Cytunwyd ar gynnwys y Llwybr hwn gan ODAG Consultants Ltd. Dyma'r unig lwybr prentisiaeth ar gyfer Rheolwr Cynnyrch Digidol a gymeradwywyd i'w ddefnyddio yng Nghymru sy'n gymwys i gael cyllid Medr.
ISSUE DATE 01/04/2025
PATHWAY NUMBER M0912
Cynnwys y Rhaglen Ddysgu
Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:
Cymwysterau,
Sgiliau Hanfodol
Hyfforddiant yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Yr isafswm credyd gofynnol ar gyfer Lefel 4 Llwybr ar gyfer Rheolwr Cynnyrch Digidol yw 111 credyd.
Gofynion mynediad
Fodd bynnag, nid oes unrhyw ofynion mynediad ar gyfer y fframwaith hwn:
Mae cyflogwyr yn awyddus i ehangu'r gronfa o recriwtiaid posibl i rolau cyflawni digidol , ac mae ganddynt ddiddordeb arbennig yn:
- Pobl ifanc, dros 18 oed sy'n dymuno ennill cymhwyster mewn rheoli cynnyrch digidol.
- dysgwyr sy'n oedolion sy'n cael eu cyflogi mewn rolau y mae’n ofynno iddynt reoli cynnyrch a gwasanaethau digidol ac sy’n dymuno gwella eu sgiliau cyflawni digidol.
- dysgwyr sy'n oedolion sy'n dymuno bod yn rheolwyr cynnyrch digidol i symud i mewn i rolau digidol.
- dysgwyr sy'n oedolion sy'n dymuno gwella eu sgiliau digidol sy’n gysylltiedig â gwaith
Efallai y bydd gan ymgeiswyr brofiad neu gymwysterau blaenorol mewn technolegau digidol ond nid yw hyn yn orfodol gan y bydd darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr yn darparu rhaglenni hyfforddiant yn seiliedig ar gymwysterau cyfredol cymeradwy wedi'u teilwra i ddiwallu anghenion unigol, gan gydnabod cymwysterau a phrofiad blaenorol.
Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth
Lefel 4 – Rheolwr Cynnyrch Digidol
Lefel 4 – Rheolwr Cynnyrch Digidol Cymwysterau
Rhaid i'r cyfranogwyr gyflawni'r cymwysterau cyfunol canlynol isod.
| Diploma Lefel 4 mewn Rheoli Cynnyrch Digidol | |||||
|---|---|---|---|---|---|
| Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
| Agored Cymru | C00/5161/2 | 111 | 1110 hours | Cyfun | Cymraeg-Saesneg |
Atodiad 1
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
| Lefel 4 – Rheolwr Cynnyrch Digidol | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
|---|---|---|
| Cyfathrebu | 2 | 6 |
| Cymhwyso Rhif | 2 | 6 |
Asesir cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
| Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
|---|---|---|
| Lefel 4 – Rheolwr Cynnyrch Digidol | 640 | 470 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
Cymhwyster cyfunol -111 credyd, 351 awr GLH
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd / 60 GLH Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd / 60 GLH Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
Gofynion eraill ychwanegol
Amh.
Rolau swydd
Mae’r Brentisiaeth Rheolwr Cynnyrch Digidol wedi cael ei dylunio gyda chyflogwyr yng Nghymru i fynd i’r afael â’r angen am sgiliau cyflawni cynnyrch digidol ar draws pob sector. Mae’r rhaglen Brentisiaeth hon wedi’i bwriadu i ddarparu llwybr galwedigaethol cadarn i gyflenwi’r sgiliau yn y presennol a’r dyfodol y mae eu hangen ar weithwyr Rheoli Cynnyrch Digidol proffesiynol.
Gallai’r rolau a gwmpesir gan y fframwaith hwn fod mewn:
Sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau cyflawni cynnyrch digidol ar gyfer ystod o gleientiaid; neu
Sefydliadau sy’n gweithredu yn unrhyw sector sy’n defnyddio Rheolwyr Cynnyrch Digidol i gynnal gwasanaethau cyflawni digidol o unrhyw fath.
Mae’r ystod o sefydliadau y bydd y rolau hyn yn berthnasol iddynt yn cynnwys rhai amlwg megis awdurdodau lleol ac adrannau’r llywodraeth yn y sector cyhoeddus, yn ogystal â sefydliadau yn y sector preifat gan gynnwys manwerthwyr mawr, peirianneg a gweithgynhyrchu, darparwyr gwasanaethau ariannol ac, mewn realiti, bron pob darparwr gwasanaethau wedi’u digideiddio.
Job role(s) | |
Rheolwr Cynnyrch Digidol | Yn gyfrifol am gefnogi datblygiad a gwelliant parhaus cynnyrch a gwasanaethau digidol. Yn cydweithio gyda defnyddwyr, rhanddeiliaid a thimau traws-swyddogaethol gan ddefnyddio egwyddorion dylunio ystwyth sy’n canolbwyntio ar ddefnyddwyr i ddiffinio gweledigaeth ar gyfer cynnyrch, blaenoriaethu nodweddion, a chyflawni datrysiadau digidol sy’n diwallu anghenion sefydliadau a defnyddwyr. |
Dilyniant
Llwybrau dilyniant i:
Gall hyn fod o amrywiaeth o lwybrau gan gynnwys yn uniongyrchol o'r ysgol neu'r coleg gyda'r lefel a awgrymir o gymwysterau academaidd gan gynnwys:
- TGAU, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru Canolradd
- TAG UG a Safon Uwch, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru Uwch
Cymwysterau cyffredinol neu alwedigaethol sy'n gysylltiedig â'r diwydiannau digidol neu greadigol
Neu fel datblygiad gyrfa mewn rôl briodol gyda chymwysterau addas neu gydnabyddiaeth o ddysgu a phrofiad blaenorol.
Cynnydd o:
Mae’r rhaglen Brentisiaeth Lefel 4 yn darparu ystod o gyfleoedd i brentisiaid llwyddiannus gamu ymlaen. Mae’r rhain yn cynnwys mynd ymlaen i wneud Gradd Sylfaen neu HND mewn Cyfrifiadura neu ddisgyblaethau technoleg ddigidol cysylltiedig neu drwy wneud Gradd-brentisiaeth Lefel 6 mewn maes perthnasol o fewn technoleg ddigidol. Gall prentisiaid ddatblygu o fewn rôl eu swydd hefyd trwy ddilyn cymwysterau technegol a phroffesiynol ychwanegol, yn enwedig ym maes rheoli cynnyrch digidol.
Gall prentisiaid sy’n cwblhau’r rhaglen brentisiaeth Lefel 4 hon gamu ymlaen o fewn eu gyrfa i ymgymryd â swyddi ymarferydd cyflawni a rheoli cynnyrch digidol ar lefel uwch, gan ddefnyddio eu harbenigedd technegol sy’n ehangu o fewn y sefydliad.
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos sut i fynd ati’n weithredol i nodi a chael gwared â ffactorau sy'n atal mynediad a dilyniant. Dylai llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion a chanddynt nodweddion gwarchodedig a'r rhai nad oes ganddynt y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Y nodweddion gwarchodedig a nodwyd yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, Beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared â gwahaniaethu mewn cyflogaeth.
Mae'n RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr yn nhermau mynediad i'r diwydiant ar sail y naw o nodweddion gwarchodedig hynny.
Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)
Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach. Ond argymhellir bod pob prentis yn derbyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.
Cyfrifoldebau
Cyfrifoldeb y Darparwr Hyfforddi a'r Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y llwybr hwn yn cael eu cyflawni yn unol â Chanllawiau Prentisiaethau Llywodraeth Cymru/Medr.
Level 4: Digital Product Manager
Mae unedau gorfodol y cymhwyster cyfun yn cynnwys cyfanswm o 101 o gredydau, y mae 43 ohonynt yn ymwneud â chymhwysedd a 58 o gredydau’n ymwneud â gwybodaeth.