Skip to main content

Pathway

y Cyfryngau Creadigol

Mae ScreenSkills wedi cytuno ar gynnwys y Llwybr hwn. Dyma'r unig Lwybr Prentisiaeth yn y sector Diwydiannau Creadigol, Dylunio a'r Cyfryngau a gymeradwywyd i'w ddefnyddio yng Nghymru, ac sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru.

Learning Programme Content

Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:

  • Cymwysterau,
  • Sgiliau Hanfodol
  • Hyfforddiant yn y gwaith/i ffwrdd o'r gwaith

75 credyd yw'r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 3 Cyfryngau Sgrin a Chreadigol.

77 credyd yw'r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 4 Cyfryngau Sgrin a Chreadigol.

Entry requirements

Mae'n rhaid i newydd-ddyfodiaid i’r Diwydiannau'r Cyfryngau Creadigol ddeall a gwerthfawrogi gwahanol dechnolegau, ochr yn ochr â gwybodaeth gyffredinol a sgiliau 'meddal', gan gynnwys y capasiti i weithio'n effeithlon ac mewn timau. Mae cyflogwyr yn chwilio am unigolion parod am waith, gweithgar a chanddynt yr agwedd gywir, sgiliau cyfathrebu a TG cryf a dealltwriaeth dda o'r hyn sydd ei angen er mwyn gwneud cynnydd yn Niwydiannau'r Cyfryngau Cymdeithasol, sy'n sector lle mae llawer o weithwyr yn gweithio'n hunangyflogedig. Er mwyn llwyddo yn Niwydiannau'r Cyfryngau Creadigol, mae angen teimlo'n angerddol dros y pwnc dan sylw, a gallu rhwydweithio a marchnata eich cyflawniadau a'ch sgiliau personol yn hyderus.

Ac eithrio hyder y cyflogwr a'r darparydd hyfforddiant yng ngallu'r ymgeisydd i ffynnu a gwireddu ei botensial o fewn y Brentisiaeth, nid oes unrhyw amodau mynediad penodol, ond dyma rai cymwysterau a allai fod yn sail ddefnyddiol ar gyfer y Brentisiaeth:

•       Cymwysterau ym Magloriaeth Cymru

•       Sgiliau Hanfodol Cymru

•       Prif Ddysgu (Creadigol a'r Cyfryngau), a gynigir gan OCR neu CBAC

•       Darpariaeth o fewn Piler Dysgu Gydol Oes gyda Sicrwydd Ansawdd

•       FfCChC; TGAU, Safon Uwch neu Ddiplomas Cenedlaethol mewn pynciau'n gysylltiedig â'r cyfryngau

•       Cyfleoedd am ddilyniant uniongyrchol neu i drosglwyddo credyd o gymwysterau galwedigaethol neilltuol, fel:

•       Tystysgrif Lefel 2 neu 3 mewn Paratoi am Waith yn y Cyfryngau Creadigol a chymwysterau eraill a gynigir gan lawer o sefydliadau dyfarnu, gan gynnwys AIM Awards ac UAL.

•       Mae cymwysterau ar lefel mynediad, lefel 1 a lefel 2 yn llwybrau dilyniant a anogir, yn enwedig y rhai hynny sy'n ymgorffori datblygiad sgiliau creadigol a digidol

•       Prentisiaethau Sylfaen, yn enwedig mewn pynciau datblygu sgiliau creadigol neu ddigidol.

Ar gyfer Prentisiaeth Uwch Cyfryngau Sgrin a Chreadigol (Lefel 4), yn ogystal â'r enghreifftiau a restrir uchod, gallai'r canlynol hefyd fod yn berthnasol:

•       Wedi cwblhau Prentisiaeth Lefel 3 mewn Cyfryngau Creadigol a Digidol neu Farchnata Cymdeithasol a Digidol neu TG Proffesiynol;

•       Wedi ennill Dyfarniadau, Tystysgrifau neu Ddiplomas ar Lefel 3 mewn pynciau'n gysylltiedig â'r Cyfryngau.

Apprenticeship pathway learning programme(s)

Lefel 3: Cyfryngau Sgrin a Chreadigol

Lefel 3: Cyfryngau Sgrin a Chreadigol Cymwysterau

Mae'n rhaid i gyfranogwyr ennill y cymhwyster cyfun isod.

Lefel 3 Diploma mewn Creu a Chynhyrchu Cyfryngau a Chymorth Crefft
Awarding Body Qualification No. Credit Value Total Qualification Time Combined / Competence / Knowledge Qualification Assessment Lanaguage(s)
AIM Awards C00/0771/6 601/8449/8 63 630 Cymhwysedd Saesneg a Chymraeg

Gweler Atodiad 1 am y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.

Essential Skills Wales (ESW)

Lefel 3: Cyfryngau Sgrin a Chreadigol Lefel Minimum Credit Value
Communication 2 6
Application of number 2 6

Asesir cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn Gymraeg ac yn Saesneg.

On/Off the Job training

Pathway Minimum On the Job Training Hours Minimum Off the Job Training Hours
Lefel 3: Cyfryngau Sgrin a Chreadigol 375 418
On/Off the Job Qualification details (Minimum Credit & Hours)

Isafswm o 360 awr - Elfen gymhwysedd y cymhwyster Cyfun (B1). Mae hyn yn seiliedig ar reolau cyfuno'r cymhwyster, ond gallai'r oriau amrywio rhwng y naill ddysgwr a'r llall, yn dibynnu ar yr unedau dewisol a ddewisir;

Isafswm o 14 awr - Amser penodol a dreulir gyda'r cyflogwr/mentor i wella hyfforddiant prentis; gan gynnwys sefydlu.

Hyfforddiant i ffwrdd o'r gwaith

Isafswm yr hyfforddiant i ffwrdd o'r gwaith yw 418 o oriau.

- isafswm o 268 o oriau - Elfen wybodaeth y cymhwyster Cyfun (B1). Mae hyn yn seiliedig ar reolau cyfuno'r cymhwyster, ond gallai'r oriau amrywio rhwng y naill ddysgwr a'r llall, yn dibynnu ar yr unedau dewisol a ddewisir;

- 60 awr - Lefel 2 Cymhwyso rhif (Sgiliau Hanfodol Cymru);

- 60 awr - Lefel 2 Cyfathrebu (Sgiliau Hanfodol Cymru);

- 15 awr - Sefydlu, gan gynnwys ymdriniaeth berthnasol â hawliau cyflogaeth;

- 15 awr - Mentora, adolygiadau, gofal bugeiliol.

Isafswm o 63 credyd / Isafswm o 268 awr - Elfen wybodaeth y cymhwyster Cyfun.

On/Off the Job Essential Skills details (Minimum Credit & Hours)
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru

  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru

Lefel 4: Cyfryngau Sgrin a Chreadigol

Lefel 4: Cyfryngau Sgrin a Chreadigol Cymwysterau

Mae'n rhaid i gyfranogwyr ennill y cymhwyster cyfun isod.

Lefel 4 Diploma mewn Cyfryngau Rhyngweithiol
Awarding Body Qualification No. Credit Value Total Qualification Time Combined / Competence / Knowledge Qualification Assessment Lanaguage(s)
Aim Awards C00/0561/6 65 650 Cymhwysedd Saesneg a Chymraeg

Gweler Atodiad 2 am y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.

Essential Skills Wales (ESW)

Lefel 4: Cyfryngau Sgrin a Chreadigol Lefel Minimum Credit Value
Communication 2 6
Application of number 2 6

Asesir cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn Gymraeg ac yn Saesneg.

On/Off the Job training

Pathway Minimum On the Job Training Hours Minimum Off the Job Training Hours
Lefel 4: Cyfryngau Sgrin a Chreadigol 175 393
On/Off the Job Qualification details (Minimum Credit & Hours)

Cyfanswm yr oriau hyfforddi yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith ar gyfer y rhaglen 12 mis yw 65 credyd/568 o oriau.

Isafswm yr amser hyfforddi yn y gwaith ar gyfer llwybr Lefel 4 yw 175 o oriau, sy'n cynnwys y canlynol:

Isafswm o 160 awr - Elfen gymhwysedd y cymhwyster cyfun. Mae hyn yn seiliedig ar reolau cyfuno'r cymhwyster, ond gallai'r oriau amrywio rhwng y naill ddysgwr a'r llall, yn dibynnu ar yr unedau dewisol a ddewisir;

15 awr - Gweithgarwch hyfforddi heb ei achredu; mentora, adolygiadau cynnydd, gofal bugeiliol.

Hyfforddiant i ffwrdd o'r gwaith

Isafswm o 65 credyd/Isafswm o 243 awr - Elfen wybodaeth y cymhwyster Cyfun.

Isafswm yr hyfforddiant i ffwrdd o'r gwaith yw 418 o oriau.

- Isafswm o 243 o oriau - Elfen wybodaeth y cymhwyster Cyfun (B1).  Mae hyn yn seiliedig ar reolau cyfuno'r cymhwyster, ond gallai'r oriau amrywio rhwng y naill ddysgwr a'r llall, yn dibynnu ar yr unedau dewisol a ddewisir;

- 60 awr - Lefel 2 Cymhwyso rhif (Sgiliau Hanfodol Cymru);

- 60 awr - Lefel 2 Cyfathrebu (Sgiliau Hanfodol Cymru) ;

- 15 awr - Sefydlu, gan gynnwys ymdriniaeth berthnasol â hawliau cyflogaeth;

- 15 awr - Mentora, adolygiadau, gofal bugeiliol.

On/Off the Job Essential Skills details (Minimum Credit & Hours)
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru

Other additional requirements

Nid oes unrhyw ofynion ychwanegol eraill yn gysylltiedig â'r llwybr hwn.

Job roles

Dyma rolau swydd nodweddiadol ar gyfer y llwybrau hyn:

Lefel 3

  • Rhedwr/Cynorthwyydd Cynhyrchu
  • Rhedwr Ôl-Gynhyrchu
  • Cynorthwyydd Darlledu
  • Cynorthwyydd Archif
  • Cynorthwyydd Animeiddio
  • Ymchwilydd
  • Cydgysylltydd y We
  • Ysgrifennydd Cynhyrchu
  • Cynorthwyydd Sain
  • Is-gynhyrchydd cynnwys/Is-gynorthwyydd cynnwys
  • Cynorthwyydd Golygu
  • Ymdrinwyr Data a Thechnegwyr Delweddau Data
  • Cynorthwyydd digidol; Cynorthwyydd Dylunio Digidol; Cynorthwyydd Cyfryngau Digidol
  • Hyfforddai Camera
  • Gweithiwr Adran Adeiladu
  • Cynorthwyydd Propiau
  • Gwneuthurwr modelau dan hyfforddiant
  • Cynorthwyydd Gwallt a Cholur
  • Cynorthwyydd Gwisgoedd a'r Cwpwrdd Dillad 

Lefel 4

  • Rheolwr y gymuned ar-lein
  • Cydgysylltydd profiad defnyddwyr
  • Is-ddylunydd cynnyrch rhyngweithiol
  • Is-ddatblygwr cynnyrch rhyngweithiol
  • Cydgysylltydd y Cyfryngau Cymdeithasol

Gellir gweld fersiwn ddiweddaraf y rolau swydd a'r swydd-ddisgrifiadau ar gyfer y Llwybr hwn yn

https://www.screenskills.com/careers/job-profiles/

Progression

Yr amod sylfaenol er mwyn cael mynediad yw hyder y cyflogwr a'r darparydd hyfforddiant yng ngallu'r ymgeisydd i ffynnu a gwireddu ei botensial o fewn y Brentisiaeth. Mae gwaith hunangyflogedig yn gyffredin yn Niwydiannau'r Cyfryngau Creadigol, felly bydd angen i brentisiaid ystyried y math hwn o gyflogaeth er mwyn symud ymlaen yn eu gyrfa.

Yn dibynnu ar rôl y Brentisiaeth, gall y cyflogwr bennu gofynion penodol ar gyfer mynediad; er enghraifft, efallai bydd disgwyl i Gynorthwywyr Criw Camera gario eitemau trwm.

Yn dibynnu ar y cyflogwr, gallai'r Brentisiaeth hon gynnwys gwaith afreolaidd neu waith y tu allan i oriau, neu deithio.

Lefel 3: Cyfryngau Sgrin a Chreadigol

Llwybrau dilyniant i:

  • Dysgu blaenorol heb ei achredu yn gysylltiedig â Diwydiannau'r Cyfryngau Creadigol

Dilyniant o:

  • Gyda phrofiad pellach yn y diwydiant, swydd fel cynorthwyydd Cynhyrchu i Ymchwilydd; Ysgrifennydd Cynhyrchu i'r Cydlynydd Cynhyrchu; Is-gynhyrchydd Cynnwys i Gynhyrchydd Cynnwys neu Gydgysylltydd y Cyfryngau Cymdeithasol.
  • Addysg Bellach/Uwch - cyrsiau lefel 4 neu ddiploma neu raddau uwch

Lefel 4: Cyfryngau Sgrin a Chreadigol

Llwybrau dilyniant i:

  • Diploma Lefel 3
  • Prentisiaeth Lefel 3 mewn llwybrau sy'n gysylltiedig â'r Cyfryngau
  • Cymwysterau perthnasol fel Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol UAL ar lefel 3

Dilyniant o:

  • Gyda phrofiad pellach o fewn y diwydiant, cyflogaeth fel Uwch Ddatblygwr, Uwch Ddylunydd, Cynhyrchydd Digidol, Uwch Godydd, Ysgrifennydd Copi Digidol a Rheolwr Prosiect Digidol neu Gydgysylltydd y Cyfryngau Cymdeithasol.
  • Addysg Bellach/Uwch - Datblygiad proffesiynol pellach neu ddiploma neu raddau uwch

Equality and diversity

Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos sut i fynd ati’n weithredol i nodi a chael gwared â ffactorau sy'n atal mynediad a dilyniant. Dylai llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion a chanddynt nodweddion gwarchodedig a'r rhai nad oes ganddynt y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

Y nodweddion gwarchodedig a nodwyd yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, Beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared â gwahaniaethu mewn cyflogaeth.

Mae'n RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr yn nhermau mynediad i'r diwydiant ar sail y naw o nodweddion gwarchodedig hynny.

Mae Diwydiannau Cyfryngau Creadigol Cymru yn gwasanaethu ac yn manteisio ar ddoniau a sgiliau poblogaeth amrywiol. Mae'r amrywiaeth yn cynnwys gwahaniaethau y gellir, ac na ellir, eu gweld. Drwy harneisio'r gwahaniaethau hyn, byddwn yn creu diwydiannau creadigol a chynhyrchiol sy'n llwyddo ar raddfa fyd-eang.

Mae 80,000 o bobl yn gweithio yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru (fel cyflogeion a gweithwyr llawrydd). Mae 98% o gwmnïau yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru yn fach, ac yn cyflogi llai na 50 o bobl. Mae 8,000 o fusnesau'n weithredol yn niwydiannau creadigol Cymru.

Mae 500 o fusnesau newydd yn ymuno â'r diwydiannau creadigol yng Nghymru bob blwyddyn, gan olygu mai dyma un o'r sectorau sy'n tyfu gyflymaf yng Nghymru. Mae 80% o weithgarwch y diwydiannau creadigol wedi'u lleoli yn Ne Cymru yn bennaf - â Chaerdydd yn ganolbwynt i hynny. Mae 15% o'r holl fusnesau yng Nghaerdydd yn y diwydiannau creadigol, sy'n llawer uwch na chyfartaledd Cymru o 11%.

Ceir 3,210 o weithwyr yn sector ffilm, teledu, fideo, radio a ffotograffiaeth Caerdydd;

4,174 o weithwyr yn sector TG, meddalwedd a gwasanaethau cyfrifiadurol Caerdydd; a 2,403 o weithwyr yn sectorau cerddoriaeth, perfformio a chelfyddydau gweledol Caerdydd. [i][1]

Yn Adroddiad Blynyddol Ffilm Cymru 2018/19, roedd 51% o'r ymatebwyr yn nodi eu bod yn Fenywod, 8% yn nodi eu bod yn anabl, 15% yn nodi eu bod yn Ddu, Asiaidd neu Leiafrifol Ethnig ac 18 yn nodi eu bod yn LGBT+.[2]

Ar y ddwy lefel, mae'r llwybrau prentisiaeth yn anelu i:

  • gynnig llwybr mynediad amgen i'r Diwydiannau Creadigol i rai nad ydynt yn raddedigion;
  • cynyddu amrywiaeth y gweithlu er mwyn creu adlewyrchiad gwell o gymdeithas ehangach;
  • cynyddu'r cyfleoedd Prentisiaeth yn y Diwydiannau Creadigol.

Mae angen cefnogi a rhoi gwerth barhaus ar gydraddoldeb ac amrywiaeth o fewn yr agenda sgiliau, ar draws Diwydiannau'r Cyfryngau Creadigol.

Mae llwybrau'r Cyfryngau Sgrin a Chreadigol yn cael eu defnyddio fel mecanwaith i ddenu cronfa fwy amrywiol o ddoniau, a dylai ei hyblygrwydd a'i strwythur gynnig dewis i brentisiaid ag amrywiaeth o ddiddordebau a chefndiroedd.

Mae ScreenSkills yn angerddol ynghylch hyrwyddo amrywiaeth, a bydd yn ceisio sicrhau hynny a rhannu arfer da ar draws y partneriaid darparu, er mwyn amlygu enghreifftiau cadarnhaol o ddeunyddiau marchnata a chyfathrebu, a strategaethau a gweithgareddau eraill a ddefnyddir i chwalu rhwystrau o ran mynediad a sicrhau sylfaen fwy amrywiol o ddoniau.

Mae ScreenSkills yn ymwneud â nifer o weithgareddau i gynyddu amrywiaeth a chydraddoldeb o fewn y diwydiant, fel:

  • darparu hyfforddiant ar ogwydd anymwybodol, a chyrsiau ar ymdrin ag aflonyddwch a bwlio yn y gwaith;
  • cynnal digwyddiadau Drysau Agored, a ddefnyddir fel offeryn allweddol i ddenu talent newydd i'r diwydiant o grwpiau wedi'u tangynrychioli;
  • defnyddio a diweddaru Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS) i oleuo datblygiad cymwysterau, prentisiaethau a chyrsiau ar draws y DU;
  • darparu gwybodaeth, cyngor a chanllawiau am yrfaoedd;
  • gweithredu'r Cynllun Iaith Gymraeg er mwyn sicrhau ei fod yn ymdrin ag anghenion y Gymraeg ar draws ei weithgareddau, yn ogystal â sicrhau bod y NOS yn cael eu cyfieithu i'r Gymraeg fel bo'r angen;
  • rhoi hyfforddiant arbenigol i adrannau Gwallt a Cholur
  • darparu cysylltiadau i sefydliadau sy'n darparu hyfforddiant ar y cyfryngau, cymorth a gwybodaeth i bobl ag anableddau;
  • codi ymwybyddiaeth ynghylch tangynrychiolaeth pobl anabl yn y gweithlu, drwy fonitro tueddiadau cyflogaeth, canfod rhwystrau i hyfforddiant a datblygiad, a rhannu'r wybodaeth honno â phartneriaid.

[1] Ffynhonnell CLWSTWR CREATIVE INDUSTRIES REPORT NO 1 THE SIZE AND COMPOSITION OF THE CREATIVE INDUSTRIES IN WALES Mai 2020 

https://clwstwr.org.uk/sites/default/files/2020-05/Creative%20Industries%20Report%20No%201_Welsh_FINAL_compressed.pdf)

2https://ffilmcymruwales.com/sites/default/files/2021-01/Ffilm%20Cymru%20Wales%20Strategic%20Plan%202018-22%281%29.pdf

Employment responsibilities and rights

Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach.  Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn derbyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.

Responsibilities

Cyfrifoldeb Darparydd yr Hyfforddiant  a'r Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu bodloni yn unol â Chanllawiau Prentisiaethau Llywodraeth Cymru.

Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Llywodraeth Cymru

DfES-ApprenticeshipUnit@llyw.cymru

Atodiad 1 Lefel 3: Diploma mewn Creu a Chynhyrchu Cyfryngau a Chymorth Crefft

https://www.qiw.wales/qualifications/C0007716?lang=cy

Y berthynas rhwng cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth

Mae'r cymhwyster cyfun yn cynnwys unedau cymhwysedd a gwybodaeth. Bydd y rhaniad rhwng y credydau gwybodaeth a chymhwysedd a enillir yn amrywio rhwng y naill ddysgwr a'r llall, yn dibynnu ar yr unedau dewisol a ddewisir.

Bydd isafswm o 10 o gredydau gwybodaeth ac isafswm o 14 o gredydau cymhwysedd  yn cael eu hennill o ddilyn yr unedau gorfodol i fodloni gofynion credyd SASW.

Asesir Gwybodaeth a Chymhwysedd ar wahân o fewn y cymhwyster. Gallai enghreifftiau o asesiadau gwybodaeth fod ar ffurf gwaith technegol yn yr ystafell ddosbarth, sesiynau gweithdy technegol penodol ac astudiaethau ar lwyfannau ar-lein. Gallai asesiad cymhwysedd fod ar ffurf portffolio o gynnyrch sy'n cael eu datblygu, darpariaeth ar-safle 1-1 ac ymweliadau asesu cynlluniedig yn y gweithle.

Mae'n ofynnol i ymgeiswyr ennill isafswm o 63 credyd (258 GLH) o'r unedau a restrir isod ar gyfer y llwybr Creu a Chynhyrchu Cyfryngau a Chymorth Crefft:

Unedau gorfodol - 24 credyd (112 GLH)

  • Cyflwyno syniadau a gwybodaeth i eraill yn y diwydiannau creadigol - 6 chredyd (2 gwybodaeth, 4 cymhwysedd);
  • Cydweithio'n effeithiol ag eraill yn y diwydiannau creadigol - 4 credyd (2 gwybodaeth, 2  cymhwysedd);
  • Datblygu eich arfer proffesiynol eich hun yn y diwydiannau creadigol - 6 chredyd (2 gwybodaeth, 4 cymhwysedd );
  • Eich rheoli a'ch marchnata eich hun fel gweithiwr llawrydd yn y diwydiannau creadigol - 6 chredyd (3 gwybodaeth, 3 cymhwysedd);
  • Sicrhau bod eich gweithredoedd eich hun yn lleihau risgiau i iechyd a diogelwch - 2 gredyd (1 gwybodaeth, 1 cymhwysedd).

Unedau dewisol - isafswm o 39 credyd (146 GLH) i'w cymryd o'r unedau a restrir yn llawlyfr y cymhwyster y gellir ei weld drwy'r ddolen isod:

Level 3 Diploma in Media Creation Production and Craft Support Specification V6.pdf (aim-group.org.uk)

Bydd unedau pellach yn cael eu datblygu yn y dyfodol, i adlewyrchu anghenion y diwydiant.

D.S. Lle bo rolau swydd wedi'u pennu ar gyfer y Brentisiaeth hon, dylid cofio  ei bod hi'n debygol iawn y bydd prentisiaid yn cael eu hyfforddi mewn amrywiaeth  o sgiliau sy'n cynnwys tasgau o sawl rôl swydd draddodiadol, mewn diwydiannau sy'n cydgyfeirio'n gynyddol. Adlewyrchir hyn yn hyblygrwydd y cymhwyster Cyfun ac Elfennau Cymhwysedd a Gwybodaeth y llwybr.

Sylwch fod y Brentisiaeth hon hefyd yn berthnasol i gyflogwyr y tu allan i'r 'Cyfryngau Creadigol', o bosib rhai a chanddynt aelodau tîm sy'n gyfrifol am ddefnyddio technoleg ddigidol i ddibenion creadigol. Pan fydd prentisiaid wedi ennill y nifer a'r cyfuniad gofynnol o gredydau, byddant yn derbyn eu Diploma, ac yn hawlio eu tystysgrif cwblhau Prentisiaeth gan yr Awdurdod Ardystio, ScreenSkills.

Atodiad 2 Lefel 4: Diploma yn y Cyfryngau Rhyngweithiol

 

https://www.qiw.wales/qualifications/C0005616?lang=cy

Mae'r cymhwyster cyfun yn cynnwys unedau cymhwysedd a gwybodaeth. Bydd y rhaniad rhwng y credydau gwybodaeth a chymhwysedd a enillir yn amrywio rhwng y naill ddysgwr a'r llall, yn dibynnu ar yr unedau dewisol a ddewisir.

Bydd isafswm o 10 o gredydau gwybodaeth ac isafswm o 6 o gredydau cymhwysedd yn cael eu hennill o ddilyn yr unedau gorfodol; bydd gweddill y credydau gwybodaeth a chymhwysedd sy'n ofynnol, fel y nodir yng ngofynion SASW, drwy'r unedau dewisol.

Asesir Gwybodaeth a Chymhwysedd ar wahân o fewn y cymhwyster. Gallai enghreifftiau o asesiadau gwybodaeth fod ar ffurf gwaith technegol yn yr ystafell ddosbarth, sesiynau gweithdy technegol penodol ac astudiaethau ar lwyfannau ar-lein. Gallai asesiad cymhwysedd fod ar ffurf portffolio o gynnyrch sy'n cael eu datblygu, darpariaeth ar-safle 1-1 ac ymweliadau asesu cynlluniedig yn y gweithle.

Mae'n ofynnol i ymgeiswyr ennill isafswm o 65 credyd (403 GLH) o'r unedau a restrwyd isod:

Unedau gorfodol - 16 credyd (105GLH):

  • Ymwybyddiaeth o gyflogaeth yn sector y cyfryngau creadigol L/600/9037 (Gwybodaeth 4 credyd, Cymhwysedd 2 gredyd);
  • Ymwybyddiaeth o iechyd a diogelwch yn sector y cyfryngau creadigol D/600/8510 (Gwybodaeth 1 credyd, Cymhwysedd 1 credyd);
  • Gweithio yn y cyfryngau rhyngweithiol K/504/6294 (Gwybodaeth 5 credyd, Cymhwysedd 3 credyd). 

Grŵp Dewisol A - 46 credyd i'w cymryd, isafswm o 25 ar Lefel 4 (280GLH):

Grŵp Dewisol B - isafswm o 3 chredyd i'w cymryd (18GLH):

I'w cymryd o'r unedau a restrir yn llawlyfr y cymhwyster y gellir ei weld drwy'r ddolen isod:

Llawlyfr Diploma Lefel 4 y Cyfryngau Rhyngweithiol:

Llawlyfr Diploma Lefel 4 y Cyfryngau Rhyngweithiol V7.pdf (aim-group.org.uk)

 


Document revisions

19 Tachwedd 2021