Mae Sgiliau Creadigol a Diwylliannol wedi cytuno ar gynnwys y Llwybr hwn. Dyma'r unig Lwybr Prentisiaeth ar gyfer Newyddiaduraeth yn y sector Creadigol, Dylunio a'r Cyfryngau a gymeradwywyd i'w ddefnyddio yng Nghymru, ac sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan Medr.
Cynnwys y Rhaglen Ddysgu
Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:
- Cymwysterau,
- Sgiliau Hanfodol
- Hyfforddiant yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
94 credyd yw'r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 5 Newyddiaduraeth.
Gofynion mynediad
Bydd angen i newydd-ddyfodiaid fod ag ymrwymiad cryf i fod yn newyddiadurwr. Bydd yn rhaid iddynt allu defnyddio iaith yn effeithiol i'w mynegi eu hunain ar lafar ac yn ysgrifenedig. Mae cyflogwyr yn chwilio am staff gweithgar a hyblyg, sy'n teimlo angerdd gwirioneddol i "adrodd y newyddion"
Un o'r amodau sylfaenol er mwyn cael mynediad i'r brentisiaeth hon yw cred cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant yng ngallu'r ymgeisydd i ddysgu a meithrin ei sgiliau gan ddangos ymrwymiad i'r swydd bob amser.
Yn ogystal â hynny, dylai prentisiaid feddu ar y canlynol:
- 5 TGAU (neu gyfwerth) ar Radd C neu'n uwch;
- agwedd weithgar;
- meddwl ymholgar;
- diddordeb byw mewn materion cyfoes;
- gallu i ysgrifennu a defnyddio geiriau'n fanwl gywir ac effeithiol;
- dyfalbarhad a phenderfyniad; a
- pharodrwydd i dderbyn oriau anghymdeithasol
Efallai y bydd gan gyflogwyr unigol ofynion ychwanegol, ee:
- trwydded yrru gyfredol;
- gallu defnyddio cyfrifiadur yn effeithiol.
Efallai y bydd rhai cyflogwyr yn gofyn am sgiliau Cymraeg, neu y bydd angen hynny ar gyfer rhai swyddi penodol. Gallai rhugledd yn y Gymraeg fod yn fanteisiol.
Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth
Lefel 5: Newyddiaduraeth
Lefel 5: Newyddiaduraeth Cymwysterau
Mae'n rhaid i gyfranogwyr gwblhau'r cymhwyster cyfun isod.
Gweler Atodiad 1 am y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
| Lefel 5: Newyddiaduraeth | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
|---|---|---|
| Cyfathrebu | 2 | 6 |
| Cymhwyso Rhif | 2 | 6 |
Asesir cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn Gymraeg ac yn Saesneg
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
| Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
|---|---|---|
| Lefel 5: Newyddiaduraeth | 485 | 500 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
Diploma Lefel 5 mewn Newyddiaduraeth - Isafswm o 82 credyd
985 yw cyfanswm yr oriau hyfforddi yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith ar gyfer y rhaglen 18 mis
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd / 60 GLH Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd / 60 GLH Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
Gofynion eraill ychwanegol
Amh.
Dilyniant
Lefel 5: Newyddiadurwr
Dilyniant i Lefel 5 Newyddiaduraeth
Yr amod sylfaenol er mwyn cael mynediad yw hyder y cyflogwr yng ngallu'r ymgeisydd i ffynnu a gwireddu ei botensial o fewn y brentisiaeth. Gall cyfleoedd dysgu blaenorol heb eu hachredu yn gysylltiedig â newyddiaduraeth gynnig llwybrau dilyniant buddiol gan y bydd hynny'n dangos diddordeb yn y maes, ee profiad o waith gwirfoddol neu brofiad gwaith fel newyddiadurwr, a hyfforddiant perthnasol mewn meysydd fel creu cynnwys ar gyfer y we, neu gynhyrchu adroddiad newyddion ar fideo.
Ceir nifer o gymwysterau a fyddai'n ddefnyddiol er mwyn paratoi am y Brentisiaeth hon:
- Dysgu o'r Llwybrau 14 i 19;
- Sgiliau Allweddol Ehangach;
- Cymwysterau ym Magloriaeth Cymru;
- TGAU, Safon Uwch neu Ddiplomas Cenedlaethol mewn pynciau'n gysylltiedig â'r cyfryngau;
- BTEC perthnasol;
- Cwblhau cyrsiau newyddiaduraeth i ddechreuwyr mewn AB, neu drwy Addysg Oedolion;
- Cwblhau cyrsiau newyddiaduraeth ac/neu gyrsiau ysgrifennu creadigol; a
- Cwblhau Cymhwyster Tystysgrif Lefel 3 NCTJ mewn Newyddiaduraeth Sylfaen, neu unedau o'r cymhwyster hwnnw; a
- Chyfleoedd dysgu blaenorol heb eu hachredu a gafwyd drwy brofiad gwaith;
- Portffolio o flog a gyhoeddwyd gan yr ymgeisydd ei hun;
- Portffolio o waith a gyhoeddwyd mewn cyhoeddiad dielw neu gan gwmni cyfryngau masnachol (gallai hyn gynnwys gwaith fel gwirfoddolwr (ee, swyddog y wasg i glwb neu gymdeithas), neu waith a gyhoeddwyd mewn cylchgrawn ysgol/coleg); a
- Hyfforddiant a allai gynnwys portffolio o waith a gwblhawyd.
Fel canllaw, gall ymgeiswyr gael mynediad drwy amrywiaeth o lwybrau, gan gynnwys:
- Ysgol
- Coleg
- Prifysgol
- Darparydd hyfforddiant preifat
- Profiad Gwaith
- Gwaith
Dilyniant o'r Llwybr Newyddiaduraeth
Bydd llwyddo i gwblhau'r brentisiaeth Newyddiaduraeth yn agor y drws i amrywiaeth eang o yrfaoedd gyda darlledwyr, cyhoeddiadau ar-lein, cylchgronau. Bydd rhai o'r rhain yn cynhyrchu newyddion cyffredinol, ond ceir llawer o gyfleoedd gyda chyhoeddiadau diddordeb arbennig, yn amrywio rhwng cyllid, chwaraeon arbennig, hobïau, cyhoeddiadau sydd o ddiddordeb i deuluoedd - mae'r rhestr yn ddi-ben-draw. Bydd teitlau swydd yn amrywio rhwng gwahanol sectorau a chyflogwyr.
Ar ôl cwblhau'r rhaglen hon, gall prentis ddisgwyl treulio cyfnod o amser yn cyfnerthu ac yn ymarfer ei sgiliau cyn symud ymlaen yn ei yrfa. Efallai y bydd rhai'n symud ymlaen i ddilyn Cymhwyster Cenedlaethol Lefel 5 NCTJ mewn Newyddiaduraeth (NQJ) a chymhwyso fel uwch-newyddiadurwr. Bydd lefel y cyfrifoldeb yn amrywio, yn unol â chyflogwyr unigol a gallu'r prentis.
Gellid symud ymlaen, ymhen amser, i swydd is-reolwr,
gan barhau i gyfuno hynny â dyletswyddau newyddiadurwr, neu fel arbenigwr. Bydd golygyddion fel arfer yn cael eu dewis o blith ymgeiswyr sydd wedi gwneud cynnydd yn y diwydiant ar ôl dechrau fel is-newyddiadurwyr.
Dilyniant i Addysg Uwch
Dylid symud ymlaen o'r Brentisiaeth Newyddiaduraeth i raglenni dysgu lefel Uwch mewn meysydd perthnasol. Gall prentisiaid symud ymlaen i lefelau uwch neu broffesiynol, ee Graddau Sylfaen, Diplomas/Tystysgrifau Cenedlaethol Uwch, Graddau Anrhydedd BA a Chyrsiau Meistr.
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos sut maent yn mynd ati’n weithredol i nodi a chael gwared â ffactorau sy'n atal mynediad a dilyniant. Dylai llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion a chanddynt nodweddion gwarchodedig a'r rhai nad oes ganddynt y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Y nodweddion gwarchodedig a nodwyd yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, Beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared â gwahaniaethu mewn cyflogaeth.
Mae'n RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr yn nhermau mynediad i'r diwydiant ar sail y naw o nodweddion gwarchodedig hynny.
Mae Diwydiannau Cyfryngau Creadigol Cymru yn gwasanaethu ac yn manteisio ar ddoniau a sgiliau poblogaeth amrywiol.
Mae'r amrywiaeth yn cynnwys gwahaniaethau y gellir, ac na ellir, eu gweld. Drwy harneisio'r gwahaniaethau hyn, byddwn yn creu diwydiannau creadigol a chynhyrchiol sy'n llwyddo ar raddfa fyd-eang.
Ar hyn o bryd, mae cynrychiolaeth merched yn sylweddol is yn Niwydiannau'r Cyfryngau Creadigol yng Nghymru nag yn y DU gyfan (29% o gymharu â 38%). Mae cynrychiolaeth Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifol Ethnig ychydig yn is nag yn economi ehangach Cymru, sef 2%.
Mae 7% o weithlu cyfryngau creadigol Cymru yn eu hystyried eu hunain yn anabl, o gymharu â 9% ar draws y DU.
Mae 48% o'r gweithlu yng Nghymru dan 35 oed, gan awgrymu bod y gweithlu'n gymharol ifanc (o gymharu â Diwydiannau'r Cyfryngau Creadigol ar draws y DU lle mae 38% o'r gweithlu dan 35).
Mae merched wedi'u cynrychioli'n eang mewn ystafelloedd newyddion. Mae cynrychiolaeth Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifol Ethnig ar gynnydd.
Ceir tangynrychiolaeth o bobl o ardaloedd sy'n dlotach yn economaidd, lle nad yw llawer o blant, os o gwbl, wedi mynd i'r brifysgol yn y gorffennol. Mae golygyddion yn sylweddoli ei bod hi'n hollbwysig bod newyddiadurwyr sy'n adrodd y newyddion yn adlewyrchu'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu, a gall prentisiaethau helpu i ddenu ymgeiswyr o'r ardaloedd hyn.
Bu mwy o duedd yn y blynyddoedd diwethaf tuag at recriwtio graddedigion i newyddiaduraeth, sydd yn aml yn rhoi pobl o rai grwpiau economaidd-gymdeithasol o dan anfantais.
Gall y newid tuag at ganoli ystafelloedd newyddion, yn enwedig ym maes traddodiadol y papurau newydd, greu tangynrychiolaeth o newyddiadurwyr o ardaloedd gwledig a mwy anghysbell. Bydd y Brentisiaeth yn fodd i ymdrin â pheth o'r diffyg cydbwysedd yma, gan greu strwythur i'r broses o recriwtio a hyfforddi ymgeiswyr sy'n dod i mewn i'r diwydiant o lwybr anhraddodiadol.
Mae'r gofynion mynediad yn eang a bwriedir iddynt ddenu ceisiadau gan ystod ehangach o ymgeiswyr. Dylid cael dull agored o recriwtio i Lwybrau Prentisiaeth, sydd ar agor i bawb sy'n bodloni'r meini prawf a nodwyd ar gyfer y rhaglen brentisiaeth y maent yn ymgeisio amdani.
Nod y llwybr hwn yw:
- Cynnig llwybr arall i'r diwydiant i rai nad ydynt yn raddedigion;
- Cynyddu amrywiaeth y gweithlu er mwyn creu adlewyrchiad gwell o'r sylfaen o gwsmeriaid.
- Cynyddu'r cyfleoedd am brentisiaeth o fewn ôl troed y Diwydiannau Creadigol.
Er mwyn annog pobl i ymgeisio drwy lwybrau anhraddodiadol, cynigir bwrsariaethau drwy'r Gronfa Amrywiaeth mewn Newyddiaduraeth. Sefydlwyd y Gronfa gan weithwyr o fewn y diwydiant sydd am ddod ynghyd i gefnogi hyfforddiant ar gyfer newyddiadurwyr o gefndiroedd ethnig a chymdeithasol amrywiol. Fe'i hanelir at bobl sydd heb y modd ariannol i fynychu cyrsiau hyfforddi wedi'u hachredu gan yr NCTJ. http://www.journalismdiversityfund.com
Mae'r NCTJ a Creative Skillset yn angerddol ynghylch hyrwyddo amrywiaeth, a bydd yn chwilio am arfer da ac yn ei rannu ar draws partneriaid darparu, er mwyn amlygu enghreifftiau cadarnhaol o ddeunyddiau marchnata a chyfathrebu, a strategaethau a gweithgareddau eraill a ddefnyddir i chwalu rhwystrau o ran mynediad a sicrhau sylfaen fwy amrywiol o ddoniau.
Mae'r NCTJ a Creative Skillset hefyd yn marchnata a chyfathrebu ynghylch y Llwybr hwn i sicrhau cysondeb o ran neges, ac yn ymwneud â nifer o weithgareddau fel:
- Mentrau hyfforddi wedi'u targedu er mwyn denu talent newydd i'r diwydiant o blith grwpiau wedi'u
tangynrychioli;
- Defnyddio Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol a Chudd-wybodaeth y Farchnad Lafur yn sail i
gynnig gwybodaeth, cyngor ac arweiniad cywir am yrfaoedd;
- Darparu cysylltiadau â darparwyr hyfforddiant sy'n gweithio gyda grwpiau wedi'u tangynrychioli;
- Darparu cysylltiadau i sefydliadau sy'n cynnig hyfforddiant ar y cyfryngau, cymorth a
gwybodaeth i bobl ag anableddau;
- Codi ymwybyddiaeth ynghylch tangynrychiolaeth pobl anabl yng ngweithlu'r diwydiant drwy fonitro tueddiadau cyflogaeth a nodi rhwystrau i hyfforddiant a datblygiad; a
- Datblygu a rhannu'r wybodaeth honno â phartneriaid
Cynllun y Gymraeg
Yn ôl 34% o gyflogwyr Cymru ceir bwlch o ran sgiliau iaith; dywedodd 33% o gyflogwyr Cymru fod sgiliau Cymraeg yn anodd eu canfod ymhlith ymgeiswyr sy'n dod yn syth o fyd addysg.
Mae Cynllun y Gymraeg yn nodwedd allweddol yn y Diwydiannau Creadigol yng Nghymru; mae 29% o weithlu'r cyfryngau creadigol yn siarad Cymraeg, o gymharu â 21% ar gyfer yr economi gyfan. Mae buddion economaidd y Gymraeg hefyd yn cael eu cydnabod yn gynyddol, gan gyflogwyr a cyflogeion, ar draws ôl-troed Creative Skillset.
Am ragor o fanylion am ymchwil i gyfansoddiad y sector, strategaeth a Pholisi Amrywiaeth Creative Skillset, a chysylltiadau â gweithgareddau amrywiaeth eraill, gweler gwefan Creative Skillset:
www.creativeskillset.org/diversity
Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)
Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach. Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn derbyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.
Cyfrifoldebau
Cyfrifoldeb Darparydd yr Hyfforddiant a'r Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu bodloni yn unol â Chanllawiau Prentisiaethau Llywodraeth Cymru/Medr.
Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Medr
Atodiad 1 Lefel 5: Newyddiaduraeth
Y berthynas rhwng cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth
Mae'r cymhwyster cyfun yn cynnwys unedau cymhwysedd a gwybodaeth. Bydd y rhaniad rhwng y credydau gwybodaeth a chymhwysedd a enillir yn amrywio rhwng y naill ddysgwr a'r llall, yn dibynnu ar yr unedau dewisol a ddewisir.
Bydd isafswm o 20 o gredydau gwybodaeth ac isafswm o 27 o gredydau cymhwysedd yn cael eu hennill o ddilyn yr unedau gorfodol i fodloni gofynion SASW ar gyfer credydau.
Defnyddir arholiadau ar gyfrifiadur ac ar-lein, gwaith cwrs a phortffolio ar-lein o dystiolaeth i asesu gwybodaeth a chymhwysedd.
Caiff gwybodaeth a chymhwysedd eu cyfuno o fewn yr unedau canlynol, y mae pob un ohonynt yn orfodol.
- Hanfodion Newyddiaduraeth - K/615/1837 (22 credyd: 8 gwybodaeth, 14 cymhwysedd)
- Hanfodion Moeseg a Rheoleiddio Newyddiaduraeth - M/615/1865 (3 chredyd: 3 gwybodaeth, 0 cymhwysedd)
- Hanfodion Cyfraith a Rheoleiddio'r Cyfryngau L/505/8499 (10 credyd: 8 gwybodaeth, 2 cymhwysedd)
- E-bortffolio Hanfodion Newyddiaduraeth M/505/7099 (12 credyd: 1 gwybodaeth, 11 cymhwysedd)
Bydd gweddill y credydau sy'n ymwneud â gwybodaeth a chymhwysedd yn cael eu hennill o ddetholiad o fodiwlau sgiliau dewisol, a ddewisir gan y prentis, ar y cyd â'r cyflogwr a'r darparydd.
Dyma'r modiwlau hynny:
- Llaw-fer Teeline i Newyddiadurwyr A/505/8546 (14 credyd: 6 gwybodaeth, 8 cymhwysedd)
- Newyddiaduraeth Darlledu D/505/8541 (14 credyd: 6 gwybodaeth, 8 cymhwysedd)
- PR a Chyfathrebu H/615/1886 (14 credyd: 8 gwybodaeth, 6 cymhwysedd)
Gwerth pob un o'r modiwlau sgiliau dewisol canlynol yw 7 credyd (3 gwybodaeth, 4 cymhwysedd)
- Materion cyhoeddus i newyddiadurwyr K/505/7098
- Newyddiaduraeth busnes a chyllid M / 505/8544
- Newyddiaduraeth fideo ar-lein D / 505/8538
- Ffotograffiaeth i newyddiadurwyr D / 507/57575
- Newyddiaduraeth chwaraeon Y / 505/8540
- Cynhyrchu Newyddiaduraeth H/505/8542
- Busnes cylchgronau H/505/8539
- Adrodd am lysoedd barn yn y cyfryngau F/505/8502