Mae Grŵp Llywio wedi cytuno ar gynnwys y Llwybr hwn. Dyma'r unig Lwybr Prentisiaeth yn y sector Gwasanaethau Cyhoeddus a gymeradwywyd i'w ddefnyddio yng Nghymru sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan Medr.
DYDDIAD CYHOEDDI: 01/05/2023 ACW Fframwaith Rhif. FR05080
Cynnwys y Rhaglen Ddysgu
Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:
- Cymwysterau,
- Sgiliau Hanfodol
- Hyfforddiant yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Y Cymhwyster yw tystysgrif Lefel 4 mewn Tystysgrif Addysg Uwch mewn Cenhadaeth a Gweinidogaeth yn y Gweithle (Prentisiaeth) sydd wedi'i achredu gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCDDS).
Yr isafswm credyd gofynnol ar gyfer Lefel 4 Gweinidogaeth yr Eglwys yw 120 credyd.
Gofynion mynediad
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y llwybr hwn. Fodd bynnag, bydd llawer o gyflogwyr yn disgwyl safon uchel o lythrennedd a rhifedd e.e. Graddau TGAU A*-D, cymwysterau Safon Uwch neu brawf o allu gweithio ar y lefel hon, fel profiad a gafwyd drwy gyflogaeth neu waith gwirfoddol.
Mae ymddiriedaeth, uniondeb a gonestrwydd oll yn nodweddion a werthfawrogir gan gyflogwyr yn y sector gwasanaethau Eglwysig/Gweinidogaeth.
Mae gwiriadau DBS yn hanfodol oherwydd gallai cyflogeion eu cael eu hunain yn gweithio gydag oedolion sy'n agored i niwed a phlant.
leiaf 12 mis o brofiad o Gymuned Eglwysig
Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth
Lefel 4 - Gweinidogaeth yr Eglwys
Lefel 4 - Gweinidogaeth yr Eglwys Cymwysterau
Rhaid i ddysgwyr gyflawni’r cymwysterau cyfunol isod.
| Tystysgrif Addysg Uwch mewn Cenhadaeth a Gweinidogaeth yn y Gweithle (Pentisiaeth) | |||||
|---|---|---|---|---|---|
| Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
| PCDDS | n/a | 120 | 720 | Cyfun | Cymraeg - Saesneg |
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
| Lefel 4 - Gweinidogaeth yr Eglwys | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
|---|---|---|
| Cyfathrebu | 2 | 6 |
| Cymhwyso Rhif | 2 | 6 |
| Llythrennedd Digidol | 2 | 6 |
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
| Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
|---|---|---|
| Lefel 4 - Gweinidogaeth yr Eglwys | 900 | 720 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
Competence / Cymhwyster - 120 credyd
Mae cyfanswm yr oriau hyfforddi – sy’n cynnwys dysgu yn y gwaith ac i ffwrdd o’r gwaith – ar gyfer y Llwybr yma’n 1620 o oriau hyfforddi.
Gofynion eraill ychwanegol
Gofynnir i ddysgwyr gwblhau gwiriad DBS Manwl wrth gofrestru.
Rolau swydd
Church Ministry
Mae swydd Prentis y Weinidogaeth yn golygu 14 mis o gyflogaeth gydag eglwys leol, clwstwr o eglwysi neu sefydliad para-eglwys. Fe'i hanelir yn bennaf at y rhai sydd am archwilio galwad i weinidogaeth Gristnogol amser llawn. Bydd yn sicrhau bod gennych y profiad a'r cymhwyster angenrheidiol (Diwinyddiaeth - Lefel 4) ar gyfer Gweinidogaeth Gristnogol yn yr eglwys leol, rhaglenni caplaniaeth, gwaith ieuenctid a phlant ac amrywiaeth o feysydd eraill.
Bydd prentisiaid yn gweithio fel rhan o dîm wrth gael hyfforddiant diwinyddol a gweinidogaethol mewnol. Byddant hefyd yn cael eu rhyddhau i ennill cymhwyster Diwinyddiaeth y tu allan i'r swydd. Defnyddir y geiriau “y tu allan i'r swydd" a "mewnol", ond ar gyfer rhan helaeth o'r cymhwyster "y tu allan i'r swydd" mae angen gwaith "mewnol", gan gynnwys paratoi am astudiaethau beiblaidd, datblygu deunyddiau cyhoeddusrwydd, ymgysylltu â mentrau gweithredu cymdeithasol ac ati, gan ddysgu drwy gydol yr amser i fyfyrio ar eich ymarfer. Mae'r ddwy elfen yn gweithio gyda'i gilydd, ac yn aml yn gydamserol.
Mae'r rhaglen yn ddigon hyblyg i'w theilwra i wahanol feysydd o fewn y weinidogaeth, boed hynny mewn gweinidogaeth myfyrwyr, gweinidogaeth plant, gweinidogaeth ieuenctid, caplaniaeth i ysgolion, gofal bugeiliol, rhaglenni cyfiawnder (rhaglenni bwyd +), bugeiliaid stryd, ac ati.
Mae'r gyflogaeth hon yn cynnwys:
Gweithio yn eich maes dewisol o fewn y weinidogaeth, gan gyflawni gwaith gweinyddol cyffredinol yn gysylltiedig â'r eglwys.
Hyfforddiant Diwinyddiaeth Lefel 4 (a gynhelir gan Sefydliad Padarn Sant ac a achredir gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant).
Byddwch yn
cael mentor gweinidogaethol a fydd yn eich cefnogi yn eich gwaith.
cael y cyfle i weithio ochr yn ochr ag Arweinwyr o fewn yr eglwys, a fydd yn rhoi addysg a chefnogaeth ymarferol amhrisiadwy i chi i'ch helpu i ddarganfod a datblygu sgiliau a phrofiad.
helpu i gyflwyno gweithgareddau wythnosol y weinidogaeth, ac i roi gofal bugeiliol i wirfoddolwyr a chyfranogwyr o fewn y weinidogaeth a ddewisir gennych.
helpu i drefnu a chyflwyno digwyddiadau ar draws yr eglwys, fel diwrnod i ffwrdd o'r eglwys a digwyddiadau efengylu.
cymryd rhan mewn Prosiectau Cyfiawnder fel Banciau Bwyd a Chyrsiau Arian Cristnogion yn erbyn Tlodi.
paratoi a chyflwyno sgyrsiau ac astudiaethau Beiblaidd.
gwasanaethu ym mywyd yr eglwys leol lle bo angen.
Cyflog:
Ar gyfradd prentisiaeth y cytunir arni
Bydd y prentis yn cael ei addysgu ar gyfer y cymhwyster Diwinyddiaeth Lefel 4 yn rhad ac am ddim.
Dilyniant
DILYNIANT
Gellir cael mynediad i'r llwybr hwn:
Drwy fynediad uniongyrchol o'r ysgol neu'r coleg
Drwy Fagloriaeth Cymru
Drwy fynediad uniongyrchol i'r rhai sydd eisoes yn gyfarwydd â'r sector
Swyddi / CYFLEOEDD
Cyfleoedd i fynd i mewn i'r weinidogaeth yn y rhan fwyaf o enwadau prif ffrwd.
Rolau caplaniaeth – ysgolion, carchardai, ysbytai, cartrefi gofal, ac ati.
Symud i Addysg Bellach i astudio Diwinyddiaeth ar Lefel 5 a 6 a gweithio tuag at gymhwyster gradd (BTh).
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos dull gweithredol o nodi a chael gwared ar ffactorau sy'n atal mynediad a chynnydd. Dylai Llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion sydd â nodweddion gwarchodedig a'r rhai heb y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Y nodweddion gwarchodedig a nodir yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared ar wahaniaethu mewn cyflogaeth.
RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau nad ydynt yn gwahaniaethu yn erbyn ymgeiswyr o ran mynediad i'r diwydiant ar sail y naw nodwedd warchodedig hynny.
Polisi’r Eglwys yw hyrwyddo diwylliant o urddas, parch a thegwch i’w holl aelodau. Mae ein gwahanol enwadau wedi cydnabod doniau, talentau a galwedigaethau eu haelodau lleyg a'u clerigwyr. Fodd bynnag, mae'n amlwg bod grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol. Drwy ei gwaith ei hun, mae'r Eglwys wedi sylweddoli nad oes ganddi amrywiaeth o ran ei gweinidogion mewn pedwar maes gwahanol:
Siaradwyr Cymraeg (yn enwedig siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf)
Rhai o ardaloedd economaidd-gymdeithasol is yng Nghymru
Lleiafrifoedd Ethnig
Rhai sy'n 18-25 oed
Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos ymagwedd weithredol at nodi a chael gwared â ffactorau sy'n atal mynediad a dilyniant. Dylai llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion a chanddynt nodweddion gwarchodedig a'r rhai nad oes ganddynt y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Bydd darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr yn cydymffurfio â'r ddyletswydd arall o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr o ran mynediad i'r diwydiant ar sail nodweddion gwarchodedig.
Ers cryn amser bu diffyg cydbwysedd rhwng y rhywiau o fewn yr Eglwys. Rhoddwyd sylw i hyn dros y degawdau diweddar, gyda llawer o enwadau'n symud tuag at sicrhau bod mwy na 60% o'u staff cyflogedig (gan gynnwys uwch arweinwyr) yn fenywod. Mae'r Eglwys yn obeithiol y gall fynd i'r afael â materion amrywiaeth eraill yr un mor llwyddiannus, gan ei bod yn annog ei holl aelodau, ei gweithwyr ac eraill sy'n gweithredu ar ei rhan i weithio tuag at gael gwared ag arferion ac agweddau a allai gael eu hystyried yn wahaniaethol.
Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)
While this is no longer a mandatory requirement, all potential employers and apprentices will receive a full induction programme which will include safeguarding training.
Cyfrifoldebau
Cyfrifoldeb y Darparwr Hyfforddiant a'r Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu cyflawni’n unol â Chanllawiau Llywodraeth Cymru/Medr ar Brentisiaethau.
Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Medr