Skip to main content

Pathway

Treftadaeth Ddiwylliannol

Mae Sgiliau Creadigol a Diwylliannol wedi cytuno ar gynnwys y Llwybr hwn. Dyma'r unig Lwybr Prentisiaeth yn y sector Creadigol, Dylunio a'r Cyfryngau a gymeradwywyd i'w ddefnyddio yng Nghymru, ac sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru.

Learning Programme Content

Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:

  • Cymwysterau,
  • Sgiliau Hanfodol
  • Hyfforddiant yn y gwaith/i ffwrdd o'r gwaith

78 credyd yw'r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 3  Treftadaeth Ddiwylliannol.

67 credyd yw'r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 3 Gweithrediadau Lleoliad Diwylliannol a  Threftadaeth.

55 credyd yw'r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 5 Rheoli Treftadaeth Ddiwylliannol

Entry requirements

Lefel 3

Yr amod sylfaenol er mwyn cael mynediad yw hyder y cyflogwr a'r darparydd hyfforddiant yng ngallu'r ymgeisydd i ffynnu a gwireddu ei botensial o fewn y Brentisiaeth.

Mae gwaith hunangyflogedig yn gyffredin yn Niwydiannau'r Cyfryngau Creadigol, felly bydd angen i brentisiaid ystyried y math hwn o gyflogaeth er mwyn symud ymlaen yn eu gyrfa.

Dyluniwyd y Brentisiaeth hon gyda chymorth cyflogwyr i greu llwybr mynediad i'r Diwydiant i rai sydd heb Radd.  Yn y gorffennol mae cyflogwyr wedi recriwtio graddedigion ac ôl-raddedigion, ac maent yn awyddus i gynnig llwybr mynediad sy'n seiliedig ar waith i'r sector. Maent yn bwriadu ehangu'r gronfa o recriwtiaid posibl i Weithrediadau Lleoliad Diwylliannol a Threftadaeth er mwyn denu amrywiaeth eang o dalent i'r diwydiant. Hoffent ddenu rhai â ddiddordeb mewn hanes a'r celfyddydau, a chanddynt sgiliau cyfathrebu y bydd y Brentisiaeth hon yn adeiladu arnynt.

Efallai y bydd gan ymgeiswyr brofiad neu gymwysterau blaenorol o unrhyw un o'r diwydiannau creadigol a gefnogir gan bortffolio o dystiolaeth. Fodd bynnag, nid yw hyn yn orfodol oherwydd bydd darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr yn defnyddio asesiad cychwynnol i sicrhau bod ymgeiswyr yn cael cyfle teg i arddangos eu gallu. Bydd rhaglenni wedyn yn cael eu teilwra i fodloni anghenion unigol, gan gydnabod cymwysterau a phrofiad blaenorol.

Lefel 5

Mae nifer y bobl ifanc sy'n ymuno â'r sector hwn a chanddynt ddiddordeb mewn treftadaeth ddiwylliannol, neu allu yn y maes, yn brin. Mae cyflogwyr yn ceisio ehangu'r gronfa o recriwtiaid newydd posibl i dreftadaeth ddiwylliannol, a chreu ffordd arall o gael mynediad i'r sector ac i symud ymlaen ynddo.

Mae gan gyflogwyr ddiddordeb arbennig mewn rhai sy'n arddangos diddordeb brwd mewn gweithio yn y sector, a chanddynt ddiddordeb mewn treftadaeth ddiwylliannol, amgueddfeydd a chasgliadau.

Gallai ymgeiswyr fod wedi ennill y Brentisiaeth Lefel 3 mewn Gweithrediadau Lleoliad Diwylliannol a Threftadaeth neu gymwysterau perthnasol eraill, neu feddu ar brofiad blaenorol sy'n brawf o'r uchod.

Fodd bynnag, bydd darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr yn defnyddio asesiad cychwynnol i sicrhau bod ymgeiswyr yn cael cyfle teg i arddangos unrhyw ddiddordebau neu allu. Bydd rhaglenni wedyn yn cael eu teilwra i fodloni anghenion unigol, gan gydnabod unrhyw gymwysterau ac/neu brofiad blaenorol.

Apprenticeship pathway learning programme(s)

Lefel 3: Treftadaeth Ddiwylliannol

Lefel 3: Treftadaeth Ddiwylliannol Cymwysterau

Mae'n rhaid i gyfranogwyr gwblhau'r cymhwyster cyfun isod.

Lefel 3 Tystysgrif Treftadaeth Ddiwylliannol
Awarding Body Qualification No. Credit Value Total Qualification Time Combined / Competence / Knowledge Qualification Assessment Lanaguage(s)
BIIAB C00/0716/3 60 600 Cymhwysedd Saesneg yn Unig

Gweler Atodiad 1 am y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.

Essential Skills Wales (ESW)

Lefel 3: Treftadaeth Ddiwylliannol Lefel Minimum Credit Value
Communication 2 6
Application of number 2 6
Digital literacy 2 6

Asesir cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn Gymraeg ac yn Saesneg.

On/Off the Job training

Pathway Minimum On the Job Training Hours Minimum Off the Job Training Hours
Lefel 3: Treftadaeth Ddiwylliannol 292 336
On/Off the Job Qualification details (Minimum Credit & Hours)

Tystysgrif Lefel 3 mewn Treftadaeth Ddiwylliannol - Isafswm o 60 credyd/338 awr

628 yw cyfanswm yr oriau hyfforddi yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith ar gyfer y rhaglen 18 mis

On/Off the Job Essential Skills details (Minimum Credit & Hours)
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru

Lefel 3: Gweithrediadau Lleoliad Diwylliannol a Threftadaeth

Lefel 3: Gweithrediadau Lleoliad Diwylliannol a Threftadaeth Cymwysterau

Mae'n rhaid i'r cyfranogwyr ennill y cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth isod.

Lefel 3 Tystysgrif Gweithrediadau Treftadaeth Ddiwylliannol
Awarding Body Qualification No. Credit Value Total Qualification Time Combined / Competence / Knowledge Qualification Assessment Lanaguage(s)
BIIAB C00/0720/1 28 280 Gwybodaeth Saesneg yn Unig
Lefel 3 Tystysgrif mewn Egwyddorion y Sector Treftadaeth Ddiwylliannol
Awarding Body Qualification No. Credit Value Total Qualification Time Combined / Competence / Knowledge Qualification Assessment Lanaguage(s)
BIIAB C00/0712/4 15 150 Cyfun Saesneg yn Unig

Essential Skills Wales (ESW)

Lefel 3: Gweithrediadau Lleoliad Diwylliannol a Threftadaeth Lefel Minimum Credit Value
Communication 2 6
Application of number 2 6
Digital literacy 2 6

Asesir cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn Gymraeg ac yn Saesneg.

On/Off the Job training

Pathway Minimum On the Job Training Hours Minimum Off the Job Training Hours
Lefel 3: Gweithrediadau Lleoliad Diwylliannol a Threftadaeth 146 389
On/Off the Job Qualification details (Minimum Credit & Hours)

Tystysgrif Lefel 3 mewn Gweithrediadau Treftadaeth Ddiwylliannol - cymhwysedd 28 credyd/146 awr a Thystysgrif Lefel 3 yn Egwyddorion y Sector Treftadaeth Ddiwylliannol - gwybodaeth 15 credyd / 119 awr.

535 yw cyfanswm yr oriau hyfforddi yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith ar gyfer y rhaglen 18 mis

On/Off the Job Essential Skills details (Minimum Credit & Hours)
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru

Lefel 5: Rheoli Treftadaeth Ddiwylliannol

Lefel 5: Rheoli Treftadaeth Ddiwylliannol Cymwysterau

Mae'n rhaid i'r cyfranogwyr ennill y cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth isod.

Lefel 5 Tystysgrif mewn Rheoli Casgliadau Proffesiynol
Awarding Body Qualification No. Credit Value Total Qualification Time Combined / Competence / Knowledge Qualification Assessment Lanaguage(s)
Agored Cymru C00/0683/8 23 230 Gwybodaeth Saesneg-Cymraeg
Lefel 4 Tystysgrif mewn Rheoli Treftadaeth Ddiwylliannol
Awarding Body Qualification No. Credit Value Total Qualification Time Combined / Competence / Knowledge Qualification Assessment Lanaguage(s)
Agored Cymru C00/0684/0 20 200 Cyfun Saesneg-Cymraeg

Essential Skills Wales (ESW)

Lefel 5: Rheoli Treftadaeth Ddiwylliannol Lefel Minimum Credit Value
Communication 2 6
Application of number 2 6

Asesir cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn Gymraeg ac yn Saesneg.

On/Off the Job training

Pathway Minimum On the Job Training Hours Minimum Off the Job Training Hours
Lefel 5: Rheoli Treftadaeth Ddiwylliannol 38 228
On/Off the Job Qualification details (Minimum Credit & Hours)

Cymhwyster Cymhwysedd - 23 credyd

Cymhwyster Gwybodaeth - 20 Credyd

266 yw cyfanswm yr oriau hyfforddi yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith ar gyfer y rhaglen 18 mis

On/Off the Job Essential Skills details (Minimum Credit & Hours)
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru

Other additional requirements

Gallai'r Brentisiaeth gynnwys gweithio gyda phlant/pobl ifanc ac/neu oedolion agored i niwed, felly bydd yn rhaid i ddechreuwyr fod yn barod i dderbyn gwiriad y Swyddfa Cofnodion Troseddol (DBS).

Progression

Lefel 3: Treftadaeth Ddiwylliannol

Dilyniant i Lefel 3 Treftadaeth Ddiwylliannol

Gellir cael mynediad o amrywiaeth o lwybrau, gan gynnwys:

  • Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 mewn Gweithrediadau Lleoliad Diwylliannol a Threftadaeth
  • Prentisiaethau Lefel 2 eraill yn y gyfres o brentisiaethau Creadigol a Diwylliannol fel Rheoli Celfyddydau Cymunedol
  • Prentisiaeth Lefel 2, er enghraifft Arwain Tîm, Busnes a Gweinyddu, Gwasanaeth Cwsmeriaid, Gwerthu a Marchnata
  • Cymwysterau cyffredinol neu alwedigaethol yn gysylltiedig â'r diwydiannau creadigol a diwylliannol, neu'n berthnasol iddynt

Dilyniant o'r Brentisiaeth

Swyddi

  • Archifydd Cynorthwyol
  • Trefnydd Arddangosfa Cynorthwyol Cynorthwyydd Amgueddfa
  • Curadur Cynorthwyol Amgueddfa/Oriel Gelf
  • Yn dilyn cyfnod o weithio o fewn yr un rôl a datblygu sgiliau ychwanegol naill ai ar lefel uwch neu ar yr un lefel

Gyda datblygiad a hyfforddiant pellach, gall swyddi posib gynnwys:

  • Archifydd, Curadur Amgueddfa/Oriel, Trefnydd Arddangosfeydd

AB/AU

I'r rhai sy'n dymuno parhau i ddatblygu y tu hwnt i Lefel 3, ceir cyfleoedd i ennill cymwysterau lefel uwch fel:

  • Cymwysterau galwedigaethol yn y sector creadigol a diwylliannol
  • Cymwysterau Lefel 4/5 mewn Rheoli Busnes neu Arwain Tîm
  • Graddau sylfaen mewn Rheolaeth ac Arweinyddiaeth neu ystod o Raddau Sylfaen ar gyfer y diwydiannau creadigol a diwylliannol, neu raglenni israddedig, er enghraifft, Graddau Anrhydedd BA fel Entrepreneuriaeth ar gyfer y Diwydiannau Creadigol a Diwylliannol

Lefel 3: Gweithrediadau Lleoliad Diwylliannol a Threftadaeth

Dilyniant i Lefel 3 Gweithrediadau Lleoliad Diwylliannol a Threftadaeth

Gellir cael mynediad o amrywiaeth o lwybrau, gan gynnwys:

  • Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 mewn Gweithrediadau Lleoliad Diwylliannol a Threftadaeth
  • Lefel 2 Prentisiaeth Ganolradd Arwain Tîm neu Weinyddu Busnes
  • Cymwysterau cyffredinol neu alwedigaethol yn gysylltiedig â'r diwydiannau creadigol a diwylliannol, neu'n berthnasol iddynt

Dilyniant o'r Brentisiaeth

Swyddi

  • Staff Blaen Tŷ neu Weinyddu
  • Cynorthwyydd Gwasanaethau Ymwelwyr

A chyda hyfforddiant a datblygiad pellach, gall swyddi posib gynnwys:

  • Cynorthwyydd neu Reolwr Gwasanaethau Ymwelwyr  Trefnydd Arddangosfeydd
  • Rheoli Casgliadau

AB/AU

I'r rhai sy'n dymuno parhau i ddatblygu eu sgiliau a'u cymwysterau y tu hwnt i Lefel 3, ceir cyfleoedd i ennill cymwysterau uwch, gan gynnwys:

  • cymwysterau galwedigaethol yn gysylltiedig â'r sector creadigol a diwylliannol, neu'n berthnasol i'r sector hwnnw, ar Lefel 4 ac uwch.
  • Cymwysterau Lefel 4/5 mewn Rheolaeth, Busnes neu Farchnata
  • HNCs/HNDs sy'n gysylltiedig â'r diwydiannau creadigol neu'n berthnasol iddynt
  • Graddau Sylfaen mewn Rheolaeth ac Arweinyddiaeth neu amrywiaeth o Raddau Sylfaen ar gyfer y Diwydiannau Creadigol a Diwylliannol
  • Graddau Anrhydedd BA fel Entrepreneuriaeth ar gyfer y Diwydiannau Creadigol a Diwylliannol, neu Fusnes a Chyllid, Marchnata.

Lefel 5: Rheoli Treftadaeth Ddiwylliannol

Gellir defnyddio amrywiaeth o lwybrau i symud ymlaen i'r Brentisiaeth Lefel 5 Rheoli Treftadaeth Ddiwylliannol, gan gynnwys:

  • Prentisiaeth Lefel 3 mewn Gweithrediadau Lleoliad Diwylliannol a Threftadaeth
  • Diploma Lefel 3 mewn Treftadaeth Ddiwylliannol
  • Gwaith neu brofiad blaenorol - gan gynnwys portffolio o dystiolaeth
  • Cymwysterau cyffredinol neu alwedigaethol yn gysylltiedig â'r math hwn o waith, neu'n berthnasol iddo.

Gall dilyniant o Brentisiaeth Lefel 5 mewn Rheoli Treftadaeth Ddiwylliannol gynnwys:

  • Rhaglenni Addysg Uwch ar Lefel 6 ac uwch.
  • Rhaglenni heb eu hachredu a datblygiad neu hyfforddiant proffesiynol parhaus

Swyddi 

Dyma rolau penodol y gellid eu cyflawni ar ôl cwblhau'r fframwaith hwn:

  • Cynorthwyydd Curadurol
  • Cynorthwyydd Casgliadau

Am ragor o wybodaeth am yrfaoedd yn y diwydiannau creadigol a diwylliannol, ewch i: www.creativechoices.co.uk/

Equality and diversity

Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos sut i fynd ati’n weithredol i nodi a chael gwared â ffactorau sy'n atal mynediad a dilyniant. Dylai llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion a chanddynt nodweddion gwarchodedig a'r rhai nad oes ganddynt y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

Y nodweddion gwarchodedig a nodwyd yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, Beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared â gwahaniaethu mewn cyflogaeth.

Mae'n RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr yn nhermau mynediad i'r diwydiant ar sail y naw o nodweddion gwarchodedig hynny.

Mae tua hanner y gweithlu, sy'n Wyn yn bennaf (93%), yn fenywod ac mae ychydig dros hanner y gweithlu dros 40 oed. Mae tystiolaeth anecdotaidd yn awgrymu'n gryf bod pobl o gefndiroedd dosbarth gweithiol a phobl anabl hefyd yn cael eu tangynrychioli'n sylweddol.

Dyma'r rhesymau pennaf am hyn:

  • gwybodaeth a dealltwriaeth dameidiog ynghylch sut i fynd ati'n ymarferol i sicrhau amrywiaeth o fewn y gweithlu, ee drwy gynlluniau gweithredu cadarnhaol a thrwy newid arferion recriwtio.
  • ceir tuedd o fewn y sector i recriwtiaid newydd ddechrau gweithio heb gyflog neu ar gyflog isel am hyd at ddwy flynedd mewn rhai achosion, felly gall hyn gyfyngu ar gyfleoedd i bobl o gefndiroedd sydd dan anfantais o safbwynt economaidd-gymdeithasol.
  • diffyg gwybodaeth dda am yrfaoedd i ddangos ystod a chwmpas y swyddi o fewn y sector
  • delwedd wael o'r sector a phrinder esiamplau amrywiol, a waethygir gan gyswllt cyfyngedig gyda grwpiau wedi'u tangynrychioli
  • diffyg data manwl gywir ar gyfansoddiad gweithlu'r sector treftadaeth ddiwylliannol.

Dyma gamau allweddol â blaenoriaeth i'r sector Treftadaeth Ddiwylliannol:

  • Prif Gymhwyster Dysgu Bagloriaeth Cymru ar gyfer y Cyfryngau a'r Diwydiannau Creadigol, sydd wedi bod yn codi ymwybyddiaeth mewn ysgolion
  • Mynd ati'n weithredol i herio'r diwylliant o brofiad gwaith di-dâl sydd i'w weld yn amlwg yn y diwydiannau creadigol a diwylliannol, a chreu dewisiadau gwell i fwy o bobl. Roedd Prentisiaethau Creadigol yn llwybr amgen newydd sbon i'r diwydiannau creadigol, yn llwybr sy'n seiliedig ar allu a photensial, yn hytrach nag ar hanes academaidd neu gefndir cymdeithasol a chysylltiadau. Aethom ati i greu ymchwydd o gefnogaeth drwy weithgarwch ymgysylltu ac ymgyrchu wedi'i dargedu, er mwyn dangos sut y gallai prentisiaethau weithio er budd dysgwyr a chyflogwyr, y naill a'r llall.
  • Mae gwefan gyrfaoedd Creative  Choices yn cynnig gwybodaeth a chyngor am yrfaoedd, rhestrau o gyfleoedd hyfforddi, astudiaethau achos ar gyfer gweithio yn y diwydiant, mynediad at rwydweithiau a mentora - http://www.creative-choices.co.uk/
  • Mynd ati'n weithredol i herio'r diwylliant o brofiad gwaith di-dâl sydd i'w weld yn amlwg yn y diwydiannau creadigol a diwylliannol, a chreu dewisiadau gwell i fwy o bobl. Roedd Prentisiaethau Creadigol yn llwybr amgen newydd sbon i'r diwydiannau creadigol, yn llwybr sy'n seiliedig ar allu a photensial, yn hytrach nag ar hanes academaidd neu gefndir cymdeithasol a chysylltiadau. Aethom ati i greu ymchwydd o gefnogaeth drwy weithgarwch ymgysylltu ac ymgyrchu wedi'i dargedu, er mwyn dangos sut y gallai prentisiaethau weithio er budd dysgwyr a chyflogwyr, y naill a'r llall.

Mae'r Cynllun Gweithredu Sgiliau Creadigol a Diwylliannol yn cynnwys y pwyntiau canlynol: 

  • cyflwyno'r achos busnes dros amrywiaeth
  • arddangos arweinyddiaeth ac ymrwymiad at amrywiaeth ar bob lefel o fewn sefydliadau, gan gynnwys byrddau
  • sicrhau bod yr agenda amrywiaeth yn cael ei hystyried yn bwysig ar draws y gweithlu, gan gynnwys gwirfoddolwyr a lleoliadau
  • creu ymwybyddiaeth gynnar o yrfaoedd ym maes treftadaeth ddiwylliannol drwy sicrhau mwy o gyfleoedd i grwpiau gwahanol ymgysylltu â'r sector:
  • lledaenu gwybodaeth ynghylch sut i greu mwy o amrywiaeth o fewn y gweithlu
  • datblygu gwybodaeth ac adnoddau gyrfaoedd newydd ar gyfer y sector - cynyddu'r defnydd o adnoddau'r we, fel Creative Choices gan Sgiliau Creadigol a Diwylliannol www.creative-choices.co.uk

Mae recriwtio gweithlu amrywiol - taledig a gwirfoddol - yn esgor ar fanteision uniongyrchol o ran busnes: mae'n sicrhau bod gan sefydliadau weithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu, gan eu helpu i ddeall eu cwsmeriaid yn well fel y gallant sicrhau bod eu gwasanaethau'n diwallu anghenion y gymuned gyfan.

Ystyrir bod prentisiaethau yn llwybr hanfodol i hyrwyddo ac annog amrywiaeth fwy o unigolion i ymuno â'r diwydiant, er mwyn herio'r duedd tuag at dderbyn graddedigion.

Mae'r amodau mynediad i'r Fframwaith hwn felly'n eithriadol o hyblyg, ac mae mentora wedi'i gynnwys i gynnig cymorth ychwanegol a chynyddu'r tebygolrwydd y bydd prentisiaid yn cwblhau'r Brentisiaeth yn llwyddiannus.

Drwy ei Grŵp Cymwysterau a Phrentisiaethau a arweinir gan gyflogwyr, bydd Sgiliau Creadigol a Diwylliannol yn monitro'r rhai sy'n manteisio ar yr holl Brentisiaethau ac yn eu cwblhau, ac yn cymryd camau i fynd i'r afael ag unrhyw rwystrau sy'n atal pobl rhag manteisio arnynt a'u cyflawni yn rhan o'n Strategaeth Cymwysterau Sector.

Employment responsibilities and rights

Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach.  Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn derbyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.

Responsibilities

Cyfrifoldeb Darparydd yr Hyfforddiant  a'r Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu bodloni yn unol â Chanllawiau Prentisiaethau Llywodraeth Cymru.

Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Llywodraeth Cymru

DfES-ApprenticeshipUnit@llyw.cymru

Atodiad 1 Lefel 3: Treftadaeth Ddiwylliannol

Y berthynas rhwng cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth

https://www.biiab.org/fileadmin/content/Documents/Qualifications/Creative_And_Cultural/Cultural_Heritage/L3_DCH_Handbook_V2.pdf

Cyfanswm Credydau'r cymhwyster yw 60

Grŵp Unedau Gorfodol A:

CH25 D/601/6901 Cymryd cyfrifoldeb am waith mewn cyd-destun creadigol a diwylliannol - 4 credyd

CH26 D/601/6865 Cynnal cymhwysedd a chyflawni dysgu cysylltiedig â gwaith yn

y sector creadigol a diwylliannol - 6 chredyd

CH27 L/601/6912 Gweithio'n effeithiol gyda phobl eraill mewn cyd-destun creadigol a diwylliannol - 4 credyd

CH41 A/601/5867 Sicrhau cyfrifoldeb am gamau i leihau risgiau i iechyd a diogelwch - 4 credyd

Grŵp Unedau Dewisol B: Treftadaeth Ddiwylliannol:

CH12 D/601/6882 Darparu gwybodaeth am gasgliad treftadaeth ddiwylliannol - 6 chredyd

CH13 J/601/6858 Trin, pacio a chludo eitemau a gwrthrychau treftadaeth ddiwylliannol - 6 chredyd

CH14 T/601/6838 Adeiladu arddangosfeydd ac arddangosiadau treftadaeth ddiwylliannol - 8 credyd

CH15 H/601/6835 Cymhwyso gweithdrefnau ar gyfer rheoli casgliadau treftadaeth ddiwylliannol - 6 chredyd

CH16 H/601/6852 Cyflwyniad i foeseg a barn broffesiynol ar gyfer cadwraeth treftadaeth ddiwylliannol - 5 credyd

CH17 R/601/6877 Amddiffyn treftadaeth ddiwylliannol drwy fesurau cadwraeth sylfaenol - 6 chredyd

CH18 F/601/6907 Cwblhau triniaethau cadwraeth arferol ar gyfer treftadaeth ddiwylliannol - 12 credyd

CH19 D/601/6834 Gweithredu mesurau cadwraeth ataliol ar gyfer treftadaeth ddiwylliannol - 12 credyd

CH20 J/601/6889 Sefydlu a chynnal offer cadwraeth - 6 chredyd

CH23 A/601/6873 Hyrwyddo a gwerthu nwyddau a gwasanaethau mewn sefydliad creadigol a diwylliannol - 6 chredyd

CH21 K/601/6867 Creu copïau neu gynrychioliadau o eitemau treftadaeth - 6 chredyd

CH43 J/601/6861 Arolygu a monitro treftadaeth ddiwylliannol i ddibenion cadwriaethol - 6 chredyd

CH22 M/601/6854 Trin, glanhau ac ail-leoli gwrthrychau treftadaeth ddiwylliannol - 6 chredyd

CH24 R/601/6913 Gweithio gyda gwirfoddolwyr mewn cyd-destun creadigol a diwylliannol - 4 credyd

CH28 L/601/6893 Goruchwylio a chefnogi gwaith eraill mewn cyd-destunau creadigol a diwylliannol

 - 6 chredyd

CH29 Y/601/6850 Cynnal gweithgareddau dysgu neu ddehongli mewn cyd-destun creadigol a

diwylliannol - 8 credyd

CH30 K/601/6884 Darparu dehongliad ar gyfer arddangosfeydd neu arddangosiadau creadigol a diwylliannol - 6 chredyd

CH31 D/601/6994 Datblygu deunyddiau dysgu i'w defnyddio mewn cyd-destun creadigol a diwylliannol - 6 chredyd

CH32 K/601/6903 Cynnal gweithgareddau marchnata mewn cyd-destun creadigol a diwylliannol - 8 credyd

CH18 F/601/6907 Cwblhau triniaethau cadwraeth arferol ar gyfer treftadaeth ddiwylliannol - 12 credyd

CH19 D/601/6834 Gweithredu mesurau cadwraeth ataliol ar gyfer treftadaeth ddiwylliannol - 12 credyd

CH20 J/601/6889 Sefydlu a chynnal offer cadwraeth - 6 chredyd

CH23 A/601/6873 Hyrwyddo a gwerthu nwyddau a gwasanaethau mewn sefydliad creadigol a diwylliannol - 6 chredyd

CH21 K/601/6867 Creu copïau neu gynrychioliadau o eitemau treftadaeth - 6 chredyd

CH43 J/601/6861 Arolygu a monitro treftadaeth ddiwylliannol i ddibenion cadwriaethol - 6 chredyd

CH22 M/601/6854 Trin, glanhau ac ail-leoli gwrthrychau treftadaeth ddiwylliannol - 6 chredyd

CH24 R/601/6913 Gweithio gyda gwirfoddolwyr mewn cyd-destun creadigol a diwylliannol - 4 credyd

CH28 L/601/6893 Goruchwylio a chefnogi gwaith eraill mewn cyd-destunau creadigol a diwylliannol - 8 credyd

CH29 Y/601/6850 Cyflwyno gweithgareddau dysgu neu ddehongli mewn cyd-destun creadigol a diwylliannol - 8 credyd

CH33 M/601/6885 Codi arian ar gyfer sefydliad creadigol a diwylliannol - 6 chredyd

CH34 R/601/6846 Rheoli diogelwch lleoliad diwylliannol - 6 chredyd

CH46 K/601/1622 Dangos dealltwriaeth o wasanaeth cwsmeriaid - 6 chredyd

CH36 T/601/6841 Catalogio gwrthrychau a chasgliadau - 6 chredyd

CH38 J/601/6844 Cyfrannu at ofal gwrthrychau treftadaeth ddiwylliannol - 6 chredyd

CH39 R/601/6880 Arwain teithiau tywys mewn lleoliad diwylliannol - 8 credyd

CH40 H/601/6897 Cefnogi trefnu digwyddiadau neu arddangosfeydd creadigol neu ddiwylliannol - 6 chredyd

CH47 H/601/6902 Cynrychioli sefydliad creadigol a diwylliannol - 8 credyd

CH48 F/601/6874 Dylunio arddangosfeydd ac arddangosiadau ar gyfer treftadaeth ddiwylliannol - 10 credyd

CH49 L/601/6876 Datblygu, arwain ac ysgogi eraill mewn sefydliad creadigol a diwylliannol - 8 credyd

CH50 Y/601/6881 Rheoli cyllidebau mewn sefydliad creadigol a diwylliannol - 8 credyd

CH51 F/601/6891 Cynllunio a monitro'r defnydd o adnoddau mewn sefydliad creadigol a diwylliannol - 6 chredyd

CH52 A/601/6887 Cynllunio a chynnal gweithgareddau dysgu neu ddehongli mewn cyd-destun creadigol a diwylliannol - 10 credyd

CH53 Y/601/6878 Ymgysylltu â chymunedau ar ran sefydliad creadigol a diwylliannol - 8 credyd

CH54 H/601/6883 Rheoli diogelwch lleoliad diwylliannol - 8 credyd

CH37 T/601/6869 Monitro diogelwch ac amgylchedd gwrthrychau treftadaeth ddiwylliannol - 6 chredyd

Document revisions

19 Tachwedd 2021