Skip to main content

Crynodeb o'r llwybr

Newyddiaduraeth

Framework:
Newyddiaduraeth
Lefel:
5

Mae rôl Newyddiadurwr yn cynnwys dod o hyd i straeon, ymchwilio iddynt a’u hadrodd ar amryw blatfformau gan gynnwys ar-lein, darlledu ac mewn print. 

Opsiynau a lefelau llwybrau

Newyddiaduraeth - Lefel 5

Yn cefnogi rôl Newyddiadurwr

Mwy o wybodaeth

Hyd

Lefel 5: 18 mis

Llwybrau dilyniant

Bydd cwblhau’r brentisiaeth Newyddiaduraeth yn llwyddiannus yn agor amrywiaeth eang o yrfaoedd gyda darlledwyr, cyhoeddiadau ar-lein, cylchgronau. Bydd rhai’n newyddion cyffredinol ond mae llawer o gyfleoedd gyda chyhoeddiadau diddordeb arbennig, sy’n amrywio o gyllid i chwaraeon penodol, hobïau, diddordeb teuluol – mae’r rhestr bron yn ddiddiwedd. Bydd teitlau swyddi’n amrywio rhwng sectorau a chyflogwyr. 

Ar ôl cwblhau’r rhaglen hon, gall prentis ddisgwyl treulio amser yn cyfnerthu ac yn ymarfer eu sgiliau am gyfnod cyn camu ymlaen yn eu gyrfa.  

Gellid camu ymlaen, ymhen amser, i swyddi rheoli iau, gan ddal i gyfuno hynny â dyletswyddau newyddiadurol, neu fel arbenigwyr. Daw golygyddion fel rheol o blith ymgeiswyr sydd wedi llwyddo yn y diwydiant ar ôl dechrau fel newyddiadurwyr iau. 

Cymwysterau

Diploma Lefel 5 mewn Newyddiaduraeth

Beth yw'r gofynion mynediad ar gyfer y llwybr hwn?

Mae gan bob llwybr prentisiaeth yng Nghymru ofynion mynediad. Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn y llwybr hwn – mae angen i chi gael y cymhwyster lefel mynediad canlynol;

Lefel 5

Bydd angen i newydd-ddyfodiaid fod ag ymrwymiad cryf i fod yn newyddiadurwr. Bydd yn rhaid iddynt allu defnyddio iaith yn effeithiol i'w mynegi eu hunain ar lafar ac yn ysgrifenedig. Mae cyflogwyr yn chwilio am staff gweithgar a hyblyg, sy'n teimlo angerdd gwirioneddol i "adrodd y newyddion"

 

Un o'r amodau sylfaenol er mwyn cael mynediad i'r brentisiaeth hon yw cred cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant yng ngallu'r ymgeisydd i ddysgu a meithrin ei sgiliau gan ddangos ymrwymiad i'r swydd bob amser. 

 

Yn ogystal â hynny, dylai prentisiaid feddu ar y canlynol:

5 TGAU (neu gyfwerth) ar Radd C neu'n uwch;

agwedd weithgar;

meddwl ymholgar;

diddordeb byw mewn materion cyfoes;

gallu i ysgrifennu a defnyddio geiriau'n fanwl gywir ac effeithiol; 

dyfalbarhad a phenderfyniad; a

pharodrwydd i dderbyn oriau anghymdeithasol

 

Efallai y bydd gan gyflogwyr unigol ofynion ychwanegol, ee: 

trwydded yrru gyfredol; 

gallu defnyddio cyfrifiadur yn effeithiol.

 

Efallai y bydd rhai cyflogwyr yn gofyn am sgiliau Cymraeg, neu y bydd angen hynny ar gyfer rhai swyddi penodol. Gallai rhugledd yn y Gymraeg fod yn fanteisiol. 

Gweld llwybr llawn

Diwygiadau dogfennau

19 Tachwedd 2021