- Framework:
- Cefnogi Dysgu ac Addysgu mewn Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ysgol
- Lefel:
- 3
Llysgennad Ifanc - cynllunio, cydlynu, hyrwyddo a bod yn eiriolwr dros chwaraeon gyda phobl ifanc. Tynnu sylw at fylchau yn y ddarpariaeth, hyrwyddo cysylltiadau rhwng chwaraeon/gweithgarwch corfforol yr ysgol a'r gymuned mewn partneriaeth ag arweinydd chwaraeon yr ysgol. Darparu llwyfan i lais pobl ifanc ar wneud penderfyniadau strategol mewn chwaraeon.
Gweithiwr Proffesiynol Gweithgareddau Plant - cynllunio, cyflwyno, asesu a gwerthuso gweithgareddau y tu allan i'r ysgol, gweithgareddau amser cinio ac amser chwarae a gweithgareddau corfforol/addysg gorfforol cwricwlwm mewn partneriaeth ag arweinwyr chwaraeon yr ysgol. Cynorthwyo cefnogaeth cwricwlwm a rheoli lleoliad blynyddoedd cynnar Estyn.
Uwch Weithiwr Proffesiynol Gweithgareddau Plant - cynllunio, cyflwyno, asesu a gwerthuso gweithgareddau y tu allan i'r ysgol, gweithgareddau amser cinio ac amser chwarae a gweithgareddau corfforol/addysg gorfforol cwricwlwm mewn partneriaeth ag arweinwyr chwaraeon yr ysgol. Cynorthwyo cefnogaeth cwricwlwm a rheoli lleoliad blynyddoedd cynnar Estyn.
Hyfforddwr Chwaraeon Ysgol - cynllunio, cyflwyno, asesu a gwerthuso gweithgareddau y tu allan i'r ysgol, gweithgareddau amser cinio ac amser chwarae a gweithgareddau corfforol/addysg gorfforol cwricwlwm mewn partneriaeth ag arweinwyr chwaraeon yr ysgol. Cynorthwyo cefnogaeth cwricwlwm a rheoli lleoliad blynyddoedd cynnar Estyn.
Opsiynau a lefelau llwybrau
Cefnogi Dysgu ac Addysgu mewn Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ysgol - Lefel 3
Cefnogi rôl gweithiwr Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ysgol.
Mwy o wybodaeth
Hyd
Lefel 3: 21 mis
Llwybrau dilyniant
Lefel 3:
Mae dilyniant o'r llwybr prentisiaeth hwn yn cynnwys cyflwyniad i gyfleoedd i weithio fel gweithiwr addysg gorfforol a chwaraeon ysgol proffesiynol, ee, fel cynorthwyydd addysgu lefel uwch, cynorthwyydd addysgu, hyfforddwr chwaraeon, swyddog datblygu chwaraeon, gwirfoddolwr chwaraeon neu arweinydd chwaraeon.
Mae'r llwybr hwn hefyd yn cynnig canllawiau i ddysgwyr ar gyfleoedd pellach, gan gynnwys sut i:
- Gyfrannu at raglenni addysg gorfforol a chwaraeon ysgol, fel rolau hyfforddwr chwaraeon, arweinydd chwaraeon a chynorthwyydd addysgu
- Gwneud dewisiadau deallus ynghylch gyrfa briodol mewn addysg gorfforol/gweithgareddau corfforol a chwaraeon ysgol, gan gynnwys y potensial i fod yn Athro Addysg Gorfforol neu'n aelod staff cymorth o fewn addysg (Cynradd ac Uwchradd)
Gall y llwybr hwn hefyd gynnig dilyniant i rolau Rheoli ac Asesu o fewn y sector ac ar draws sectorau gan gynnwys Chwaraeon, Iechyd a Ffitrwydd a Hamdden.
Cymwysterau
Lefel 3: Diploma NVQ yn y maes Cefnogi Cyflwyno Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ysgol.
Beth yw'r gofynion mynediad ar gyfer y llwybr hwn?
Mae gan bob llwybr prentisiaeth yng Nghymru ofynion mynediad. Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn y llwybr hwn – mae angen i chi gael y cymhwyster lefel mynediad canlynol;
Lefel 3
Bydd disgwyl i lawer o bobl sy'n gweithio gyda phlant, yn cydgysylltu a chyflwyno gweithgareddau corfforol a chwaraeon ysgol ddal cymhwyster hyfforddi lefel 2 NGB neu gymhwyster cyfwerth, ond gallent hefyd feddu ar gymhwyster lefel gradd mewn maes cysylltiedig.
Efallai y bydd angen i brentisiaid hefyd dderbyn gwiriadau gan yr heddlu, er enghraifft wrth weithio gyda phlant ac oedolion sy'n agored i niwed.
Nid oes unrhyw isafswm oedran ar gyfer y llwybr hwn, gan mai'r cyflogwr a'r darparydd fydd yn sicrhau bod gan y prentisiaid a gaiff eu recriwtio y lefel angenrheidiol o aeddfedrwydd i fodloni gofynion y swydd.
Gweld llwybr llawn