Mae SkillsActive wedi cytuno ar gynnwys y Llwybr hwn. Dyma'r unig lwybr prentisiaeth Hyfforddi Personol yn y sector Teithio, Twristiaeth a Hamdden sydd wedi'i gymeradwyo i'w ddefnyddio yng Nghymru ac sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan Medr.
DYDDIAD CYHOEDDI: 01/10/2025 ACW Fframwaith Rhif. FR05124v2
Cynnwys y Rhaglen Ddysgu
Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:
Cymwysterau,
Sgiliau Hanfodol
Hyfforddiant yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
96 credyd yw'r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 2 Hyfforddi Personol, gydag isafswm o 36 o gredydau o’r cymwysterau gwybodaeth.
Gofynion mynediad
Mae'r Brentisiaeth Hyfforddi Personol wedi'i chynllunio i rai sydd eisoes yn gweithio yn y diwydiant hamdden egnïol ac sy'n dymuno parhau â'u datblygiad proffesiynol ac arbenigo mewn rhan benodol o'r sector.
Bydd cyflogwyr/darparwyr hyfforddiant yn cynllunio systemau a phrosesau recriwtio priodol i benderfynu a oes gan ymgeiswyr y rhinweddau angenrheidiol sy'n ofynnol i weithio yn y sector hwn, neu a ydynt yn dangos y rhinweddau hynny. Efallai y bydd angen i brentisiaid hefyd dderbyn gwiriadau gan yr heddlu, er enghraifft wrth weithio gyda phlant ac oedolion sy'n agored i niwed.
Oherwydd yr ystod eang o gyrsiau sydd ar gael ar draws y sector Chwaraeon, Hamdden Egnïol a Llesiant, cyfrifoldeb y Cyflogwr/Darparydd Hyfforddiant yw adolygu unrhyw gymwysterau y gallai'r prentis fod wedi'u hennill o'r blaen. Nid yw cyflawniad blaenorol ar lefel uwch o reidrwydd yn golygu ei fod yn gymhwyster procsi ar gyfer unrhyw ran o'r fframwaith. Argymhellir bod yn ofalus iawn yn ystod y cam asesu cychwynnol, er mwyn sicrhau bod y fframwaith prentisiaeth llawn yn cael ei gyflwyno, yn unol ag anghenion y diwydiant.
Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth
Lefel 3: Hyfforddi Personol
Lefel 3: Hyfforddi Personol Cymwysterau
Rhaid i ddysgwyr gyflawni un o'r cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth isod.
| C1 - Lefel 3 Diploma NVQ mewn Hyfforddi Personol | |||||
|---|---|---|---|---|---|
| Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
| Active IQ | C00/0232/9 500/9305/8 | 48 | 480 | Cymhwysedd | Saesneg yn Unig |
| 1st4Sport | C00/1091/6 601/6794/4 | 48 | 480 | Cymhwysedd | Saesneg yn Unig |
| Focus Awards | C00/4981/6 601/4888/3 | 48 | 293 | Cymhwysedd | Saesneg-Cymraeg |
| K1 - Lefel 3 Diploma mewn Hyfforddi Personol | |||||
|---|---|---|---|---|---|
| Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
| Active IQ | C00/4779/4 | 43 | 430 | Gwybodaeth | Saesneg yn Unig |
| K2 - Lefel 3 Diploma mewn Hyfforddi Personol (Ymarferydd) | |||||
|---|---|---|---|---|---|
| Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
| YMCA Awards | C00/1253/8 603/2438/7 | 37 | 367 | Gwybodaeth | Saesneg yn Unig |
| K3 - Lefel 3 Diploma mewn Atgyfeiriadau Ymarfer Corff | |||||
|---|---|---|---|---|---|
| Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
| Active IQ | C00/0448/5 600/5105/X | 38 | 240 | Gwybodaeth | Saesneg yn Unig |
| Focus Awards | C00/4925/0 601/7916/8 | 38 | 242 | Gwybodaeth | Saesneg-Cymraeg |
| K4- Lefel 3 Diploma mewn Chwaraeon, Ffitrwydd a Hyfforddi Personol | |||||
|---|---|---|---|---|---|
| Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
| Pearson | C00/3943/2 603/4928/1 | 95 | 950 | Gwybodaeth | Saesneg-Cymraeg |
| K5- Tystysgrif Lefel 3 mewn Cynllunio a Chyflenwi Hyfforddiant Personol | |||||
|---|---|---|---|---|---|
| Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
| Focus Awards | C00/4959/4 603/5232/2 | 41 | 280 | Gwybodaeth | Saesneg-Cymraeg |
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
| Lefel 3: Hyfforddi Personol | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
|---|---|---|
| Cyfathrebu | 2 | 6 |
| Cymhwyso Rhif | 2 | 6 |
Nid yw Llythrennedd Digidol yn rhan orfodol o'r fframwaith. Fodd bynnag, argymhellir y dylai pob prentis sy'n newydd i sgiliau digidol fynd ar gwrs addas i ddysgu am hynny. Gallai hyn fod ar ffurf cymhwyster cydnabyddedig fel Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol.
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
| Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
|---|---|---|
| Lefel 3: Hyfforddi Personol | 332 | 347 |
Cymhwyster cymhwysedd - 48 o gredydau a’r Cymhwyster gwybodaeth -36 o gredydau
Cyfanswm yr oriau hyfforddi – sy’n cynnwys dysgu yn y gwaith ac i ffwrdd o’r gwaith – ar gyfer y Llwybr hwn yw 679 o oriau hyfforddi.
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
6 chredyd /60 GLH Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
6 chredyd /60 GLH Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
Optional
Optional Cymwysterau
| Dyfarniad Lefel 3 mewn Cymorth Cyntaf yn y Gwaith | |||||
|---|---|---|---|---|---|
| Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
| RLSS UK Qualifications | C00/1223/3 603/2266/4 | 2 | 22 | Gwybodaeth | Saesneg yn Unig |
| Dyfarniad Lefel 3 mewn Cefnogi Cleientiaid Cyn ac ar Ôl Geni gydag Ymarfer Corff a Maeth | |||||
|---|---|---|---|---|---|
| Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
| ActiveIQ | C00/4779/3 | 4 | 40 | Gwybodaeth | Saesneg yn Unig |
Gofynion eraill ychwanegol
Efallai y gofynnir i ddysgwyr ddatgan unrhyw euogfarnau troseddol os ydynt yn gweithio gyda phlant ifanc neu oedolion agored i niwed
Rolau swydd
Hyfforddwr Personol / Gweithiwr Proffesiynol Atgyfeiriadau Ymarfer Corff
Dilyniant
Gall dysgwyr hefyd symud ymlaen i'r brentisiaeth hon os ydynt eisoes wedi'u cyflogi yn y sector ac yn dymuno datblygu eu gwybodaeth a'u sgiliau i hyrwyddo eu gyrfaoedd. Gall dysgwyr hefyd symud ymlaen i'r rhaglen hon o swydd mewn sector gwahanol, neu wrth newid gyrfa.
Dilyniant o: Hyfforddi Personol Lefel 3
Ar ôl cwblhau'r rhaglen hon, gall prentisiaid symud ymlaen i gyflogaeth mewn amrywiaeth o rolau, yn amrywio rhwng Hyfforddwr Personol, Rheolaeth, Hyfforddi neu Berfformiad Chwaraeon Elît yn dibynnu ar y llwybr a ddewisir. Gallant hefyd symud ymlaen i amrywiaeth o gymwysterau galwedigaethol ac addysg uwch fydd yn caniatáu iddynt arbenigo ymhellach
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae'n bwysig bod Llwybrau Prentisiaethau yn gynhwysol ac yn gallu dangos ymagwedd weithredol tuag at nodi a chael gwared ar rwystrau i fynediad a dilyniant. Dylai llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng personau sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig a'r personau hynny nad ydynt fel y nodwyd yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Y nodweddion gwarchodedig a nodir yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'i chynnwys er mai dim ond mewn perthynas â'r gofyniad i ddileu gwahaniaethu mewn cyflogaeth.
Rhaid i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr o ran mynediad i'r diwydiant yn seiliedig ar y naw nodwedd warchodedig hynny.
Mae prentisiaethau yn ein sector yn anelu i hyrwyddo amrywiaeth, cyfle cyfartal a chynhwysiant drwy gynnig profiad dysgu o ansawdd uchel. Rhaid i'r rhaglen hon gael ei chyflwyno mewn lleoliad sy'n rhydd o ragfarn a gwahaniaethu, lle gall pob dysgwr gyfrannu'n llawn ac yn rhydd a theimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.
Mae Disability Rights UK wedi cynhyrchu gwybodaeth i helpu myfyrwyr anabl i ddeall y Ddeddf Cydraddoldeb. Ceir hyd i'r wybodaeth honno yma:
https://www.disabilityrightsuk.org/understanding-equality-act-information-disabledstudents
Rhaid i bob partner sy'n ymwneud â chyflenwi'r brentisiaeth - darparwyr, canolfannau asesu a chyflogwyr fod wedi ymrwymo i bolisi cyfle cyfartal, a rhaid iddynt fod wedi datgan polisi a gweithdrefn cyfle cyfartal.
Dylai prentisiaethau gynnwys llwybrau mynediad a dilyniant hyblyg i'r proffesiwn a all gefnogi cyfleoedd yng nghanol gyrfa, cyfnewid gyrfa a dychwelyd i yrfa. Bydd hyn yn rhoi cyfle i dalentau ddatblygu a ffynnu, waeth beth fo cefndir pobl, neu'r cymwysterau sydd ganddynt. Mae'r llwybr hwn yn anelu i fynd i'r afael â'r materion hyn.
MATERION, RHWYSTRAU A CHAMAU GWEITHREDU
Mae gan sector chwaraeon a hamdden y DU gyfran ychydig yn uwch o ddynion (53%) na menywod (47%), a phroffil iau na'r cyfartaledd. Mae oedran yn broblem benodol i'r sector, gyda’r rolau wedi tueddu i gael eu llenwi gan bobl ifanc16-24 oed yn y gorffennol, gyda 32% mewn chwaraeon a hamdden.
At ei gilydd, mae'r sector yn wyn yn bennaf, fel y gwelir ar draws yr holl ddiwydiannau yn economi'r DU (94 y cant o
ddiwydiannau SkillsActive o gymharu â 91 y cant ar draws holl ddiwydiannau'r DU). Mae'r gynrychiolaeth o bobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifol Ethnig yn isel o fewn y sector, a bydd hyrwyddo prentisiaethau drwy ymgysylltu â phartneriaid priodol a mentrau perthnasol o gymorth i geisio unioni hyn.
Drwy sefydlu proses recriwtio sy'n cynnig mynediad agored, heb ragfarn na gwahaniaethu, i'n rhaglenni prentisiaeth, rydym yn annog unrhyw un sydd â diddordeb i ymuno â'r sector, waeth beth fo'i hil, ei grefydd a'i ethnigrwydd. Fel hyn, gallwn wneud cyfraniad bach at geisio sicrhau y bydd y cydbwysedd o ran grwpiau tangynrychioledig yn gwella dros amser.
Mae angen 'pobl amryddawn' aml-sgiliau ar y sector hefyd, a gall prentisiaethau hyblyg chwarae rhan hanfodol wrth borthi unigolion talentog i'r sector, gan roi cyfle i gyflogwyr lunio rhaglenni hyfforddi i gyd-fynd â'u hanghenion. Yn aml, tybir bod cyrhaeddiad academaidd yn is yn y sector hwn, yn rhannol am ei fod yn ddeniadol i rai o natur mwy ymarferol. Mae’r dysgu seiliedig ar waith sy’n greiddiol i brentisiaeth yn hanfodol er mwyn cynorthwyo dysgwyr i ennill cymwysterau perthnasol.
Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)
Nid yw Hawliau a Chyfrifoldebau Cyflogaeth (ERR) yn rhan orfodol o’r fframwaith mwyach. Fodd bynnag, argymhellir bod pob prentis (yn arbennig y grŵp oedran 16-18 oed) yn cael rhaglen sefydlu lawn gan y cwmni sy’n rhoi amlinelliad eglur o hawliau a chyfrifoldebau cyflogwyr a phrentisiaid.
Argymhellir hefyd y dylai Prentisiaid (Lefel 3) wneud Dyfarniad Lefel 3 mewn Ymwybyddiaeth o Gyflogaeth mewn Hamdden Egnïol a Dysgu.
Cyfrifoldebau
Cyfrifoldeb Darparydd yr Hyfforddiant a'r Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion
y Llwybr hwn yn cael eu bodloni yn unol â Chanllawiau Prentisiaethau Llywodraeth
Cymru/Medr.
Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Medr