y Rhaglen Ddysgu

Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:

  • Cymwysterau,

  • Sgiliau Hanfodol

  • Hyfforddiant yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith

 

60 credyd yw’r isafswm credydau gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 2 Gweinyddiaeth Feddygol.

70 credyd yw’r isafswm credydau gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 3 Ysgrifennydd Meddygol

Gofynion mynediad

Mae cyflogwyr o'r Sector Iechyd sy'n defnyddio'r fframwaith hwn yn cynnig amrywiaeth  eang o hyfforddiant sgiliau drwy'r llwybrau unigol, ac yn croesawu ymgeiswyr o ystod eang o gefndiroedd amrywiol, ac yn rhagweld y bydd ganddynt ystod eang o brofiad, cyflawniadau a chymwysterau. Gall y broses ddethol gan gyflogwyr (neu mewn partneriaeth â darparwyr dysgu) gynnwys asesiad cychwynnol lle gofynnir i ymgeiswyr a oes ganddynt unrhyw gymwysterau neu brofiad y gellir eu hachredu yn erbyn gofynion y brentisiaeth. Bydd angen i brentisiaid allu cydymffurfio â Gwiriadau Cyn Cyflogi y sefydliad sy'n cyflogi. 

 

Nid oes angen unrhyw gymwysterau penodol er mwyn cael mynediad i'r fframwaith prentisiaeth hwn. Dylai prentisiaid: 

  • Arddangos gwerthoedd sefydliad y cyflogwr
  • Dangos brwdfrydedd dros weithio yn y sector iechyd
  • Meddu ar sgiliau llythrennedd, rhifedd a chyfathrebu sylfaenol y bydd y brentisiaeth yn adeiladu arnynt
  • Bod â lefel addas o ffitrwydd corfforol i gyflawni rhai agweddau ar rolau'r swydd (e.e. cynorthwyo i symud a thrin gwrthrychau difywyd)
  • Bod yn barod i dderbyn gwiriadau gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
  • Bod yn hyblyg oherwydd gellid bod angen gweithio ar rota. 

Efallai y bydd gan gyflogwyr unigol yn y sector iechyd ofynion mynediad cyflogaeth ychwanegol.

Lefel 2 

 

Bydd ymgeiswyr i'r Brentisiaeth hon yn dod o wahanol grwpiau oedran, a bydd eu cefndir a'u profiadau'n amrywio. Fel canllaw, gall ymgeiswyr gael mynediad drwy amrywiaeth o lwybrau, gan gynnwys:

  • Gwaith (rôl bresennol)

  • Profiad gwaith 

  • Ysgol 

  • Coleg 

  • Hyfforddiant a/neu brofiad a allai gynnwys portffolio sy'n dangos yr hyn y maent wedi'i wneud

Efallai y bydd ymgeiswyr eisoes wedi ennill amrywiaeth o gymwysterau e.e:

  • Sgiliau Hanfodol Cymru 

  • Bagloriaeth Cymru 

  • Bagloriaeth Cymru gyda Phrif Ddysgu 

  • Dysgu Sylfaenol ar lefel 1 

  • Cymwysterau lefel 1 eraill 

  • TGAU mewn pynciau cysylltiedig 

Rhinweddau Personol 

Mae cyflogwyr yn chwilio am brentisiaid yn y sector iechyd sy'n arddangos gwerthoedd ac ymddygiadau'r sefydliad sy'n cyflogi ac sydd:

  • Yn drefnus ac yn gydwybodol 

  • Yn gallu gweithio mewn tîm 

  • Yn awyddus ac yn frwdfrydig i weithio yn yr amgylchedd gofal iechyd o'u dewis 

  • Yn barod i ddilyn cwrs hyfforddi yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith, ac i gymhwyso'r hyn a ddysgir yn y gweithle 

  • Yn meddu ar sgiliau llythrennedd, rhifedd a chyfathrebu sylfaenol y bydd y brentisiaeth yn adeiladu arnynt 

  • Yn barod i dderbyn Archwiliad Iechyd Galwedigaethol, os yw'r rôl yn gofyn am hynny 

  • Yn barod i dderbyn gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, os yw'r rôl yn gofyn am hynny (e.e. efallai y bydd angen hyn mewn rolau lle gall y prentisiaid ddod i gysylltiad â phlant, pobl ifanc neu oedolion sy'n agored i niwed) 

  • Yn gallu bod yn hyblyg oherwydd gellid bod angen gweithio sifftiau

Mae'n bosibl y bydd gan gyflogwyr unigol yn y sector Gofal Iechyd ofynion mynediad cyflogaeth ychwanegol e.e. y gallu i deithio rhwng gwahanol leoliadau yn dibynnu ar y man lle darperir gwasanaethau.

Lefel 3

Mae’r gofynion mynediad yr un fath â rhai Lefel 3, ond maent hefyd yn cynnwys ymgeiswyr sydd eisoes wedi cyflawni amrywiaeth o gymwysterau o bosib ee:

  • Sgiliau Hanfodol Cymru
  • Prentisiaeth Lefel 2
  • Cymwysterau TGAU
  • Cymwysterau Safon Uwch TAG
  • Bagloriaeth Cymru
  • Bagloriaeth Cymru gyda Phrif Ddysgu
  • Cymwysterau lefel 3 perthnasol eraill e.e. BTEC, Lefelau T

Rhinweddau Personol 

Mae cyflogwyr yn chwilio am brentisiaid yn y sector iechyd sy'n arddangos gwerthoedd ac ymddygiadau'r sefydliad sy'n cyflogi ac sydd: 

• Yn drefnus ac yn gydwybodol 

• Yn gallu gweithio mewn tîm 

• Yn awyddus ac yn frwdfrydig i weithio yn yr amgylchedd gofal iechyd o'u dewis 

• Yn barod i ddilyn cwrs hyfforddi yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith, ac i gymhwyso'r hyn a ddysgir yn y gweithle 

• Yn meddu ar sgiliau llythrennedd, rhifedd a chyfathrebu sylfaenol y bydd y brentisiaeth yn adeiladu arnynt 

• Yn barod i dderbyn Archwiliad Iechyd Galwedigaethol, os yw'r rôl yn gofyn am hynny 

• Yn barod i dderbyn gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, os yw'r rôl yn gofyn am hynny (e.e. efallai y bydd angen hyn mewn rolau lle gall y prentisiaid ddod i gysylltiad â phlant, pobl ifanc neu oedolion sy'n agored i niwed) 

• Yn gallu bod yn hyblyg oherwydd gellid bod angen gweithio sifftiau

Mae'n bosibl y bydd gan gyflogwyr unigol yn y sector Gofal Iechyd ofynion mynediad cyflogaeth ychwanegol e.e. y gallu i deithio rhwng gwahanol leoliadau yn dibynnu ar y man lle darperir gwasanaethau.

Rhaid i brentisiaid sydd am achredu unrhyw ddysgu blaenorol ddewis opsiynau o fewn y Llwybr a fydd yn rhoi sgiliau ac addysg newydd iddynt.

Asesiad Cychwynnol 

Bydd darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr yn defnyddio asesiad cychwynnol i sicrhau bod ymgeiswyr yn cael cyfle teg i ddangos eu gallu ac i deilwra rhaglenni dysgu i fodloni anghenion unigol, gan gydnabod cymwysterau a phrofiad blaenorol.

Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth

Lefel 2: Prentisiaeth Sylfaen mewn Gweinyddiaeth Feddygol

Lefel 2: Prentisiaeth Sylfaen mewn Gweinyddiaeth Feddygol Cymwysterau

Rhaid i ddysgwyr gyflawni un o’r cymwysterau cyfunol isod:

Diploma Lefel 2 Agored Cymru mewn Gweinyddiaeth Feddygol
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
Agored Cymru C00/5160/0 60 600 Cyfun Cymraeg - Saesneg

Edrychwch ar Atodiad 1 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.

Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)

Lefel 2: Prentisiaeth Sylfaen mewn Gweinyddiaeth Feddygol Lefel Isafswm Gwerth Credyd
Cyfathrebu 1 6
Cymhwyso Rhif 1 6
Llythrennedd Digidol 1 6

Saesneg-Cymraeg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru

Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith

Llwybr Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith
Lefel 2: Prentisiaeth Sylfaen mewn Gweinyddiaeth Feddygol 150 179
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)

Bydd dysgu yn y gwaith yn cynnwys:

Diploma Lefel 2 Agored Cymru mewn Gweinyddiaeth Feddygol

Bydd tystiolaeth i gefnogi'r cais am dystysgrif cwblhau prentisiaeth ar gyfer hyfforddiant yn y gwaith yn cynnwys copi o'r dystysgrif cymhwyso ar gyfer un o'r cymwysterau uchod ac arni'r unedau a gwblhawyd.

Bydd dysgu i ffwrdd o'r gwaith yn cynnwys: 

Lefel 1 Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol

Lefel 1 Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol 

Lefel 1 Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol

Gall hyfforddiant i ffwrdd o'r gwaith a gyflawnwyd cyn i'r prentis ddechrau ei brentisiaeth gyfrif tuag at yr hyfforddiant i ffwrdd o'r gwaith sy'n ofynnol ar gyfer y brentisiaeth, os cyflawnwyd yr hyfforddiant hwnnw'n gysylltiedig â chymhwyster achrededig sydd wedi'i gynnwys yn y fframwaith y gwneir cais am dystysgrif cwblhau ar ei gyfer.

Bydd tystiolaeth i gefnogi'r cais am dystysgrif cwblhau prentisiaeth ar gyfer hyfforddiant i ffwrdd o'r gwaith yn cynnwys copi o'r dystysgrif cymhwyso ar gyfer pob un o'r cymwysterau uchod ac arni'r unedau a gwblhawyd.

Disgwylir y bydd: 

  • Oriau hyfforddi yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith, y naill a'r llall, wedi'u cynllunio, eu hadolygu a'u gwerthuso ar y cyd rhwng y prentis a thiwtor, neu athro, goruchwylydd neu reolwr yn y gweithle a, lle bo'n berthnasol, hyfforddwr neu fentor y prentis.

  • Cefnogaeth hyfforddi yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith, naill ai drwy diwtor, athro, mentor neu reolwr yn cael ei darparu os oes angen hynny ar y prentis.
  • Bydd oriau hyfforddi yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith yn cael eu darparu drwy un neu fwy o'r dulliau canlynol: addysgu unigol ac mewn grŵp; e-ddysgu; dysgu o bell; hyfforddi; mentora; adborth ac asesu; dysgu cydweithredol/rhwydweithiol gyda chymheiriaid; astudiaeth dan arweiniad.
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
  • 6 chredyd  / 45 GLH Lefel 1 Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol
  • 6 chredyd  / 45 GLH Lefel 1 Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol
  • 6 chredyd  / 45 GLH Lefel 1 Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol

Lefel 3: Prentisiaeth Sylfaen mewn Gweinyddiaeth Feddygol

Lefel 3: Prentisiaeth Sylfaen mewn Gweinyddiaeth Feddygol Cymwysterau

Rhaid i ddysgwyr gyflawni’r cymhwyster cyfun isod.

Diploma Lefel 3 Agored Cymru ar gyfer Ysgrifenyddion Meddygol
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
Agored Cymru C00/5160/1 70 700 Cyfun Cymraeg - Saesneg

Edrychwch ar Atodiad 2 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.

Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)

Lefel 3: Prentisiaeth Sylfaen mewn Gweinyddiaeth Feddygol Lefel Isafswm Gwerth Credyd
Cyfathrebu 2 6
Cymhwyso Rhif 2 6
Llythrennedd Digidol 2 6

Saesneg-Cymraeg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol

Am wybodaeth am gymwysterau eraill sy'n dderbyniol ar gyfer dysgu blaenorol cydnabyddedig, gweler y Cymwysterau Procsi ar gyfer Lefel 2 a Lefel 3   

 

Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith

Llwybr Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith
Lefel 3: Prentisiaeth Sylfaen mewn Gweinyddiaeth Feddygol 172 172
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)

Bydd dysgu yn y gwaith yn cynnwys: 

Diploma Lefel 3 Agored Cymru ar gyfer Ysgrifenyddion Meddygol 

Bydd tystiolaeth i gefnogi'r cais am dystysgrif cwblhau prentisiaeth ar gyfer hyfforddiant yn y gwaith yn cynnwys copi o'r dystysgrif cymhwyso ar gyfer un o'r cymwysterau uchod ac arni'r unedau a gwblhawyd.

Bydd dysgu i ffwrdd o'r gwaith yn cynnwys: 

Lefel 2 Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol

Lefel 2 Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol

Lefel 2 Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol

Gall hyfforddiant i ffwrdd o'r gwaith a gyflawnwyd cyn i'r prentis ddechrau ei brentisiaeth gyfrif tuag at yr hyfforddiant i ffwrdd o'r gwaith sy'n ofynnol ar gyfer y brentisiaeth, os cyflawnwyd yr hyfforddiant hwnnw'n gysylltiedig â chymhwyster achrededig sydd wedi'i gynnwys yn y fframwaith y gwneir cais am dystysgrif cwblhau ar ei gyfer.

Bydd tystiolaeth i gefnogi'r cais am dystysgrif cwblhau prentisiaeth ar gyfer hyfforddiant i ffwrdd o'r gwaith yn cynnwys copi o'r dystysgrif cymhwyso ar gyfer pob un o'r cymwysterau uchod ac arni'r unedau a gwblhawyd.

Disgwylir y bydd:

Oriau hyfforddi yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith, y naill a'r llall, wedi'u cynllunio, eu hadolygu a'u gwerthuso ar y cyd rhwng y prentis a thiwtor, neu athro, goruchwylydd neu reolwr yn y gweithle a, lle bo'n berthnasol, hyfforddwr neu fentor y prentis.

Cefnogaeth hyfforddi yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith, naill ai drwy diwtor, athro, mentor neu reolwr yn cael ei darparu os oes angen hynny ar y prentis.

Bydd oriau hyfforddi yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith yn cael eu darparu drwy un neu fwy o'r dulliau canlynol: addysgu unigol ac mewn grŵp; e-ddysgu; dysgu o bell; hyfforddi; mentora; adborth ac asesu; dysgu cydweithredol/rhwydweithiol gyda chymheiriaid; astudiaeth dan arweiniad.

Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)

  • 6 chredyd / 45 GLH Lefel 2 Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol
  • 6 chredyd / 45 GLH Lefel 2 Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol
  • 6 chredyd / 45 GLH Lefel 2 Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol

Gofynion eraill ychwanegol

Mae'n ofynnol i brentisiaid: 

• fod yn barod i dderbyn gwiriadau gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (mae angen hyn oherwydd gallai prentisiaid ddod i gysylltiad â phlant, pobl ifanc neu oedolion sy'n agored i niwed) 

• bod yn hyblyg oherwydd gellid bod angen gweithio sifftiau 

 • Cydymffurfio â gwiriadau cyn cyflogaeth y sefydliad sy’n cyflogi

Rolau swydd

Lefel 2 Gweinyddiaeth Feddygol

Lefel 3 Diploma Ysgrifennydd Meddygol

Dilyniant

Lefel 2

Llwybrau dilyniant i'r brentisiaeth 

Gweler y gofynion mynediad

Dilyniant o'r Brentisiaeth 

Gall dysgwyr symud ymlaen o'r fframwaith hwn i gymwysterau pellach sy'n benodol i'w cyd-destun o ran gwaith. Mae ystod eang o gymwysterau ar gael i'w defnyddio o fewn y sector iechyd. Gall y rhain gynnwys llwybrau pellach o fewn y fframwaith hwn (e.e. Ysgrifennydd Meddygol Lefel 3) neu ddefnyddio fframweithiau prentisiaeth eraill (e.e. Rheoli Gofal Iechyd o fewn y fframwaith Cymorth Gofal Iechyd). 

Ni ddylid ystyried dilyniant fel rhywbeth fertigol yn unig. Mewn rhai achosion, gall symud ymlaen i rôl arall ar yr un lefel fod yr un mor fuddiol, gan fod hynny'n cynnig cyfle i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth newydd. 

Mae llawer o brentisiaid gofal iechyd yn cwblhau eu prentisiaethau ac yn parhau i weithio mewn rolau gysylltiedig a'r unedau y maent wedi'u dewis o fewn eu cymhwyster cymhwyso. 

Efallai y bydd eraill yn dymuno symud i rôl glinigol a gallant ddewis dilyn cymhwyster neu brentisiaeth glinigol (e.e. Lefel 2 neu 3 mewn Cymorth Gofal Iechyd Clinigol). 

Mae rhagor o wybodaeth fanwl a chyngor ar yrfaoedd o fewn y sector iechyd ar gael yn http://www.wales.nhs.uk/

Lefel 3

Llwybrau dilyniant i'r brentisiaeth 

Gweler y gofynion mynediad

Dilyniant o'r Brentisiaeth 

Gall dysgwyr symud ymlaen o'r llwybr hwn i Brentisiaeth Lefel 4 neu symud ymlaen i gymwysterau pellach sy'n benodol i gyd-destun eu gwaith. Mae ystod eang o gymwysterau ar gael i'w defnyddio o fewn y sector iechyd.Gall y rhain gynnwys cymwysterau pellach, amrywiaeth o gymwysterau addysg uwch neu addysg a hyfforddiant arall sy'n gysylltiedig â gwaith i gefnogi Datblygiad Proffesiynol Parhaus. Mae fframweithiau rheoli ychwanegol ar gael ar lefelau uwch.

Ni ddylid ystyried dilyniant fel rhywbeth fertigol yn unig. Mewn rhai achosion, gall symud ymlaen i rôl arall ar yr un lefel fod yr un mor fuddiol, gan fod hynny'n cynnig cyfle i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth newydd.

Bydd llawer o Brentisiaid yn cwblhau eu prentisiaethau ac yn parhau i weithio o fewn eu rolau, gydag Ymarferwyr sy'n gweithio ochr yn ochr â nhw yn dirprwyo cyfrifoldebau iddynt. Gall hyn gynnwys hyfforddi a goruchwylio aelodau eraill y tîm.

Mae rhagor o wybodaeth fanwl a chyngor ar yrfaoedd o fewn y sector iechyd ar gael yn http://www.wales.nhs.uk/

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos dull gweithredol o nodi a chael gwared ar ffactorau sy'n atal mynediad a chynnydd. Dylai Llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion sydd â nodweddion gwarchodedig a'r rhai heb y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

Y nodweddion gwarchodedig a nodir yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared ar wahaniaethu mewn cyflogaeth.

RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau nad ydynt yn gwahaniaethu yn erbyn ymgeiswyr o ran mynediad i'r diwydiant ar sail y naw nodwedd warchodedig hynny.

Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)

Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach.  Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn dilyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.

Cyfrifoldebau

Cyfrifoldeb y Darparwr Hyfforddiant a'r Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu cyflawni’n unol â Chanllawiau Llywodraeth Cymru/Medr ar Brentisiaethau.

Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Medr

Annex 1 Level 2: Medical Administration

Relationship between competence and knowledge qualifications

Medical Administration (60 credits)
Unit titleLevelCreditCredit for CompetenceCredit for Knowledge
Mandatory Group with Mandatory units (35 credits)
Practical Medical Administration Skills2550
Administration Skills in a Medical Environment210010
Communication Skills in a Medical Environment2826
Working within NHS Wales as a Medical Administrator212012
Mandatory Group with Optional units (A minimum of 25 credits)
Provide Reception Services2321
Care Navigation in Primary Care2211
Medical Audio Transcription2660
Medical Terminology for Administrators210010
Primary Care Digital and Information Technology2422
Environmental Sustainability in the NHS2211
Chaperoning2101
Understanding Safeguarding2101
Study Skills for HCSW: Data Analysis for Health2220
Manage Personal Performance and Development 2440
Archive information2321
Maintain and Issue Stationery and Supplies2312
Employee Rights & Responsibilities2202
Mental Health and Wellbeing2202
Autism and Neurodivergence2211
Apprenticeship credit allocation totals29 credits53 credits
      

Annex 2 Level 3: Medical Secretary

Relationship between competence and knowledge qualifications

Level 3: Medical Secretary

Medical Secretary
Unit titleLevelCreditCredit for CompetenceCredit for Knowledge
Mandatory Group with Mandatory units (58 credits)
Medical Administration Skills310010
Medical Aspects for the Administrator313013
Medical Communication Skills31064
Medical Terminology for Administrators316016
Medical Word Processing3990
Mandatory Group with Optional units Group A (minimum of 7 credits, maximum of 7 credits)
Practical Medical Secretary Skills in Secondary Care3770
Practical Medical Secretary Skills in Primary Care3770
Mandatory Group with Optional units Group B (minimum of 5 credits, maximum of 4 credits at Level 2)
Medical Staffing31073
Analyse and Report Data3642
Medical Audio Transcription3990
Principles of Managing Information and Producing Documents2303
Maintaining Quality Standards in the Health Sector3202
Support Individuals to Access and Use Services and Facilities3431
Contribute to the Prevention of Aggressive and Abusive Behavior of People3422
Working within Multidisciplinary, Primary, Secondary and/or Community Teams3211
Mental Health and Wellbeing2202
Autism and Neurodivergence2211
Mental Health and Compassionate Responses3615
Apprenticeship credit allocation totals57 credits65 credits

Diwygiadau dogfennau

06 Hydref 2025