Skip to main content

Llwybr

Gweinidogaeth yr Eglwys

Mae Grŵp Llywio wedi cytuno ar gynnwys y Llwybr hwn. Dyma'r unig Lwybr Prentisiaeth yn y sector Gwasanaethau Cyhoeddus a gymeradwywyd i'w ddefnyddio yng Nghymru sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan Medr.

DYDDIAD CYHOEDDI: 01/05/2023 ACW Fframwaith Rhif. FR05080

Cynnwys y Rhaglen Ddysgu

Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:

  • Cymwysterau,
  • Sgiliau Hanfodol
  • Hyfforddiant yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith

Y Cymhwyster yw tystysgrif Lefel 4 mewn Tystysgrif Addysg Uwch mewn Cenhadaeth a Gweinidogaeth yn y Gweithle (Prentisiaeth) sydd wedi'i achredu gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCDDS). 

Yr isafswm credyd gofynnol ar gyfer Lefel 4 Gweinidogaeth yr Eglwys yw 120 credyd.

Gofynion mynediad

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y llwybr hwn. Fodd bynnag, bydd llawer o gyflogwyr yn disgwyl safon uchel o lythrennedd a rhifedd e.e. Graddau TGAU A*-D, cymwysterau Safon Uwch neu brawf o allu gweithio ar y lefel hon, fel profiad a gafwyd drwy gyflogaeth neu waith gwirfoddol. 

 

  • Mae ymddiriedaeth, uniondeb a gonestrwydd oll yn nodweddion a werthfawrogir gan gyflogwyr yn y sector gwasanaethau Eglwysig/Gweinidogaeth.   

  • Mae gwiriadau DBS yn hanfodol oherwydd gallai cyflogeion eu cael eu hunain yn gweithio gydag oedolion sy'n agored i niwed a phlant.  

  • leiaf 12 mis o brofiad o Gymuned Eglwysig 

Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth

Lefel 4 - Gweinidogaeth yr Eglwys

Lefel 4 - Gweinidogaeth yr Eglwys Cymwysterau

Rhaid i ddysgwyr gyflawni’r cymwysterau cyfunol isod.

Tystysgrif Addysg Uwch mewn Cenhadaeth a Gweinidogaeth yn y Gweithle (Pentisiaeth)
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
PCDDS n/a 120 720 Cyfun Cymraeg - Saesneg

Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)

Lefel 4 - Gweinidogaeth yr Eglwys Lefel Isafswm Gwerth Credyd
Cyfathrebu 2 6
Cymhwyso Rhif 2 6
Llythrennedd Digidol 2 6

Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith

Llwybr Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith
Lefel 4 - Gweinidogaeth yr Eglwys 900 720
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)

Competence / Cymhwyster  - 120 credyd

Mae cyfanswm yr oriau hyfforddi – sy’n cynnwys dysgu yn y gwaith ac i ffwrdd o’r gwaith – ar gyfer y Llwybr yma’n 1620 o oriau hyfforddi.

Gofynion eraill ychwanegol

Gofynnir i ddysgwyr gwblhau gwiriad DBS Manwl wrth gofrestru. 

Rolau swydd

Church Ministry

Mae swydd Prentis y Weinidogaeth yn golygu 14 mis o gyflogaeth gydag eglwys leol, clwstwr o eglwysi neu sefydliad para-eglwys. Fe'i hanelir yn bennaf at y rhai sydd am archwilio galwad i weinidogaeth Gristnogol amser llawn. Bydd yn sicrhau bod gennych y profiad a'r cymhwyster angenrheidiol (Diwinyddiaeth - Lefel 4) ar gyfer Gweinidogaeth Gristnogol yn yr eglwys leol, rhaglenni caplaniaeth, gwaith ieuenctid a phlant ac amrywiaeth o feysydd eraill.  

Bydd prentisiaid yn gweithio fel rhan o dîm wrth gael hyfforddiant diwinyddol a gweinidogaethol mewnol.  Byddant hefyd yn cael eu rhyddhau i ennill cymhwyster Diwinyddiaeth y tu allan i'r swydd.   Defnyddir y geiriau “y tu allan i'r swydd" a "mewnol", ond ar gyfer rhan helaeth o'r cymhwyster "y tu allan i'r swydd" mae angen gwaith "mewnol", gan gynnwys paratoi am astudiaethau beiblaidd, datblygu deunyddiau cyhoeddusrwydd, ymgysylltu â mentrau gweithredu cymdeithasol ac ati, gan ddysgu drwy gydol yr amser i fyfyrio ar eich ymarfer.  Mae'r ddwy elfen yn gweithio gyda'i gilydd, ac yn aml yn gydamserol.   

Mae'r rhaglen yn ddigon hyblyg i'w theilwra i wahanol feysydd o fewn y weinidogaeth, boed hynny mewn gweinidogaeth myfyrwyr, gweinidogaeth plant, gweinidogaeth ieuenctid, caplaniaeth i ysgolion, gofal bugeiliol, rhaglenni cyfiawnder (rhaglenni bwyd +), bugeiliaid stryd, ac ati.

Mae'r gyflogaeth hon yn cynnwys:

  • Gweithio yn eich maes dewisol o fewn y weinidogaeth, gan gyflawni gwaith gweinyddol cyffredinol yn gysylltiedig â'r eglwys.

  • Hyfforddiant Diwinyddiaeth Lefel 4 (a gynhelir gan Sefydliad Padarn Sant ac a achredir gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant).

Byddwch yn 

  • cael mentor gweinidogaethol a fydd yn eich cefnogi yn eich gwaith. 

  • cael y cyfle i weithio ochr yn ochr ag Arweinwyr o fewn yr eglwys, a fydd yn rhoi addysg a chefnogaeth ymarferol amhrisiadwy i chi i'ch helpu i ddarganfod a datblygu sgiliau a phrofiad.  

  • helpu i gyflwyno gweithgareddau wythnosol y weinidogaeth, ac i roi gofal bugeiliol i wirfoddolwyr a chyfranogwyr o fewn y weinidogaeth a ddewisir gennych.  

  • helpu i drefnu a chyflwyno digwyddiadau ar draws yr eglwys, fel diwrnod i ffwrdd o'r eglwys a digwyddiadau efengylu.  

  • cymryd rhan mewn Prosiectau Cyfiawnder fel Banciau Bwyd a Chyrsiau Arian Cristnogion yn erbyn Tlodi. 

  • paratoi a chyflwyno sgyrsiau ac astudiaethau Beiblaidd.  

  • gwasanaethu ym mywyd yr eglwys leol lle bo angen.  

Cyflog: 

  • Ar gyfradd prentisiaeth y cytunir arni 

  • Bydd y prentis yn cael ei addysgu ar gyfer y cymhwyster Diwinyddiaeth Lefel 4 yn rhad ac am ddim. 

Dilyniant

DILYNIANT 

Gellir cael mynediad i'r llwybr hwn:   

  • Drwy fynediad uniongyrchol o'r ysgol neu'r coleg 

  • Drwy Fagloriaeth Cymru 

  • Drwy fynediad uniongyrchol i'r rhai sydd eisoes yn gyfarwydd â'r sector 

Swyddi / CYFLEOEDD             

  • Cyfleoedd i fynd i mewn i'r weinidogaeth yn y rhan fwyaf o enwadau prif ffrwd.   

  • Rolau caplaniaeth – ysgolion, carchardai, ysbytai, cartrefi gofal, ac ati.   

  • Symud i Addysg Bellach i astudio Diwinyddiaeth ar Lefel 5 a 6 a gweithio tuag at gymhwyster gradd (BTh).     

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos dull gweithredol o nodi a chael gwared ar ffactorau sy'n atal mynediad a chynnydd. Dylai Llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion sydd â nodweddion gwarchodedig a'r rhai heb y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

Y nodweddion gwarchodedig a nodir yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared ar wahaniaethu mewn cyflogaeth.

RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau nad ydynt yn gwahaniaethu yn erbyn ymgeiswyr o ran mynediad i'r diwydiant ar sail y naw nodwedd warchodedig hynny.

Polisi’r Eglwys yw hyrwyddo diwylliant o urddas, parch a thegwch i’w holl aelodau. Mae ein gwahanol enwadau wedi cydnabod doniau, talentau a galwedigaethau eu haelodau lleyg a'u clerigwyr.  Fodd bynnag, mae'n amlwg bod grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol. Drwy ei gwaith ei hun, mae'r Eglwys wedi sylweddoli nad oes ganddi amrywiaeth o ran ei gweinidogion mewn pedwar maes gwahanol:

  • Siaradwyr Cymraeg (yn enwedig siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf)

  • Rhai o ardaloedd economaidd-gymdeithasol is yng Nghymru

  • Lleiafrifoedd Ethnig 

  • Rhai sy'n 18-25 oed

Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos ymagwedd weithredol at nodi a chael gwared â ffactorau sy'n atal mynediad a dilyniant. Dylai llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion a chanddynt nodweddion gwarchodedig a'r rhai nad oes ganddynt y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.   

Bydd darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr yn cydymffurfio â'r ddyletswydd arall o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr o ran mynediad i'r diwydiant ar sail nodweddion gwarchodedig. 

Ers cryn amser bu diffyg cydbwysedd rhwng y rhywiau o fewn yr Eglwys.  Rhoddwyd sylw i hyn dros y degawdau diweddar, gyda llawer o enwadau'n symud tuag at sicrhau bod mwy na 60% o'u staff cyflogedig (gan gynnwys uwch arweinwyr) yn fenywod.  Mae'r Eglwys yn obeithiol y gall fynd i'r afael â materion amrywiaeth eraill yr un mor llwyddiannus, gan ei bod yn annog ei holl aelodau, ei gweithwyr ac eraill sy'n gweithredu ar ei rhan i weithio tuag at gael gwared ag arferion ac agweddau a allai gael eu hystyried yn wahaniaethol.

Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)

While this is no longer a mandatory requirement, all potential employers and apprentices will receive a full induction programme which will include safeguarding training. 

Cyfrifoldebau

Cyfrifoldeb y Darparwr Hyfforddiant a'r Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu cyflawni’n unol â Chanllawiau Llywodraeth Cymru/Medr ar Brentisiaethau.

Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Medr


Diwygiadau dogfennau

17 Ebrill 2023  
29 Medi 2025 - By Nicola   Changed duration to 14 months