Mae Sgiliau Creadigol a Diwylliannol wedi cytuno ar gynnwys y Llwybr hwn. Dyma'r unig Lwybr Prentisiaeth yn y sector Creadigol, Dylunio a'r Cyfryngau a gymeradwywyd i'w ddefnyddio yng Nghymru, ac sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan Medr.
DYDDIAD CYHOEDDI: 23/09/25 ACW Fframwaith Rhif. FR03494
Cynnwys y Rhaglen Ddysgu
Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:
- Cymwysterau,
- Sgiliau Hanfodol
- Hyfforddiant yn y gwaith/i ffwrdd o'r gwaith
55 credyd yw'r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 5 Rheoli Treftadaeth Ddiwylliannol
Gofynion mynediad
Lefel 5
Mae nifer y bobl ifanc sy'n ymuno â'r sector hwn a chanddynt ddiddordeb mewn treftadaeth ddiwylliannol, neu allu yn y maes, yn brin. Mae cyflogwyr yn ceisio ehangu'r gronfa o recriwtiaid newydd posibl i dreftadaeth ddiwylliannol, a chreu ffordd arall o gael mynediad i'r sector ac i symud ymlaen ynddo.
Mae gan gyflogwyr ddiddordeb arbennig mewn rhai sy'n arddangos diddordeb brwd mewn gweithio yn y sector, a chanddynt ddiddordeb mewn treftadaeth ddiwylliannol, amgueddfeydd a chasgliadau.
Gallai ymgeiswyr fod wedi ennill y Brentisiaeth Lefel 3 mewn Gweithrediadau Lleoliad Diwylliannol a Threftadaeth neu gymwysterau perthnasol eraill, neu feddu ar brofiad blaenorol sy'n brawf o'r uchod.
Fodd bynnag, bydd darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr yn defnyddio asesiad cychwynnol i sicrhau bod ymgeiswyr yn cael cyfle teg i arddangos unrhyw ddiddordebau neu allu. Bydd rhaglenni wedyn yn cael eu teilwra i fodloni anghenion unigol, gan gydnabod unrhyw gymwysterau ac/neu brofiad blaenorol.
Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth
Lefel 5: Rheoli Treftadaeth Ddiwylliannol
Lefel 5: Rheoli Treftadaeth Ddiwylliannol Cymwysterau
Mae'n rhaid i'r cyfranogwyr ennill y cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth isod.
Lefel 5 Tystysgrif mewn Rheoli Casgliadau Proffesiynol | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
Agored Cymru | C00/0683/8 601/4822/6 | 23 | 230 | Gwybodaeth | Saesneg-Cymraeg |
Lefel 4 Tystysgrif mewn Rheoli Treftadaeth Ddiwylliannol | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
Agored Cymru | C00/0684/0 601/4824/X | 20 | 200 | Cyfun | Saesneg-Cymraeg |
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
Lefel 5: Rheoli Treftadaeth Ddiwylliannol | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
---|---|---|
Cyfathrebu | 2 | 6 |
Cymhwyso Rhif | 2 | 6 |
Asesir cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
---|---|---|
Lefel 5: Rheoli Treftadaeth Ddiwylliannol | 38 | 228 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
Cymhwyster Cymhwysedd - 23 credyd
Cymhwyster Gwybodaeth - 20 Credyd
266 yw cyfanswm yr oriau hyfforddi yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith ar gyfer y rhaglen 18 mis
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
Gofynion eraill ychwanegol
Gallai'r Brentisiaeth gynnwys gweithio gyda phlant/pobl ifanc ac/neu oedolion agored i niwed, felly bydd yn rhaid i ddechreuwyr fod yn barod i dderbyn gwiriad y Swyddfa Cofnodion Troseddol (DBS).
Dilyniant
Lefel 5: Rheoli Treftadaeth Ddiwylliannol
Gellir defnyddio amrywiaeth o lwybrau i symud ymlaen i'r Brentisiaeth Lefel 5 Rheoli Treftadaeth Ddiwylliannol, gan gynnwys:
- Prentisiaeth Lefel 3 mewn Gweithrediadau Lleoliad Diwylliannol a Threftadaeth
- Diploma Lefel 3 mewn Treftadaeth Ddiwylliannol
- Gwaith neu brofiad blaenorol - gan gynnwys portffolio o dystiolaeth
- Cymwysterau cyffredinol neu alwedigaethol yn gysylltiedig â'r math hwn o waith, neu'n berthnasol iddo.
Gall dilyniant o Brentisiaeth Lefel 5 mewn Rheoli Treftadaeth Ddiwylliannol gynnwys:
- Rhaglenni Addysg Uwch ar Lefel 6 ac uwch.
- Rhaglenni heb eu hachredu a datblygiad neu hyfforddiant proffesiynol parhaus
Swyddi
Dyma rolau penodol y gellid eu cyflawni ar ôl cwblhau'r fframwaith hwn:
- Cynorthwyydd Curadurol
- Cynorthwyydd Casgliadau
Am ragor o wybodaeth am yrfaoedd yn y diwydiannau creadigol a diwylliannol, ewch i: www.creativechoices.co.uk/
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos sut i fynd ati’n weithredol i nodi a chael gwared â ffactorau sy'n atal mynediad a dilyniant. Dylai llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion a chanddynt nodweddion gwarchodedig a'r rhai nad oes ganddynt y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Y nodweddion gwarchodedig a nodwyd yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, Beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared â gwahaniaethu mewn cyflogaeth.
Mae'n RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr yn nhermau mynediad i'r diwydiant ar sail y naw o nodweddion gwarchodedig hynny.
Mae tua hanner y gweithlu, sy'n Wyn yn bennaf (93%), yn fenywod ac mae ychydig dros hanner y gweithlu dros 40 oed. Mae tystiolaeth anecdotaidd yn awgrymu'n gryf bod pobl o gefndiroedd dosbarth gweithiol a phobl anabl hefyd yn cael eu tangynrychioli'n sylweddol. Dyma'r rhesymau pennaf am hyn:
Dyma gamau allweddol â blaenoriaeth i'r sector Treftadaeth Ddiwylliannol:
Mae'r Cynllun Gweithredu Sgiliau Creadigol a Diwylliannol yn cynnwys y pwyntiau canlynol:
Mae recriwtio gweithlu amrywiol - taledig a gwirfoddol - yn esgor ar fanteision uniongyrchol o ran busnes: mae'n sicrhau bod gan sefydliadau weithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu, gan eu helpu i ddeall eu cwsmeriaid yn well fel y gallant sicrhau bod eu gwasanaethau'n diwallu anghenion y gymuned gyfan. Ystyrir bod prentisiaethau yn llwybr hanfodol i hyrwyddo ac annog amrywiaeth fwy o unigolion i ymuno â'r diwydiant, er mwyn herio'r duedd tuag at dderbyn graddedigion. Mae'r amodau mynediad i'r Fframwaith hwn felly'n eithriadol o hyblyg, ac mae mentora wedi'i gynnwys i gynnig cymorth ychwanegol a chynyddu'r tebygolrwydd y bydd prentisiaid yn cwblhau'r Brentisiaeth yn llwyddiannus. Drwy ei Grŵp Cymwysterau a Phrentisiaethau a arweinir gan gyflogwyr, bydd Sgiliau Creadigol a Diwylliannol yn monitro'r rhai sy'n manteisio ar yr holl Brentisiaethau ac yn eu cwblhau, ac yn cymryd camau i fynd i'r afael ag unrhyw rwystrau sy'n atal pobl rhag manteisio arnynt a'u cyflawni yn rhan o'n Strategaeth Cymwysterau Sector. |
Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)
Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach. Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn derbyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.
Cyfrifoldebau
Cyfrifoldeb Darparydd yr Hyfforddiant a'r Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu bodloni yn unol â Chanllawiau Prentisiaethau Llywodraeth Cymru/Medr.
Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Medr