Skip to main content

Llwybr

Newyddiaduraeth

Mae Sgiliau Creadigol a Diwylliannol wedi cytuno ar gynnwys y Llwybr hwn. Dyma'r unig Lwybr Prentisiaeth ar gyfer Newyddiaduraeth yn y sector Creadigol, Dylunio a'r Cyfryngau a gymeradwywyd i'w ddefnyddio yng Nghymru, ac sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan Medr.

Cynnwys y Rhaglen Ddysgu

Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:

  • Cymwysterau,
  • Sgiliau Hanfodol
  • Hyfforddiant yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith

94 credyd  yw'r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 5  Newyddiaduraeth.

Gofynion mynediad

Bydd angen i newydd-ddyfodiaid fod ag ymrwymiad cryf i fod yn newyddiadurwr. Bydd yn rhaid iddynt allu defnyddio iaith yn effeithiol i'w mynegi eu hunain ar lafar ac yn ysgrifenedig. Mae cyflogwyr yn chwilio am staff gweithgar a hyblyg, sy'n teimlo angerdd gwirioneddol i "adrodd y newyddion"

Un o'r amodau sylfaenol er mwyn cael mynediad i'r brentisiaeth hon yw cred cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant yng ngallu'r ymgeisydd i ddysgu a meithrin ei sgiliau gan ddangos ymrwymiad i'r swydd bob amser.

Yn ogystal â hynny, dylai prentisiaid feddu ar y canlynol:

  • 5 TGAU (neu gyfwerth) ar Radd C neu'n uwch;
  • agwedd weithgar;
  • meddwl ymholgar;
  • diddordeb byw mewn materion cyfoes;
  • gallu i ysgrifennu a defnyddio geiriau'n fanwl gywir ac effeithiol;
  • dyfalbarhad a phenderfyniad; a
  • pharodrwydd i dderbyn oriau anghymdeithasol

Efallai y bydd gan gyflogwyr unigol ofynion ychwanegol, ee:

  • trwydded yrru gyfredol;
  • gallu defnyddio cyfrifiadur yn effeithiol.

Efallai y bydd rhai cyflogwyr yn gofyn am sgiliau Cymraeg, neu y bydd angen hynny ar gyfer rhai swyddi penodol. Gallai rhugledd yn y Gymraeg fod yn fanteisiol.

Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth

Lefel 5: Newyddiaduraeth

Lefel 5: Newyddiaduraeth Cymwysterau

Mae'n rhaid i gyfranogwyr gwblhau'r cymhwyster cyfun isod.

Gweler Atodiad 1 am y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun

Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)

Lefel 5: Newyddiaduraeth Lefel Isafswm Gwerth Credyd
Cyfathrebu 2 6
Cymhwyso Rhif 2 6

Asesir cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn Gymraeg ac yn Saesneg

Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith

Llwybr Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith
Lefel 5: Newyddiaduraeth 485 500
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)

Diploma Lefel 5 mewn Newyddiaduraeth - Isafswm o 82 credyd

985 yw cyfanswm yr oriau hyfforddi yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith ar gyfer y rhaglen 18 mis

Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
  • 6 chredyd / 60 GLH Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd / 60 GLH Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru

Gofynion eraill ychwanegol

Amh.

Dilyniant

Lefel 5: Newyddiadurwr

Dilyniant i Lefel 5 Newyddiaduraeth

Yr amod sylfaenol er mwyn cael mynediad yw hyder y cyflogwr yng ngallu'r ymgeisydd i ffynnu a gwireddu ei botensial o fewn y brentisiaeth. Gall cyfleoedd dysgu blaenorol heb eu hachredu yn gysylltiedig â newyddiaduraeth gynnig llwybrau dilyniant buddiol gan y bydd hynny'n dangos diddordeb yn y maes, ee profiad o waith gwirfoddol neu brofiad gwaith fel newyddiadurwr, a hyfforddiant perthnasol mewn meysydd fel creu cynnwys ar gyfer y we, neu gynhyrchu adroddiad newyddion ar fideo.

Ceir nifer o gymwysterau a fyddai'n ddefnyddiol er mwyn paratoi am y Brentisiaeth hon:

  • Dysgu o'r Llwybrau 14 i 19;
  • Sgiliau Allweddol Ehangach;
  • Cymwysterau ym Magloriaeth Cymru;
  • TGAU, Safon Uwch neu Ddiplomas Cenedlaethol mewn pynciau'n gysylltiedig â'r cyfryngau;
  • BTEC perthnasol;
  • Cwblhau cyrsiau newyddiaduraeth i ddechreuwyr mewn AB, neu drwy Addysg Oedolion;
  • Cwblhau cyrsiau newyddiaduraeth ac/neu gyrsiau ysgrifennu creadigol; a
  • Cwblhau Cymhwyster Tystysgrif Lefel 3 NCTJ mewn Newyddiaduraeth Sylfaen, neu unedau o'r cymhwyster hwnnw; a
  • Chyfleoedd dysgu blaenorol heb eu hachredu a gafwyd drwy brofiad gwaith;
  • Portffolio o flog a gyhoeddwyd gan yr ymgeisydd ei hun;
  • Portffolio o waith a gyhoeddwyd mewn cyhoeddiad dielw neu gan gwmni cyfryngau masnachol (gallai hyn gynnwys gwaith fel gwirfoddolwr (ee, swyddog y wasg i glwb neu gymdeithas), neu waith a gyhoeddwyd mewn cylchgrawn ysgol/coleg); a
  • Hyfforddiant a allai gynnwys portffolio o waith a gwblhawyd.

Fel canllaw, gall ymgeiswyr gael mynediad drwy amrywiaeth o lwybrau, gan gynnwys:

  • Ysgol
  • Coleg
  • Prifysgol
  • Darparydd hyfforddiant preifat
  • Profiad Gwaith
  • Gwaith

Dilyniant o'r Llwybr Newyddiaduraeth

Bydd llwyddo i gwblhau'r brentisiaeth Newyddiaduraeth yn agor y drws i amrywiaeth eang o yrfaoedd gyda darlledwyr, cyhoeddiadau ar-lein, cylchgronau. Bydd rhai o'r rhain yn cynhyrchu newyddion cyffredinol, ond ceir llawer o gyfleoedd gyda chyhoeddiadau diddordeb arbennig, yn amrywio rhwng cyllid, chwaraeon arbennig, hobïau, cyhoeddiadau sydd o ddiddordeb i deuluoedd - mae'r rhestr yn ddi-ben-draw. Bydd teitlau swydd yn amrywio rhwng gwahanol sectorau a chyflogwyr.

Ar ôl cwblhau'r rhaglen hon, gall prentis ddisgwyl treulio cyfnod o amser yn cyfnerthu ac yn ymarfer ei sgiliau cyn symud ymlaen yn ei yrfa. Efallai y bydd rhai'n symud ymlaen i ddilyn Cymhwyster Cenedlaethol Lefel 5 NCTJ mewn Newyddiaduraeth (NQJ) a chymhwyso fel uwch-newyddiadurwr. Bydd lefel y cyfrifoldeb yn amrywio, yn unol â chyflogwyr unigol a gallu'r prentis.

Gellid symud ymlaen, ymhen amser, i swydd is-reolwr,

gan barhau i gyfuno hynny â dyletswyddau newyddiadurwr, neu fel arbenigwr. Bydd golygyddion fel arfer yn cael eu dewis o blith ymgeiswyr sydd wedi gwneud cynnydd yn y diwydiant ar ôl dechrau fel is-newyddiadurwyr.

Dilyniant i Addysg Uwch

Dylid symud ymlaen o'r Brentisiaeth Newyddiaduraeth i raglenni dysgu lefel Uwch mewn meysydd perthnasol. Gall prentisiaid symud ymlaen i lefelau uwch neu broffesiynol, ee Graddau Sylfaen, Diplomas/Tystysgrifau Cenedlaethol Uwch, Graddau Anrhydedd BA a Chyrsiau Meistr.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos sut maent yn mynd ati’n weithredol i nodi a chael gwared â ffactorau sy'n atal mynediad a dilyniant. Dylai llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion a chanddynt nodweddion gwarchodedig a'r rhai nad oes ganddynt y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

Y nodweddion gwarchodedig a nodwyd yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, Beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared â gwahaniaethu mewn cyflogaeth.

Mae'n RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr yn nhermau mynediad i'r diwydiant ar sail y naw o nodweddion gwarchodedig hynny.

Mae Diwydiannau Cyfryngau Creadigol Cymru yn gwasanaethu ac yn manteisio ar ddoniau a sgiliau poblogaeth amrywiol.

Mae'r amrywiaeth yn cynnwys gwahaniaethau y gellir, ac na ellir, eu gweld. Drwy harneisio'r gwahaniaethau hyn, byddwn yn creu diwydiannau creadigol a chynhyrchiol sy'n llwyddo ar raddfa fyd-eang.

Ar hyn o bryd, mae cynrychiolaeth merched yn sylweddol is yn Niwydiannau'r Cyfryngau Creadigol yng Nghymru nag yn y DU gyfan (29% o gymharu â 38%). Mae cynrychiolaeth Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifol Ethnig ychydig yn is nag yn economi ehangach Cymru, sef 2%.

Mae 7% o weithlu cyfryngau creadigol Cymru yn eu hystyried eu hunain yn anabl, o gymharu â 9% ar draws y DU.

Mae 48% o'r gweithlu yng Nghymru dan 35 oed, gan awgrymu bod y gweithlu'n gymharol ifanc (o gymharu â Diwydiannau'r Cyfryngau Creadigol ar draws y DU lle mae 38% o'r gweithlu dan 35).

Mae merched wedi'u cynrychioli'n eang mewn ystafelloedd newyddion. Mae cynrychiolaeth Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifol Ethnig ar gynnydd.

Ceir tangynrychiolaeth o bobl o ardaloedd sy'n dlotach yn economaidd, lle nad yw llawer o blant, os o gwbl, wedi mynd i'r brifysgol yn y gorffennol. Mae golygyddion yn sylweddoli ei bod hi'n hollbwysig bod newyddiadurwyr sy'n adrodd y newyddion yn adlewyrchu'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu, a gall prentisiaethau helpu i ddenu ymgeiswyr o'r ardaloedd hyn.

Bu mwy o duedd yn y blynyddoedd diwethaf tuag at recriwtio graddedigion i newyddiaduraeth, sydd yn aml yn rhoi pobl o rai grwpiau economaidd-gymdeithasol o dan anfantais.

Gall y newid tuag at ganoli ystafelloedd newyddion, yn enwedig ym maes traddodiadol y papurau newydd, greu tangynrychiolaeth o newyddiadurwyr o ardaloedd gwledig a mwy anghysbell. Bydd y Brentisiaeth yn fodd i ymdrin â pheth o'r diffyg cydbwysedd yma, gan greu strwythur i'r broses o recriwtio a hyfforddi ymgeiswyr sy'n dod i mewn i'r diwydiant o lwybr anhraddodiadol.

Mae'r gofynion mynediad yn eang a bwriedir iddynt ddenu ceisiadau gan ystod ehangach o ymgeiswyr. Dylid cael dull agored o recriwtio i Lwybrau Prentisiaeth, sydd ar agor i bawb sy'n bodloni'r meini prawf a nodwyd ar gyfer y rhaglen brentisiaeth y maent yn ymgeisio amdani.

Nod y llwybr hwn yw:

  • Cynnig llwybr arall i'r diwydiant i rai nad ydynt yn raddedigion;
  • Cynyddu amrywiaeth y gweithlu er mwyn creu adlewyrchiad gwell o'r sylfaen o gwsmeriaid.
  • Cynyddu'r cyfleoedd am brentisiaeth o fewn ôl troed y Diwydiannau Creadigol.

Er mwyn annog pobl i ymgeisio drwy lwybrau anhraddodiadol, cynigir bwrsariaethau drwy'r Gronfa Amrywiaeth mewn Newyddiaduraeth.  Sefydlwyd y Gronfa gan weithwyr o fewn y diwydiant sydd am ddod ynghyd i gefnogi hyfforddiant ar gyfer newyddiadurwyr o gefndiroedd ethnig a chymdeithasol amrywiol. Fe'i hanelir at bobl sydd heb y modd ariannol i fynychu cyrsiau hyfforddi wedi'u hachredu gan yr NCTJ. http://www.journalismdiversityfund.com

 

Mae'r NCTJ a Creative Skillset yn angerddol ynghylch hyrwyddo amrywiaeth, a bydd yn chwilio am arfer da ac yn ei rannu ar draws partneriaid darparu, er mwyn amlygu enghreifftiau cadarnhaol o ddeunyddiau marchnata a chyfathrebu, a strategaethau a gweithgareddau eraill a ddefnyddir i chwalu rhwystrau o ran mynediad a sicrhau sylfaen fwy amrywiol o ddoniau.

 

Mae'r NCTJ a Creative Skillset hefyd yn marchnata a chyfathrebu ynghylch y Llwybr hwn i sicrhau cysondeb o ran neges, ac yn ymwneud â nifer o weithgareddau fel:

  • Mentrau hyfforddi wedi'u targedu er mwyn denu talent newydd i'r diwydiant o blith grwpiau wedi'u

tangynrychioli;

  • Defnyddio Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol a Chudd-wybodaeth y Farchnad Lafur yn sail i

gynnig gwybodaeth, cyngor ac arweiniad cywir am yrfaoedd;

  • Darparu cysylltiadau â darparwyr hyfforddiant sy'n gweithio gyda grwpiau wedi'u tangynrychioli;
  • Darparu cysylltiadau i sefydliadau sy'n cynnig hyfforddiant ar y cyfryngau, cymorth a

 gwybodaeth i bobl ag anableddau;

  • Codi ymwybyddiaeth ynghylch tangynrychiolaeth pobl anabl yng ngweithlu'r diwydiant drwy fonitro tueddiadau cyflogaeth a nodi rhwystrau i hyfforddiant a datblygiad; a
  • Datblygu a rhannu'r wybodaeth honno â phartneriaid

 

Cynllun y Gymraeg

Yn ôl 34% o gyflogwyr Cymru ceir bwlch o ran sgiliau iaith; dywedodd 33% o gyflogwyr Cymru fod sgiliau Cymraeg yn anodd eu canfod ymhlith ymgeiswyr sy'n dod yn syth o fyd addysg.

 

Mae Cynllun y Gymraeg yn nodwedd allweddol yn y Diwydiannau Creadigol yng Nghymru; mae 29% o weithlu'r cyfryngau creadigol yn siarad Cymraeg, o gymharu â 21% ar gyfer yr economi gyfan.  Mae buddion economaidd y Gymraeg hefyd yn cael eu cydnabod yn gynyddol, gan gyflogwyr a cyflogeion, ar draws ôl-troed Creative Skillset.

 

Am ragor o fanylion am ymchwil i gyfansoddiad y sector, strategaeth a Pholisi Amrywiaeth Creative Skillset, a chysylltiadau â gweithgareddau amrywiaeth eraill, gweler gwefan Creative Skillset:

www.creativeskillset.org/diversity

 

Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)

Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach.  Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn derbyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.

Cyfrifoldebau

Cyfrifoldeb Darparydd yr Hyfforddiant  a'r Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu bodloni yn unol â Chanllawiau Prentisiaethau Llywodraeth Cymru/Medr.

 Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Medr

 

 

Atodiad 1 Lefel 5: Newyddiaduraeth

Y berthynas rhwng cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth

Mae'r cymhwyster cyfun yn cynnwys unedau cymhwysedd a gwybodaeth. Bydd y rhaniad rhwng y credydau gwybodaeth a chymhwysedd a enillir yn amrywio rhwng y naill ddysgwr a'r llall, yn dibynnu ar yr unedau dewisol a ddewisir.

Bydd isafswm o 20 o gredydau gwybodaeth ac isafswm o 27 o gredydau cymhwysedd  yn cael eu hennill o ddilyn yr unedau gorfodol i fodloni gofynion SASW ar gyfer credydau.

Defnyddir arholiadau ar gyfrifiadur ac ar-lein, gwaith cwrs a phortffolio ar-lein o dystiolaeth i asesu gwybodaeth a chymhwysedd.

Caiff gwybodaeth a chymhwysedd eu cyfuno o fewn yr unedau canlynol, y mae pob un ohonynt yn orfodol.

  • Hanfodion Newyddiaduraeth - K/615/1837 (22 credyd: 8 gwybodaeth, 14 cymhwysedd)
  • Hanfodion Moeseg a Rheoleiddio Newyddiaduraeth - M/615/1865 (3 chredyd: 3 gwybodaeth, 0 cymhwysedd)
  • Hanfodion Cyfraith a Rheoleiddio'r Cyfryngau L/505/8499 (10 credyd: 8 gwybodaeth, 2 cymhwysedd)
  • E-bortffolio Hanfodion Newyddiaduraeth M/505/7099 (12 credyd: 1 gwybodaeth, 11 cymhwysedd)

Bydd gweddill y credydau sy'n ymwneud â gwybodaeth a chymhwysedd yn cael eu hennill o ddetholiad o fodiwlau sgiliau dewisol, a ddewisir gan y prentis, ar y cyd â'r cyflogwr a'r darparydd.

Dyma'r modiwlau hynny:

  • Llaw-fer Teeline i Newyddiadurwyr A/505/8546 (14 credyd: 6 gwybodaeth, 8 cymhwysedd)
  • Newyddiaduraeth Darlledu D/505/8541 (14 credyd: 6 gwybodaeth, 8 cymhwysedd)
  • PR a Chyfathrebu H/615/1886 (14 credyd: 8 gwybodaeth, 6 cymhwysedd)

Gwerth pob un o'r modiwlau sgiliau dewisol canlynol yw 7 credyd (3 gwybodaeth, 4 cymhwysedd)

  • Materion cyhoeddus i newyddiadurwyr K/505/7098
  • Newyddiaduraeth busnes a chyllid M / 505/8544
  • Newyddiaduraeth fideo ar-lein D / 505/8538
  • Ffotograffiaeth i newyddiadurwyr D / 507/57575
  • Newyddiaduraeth chwaraeon Y / 505/8540
  • Cynhyrchu Newyddiaduraeth H/505/8542
  • Busnes cylchgronau H/505/8539
  • Adrodd am lysoedd barn yn y cyfryngau F/505/8502

Diwygiadau dogfennau

19 Tachwedd 2021