Skip to main content

Llwybr

Rheolwr Cynnyrch Digidol

Cytunwyd ar gynnwys y Llwybr hwn gan ODAG Consultants Ltd. Dyma'r unig lwybr prentisiaeth ar gyfer Rheolwr Cynnyrch Digidol a gymeradwywyd i'w ddefnyddio yng Nghymru sy'n gymwys i gael cyllid Medr.

ISSUE DATE 01/04/2025
PATHWAY NUMBER M0912

Cynnwys y Rhaglen Ddysgu

Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol: 

  • Cymwysterau, 

  • Sgiliau Hanfodol 

  • Hyfforddiant yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith 

 

Yr isafswm credyd gofynnol ar gyfer Lefel 4 Llwybr ar gyfer Rheolwr Cynnyrch Digidol yw 111 credyd.

Gofynion mynediad

Fodd bynnag, nid oes unrhyw ofynion mynediad ar gyfer y fframwaith hwn:

Mae cyflogwyr yn awyddus i ehangu'r gronfa o recriwtiaid posibl i rolau cyflawni digidol , ac mae ganddynt ddiddordeb arbennig yn:

  • Pobl ifanc, dros 18 oed sy'n dymuno ennill cymhwyster mewn rheoli cynnyrch digidol.
  • dysgwyr sy'n oedolion sy'n cael eu cyflogi mewn rolau y mae’n ofynno iddynt reoli cynnyrch a gwasanaethau digidol ac sy’n dymuno gwella eu sgiliau cyflawni digidol.
  • dysgwyr sy'n oedolion sy'n dymuno bod yn rheolwyr cynnyrch digidol i symud i mewn i rolau digidol.
  • dysgwyr sy'n oedolion sy'n dymuno gwella eu sgiliau digidol sy’n gysylltiedig â gwaith

Efallai y bydd gan ymgeiswyr brofiad neu gymwysterau blaenorol mewn technolegau digidol ond nid yw hyn yn orfodol gan y bydd darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr yn darparu rhaglenni hyfforddiant yn seiliedig ar gymwysterau cyfredol cymeradwy wedi'u teilwra i ddiwallu anghenion unigol, gan gydnabod cymwysterau a phrofiad blaenorol.

Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth

Lefel 4 – Rheolwr Cynnyrch Digidol

Lefel 4 – Rheolwr Cynnyrch Digidol Cymwysterau

Rhaid i'r cyfranogwyr gyflawni'r cymwysterau cyfunol canlynol isod.

Diploma Lefel 4 mewn Rheoli Cynnyrch Digidol
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
Agored Cymru C00/5161/2 111 1110 hours Cyfun Cymraeg-Saesneg

Atodiad 1

Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)

Lefel 4 – Rheolwr Cynnyrch Digidol Lefel Isafswm Gwerth Credyd
Cyfathrebu 2 6
Cymhwyso Rhif 2 6

Asesir cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn Gymraeg ac yn Saesneg.  

Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith

Llwybr Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith
Lefel 4 – Rheolwr Cynnyrch Digidol 640 470
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)

Cymhwyster cyfunol -111 credyd, 351 awr GLH

Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
  • 6 chredyd  / 60 GLH Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd  / 60 GLH Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru

Gofynion eraill ychwanegol

Amh.

Rolau swydd

Mae’r Brentisiaeth Rheolwr Cynnyrch Digidol wedi cael ei dylunio gyda chyflogwyr yng Nghymru i fynd i’r afael â’r angen am sgiliau cyflawni cynnyrch digidol ar draws pob sector. Mae’r rhaglen Brentisiaeth hon wedi’i bwriadu i ddarparu llwybr galwedigaethol cadarn i gyflenwi’r sgiliau yn y presennol a’r dyfodol y mae eu hangen ar weithwyr Rheoli Cynnyrch Digidol proffesiynol. 

Gallai’r rolau a gwmpesir gan y fframwaith hwn fod mewn: 

 

  • Sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau cyflawni cynnyrch digidol ar gyfer ystod o gleientiaid; neu

     

  • Sefydliadau sy’n gweithredu yn unrhyw sector sy’n defnyddio Rheolwyr Cynnyrch Digidol i gynnal gwasanaethau cyflawni digidol o unrhyw fath. 


 

Mae’r ystod o sefydliadau y bydd y rolau hyn yn berthnasol iddynt yn cynnwys rhai amlwg megis awdurdodau lleol ac adrannau’r llywodraeth yn y sector cyhoeddus, yn ogystal â sefydliadau yn y sector preifat gan gynnwys manwerthwyr mawr, peirianneg a gweithgynhyrchu, darparwyr gwasanaethau ariannol ac, mewn realiti, bron pob darparwr gwasanaethau wedi’u digideiddio.

Job title(s)

Job role(s)

Rheolwr Cynnyrch Digidol

Yn gyfrifol am gefnogi datblygiad a gwelliant parhaus cynnyrch a gwasanaethau digidol. Yn cydweithio gyda defnyddwyr, rhanddeiliaid a thimau traws-swyddogaethol gan ddefnyddio egwyddorion dylunio ystwyth sy’n canolbwyntio ar ddefnyddwyr i ddiffinio gweledigaeth ar gyfer cynnyrch, blaenoriaethu nodweddion, a chyflawni datrysiadau digidol sy’n diwallu anghenion sefydliadau a defnyddwyr. 

Dilyniant

Llwybrau dilyniant i: 

Gall hyn fod o amrywiaeth o lwybrau gan gynnwys yn uniongyrchol o'r ysgol neu'r coleg gyda'r lefel a awgrymir o gymwysterau academaidd gan gynnwys:

  • TGAU, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru Canolradd
  • TAG UG a Safon Uwch, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru Uwch 
  • Cymwysterau cyffredinol neu alwedigaethol sy'n gysylltiedig â'r diwydiannau digidol neu greadigol

Neu fel datblygiad gyrfa mewn rôl briodol gyda chymwysterau addas neu gydnabyddiaeth o ddysgu a phrofiad blaenorol.

Cynnydd o: 

Mae’r rhaglen Brentisiaeth Lefel 4 yn darparu ystod o gyfleoedd i brentisiaid llwyddiannus gamu ymlaen. Mae’r rhain yn cynnwys mynd ymlaen i wneud Gradd Sylfaen neu HND mewn Cyfrifiadura neu ddisgyblaethau technoleg ddigidol cysylltiedig neu drwy wneud Gradd-brentisiaeth Lefel 6 mewn maes perthnasol o fewn technoleg ddigidol. Gall prentisiaid ddatblygu o fewn rôl eu swydd hefyd trwy ddilyn cymwysterau technegol a phroffesiynol ychwanegol, yn enwedig ym maes rheoli cynnyrch digidol. 

 

Gall prentisiaid sy’n cwblhau’r rhaglen brentisiaeth Lefel 4 hon gamu ymlaen o fewn eu gyrfa i ymgymryd â swyddi ymarferydd cyflawni a rheoli cynnyrch digidol ar lefel uwch, gan ddefnyddio eu harbenigedd technegol sy’n ehangu o fewn y sefydliad.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos sut i fynd ati’n weithredol i nodi a chael gwared â ffactorau sy'n atal mynediad a dilyniant. Dylai llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion a chanddynt nodweddion gwarchodedig a'r rhai nad oes ganddynt y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

 

Y nodweddion gwarchodedig a nodwyd yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, Beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared â gwahaniaethu mewn cyflogaeth.

 

Mae'n RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr yn nhermau mynediad i'r diwydiant ar sail y naw o nodweddion gwarchodedig hynny.

Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)

Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach.  Ond argymhellir bod pob prentis yn derbyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.

Cyfrifoldebau

Cyfrifoldeb  y Darparwr Hyfforddi a'r  Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y llwybr hwn yn cael eu cyflawni yn unol â Chanllawiau Prentisiaethau Llywodraeth Cymru/Medr.

Level 4: Digital Product Manager

Cymhwyster

Mae unedau gorfodol y cymhwyster cyfun yn cynnwys cyfanswm o 101 o gredydau, y mae 43 ohonynt yn ymwneud â chymhwysedd a 58 o gredydau’n ymwneud â gwybodaeth.


Diwygiadau dogfennau

25 June 2025