Skip to main content

Crynodeb o'r llwybr

Gwasanaethau Cyfreithiol

Framework:
Gwasanaethau Cyfreithiol
Lefel:
3

Mae'r fframwaith hwn yn darparu cymwysterau ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes gwasanaethau cyfreithiol, ond nad ydynt yn gyfreithwyr cymwysedig. Mae nifer y galwedigaethau sy'n darparu gwasanaethau cyfreithiol yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r sector nid-er-elw yn tyfu'n gyflym.

Lefel 3 - mae chwe llwybr i'r fframwaith hwn:

1. Mae Erlyn Troseddol yn gysylltiedig â chyflwyno achos troseddol yn ymwneud â gweithgarwch troseddol.

2. Mae Ymgyfreitha Sifil yn ymwneud ag ymdrin ag anghydfodau rhwng dwy ochr neu fwy. Bydd partïon yn ceisio sicrhau iawndal nad yw'n cynnwys sancsiynau troseddol.

3. Mae Ymarfer Cyflogaeth yn gysylltiedig â'r gyfraith yn ymwneud â chyflogaeth.

4. Mae Ymarfer Teulu yn gysylltiedig â'r gyfraith yn ymwneud â theuluoedd a gofal plant.

5. Mae Eiddo yn gysylltiedig â'r gyfraith yn ymwneud â thir a thrawsgludo.

6. Mae Ymarfer Cleientiaid Preifat yn canolbwyntio ar y gyfraith yn ymwneud ag ewyllysiau ac olyniaeth, ac arfer y gyfraith ar gyfer cleientiaid oedrannus.

Mae cyflogwyr gwasanaethau cyfreithiol yn gwerthfawrogi nodweddion fel ymddiriedaeth, uniondeb a gonestrwydd. Mae'n bosibl y bydd rhai cyflogwyr yn gofyn i chi gael gwiriad datgelu.

Opsiynau a lefelau llwybrau

Gwasanaethau Cyfreithiol - Lefel 3

Llwybr 1: Addas ar gyfer swyddi Swyddog Paragyfreithiol a Chynorthwyydd Paragyfreithiol.

Llwybr 2: Addas ar gyfer swyddi Cynorthwyydd Paragyfreithiol / Ymgyfreitha Iau (Ymgyfreitha Sifil).

Llwybr 3: Addas ar gyfer swyddi Cynorthwyydd Paragyfreithiol  / Cyfreithiol Iau (Ymarfer Cyfraith Cyflogaeth).

Llwybr 4: Addas ar gyfer swyddi Cynorthwyydd Paragyfreithiol / Cyfreithiol Iau (Ymarfer Cyfraith Teulu).

Llwybr 5: Addas ar gyfer swyddi Cynorthwyydd Paragyfreithiol / Trawsgludo Iau (Cyfraith Eiddo).

Llwybr 6: Addas ar gyfer swyddi Cynorthwyydd Paragyfreithiol / Cyfreithiol Iau (Ymarfer Cleientiaid Preifat).

Mwy o wybodaeth

Llwybrau dilyniant

Mae'r llwybrau'n cynnwys:

  • Gweithio mewn swyddi arbenigol/uwch
  • Prentisiaeth Uwch Lefel 4 mewn Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Cymwysterau Gwasanaethau Cyfreithiol Proffesiynol fel cymwysterau sy'n cael eu cynnig gan CILEx
  • Cymwysterau rheoli ac arweinyddiaeth Lefel 4
  • Cyrsiau addysg uwch fel graddau cymhwyso ym maes y gyfraith (LLB)
  • Llwybrau gyrfa arbenigol

Cymwysterau

Diploma Lefel 3 mewn Darparu Gwasanaethau Cyfreithiol

Beth yw'r gofynion mynediad ar gyfer y llwybr hwn?

Mae gan bob llwybr prentisiaeth yng Nghymru ofynion mynediad. Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn y llwybr hwn – mae angen i chi gael y cymhwyster lefel mynediad canlynol;

Lefel 3

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y fframwaith hwn. Fodd bynnag, bydd llawer o gyflogwyr yn disgwyl safon uchel o lythrennedd a rhifedd e.e. Cymwysterau TGAU graddau A*-C, cymwysterau Safon Uwch neu dystiolaeth o'r gallu i weithio ar y lefel hon, fel profiad a enillwyd drwy gyflogaeth neu waith gwirfoddol.

Gweld llwybr llawn

Diwygiadau dogfennau

14 Rhagfyr 2022