Mae Skills Active wedi cytuno ar gynnwys y Llwybr hwn. Dyma'r unig Lwybr Prentisiaeth yn y sector Addysg a Gwasanaethau Gwybodaeth a gymeradwywyd i'w ddefnyddio yng Nghymru, ac sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan Medr.
DYDDIAD CYHOEDDI: 26/04/2023 ACW Framwaith Rhif. FR04352
Cynnwys y Rhaglen Ddysgu
Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:
- Cymwysterau,
- Sgiliau Hanfodol
- Hyfforddiant yn y gwaith/i ffwrdd o'r gwaith
74 credyd yw'r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 3 Cefnogi Dysgu ac Addysgu mewn Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ysgol.
Gofynion mynediad
Mae'r Brentisiaeth hon yn cynnig llwybr galwedigaethol i'r proffesiwn gweithgareddau plant, ac yn benodol i rôl Uwch Weithiwr Proffesiynol Gweithgareddau Plant.
Mae'r rhaglen hon yn addas i rai sy'n dymuno ennill sgiliau newydd drwy newid eu gyrfaoedd ac ailhyfforddi i ymuno â'r sector ar y lefel hon. Bydd disgwyl i lawer o bobl sy'n gweithio gyda phlant, yn cydgysylltu a chyflwyno gweithgareddau corfforol a chwaraeon ysgol ddal cymhwyster hyfforddi lefel 2 NGB neu gymhwyster cyfwerth, ond gallent hefyd feddu ar gymhwyster lefel gradd mewn maes cysylltiedig.
Mae'r llwybr hwn yn cefnogi'r safonau gofynnol a'r arfer da wrth weithio gyda phlant mewn ysgolion, y tu allan i'r ysgol ac mewn amgylcheddau cymunedol.
Dylai darpar brentisiaid fod ag agwedd gadarnhaol, ysgogol a 'medru gwneud' a bod yn barod i weithio fel aelod o dîm ac ar eu pen eu hunain. Disgwylir y bydd gan ddarpar brentisiaid y sgiliau i ysgogi a gweithio gydag amrywiaeth o wahanol gleientiaid.
Efallai y bydd angen i brentisiaid hefyd dderbyn gwiriadau gan yr heddlu, er enghraifft wrth weithio gyda phlant ac oedolion sy'n agored i niwed.
Nid oes unrhyw isafswm oedran ar gyfer y llwybr hwn, gan mai'r cyflogwr a'r darparydd fydd yn sicrhau bod gan y prentisiaid a gaiff eu recriwtio y lefel angenrheidiol o aeddfedrwydd i fodloni gofynion y swydd.
Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth
Lefel 3: Cefnogi Dysgu ac Addysgu mewn Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ysgol
Lefel 3: Cefnogi Dysgu ac Addysgu mewn Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ysgol Cymwysterau
Mae'n rhaid i'r cyfranogwyr ennill un o'r cymwysterau cyfun a ganlyn:
Lefel 3 Diploma mewn Cefnogi Cyflwyno Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ysgol | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
Active IQ | C00/1472/7 601/1247/5 | 54 | 540 | Cymhwysedd | Saesneg yn Unig |
Edrychwch ar Atodiad 2 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
Lefel 3: Cefnogi Dysgu ac Addysgu mewn Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ysgol | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
---|---|---|
Cyfathrebu | 2 | 6 |
Cymhwyso Rhif | 2 | 6 |
Ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yw Cymraeg a Saesneg.
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
---|---|---|
Lefel 3: Cefnogi Dysgu ac Addysgu mewn Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ysgol | 191 | 293 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
Cymhwyster cyfun 54 credyd -gwybodaeth: 23 credyd a chymhwysedd: 31 credyd
Mae'n rhaid cwblhau rhaglen gyfun o hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith yn rhan o'r brentisiaeth, dros gyfnod cyfartalog o 12 mis/484 o oriau hyfforddi
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
Gofynion eraill ychwanegol
Bydd y Brentisiaeth yn cynnwys gweithio gyda phlant/pobl ifanc ac/neu oedolion sy'n agored i niwed, felly bydd yn rhaid i ymgeiswyr dderbyn gwiriad gorfodol gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB).
Dilyniant
Dilyniant i'r rhaglen hon:
Nid oes unrhyw lwybrau mynediad wedi'u diffinio ymlaen llaw, ond gallai dysgwyr sy'n dymuno symud ymlaen i'r brentisiaeth hon ddod o amrywiaeth o gefndiroedd a meddu ar amrywiaeth o gymwysterau. Gallai'r rhain gynnwys diplomas, cymwysterau TGAU, Safon Uwch, llwybrau hyfforddiant galwedigaethol, cymwysterau galwedigaethol a phrofiad gwaith.
Gall dysgwyr symud ymlaen i'r brentisiaeth hon ar ôl cwblhau rhaglen brentisiaeth mewn Arwain Gweithgareddau neu Hyfforddi.
Gall dysgwyr hefyd symud ymlaen i'r brentisiaeth hon os ydynt eisoes wedi'u cyflogi yn y sector ac yn dymuno datblygu eu gwybodaeth a'u sgiliau i hyrwyddo eu gyrfaoedd.
Gall dysgwyr hefyd symud ymlaen i'r rhaglen hon o swydd mewn sector gwahanol, neu wrth newid gyrfa.
Dilyniant o'r rhaglen hon:
Mae dilyniant o'r llwybr prentisiaeth hwn yn cynnwys cyflwyniad i gyfleoedd i weithio fel gweithiwr addysg gorfforol a chwaraeon ysgol proffesiynol, ee, fel cynorthwyydd addysgu lefel uwch, cynorthwyydd addysgu, hyfforddwr chwaraeon, swyddog datblygu chwaraeon, gwirfoddolwr chwaraeon neu arweinydd chwaraeon.
Mae'r llwybr hwn hefyd yn cynnig canllawiau i ddysgwyr ar gyfleoedd pellach, gan gynnwys sut i:
- Gyfrannu at raglenni addysg gorfforol a chwaraeon ysgol, fel rolau hyfforddwr chwaraeon, arweinydd chwaraeon a chynorthwyydd addysgu
- Gwneud dewisiadau deallus ynghylch gyrfa briodol mewn addysg gorfforol/gweithgareddau corfforol a chwaraeon ysgol, gan gynnwys y potensial i fod yn Athro Addysg Gorfforol neu'n aelod staff cymorth o fewn addysg (Cynradd ac Uwchradd)
Gall y llwybr hwn hefyd gynnig dilyniant i rolau Rheoli ac Asesu o fewn y sector ac ar draws sectorau gan gynnwys Chwaraeon, Iechyd a Ffitrwydd a Hamdden.
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu arddangos dull gweithredol o nodi a chael gwared â ffactorau sy'n atal mynediad a dilyniant. Dylai llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion a chanddynt nodweddion gwarchodedig a'r rhai nad oes ganddynt y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Y nodweddion gwarchodedig a nodwyd yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, Beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared â gwahaniaethu mewn cyflogaeth.
Mae'n RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr yn nhermau mynediad i'r diwydiant ar sail y naw o nodweddion gwarchodedig hynny.
Yn y sector Chwaraeon a Hamdden Egnïol, mae'r cyflogwyr sy'n cyflwyno gweithgareddau corfforol i bobl ifanc a phlant ledled Cymru yn wynebu bylchau sylweddol o ran sgiliau:
- Ceir prinder pobl ifanc parod am waith â chymwysterau addas sy'n dod i mewn i'r diwydiant i lenwi swyddi gwag sy'n bodoli eisoes ac a fydd yn parhau i gael eu creu yn ystod cyfnod disgwyliedig o dwf sylweddol dros y tair blynedd nesaf.
- Ceir diffyg llwybr dilyniant galwedigaethol strwythuredig ar gyfer newydd-ddyfodiaid a chyflogeion presennol yn y diwydiant, er mwyn cynyddu sgiliau a gwneud cynnydd o fewn y sector o lefel 2 i fyny.
- Ceir bwlch o ran sgiliau arwain a rheoli er mwyn gwireddu potensial talent addawol o fewn y diwydiant i fodloni anghenion gweithredol a strategol ehangu a newid trefniadol
Mae'r bylchau y cyfeiriwyd atynt uchod o ran heriau a sgiliau yn bodoli gan fod y sector wedi tyfu'n gyflym yn sgil cynnydd mewn cyllid ar gyfer chwaraeon ysgolion cynradd a gofynion gwaddol y Gemau Olympaidd.
Ceir diffyg amrywiaeth dda o gymwysterau presennol i fodloni gofynion y rôl gyfredol, ac oherwydd hynny mae'r llwybr Prentisiaeth Gweithgareddau Corfforol newydd hwn yn cael ei ddatblygu.
Yn y gorffennol, cafwyd hefyd brinder ymrwymiad ymhlith diwydiannau'r sector i sicrhau datblygiad gyrfa, hyfforddiant rheoli ffurfiol neu gynllunio olyniaeth, ac mae hyn bellach yn anghynaladwy yn sgil newidiadau deddfwriaethol, a chylch gwaith ehangach y sector er mwyn cefnogi agendâu allweddol yn gysylltiedig â iechyd, newidiadau i chwaraeon ysgol a chyfranogiad.
Drwy sefydlu proses recriwtio sy'n cynnig mynediad agored, heb ragfarn na gwahaniaethu, i'n rhaglenni prentisiaeth, rydym yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymuno â'r sector, waeth beth fo'i hil, ei grefydd a'i ethnigrwydd. Fel hyn, gallwn wneud cyfraniad bach at geisio sicrhau y bydd y cydbwysedd o ran ethnigrwydd yn gwella dros amser.
Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)
Nid yw CHC yn orfodol mwyach. Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn derbyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.
Cyfrifoldebau
Cyfrifoldeb Darparydd yr Hyfforddiant a'r Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu bodloni yn unol â Chanllawiau Prentisiaethau Llywodraeth Cymru/Medr.
Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Medr
Atodiad 1 Lefel 3: Cefnogi Dysgu ac Addysgu mewn Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ysgol
Mae'n rhaid i'r dysgwr ennill 54 credyd o 12 uned orfodol.
Unedau Gorfodol
- Cyfathrebu a pherthnasoedd proffesiynol â phlant, pobl ifanc ac oedolion
- (gwybodaeth - 2 credyd)
- Ysgolion fel sefydliadau (gwybodaeth - 3 chredyd)
- Deall sut i ddiogelu lles plant a phobl ifanc (gwybodaeth - 3 chredyd)
- Deall datblygiad plant a phobl ifanc (gwybodaeth - 4 credyd)
- Cefnogi asesu ar gyfer dysgu (cymhwysedd - 4 credyd)
- Cynllunio rhaglen addysg gorfforol a chwaraeon ysgol (cymhwysedd - 5 credyd)
- Cyflwyno rhaglen addysg gorfforol a chwaraeon ysgol (cymhwysedd - 4 credyd)
- Adolygu cyflwyno rhaglen addysg gorfforol a chwaraeon ysgol (cymhwysedd - 3 chredyd)
- Trefnu ac arwain digwyddiad neu gystadleuaeth chwaraeon (cymhwysedd - 3 chredyd)
- Paratoi am y rôl fentora (gwybodaeth - 3 chredyd)
- Cefnogi dysgwyr dawnus a thalentog (cymhwysedd - 4 credyd)
- Hwyluso chwaraeon a gweithgaredd corfforol yn y gymuned (cymhwysedd - 8 credyd) a gwybodaeth - 8 credyd)
Cyfanswm y credydau gwybodaeth: 23 credyd.
Cyfanswm y credydau cymhwysedd: 31 credyd.