Skip to main content

Llwybr

Gweithrediadau Hamdden a Rheoli Hamdden

Mae SkillsActive wedi cytuno ar gynnwys y llwybr hwn. Dyma'r unig lwybr prentisiaeth Rheoli Hamdden yn y sector Teithio, Twristiaeth a Hamdden sydd wedi'i gymeradwyo i gael ei ddefnyddio yng Nghymru ac sy'n gymwys i gael cyllid gan Medr.

DYDDIAD CYHOEDDI: 01/08/2024 Rhif Fframwaith Ardystio Prentisiaethau Cymru: FR05117v2

Cynnwys y Rhaglen Ddysgu

Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:

  • Cymwysterau,
  • Sgiliau Hanfodol
  • Hyfforddiant yn y gwaith/i ffwrdd o'r gwaith

Cyfanswm yr isafswm gwerth credyd sy'n ofynnol ar gyfer y Llwybr Lefel 3 mewn Rheoli Hamdden yw 53 credyd  

Gofynion mynediad

Nid oes llwybrau mynediad wedi'u diffinio ymlaen llaw, ond gallai dysgwyr sy'n dymuno camu ymlaen i'r rhaglen brentisiaeth hon ddod o amrywiaeth o gefndiroedd a meddu ar amrywiaeth o gymwysterau. 

Gallai'r rhain gynnwys diplomâu, cymwysterau TGAU, Bagloriaeth Cymru neu Safon Uwch, neu lwybrau hyfforddiant galwedigaethol megis Llwybrau Dysgu Seiliedig ar Waith neu fathau eraill o gymwysterau galwedigaethol a phrofiad gwaith. 

 

Lefel 3: Rheoli Hamdden 

Mae'r Brentisiaeth mewn Rheoli Hamdden wedi'i bwriadu ar gyfer pobl sydd eisoes yn gweithio yn y sector ac sydd am ddysgu gwybodaeth a sgiliau newydd er mwyn parhau â'u datblygiad proffesiynol, yn ogystal â phobl sydd am ymuno â'r sector mewn rôl oruchwylio/rôl reoli. 

Mae'r llwybr hefyd yn addas ar gyfer pobl sydd am newid gyrfa ar ôl gweithio mewn sector gwahanol. 

 Dylai fod gan ddarpar brentisiaid agwedd gadarnhaol, benderfynol a llawn cymhelliant a bod yn fodlon gweithio fel rhan o dîm neu ar eu pen eu hunain. Dylai fod ganddynt gymhelliant i lwyddo yn y diwydiant a dylent fod yn fodlon gweithio shifftiau, gweithio oriau anghymdeithasol o bryd i'w gilydd, a theithio rhwng safleoedd.

Disgwylir i ddarpar brentisiaid feddu ar y sgiliau i weithio gydag amrywiaeth o wahanol gleientiaid a'u cymell. Mae'n bosibl y bydd hefyd angen i brentisiaid fod yn destun gwiriadau gan yr heddlu, er enghraifft os byddant yn gweithio gydag oedolion agored i niwed a phlant. 

Ar Lefel Uwch, disgwylir i brentisiaid ddangos y gallu i ddatblygu sgiliau rheoli a gwasanaethau cwsmeriaid rhagorol.

Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth

Lefel 3: Rheoli Hamdden

Lefel 3: Rheoli Hamdden Cymwysterau

Rhaid i gyfranogwyr ennill y cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth canlynol neu'r cymhwyster cyfunol isod.

Lefel 3 Diploma NVQ mewn Rheoli Hamdden
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
Active IQ C00/0346/4 600/1446/5 39 390 Cymhwysedd Saesneg yn Unig

a

Lefel 3 Tystysgrif mewn Rheoli Hamdden
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
Active IQ C00/0346/2 600/1266/3 16 160 Gwybodaeth Saesneg yn Unig

neu

Diploma Lefel 3 mewn Rheoli Hamdden
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
1st4sport C00/4878/6 41 410 Cyfun Saesneg yn Unig

Gweler Atodiad 1 am y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymwysterau cyfunol.

Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)

Lefel 3: Rheoli Hamdden Lefel Isafswm Gwerth Credyd
Cyfathrebu 2 6
Cymhwyso Rhif 2 6

Saesneg-Cymraeg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru.

Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith

Llwybr Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith
Lefel 3: Rheoli Hamdden 256 239
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)

Bydd prentisiaid sy'n cwblhau'r rhaglen hon yn ennill o leiaf 67 credyd/495 awr wrth gyfuno elfennau o'r llwybr hwn.

39 credyd am gymhwysedd a 16 credyd am wybodaeth

Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)

 

6 chredyd / 60 GLH Lefel 2 Sgiliau Hanfodol Cymru Cyfathrebu 

6 chredyd / 60 GLH Lefel 2 Sgiliau Hanfodol Cymru Cymhwyso Rhif 

 

Gofynion eraill ychwanegol

Dim

Dilyniant

Lefel 3: Rheoli Hamdden 

Camu ymlaen i'r llwybr hwn 

Gall y brentisiaeth hon gynnig cyfle i gamu ymlaen i brentisiaid sydd ar raglen lefel ganolradd yn ogystal â phobl sydd eisoes yn gweithio yn y sector. 

Mae'r rhaglen uwch hon hefyd yn addas ar gyfer pobl sy'n dymuno newid gyrfa ac ailhyfforddi er mwyn ymuno a'r sector ar y lefel hon. 

Camu ymlaen o'r llwybr hwn 

Ar ôl cwblhau'r rhaglen hon, bydd prentisiaid yn gallu gweithio mewn cyfleusterau hamdden mewn rolau rheoli, gan ddal un o'r teitlau canlynol yn dibynnu ar natur y lleoliad ei hun: rheolwr ar ddyletswydd, rheolwr canolfan / clwb, rheolwr cynorthwyol canolfan, rheolwr cyfleusterau hamdden. 

Gall rheolwyr hamdden gyflawni amrywiaeth eang o rolau, gan gynnwys rheoli staff, rheoli cyfleusterau a rheoli gwasanaethau. 

 

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae'n bwysig bod llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos camau pendant i ganfod a dileu rhwystrau sy'n atal pobl rhag cael mynediad a chamu ymlaen. Dylai llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng personau sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig a phersonau nad ydynt yn eu rhannu, fel y'u diffinnir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

Y nodweddion gwarchodedig a nodir yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond mewn perthynas â'r gofyniad i ddileu gwahaniaethu mewn cyflogaeth.

RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr o ran mynediad i'r diwydiant ar sail y naw nodwedd warchodedig hynny.

Nod prentisiaethau yn y sector Teithio, Twristiaeth a Hamdden yw hyrwyddo amrywiaeth, cyfle cyfartal a chynhwysiant drwy gynnig profiad dysgu o ansawdd da. Rhaid i'r rhaglen hon gael ei chynnal mewn lleoliad lle nad oes rhagfarn na gwahaniaethu, a lle y gall pob dysgwr gyfrannu'n llawn ac yn rhydd a theimlo'n werthfawr.

 

PROBLEMAU, RHWYSTRAU A CHAMAU GWEITHREDU

Mae'r diwydiant iechyd a hamdden yn cynnwys bron i 6,000 o glybiau iechyd a chyfleusterau hamdden preifat a chyhoeddus. Staff sy'n gweithio ar lawr y gampfa yw'r rhan fwyaf o'r gweithlu. O ganlyniad i'r sefyllfa economaidd bresennol, un rhwystr posibl rhag ymuno â'r diwydiant ffitrwydd yw'r ffaith bod incwm gwario'r rhan fwyaf o aelwydydd wedi lleihau'n sylweddol, gan olygu bod y cyhoedd yn fwy gofalus ynglŷn â gwario arian ar aelodaeth o glybiau iechyd. Mae'n amlwg bod ysbryd cystadleuol ymhlith clybiau iechyd wrth iddynt gynnig cyfnodau ymrwymo byrrach, ffioedd ymuno/ymaelodi rhatach a chyfraddau cystadleuol ar gyfer sesiynau ymarfer mewn grŵp. Yn anffodus, mae'r hinsawdd economaidd bresennol hefyd wedi achosi lleihad mewn codiadau cyflog ac mewn cymorth ar gyfer hyfforddi a datblygu, oherwydd y costau cysylltiedig.

Fodd bynnag, gall rhaglen brentisiaethau fel hon gyfrannu at gymorth a datblygiad proffesiynol parhaus i staff cyfleusterau iechyd a hamdden, drwy sicrhau bod pobl sydd â diddordeb mewn ymuno â'r sector, neu sydd eisoes wedi'u cyflogi yn y sector, yn cael cyfle i ennill a datblygu eu gwybodaeth a'u sgiliau er gwaethaf yr anawsterau economaidd presennol. Menywod yw 63% o'r gweithlu ac, er bod ganddynt bresenoldeb ym mhob math o rôl, bydd eu niferoedd yn lleihau wrth i lefel awdurdod y rolau gynyddu.

Mae'r ffaith bod rhaglen brentisiaethau lefel ganolradd ar gael mewn cyfleusterau iechyd a hamdden yn ei gwneud yn bosibl i bob aelod o staff ddatblygu ei sgiliau a'i wybodaeth. Felly, gall y llwybr hwn gyfrannu at annog mwy o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol i ddatblygu eu sgiliau, a bydd y ffaith bod rhaglen lefel uwch ar gael ym maes rheoli hamdden a ffitrwydd yn eu galluogi i gamu ymlaen yn eu gyrfaoedd a chyflawni rolau ar lefelau uwch yn y dyfodol agos.

Pobl wyn yw mwyafrif llethol y gweithlu iechyd a hamdden, sef 92.5%, a phobl Ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yw'r 7.5% sy'n weddill. Drwy gael proses recriwtio agored nad yw'n rhagfarnu nac yn gwahaniaethu ar gyfer ein rhaglenni prentisiaethau, rydym yn annog unrhyw un sydd â diddordeb, beth bynnag fo'u hil, eu crefydd neu eu hethnigrwydd, i ymuno a'r sector, sy'n ein galluogi i wneud cyfraniad bach at geisio sicrhau y bydd y cydbwysedd o ran ethnigrwydd yn gwella dros amser.

Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)

Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth yn orfodol mwyach.  Fodd bynnag, argymhellir y dylai pob prentis (yn enwedig yn y grŵp oedran 16–18 oed) gael rhaglen sefydlu gan gwmni.

Cyfrifoldebau

Cyfrifoldeb y darparwr hyfforddiant/cyflogwr yw sicrhau y caiff gofynion y llwybr hwn eu bodloni yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru/Medr ar brentisiaethau.

  

Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Medr

Atodiad 1:

Diploma Lefel 3 mewn Rheoli Hamdden

Dilynwch y ddolen isod i weld manyleb y cymhwyster sy'n cynnwys y berthynas rhwng unedau cymhwysedd a gwybodaeth:

 Templed Manyleb Cymhwyster (1st4sport.com) 


Diwygiadau dogfennau

24 Tachwedd 2021  
21 Hydref 2025 - By Wayne Scoberg   added Level 3 Diploma in Leisure Management