- Framework:
- Treftadaeth Ddiwylliannol
- Lefel:
- 5
Opsiynau a lefelau llwybrau
Treftadaeth Ddiwylliannol Lefel 5
Supports the job roles within Cultural Heritage.
Mwy o wybodaeth
Hyd
Lefel 5: 12 mis
Llwybrau dilyniant
Lefel 5: Rheoli Treftadaeth Ddiwylliannol
Gellir defnyddio amrywiaeth o lwybrau i symud ymlaen i'r Brentisiaeth Lefel 5 Rheoli Treftadaeth Ddiwylliannol, gan gynnwys:
Prentisiaeth Lefel 3 mewn Gweithrediadau Lleoliad Diwylliannol a Threftadaeth
Diploma Lefel 3 mewn Treftadaeth Ddiwylliannol
Gwaith neu brofiad blaenorol - gan gynnwys portffolio o dystiolaeth
Cymwysterau cyffredinol neu alwedigaethol yn gysylltiedig â'r math hwn o waith, neu'n berthnasol iddo.
Gall dilyniant o Brentisiaeth Lefel 5 mewn Rheoli Treftadaeth Ddiwylliannol gynnwys:
Rhaglenni Addysg Uwch ar Lefel 6 ac uwch.
- Rhaglenni heb eu hachredu a datblygiad neu hyfforddiant proffesiynol parhaus
Swyddi
Dyma rolau penodol y gellid eu cyflawni ar ôl cwblhau'r fframwaith hwn:
Cynorthwyydd Curadurol
Cynorthwyydd Casgliadau
Am ragor o wybodaeth am yrfaoedd yn y diwydiannau creadigol a diwylliannol, ewch i: www.creativechoices.co.uk/
Cymwysterau
Level 5: Tystysgrif Lefel 5 mewn Rheoli Casgliadau Proffesiynol
Level 4: Tystysgrif Lefel 4 mewn Rheoli Treftadaeth Ddiwylliannol
Beth yw'r gofynion mynediad ar gyfer y llwybr hwn?
Mae gan bob llwybr prentisiaeth yng Nghymru ofynion mynediad. Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn y llwybr hwn – mae angen i chi gael y cymhwyster lefel mynediad canlynol;
Lefel 5
Mae nifer y bobl ifanc sy'n ymuno â'r sector hwn a chanddynt ddiddordeb mewn treftadaeth ddiwylliannol, neu allu yn y maes, yn brin. Mae cyflogwyr yn ceisio ehangu'r gronfa o recriwtiaid newydd posibl i dreftadaeth ddiwylliannol, a chreu ffordd arall o gael mynediad i'r sector ac i symud ymlaen ynddo.
Mae gan gyflogwyr ddiddordeb arbennig mewn rhai sy'n arddangos diddordeb brwd mewn gweithio yn y sector, a chanddynt ddiddordeb mewn treftadaeth ddiwylliannol, amgueddfeydd a chasgliadau.
Gallai ymgeiswyr fod wedi ennill y Brentisiaeth Lefel 3 mewn Gweithrediadau Lleoliad Diwylliannol a Threftadaeth neu gymwysterau perthnasol eraill, neu feddu ar brofiad blaenorol sy'n brawf o'r uchod.
Fodd bynnag, bydd darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr yn defnyddio asesiad cychwynnol i sicrhau bod ymgeiswyr yn cael cyfle teg i arddangos unrhyw ddiddordebau neu allu. Bydd rhaglenni wedyn yn cael eu teilwra i fodloni anghenion unigol, gan gydnabod unrhyw gymwysterau ac/neu brofiad blaenorol.
Gweld llwybr llawn