Skip to main content

Llwybr

Hyfforddiant Personol

Mae SkillsActive wedi cytuno ar gynnwys y Llwybr hwn. Dyma'r unig lwybr prentisiaeth Hyfforddi Personol yn y sector Teithio, Twristiaeth a Hamdden sydd wedi'i gymeradwyo i'w ddefnyddio yng Nghymru ac sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan Medr.

DYDDIAD CYHOEDDI: 01/10/2025 ACW Fframwaith Rhif. FR05124v2

Cynnwys y Rhaglen Ddysgu

Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol: 

  • Cymwysterau, 

  • Sgiliau Hanfodol 

  • Hyfforddiant yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith 

96 credyd yw'r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 2 Hyfforddi Personol, gydag isafswm o 36 o gredydau o’r cymwysterau gwybodaeth.
 

Gofynion mynediad

Mae'r Brentisiaeth Hyfforddi Personol wedi'i chynllunio i rai sydd eisoes yn gweithio yn y diwydiant hamdden egnïol ac sy'n dymuno parhau â'u datblygiad proffesiynol ac arbenigo mewn rhan benodol o'r sector.   

 Bydd cyflogwyr/darparwyr hyfforddiant yn cynllunio systemau a phrosesau recriwtio priodol i benderfynu a oes gan ymgeiswyr y rhinweddau angenrheidiol sy'n ofynnol i weithio yn y sector hwn, neu a ydynt yn dangos y rhinweddau hynny. Efallai y bydd angen i brentisiaid hefyd dderbyn gwiriadau gan yr heddlu, er enghraifft wrth weithio gyda phlant ac oedolion sy'n agored i niwed.   

 Oherwydd yr ystod eang o gyrsiau sydd ar gael ar draws y sector Chwaraeon, Hamdden Egnïol a Llesiant, cyfrifoldeb y Cyflogwr/Darparydd Hyfforddiant yw adolygu unrhyw gymwysterau y gallai'r prentis fod wedi'u hennill o'r blaen. Nid yw cyflawniad blaenorol ar lefel uwch o reidrwydd yn golygu ei fod yn gymhwyster procsi ar gyfer unrhyw ran o'r fframwaith. Argymhellir bod yn ofalus iawn yn ystod y cam asesu cychwynnol, er mwyn sicrhau bod y fframwaith prentisiaeth llawn yn cael ei gyflwyno, yn unol ag anghenion y diwydiant.     

Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth

Lefel 3: Hyfforddi Personol

Lefel 3: Hyfforddi Personol Cymwysterau

Rhaid i ddysgwyr gyflawni un o'r cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth isod.

C1 - Lefel 3 Diploma NVQ mewn Hyfforddi Personol
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
Active IQ C00/0232/9 500/9305/8 48 480 Cymhwysedd Saesneg yn Unig
1st4Sport C00/1091/6 601/6794/4 48 480 Cymhwysedd Saesneg yn Unig
Focus Awards C00/4981/6 601/4888/3 48 293 Cymhwysedd Saesneg-Cymraeg
K1 - Lefel 3 Diploma mewn Hyfforddi Personol
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
Active IQ C00/4779/4 43 430 Gwybodaeth Saesneg yn Unig
K2 - Lefel 3 Diploma mewn Hyfforddi Personol (Ymarferydd)
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
YMCA Awards C00/1253/8 603/2438/7 37 367 Gwybodaeth Saesneg yn Unig
K3 - Lefel 3 Diploma mewn Atgyfeiriadau Ymarfer Corff
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
Active IQ C00/0448/5 600/5105/X 38 240 Gwybodaeth Saesneg yn Unig
Focus Awards C00/4925/0 601/7916/8 38 242 Gwybodaeth Saesneg-Cymraeg
K4- Lefel 3 Diploma mewn Chwaraeon, Ffitrwydd a Hyfforddi Personol
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
Pearson C00/3943/2 603/4928/1 95 950 Gwybodaeth Saesneg-Cymraeg
K5- Tystysgrif Lefel 3 mewn Cynllunio a Chyflenwi Hyfforddiant Personol
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
Focus Awards C00/4959/4 603/5232/2 41 280 Gwybodaeth Saesneg-Cymraeg

Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)

Lefel 3: Hyfforddi Personol Lefel Isafswm Gwerth Credyd
Cyfathrebu 2 6
Cymhwyso Rhif 2 6

Nid yw Llythrennedd Digidol yn rhan orfodol o'r fframwaith.  Fodd bynnag, argymhellir y dylai pob prentis sy'n newydd i sgiliau digidol fynd ar gwrs addas i ddysgu am hynny. Gallai hyn fod ar ffurf cymhwyster cydnabyddedig fel Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol.     

Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith

Llwybr Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith
Lefel 3: Hyfforddi Personol 332 347

Cymhwyster cymhwysedd - 48 o gredydau a’r Cymhwyster gwybodaeth -36 o gredydau 

Cyfanswm yr oriau hyfforddi – sy’n cynnwys dysgu yn y gwaith ac i ffwrdd o’r gwaith – ar gyfer y Llwybr hwn yw 679 o oriau hyfforddi.

Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)

6 chredyd /60 GLH Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru 

6 chredyd /60 GLH Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru  

Optional

Optional Cymwysterau

Dyfarniad Lefel 3 mewn Cymorth Cyntaf yn y Gwaith
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
RLSS UK Qualifications C00/1223/3 603/2266/4 2 22 Gwybodaeth Saesneg yn Unig
Dyfarniad Lefel 3 mewn Cefnogi Cleientiaid Cyn ac ar Ôl Geni gydag Ymarfer Corff a Maeth
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
ActiveIQ C00/4779/3 4 40 Gwybodaeth Saesneg yn Unig

Gofynion eraill ychwanegol

Efallai y gofynnir i ddysgwyr ddatgan unrhyw euogfarnau troseddol os ydynt yn gweithio gyda phlant ifanc neu oedolion agored i niwed

Rolau swydd

Hyfforddwr Personol / Gweithiwr Proffesiynol Atgyfeiriadau Ymarfer Corff

Dilyniant

Gall dysgwyr hefyd symud ymlaen i'r brentisiaeth hon os ydynt eisoes wedi'u cyflogi yn y sector ac yn dymuno datblygu eu gwybodaeth a'u sgiliau i hyrwyddo eu gyrfaoedd. Gall dysgwyr hefyd symud ymlaen i'r rhaglen hon o swydd mewn sector gwahanol, neu wrth newid gyrfa. 

 

Dilyniant o: Hyfforddi Personol Lefel 3  

Ar ôl cwblhau'r rhaglen hon, gall prentisiaid symud ymlaen i gyflogaeth mewn amrywiaeth o rolau, yn amrywio rhwng Hyfforddwr Personol, Rheolaeth, Hyfforddi neu Berfformiad Chwaraeon Elît yn dibynnu ar y llwybr a ddewisir. Gallant hefyd symud ymlaen i amrywiaeth o gymwysterau galwedigaethol ac addysg uwch fydd yn caniatáu iddynt arbenigo ymhellach  

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae'n bwysig bod Llwybrau Prentisiaethau yn gynhwysol ac yn gallu dangos ymagwedd weithredol tuag at nodi a chael gwared ar rwystrau i fynediad a dilyniant. Dylai llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng personau sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig a'r personau hynny nad ydynt fel y nodwyd yn Neddf Cydraddoldeb 2010.  

Y nodweddion gwarchodedig a nodir yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'i chynnwys er mai dim ond mewn perthynas â'r gofyniad i ddileu gwahaniaethu mewn cyflogaeth.  

Rhaid i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr o ran mynediad i'r diwydiant yn seiliedig ar y naw nodwedd warchodedig hynny.  

Mae prentisiaethau yn ein sector yn anelu i hyrwyddo amrywiaeth, cyfle cyfartal a chynhwysiant drwy gynnig profiad dysgu o ansawdd uchel.  Rhaid i'r rhaglen hon gael ei chyflwyno mewn lleoliad sy'n rhydd o ragfarn a gwahaniaethu, lle gall pob dysgwr gyfrannu'n llawn ac yn rhydd a theimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi. 

Mae Disability Rights UK wedi cynhyrchu gwybodaeth i helpu myfyrwyr anabl i ddeall y Ddeddf Cydraddoldeb. Ceir hyd i'r wybodaeth honno yma: 

https://www.disabilityrightsuk.org/understanding-equality-act-information-disabledstudents 

Rhaid i bob partner sy'n ymwneud â chyflenwi'r brentisiaeth - darparwyr, canolfannau asesu a chyflogwyr fod wedi ymrwymo i bolisi cyfle cyfartal, a rhaid iddynt fod wedi datgan polisi a gweithdrefn cyfle cyfartal.   

Dylai prentisiaethau gynnwys llwybrau mynediad a dilyniant hyblyg i'r proffesiwn a all gefnogi cyfleoedd yng nghanol gyrfa, cyfnewid gyrfa a dychwelyd i yrfa.  Bydd hyn yn rhoi cyfle i dalentau ddatblygu a ffynnu, waeth beth fo cefndir pobl, neu'r cymwysterau sydd ganddynt. Mae'r llwybr hwn yn anelu i fynd i'r afael â'r materion hyn. 

MATERION, RHWYSTRAU A CHAMAU GWEITHREDU 

Mae gan sector chwaraeon a hamdden y DU gyfran ychydig yn uwch o ddynion (53%) na menywod (47%), a phroffil iau na'r cyfartaledd. Mae oedran yn broblem benodol i'r sector, gyda’r rolau wedi tueddu i gael eu llenwi gan bobl ifanc16-24 oed yn y gorffennol, gyda 32% mewn chwaraeon a hamdden.   

At ei gilydd, mae'r sector yn wyn yn bennaf, fel y gwelir ar draws yr holl ddiwydiannau yn economi'r DU (94 y cant o 

ddiwydiannau SkillsActive o gymharu â 91 y cant ar draws holl ddiwydiannau'r DU). Mae'r gynrychiolaeth o bobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifol Ethnig yn isel o fewn y sector, a bydd hyrwyddo prentisiaethau drwy ymgysylltu â phartneriaid priodol a mentrau perthnasol o gymorth i geisio unioni hyn. 

Drwy sefydlu proses recriwtio sy'n cynnig mynediad agored, heb ragfarn na gwahaniaethu, i'n rhaglenni prentisiaeth, rydym yn annog unrhyw un sydd â diddordeb i ymuno â'r sector, waeth beth fo'i hil, ei grefydd a'i ethnigrwydd. Fel hyn, gallwn wneud cyfraniad bach at geisio sicrhau y bydd y cydbwysedd o ran grwpiau tangynrychioledig yn gwella dros amser. 

Mae angen 'pobl amryddawn' aml-sgiliau ar y sector hefyd, a gall prentisiaethau hyblyg chwarae rhan hanfodol wrth borthi unigolion talentog i'r sector, gan roi cyfle i gyflogwyr lunio rhaglenni hyfforddi i gyd-fynd â'u hanghenion. Yn aml, tybir bod cyrhaeddiad academaidd yn is yn y sector hwn, yn rhannol am ei fod yn ddeniadol i rai o natur mwy ymarferol. Mae’r dysgu seiliedig ar waith sy’n greiddiol i brentisiaeth yn hanfodol er mwyn cynorthwyo dysgwyr i ennill cymwysterau perthnasol.

Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)

Nid yw Hawliau a Chyfrifoldebau Cyflogaeth (ERR) yn rhan orfodol o’r fframwaith mwyach. Fodd bynnag, argymhellir bod pob prentis (yn arbennig y grŵp oedran 16-18 oed) yn cael rhaglen sefydlu lawn gan y cwmni sy’n rhoi amlinelliad eglur o hawliau a chyfrifoldebau cyflogwyr a phrentisiaid.

 Argymhellir hefyd y dylai Prentisiaid (Lefel 3) wneud Dyfarniad Lefel 3 mewn Ymwybyddiaeth o Gyflogaeth mewn Hamdden Egnïol a Dysgu.

Cyfrifoldebau

Cyfrifoldeb Darparydd yr Hyfforddiant  a'r Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion 

y Llwybr hwn yn cael eu bodloni yn unol â Chanllawiau Prentisiaethau Llywodraeth 

Cymru/Medr. 

Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Medr


Diwygiadau dogfennau

20 Chwefror 2025  
01 Hydref 2025 - By Nicola Beasley   Changed Level 3 credit from 97 to 96 and On/Off job credit from 37 to 36.
10 Tachwedd 2025 - By Nicola Beasley   Removed Level 3 C00/0970/9
21 Tachwedd 2025 - By Nicola Beasley   Updated Framework number from FR05108 to FR05124