Mae Skills for Justice a’r Grŵp Llywio Gwasanaethau Cyfreithiol wedi cytuno ar gynnwys y Llwybr hwn. Dyma'r unig Lwybr Prentisiaeth yn y sector Cyfreithiol a gymeradwywyd i'w ddefnyddio yng Medr.
DYDDIAD CYHOEDDI: 27/04/2022 ACW Fframwaith Rhif. FR05049
Cynnwys y Rhaglen Ddysgu
Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:
- Cymwysterau,
- Sgiliau Hanfodol
- Hyfforddiant yn y gwaith/i ffwrdd o'r gwaith
74 credyd yw’r isafswm credydau gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 3 Paragyfreithiwr
108 credyd yw’r isafswm credydau gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 5 Uwch Baragyfreithiwr.
Hyd y Llwybr hwn yw isafswm o 24 mis.
Gofynion mynediad
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y llwybr hwn. Fodd bynnag, bydd nifer o gyflogwyr yn disgwyl safon uchel o lythrennedd a rhifedd e.e. TGAU graddau A*-C, Safon Uwch neu allu wedi’i brofi o weithio ar y lefel hon, er enghraifft profiad a gafwyd drwy gyflogaeth neu waith gwirfoddol.
Mae ymddiriedaeth, uniondeb a gonestrwydd oll yn nodweddion sy’n cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr gwasanaethau cyfreithiol. Mae’n bosibl y bydd rhai cyflogwyr yn gofyn i ymgeiswyr llwyddiannus ymgymryd â gwiriadau datgelu.
Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth
Lefel 3: Paragyfreithiwr
Lefel 3: Paragyfreithiwr Cymwysterau
Rhaid i ddysgwyr gyflawni’r cymhwyster cyfun isod.
Lefel 3 Cymhwyster Proffesiynol CILEX Sylfaen | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
CILEX | Amh | 56 | 560 | Cymhwysedd | Saesneg yn unig |
Edrychwch ar Atodiad 1 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
Lefel 3: Paragyfreithiwr | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
---|---|---|
Cyfathrebu | 2 | 6 |
Cymhwyso Rhif | 2 | 6 |
Llythrennedd Digidol | 2 | 6 |
Saesneg-Cymraeg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru.
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
---|---|---|
Lefel 3: Paragyfreithiwr | 280 | 280 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
Cyfanswm yr oriau hyfforddi – sy’n cynnwys dysgu yn y gwaith ac i ffwrdd o’r gwaith – ar gyfer y Llwybr hwn yw 560 awr o hyfforddi.
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd/60 GLH ar gyfer Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH ar gyfer Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH ar gyfer Lefel 2 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru
Lefel 5: Uwch Baragyfreithiwr
Lefel 5: Uwch Baragyfreithiwr Cymwysterau
Rhaid i ddysgwyr gyflawni’r cymhwyster cyfun isod.
Lefel 5 Cymhwyster Proffesiynol CILEX Uwch | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
CILEX | Amh | 90 | 900 | Cymhwysedd | Saesneg yn unig |
Edrychwch ar Atodiad 1 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
Lefel 5: Uwch Baragyfreithiwr | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
---|---|---|
Cyfathrebu | 2 | 6 |
Cymhwyso Rhif | 2 | 6 |
Llythrennedd Digidol | 2 | 6 |
Saesneg-Cymraeg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru.
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
---|---|---|
Lefel 5: Uwch Baragyfreithiwr | 450 | 450 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
Cyfanswm yr oriau hyfforddi – sy’n cynnwys dysgu yn y gwaith ac i ffwrdd o’r gwaith – ar gyfer y Llwybr hwn yw 900 o oriau hyfforddi.
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd/60 GLH ar gyfer Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH ar gyfer Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH ar gyfer Lefel 2 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru
Gofynion eraill ychwanegol
Rolau swydd
Mae fersiwn ddiweddaraf y rolau swydd a’r swydd-ddisgrifiadau ar gyfer y Llwybr hwn i’w chadarnhau o fewn yr adran Dilyniant.
Dilyniant
Gall mynediad i’r llwybr hwn fod:
- drwy fynediad uniongyrchol o ysgol neu goleg
- o Fagloriaeth Cymru, gan gynnwys y Cymwysterau Prif Ddysgu ar gyfer Gweinyddu Busnes a Gwasanaethau Ariannol a Chyhoeddus
- o raglen sy’n seiliedig ar waith gan gynnwys Prentisiaeth Sylfaen
- drwy fynediad uniongyrchol ar gyfer staff presennol sy’n gweithio yn y sector
- o Brentisiaeth Sylfaen mewn Gweinyddu Llysoedd, Tribiwnlysoedd ac Erlyniadau
Dilyniant o’r llwybr lefel 3 hwn
Swyddi:
- Rolau uwch yn y sector. Gyda phrofiad pellach sylweddol, gallai fod yn bosibl symud ymlaen i rolau fel rheolwr paragyfreithiol neu erlynydd cyswllt.
- Rolau arbenigol o fewn Gwasanaeth Erlyn y Goron fel rheoli prosiectau
- Rolau Paragyfreithiol Uwch o fewn y sector paragyfreithiol ehangach fel uwch baragyfreithiwr ac uwch-reolwr paragyfreithiol. Mae nifer gynyddol o swyddi paragyfreithiol mewn meysydd amrywiol o’r gyfraith ac o fewn sefydliadau’r sector cyhoeddus a phreifat fel cwmnïau cyfreithiol, adrannau llywodraeth etc.
- Rolau eraill yn y sector cyfreithiol fel cynghorydd cyfreithiol, gweithredwr cyfreithiol siartredig neu gyfreithiwr (bydd angen rhagor o brofiad a chymwysterau ar gyfer y rhain. Mae rhai o’r llwybrau mwyaf poblogaidd wedi’u nodi isod).
Hyfforddiant a chymwysterau pellach:
- Prentisiaeth Uwch Lefel 5 mewn Gwasanaethau Cyfreithiol
- Cymwysterau Gwasanaethau Cyfreithiol Proffesiynol fel y rheini a gynigir gan CILEX
- Cymwysterau rheoli ac arweinyddiaeth Lefel 4
- Cymwysterau ar sail cymhwysedd fel y Diploma Lefel 4 mewn Darparu Gwasanaethau Cyfreithiol
- Cyrsiau addysg uwch fel graddau cyfreithiol cymwys (LLB) Llwybrau gyrfa arbenigol
- Nid yw dilyniant pellach i Lefel 6 / Lefel 7 yn llwybr Prentisiaeth ar hyn o bryd
I ddod yn weithredwr cyfreithiol siartredig:
Mae manylion y cymwysterau perthnasol ar gyfer cymhwyso fel gweithredwr cyfreithiol siartredig ar wefan Sefydliad Siartredig y Gweithredwyr Cyfreithiol www.cilex.org.uk
I ddod yn gyfreithiwr:
Mae manylion y cymwysterau a’r llwybrau perthnasol ar gyfer dod yn gyfreithiwr ar wefan Cymdeithas y Cyfreithwyr: www.lawsociety.org.uk/careers/becoming-a-solicitor
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos dull gweithredol o nodi a chael gwared ar ffactorau sy'n atal mynediad a chynnydd. Dylai Llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion sydd â nodweddion gwarchodedig a'r rhai heb y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Y nodweddion gwarchodedig a nodir yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared ar wahaniaethu mewn cyflogaeth.
RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau nad ydynt yn gwahaniaethu yn erbyn ymgeiswyr o ran mynediad i'r diwydiant ar sail y naw nodwedd warchodedig hynny.
Mae awdurdod rheoleiddio’r Solicitors Regulation Authority (SRA) yn cyhoeddi data amrywiaeth pob dwy flynedd. Cesglir y data gan gwmnïau cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr sy’n cynrychioli mwy na 186,000 o bobl sy’n gweithio mewn dros 9,500 o gwmnïau. Er gwaethaf ymdrechion cwmnïau cyfreithiol mewn blynyddoedd diweddar, mae’r data’n dangos nad yw’r sector cyfreithiol mor amrywiol ag y dylai fod o hyd.
Yn ôl data’r SRA a gyhoeddwyd yn ‘How diverse is the legal sector?' ym mis Mawrth 2020, dim ond 3% o gyfreithwyr sy’n anabl, o gymharu â 13% o weithlu’r DU yn ei gyfanrwydd.
Er bod menywod i gyfrif am bron i hanner (49%) y cyfreithwyr mewn cwmnïau cyfreithiol a thri chwarter y gweithlu ar gyfer ‘staff cyfreithiol eraill’ yn ôl data’r Awdurdod, nid yw menywod yn cael eu cynrychioli’n ddigonol ar lefelau uwch.
Dim ond 29% o fenywod sy’n bartneriaid mewn cwmnïau gyda 50 neu fwy o bartneriaid:
- 34% mewn cwmnïau gyda 10-50 o bartneriaid
- 39% gyda rhwng chwech a naw o bartneriaid
- 35% gyda rhwng dau a phum partner
- 37% gydag un partner.
Mae data amrywiaeth yr SRA yn dangos bod 21% o gyfreithwyr yn bobl Ddu, Asiaidd neu Ethnig Leiafrifol. Dyma sut mae’r grwpiau hyn wedi’u rhannu:
- 15% yn Asiaidd
- 3% yn Ddu
- 2% o grwpiau ethnigrwydd cymysg/aml-ethnig
- 1% o’r holl grwpiau ethnig.
Mae’r Awdurdod yn adrodd bod cyfran fwy (3%) o gyfreithwyr yn nodi eu bod yn hoyw, yn lesbiaid neu'n ddeurywiol na gweithlu’r DU yn ei gyfanrwydd (2%).
Fodd bynnag, mae cyflwyno prentisiaethau cyfreithiol wedi darparu llwybr i yrfaoedd cyfreithiol i’r rheiny na fyddai wedi gallu astudio’r gyfraith yn flaenorol oherwydd y ffioedd dysgu uchel.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: https://www.prospects.ac.uk/jobs-and-work-experience/job-sectors/law-sector/diversity-in-the-legal-profession
Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)
Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach. Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn rhag dilyn rhaglen sefydlu yn y cwmni
Cyfrifoldebau
Cyfrifoldeb y Darparwr Hyfforddiant a'r Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu cyflawni’n unol â Chanllawiau Llywodraeth Cymru/Medr ar Brentisiaethau.
Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Medr
Atodiad 1 - Lefel 3: Paragyfreithiwr a Lefel 5 Uwch Baragyfreithiwr
Y berthynas rhwng y cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth
Maint a Sgiliau Cymwysterau Proffesiynol CILEX (CPQ)
Cyfnod Sylfaen CPQ |
|
|
|
Cyfnod Sylfaen - Systemau Cyfreithiol |
80 awr
|
Asesiad a arholir:
50% Gwybodaeth 50% Cymhwysiad a Gwerthusiad |
Profiad Proffesiynol
Gweler tudalen 3 |
Cyfnod Sylfaen – y Gyfraith Gamweddau |
100 awr
|
||
Cyfnod Sylfaen – Cyfraith Cytundebau |
100 awr
|
||
Cyfnod Sylfaen – Cyflwyniad i Eiddo a Chleientiaid Preifat |
180 awr |
||
Cyfnod Sylfaen – Sgiliau Proffesiynol a Chyfreithiol |
100 awr |
||
Cyfanswm y modiwl |
560 awr
|
56 credyd – tua 18 mis
|
Wedi’u cwblhau ochr yn ochr â’r arholiadau neu ar eu hôl – cyfnod o amser heb ei ddiffinio |
Cyfnod Uwch CPQ |
|
|
|
Cyfnod Uwch – Datrys Anghydfod
|
180 awr |
Asesiad a arholir:
35-40% Gwybodaeth 50% Cymhwysiad a Gwerthusiad |
Profiad Proffesiynol
Gweler tudalen 3 |
Cyfnod uwch – Cyfraith Trosedd ac Ymarfer
|
180 awr |
||
Cyfnod uwch – Eiddo a Thrawsgludo
|
180 awr |
||
Cyfnod uwch – Sgiliau Proffesiynol a Chyfreithiol |
180 awr |
||
|
720 awr
|
72 credyd - Tua 18 mis
|
|
Un modiwl pellach - Cyfnod uwch - Teulu/Ewyllysiau/Busnes a Chyflogaeth |
180 awr |
|
|
Cyfanswm y cyfnodau |
900 awr
|
90 credyd - Tua 24 mis |
Wedi’u cwblhau ochr yn ochr â’r arholiadau neu ar eu hôl – cyfnod o amser heb ei ddiffinio |
|
|
|
|
|
Profiad Proffesiynol y Cyfnod Sylfaen
Paragyfreithiwr |
Profiad Proffesiynol y Cyfnod Uwch
Uwch Baragyfreithiwr Paragyfreithiwr Profiadol |
Profiad Proffesiynol y Cyfnod Proffesiynol Cyfreithiwr CILEX |
|
Moeseg a Chyfrifoldeb Proffesiynol |
||||
Yn ymddwyn ag uniondeb, tegwch ac annibyniaeth, yn arddangos ymddygiad egwyddorol, yn dilyn rheolau, yn glynu wrth safonau sefydliadol a phroffesiynol ac yn rheoli risg. |
||||
I |
Rwy’n cymhwyso’r rheolau ac yn mabwysiadu egwyddorion ymddygiad proffesiynol a Chod Ymddygiad CILEX yn briodol mewn sefyllfaoedd perthnasol ac yn codi ymwybyddiaeth ohonynt o fewn y tîm. |
Rwy’n deall y safonau proffesiynol, Cod Ymddygiad CILEX a’r cyfrifoldebau rheoliadol ac yn cydymffurfio â nhw ac rwy’n darparu arweiniad i aelodau’r tîm ar y safonau hyn. |
Rwy’n arddangos ymddygiad sy’n cadarnhau’r safonau proffesiynol, Cod Ymddygiad CILEX a’r cyfrifoldebau rheoliadol ac rwy’n darparu arweiniad i aelodau’r tîm ar y safonau hyn. |
|
Rwy’n cadw gwybodaeth am gleientiaid, sefydliadau a chydweithwyr yn gyfrinachol. |
Rwy’n cyflwyno gwybodaeth a data yn onest, yn gywir ac yn gyflawn wrth gynnal cyfrinachedd. |
Rwy’n cyflwyno gwybodaeth a data mewn modd gonest, cywir, cyflawn a chyfrinachol ac rwy’n hyfforddi staff llai profiadol ynghylch egwyddorion a phwysigrwydd cadw cyfrinachedd. |
||
Rwy’n gweithredu mewn modd proffesiynol a gydag uniondeb ym mhob rhyngweithiad â chleientiaid, cydweithwyr, cyflenwyr a rhanddeiliaid eraill. |
Rwy’n arddangos y safonau uchaf o uniondeb proffesiynol yn gyson, gan ddangos disgresiwn a barn gadarn wrth ymdrin â chleientiaid, cydweithwyr, cyflenwyr a rhanddeiliaid eraill. |
Nid wyf yn cyfaddawdu fy mhroffesiynoldeb na’m huniondeb ac rwyf yn ddisymud yn wyneb pwysau o du cleientiaid neu gyflenwyr neu bwysau mewnol. |
||
Rwy’n adnabod gwrthdaro rhwng buddiannau, a dimensiynau moesegol neu risg sefyllfaoedd a, phan fydd mater yn peri pryder, byddaf yn hysbysu’r grwpiau neu’r bobl briodol.
|
Rwy’n adnabod gwrthdaro rhwng buddiannau, a dimensiynau moesegol neu risg sefyllfaoedd, yn arddangos ymwybyddiaeth o safonau proffesiynol a, phan fydd mater yn peri pryder, byddaf yn hysbysu ac yn ymgynghori â’r grwpiau neu’r bobl briodol. |
Rwy’n arddangos gwybodaeth am weithdrefnau rheoli risg y sefydliad; rwy’n cefnogi eraill i gydymffurfio â’r safonau rheoli risg moesegol a’r safonau proffesiynol ac rwy’n uwchgyfeirio materion yn ddioed. |
||
Perthynas â Chleientiaid |
||||
Yn canolbwyntio ar anghenion cleientiaid, yn gwrando ar gleientiaid er mwyn deall eu hanghenion ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, yn defnyddio arbenigedd, yn meithrin ac yn manteisio ar rwydwaith fewnol ac allanol o gysylltiadau, yn bodloni disgwyliadau’r cleientiaid ac yn darparu atebion cyflawn iddynt. |
||||
Rwy’n deall ac yn cymhwyso’r cysyniad o wasanaeth i gleientiaid gyda chleientiaid mewnol ac allanol. |
Rwy’n arddangos dull sy’n canolbwyntio ar y cleient, gan ymdrin â chleientiaid mewnol ac allanol fel unigolion. |
Rwy’n deall ac yn cymhwyso’r cysyniad o wasanaeth i gleientiaid i wahanol gleientiaid ac rwy’n gweithio i wella ffocws y tîm ar ganolbwyntio ar y cleient. |
||
Rwy’n arddangos dealltwriaeth o anghenion cleientiaid. |
Rwy’n deall sefyllfa bresennol cleientiaid, eu hanghenion gwirioneddol a’u hanghenion canfyddedig ac rwy’n gallu herio’r rhain. |
Rwy’n dangos dealltwriaeth glir o sefyllfa, anghenion a disgwyliadau cleientiaid ar hyn o bryd ac rwy’n gallu adnabod anghenion nad ydynt o bosibl yn gallu eu gweld. |
||
Rwy’n ymdrin ag anghenion cleientiaid mewn modd effeithlon ac yn codi materion cyfreithiol priodol â’r arbenigwr cywir. |
Rwy’n ymdrin â disgwyliadau’r cleientiaid ac yn ymatebol er mwyn sicrhau bod anghenion cyfreithiol y cleient a’r sefydliad yn cael eu diwallu. |
Rwy’n ymateb yn briodol i anghenion cyfreithiol cleientiaid ac yn ymgysylltu ag eraill yn y tîm ac yn allanol sydd â’r arbenigedd cyfreithiol angenrheidiol. |
||
Rwy’n darparu cyngor clir ac yn awgrymu camau posibl i gleientiaid yn unol â’r cyfarwyddiadau a dderbynir. |
Rwy’n darparu cyngor cyfreithiol clir i gleientiaid gan gynnwys yr opsiynau sydd ar gael, y camau nesaf, a chyngor am gostau lle bo hynny’n briodol, ac rwy’n darparu tystiolaeth ategol yn unol â’r cyfarwyddiadau a dderbynir. |
Rwy’n darparu cyngor cyfreithiol clir i gleientiaid gan gynnwys cyngor ar yr opsiynau sydd ar gael, y risgiau, y costau, manteision camau amgen, y camau nesaf a darparu tystiolaeth ategol. |
||
Rwy’n nodi ac yn datblygu rhwydwaith fewnol o gysylltiadau er mwyn sicrhau canlyniadau. |
Rwy’n llunio rhwydwaith fewnol ac yn dechrau datblygu rhwydwaith allanol o gysylltiadau ac arbenigwyr. |
Rwy’n cynnal, yn ehangu ac yn defnyddio fy rhwydwaith o gysylltiadau ac arbenigwyr mewnol ac allanol. |
||
Arbenigedd Technegol |
||||
Yn arddangos yr wybodaeth dechnegol sydd ei hangen ar gyfer y rôl, yn ymwybodol o’r datblygiadau a’r arferion diweddaraf yn y sefydliad a’r proffesiwn cyfreithiol ac yn atgyfeirio gwaith technegol i eraill sydd â’r arbenigedd cywir. |
||||
|
Rwy’n arddangos gwybodaeth dechnegol ddigonol i gwblhau tasgau ac rwy’n cwblhau tasgau mwy cymhleth gydag ychydig o oruchwyliaeth. |
Rwy’n arddangos fy ngwybodaeth a’m harbenigedd technegol ac yn eu cymhwyso ar draws amrywiaeth o dasgau. |
Rwy’n arddangos fy ngwybodaeth a’m harbenigedd gan rannu hyn gydag eraill yn y tîm. |
|
Rwy’n gweithredu fel adnodd ar faterion cymorth technegol neu rwy’n gwybod pwy sydd â’r arbenigedd priodol yn fewnol neu’n allanol. |
Rwy’n arddangos gwybodaeth dechnegol mewn un neu fwy o feysydd arbenigol ac yn gweithredu fel pwynt cyfeirio ar gyfer cyngor technegol a thactegol ar faterion syml. |
Rwy’n datblygu arbenigedd mewn un neu fwy o feysydd cyfreithiol ac rwy’n cael fy nghydnabod fel arbenigwr yn fy maes. |
||
Rwy’n deall cyfyngiadau fy nghymhwysedd technegol ac rwy’n codi materion cyfreithiol priodol â’r arbenigwr cywir. |
Rwy’n darparu arweiniad ar faterion technegol arferol i’m cydweithwyr ac rwy’n deall cyfyngiadau fy nghymhwysedd technegol, gan godi materion cyfreithiol priodol â’r arbenigwr cywir. |
Rwy’n cydnabod pan fyddaf yn cyrraedd pen draw fy nghymhwysedd a sgiliau technegol ac rwy’n gofyn am gymorth. |
||
Rwy’n cynnal fy hyfedredd mewn prosesau cyfreithiol a sefydliadol ynghyd â phrosesau, gweithdrefnau, technolegau ac offer, dulliau a methodolegau safonol eraill. |
Rwy’n datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth gyfreithiol, gan sicrhau bod datblygiadau newydd mewn rheoliadau, technoleg ac arferion yn cael eu dilyn. |
Rwy’n ymwybodol o’r holl ddatblygiadau cyfreithiol a thechnegol diweddaraf a dulliau a methodolegau diweddaraf y sefydliad ac yn eu rhoi ar waith mewn modd moesegol yn fy ngwaith. |
||
Rwy’n awgrymu’r gyfraith berthnasol ac yn egluro pam mae’n berthnasol i’r mater. |
Rwy’n nodi’r gyfraith berthnasol, gan ei chysylltu â’r materion ac arddangos pam mae’n berthnasol. |
Rwy’n nodi’r gyfraith a’r gweithdrefnau perthnasol ac yn cymhwyso’r rhain i’r mater dan sylw gan ddefnyddio tystiolaeth ategol. |
||
Ymarfer cyfreithiol |
||||
Yn defnyddio eu sgiliau a’u profiad i wneud y swydd yn effeithiol, yn gwneud defnydd effeithiol o dechnoleg, yn darparu gwaith cywir o ansawdd ac yn croesawu datblygiadau newydd a dulliau newydd o weithio. |
||||
Rwy’n cynnal gwaith ymchwil ansoddol a meintiol ar faterion cyfreithiol a materion nad ydynt yn gyfreithiol mewn ffordd drylwyr a threfnus. |
Rwy’n cynnal gwaith ymchwil ansoddol a meintiol cywir mewn ffordd drylwyr a threfnus, gan ddefnyddio’r holl ddulliau a thechnolegau sydd ar gael, ac yn eu cymhwyso i’r materion sydd o dan sylw. |
Rwy’n cynnal ac yn casglu gwaith ymchwil ansoddol a meintiol ar yr holl agweddau ar y gyfraith achosion, gweithdrefnau cyfreithiol a dogfennau cyfredol mewn ffordd drylwyr, bragmataidd a threfnus, gan ddefnyddio’r holl ddulliau a thechnoleg sydd ar gael a’u cymhwyso i’r mater o dan sylw. |
||
Rwy’n nodi, yn cwblhau, yn drafftio ac yn prosesu’r dogfennau cyfreithiol perthnasol gan ddefnyddio iaith syml. Rwy’n dilyn y gweithdrefnau cyfreithiol cywir. |
Rwy’n nodi ac yn drafftio’r dogfennau cyfreithiol a dogfennau eraill i gefnogi’r weithdrefn gyfreithiol, gan nodi’r materion perthnasol a darparu tystiolaeth ategol sydd wedi’i hysgrifennu’n dda. |
Rwy’n defnyddio’r dogfennau cyfreithiol a’r dogfennau a’r gweithdrefnau eraill cywir i ymdrin â mater, gan ddarparu tystiolaeth ategol ar gyfer y camau i’w cymryd. |
|
|
Rwy’n gwneud defnydd llawn o’r dechnoleg briodol a chyfredol i ddarparu atebion i gleientiaid. |
Rwy’n croesawu datblygiadau newydd mewn arferion gweithio a thechnoleg ac yn eu mabwysiadu yn fy ngweithgareddau dyddiol. |
Rwy’n nodi datblygiadau newydd mewn arferion gweithio a thechnoleg ac yn eu mabwysiadu yn fy ngweithgareddau, ac yng ngweithgareddau'r tîm, i ddarparu atebion i gleientiaid. |
||
Rwy’n sicrhau bod fy ngwaith yn cydymffurfio â gweithdrefnau cyfreithiol a safonau rheoleiddiol a sefydliadol. |
Rwy’n darparu gwaith yn unol â’r gweithdrefnau cyfreithiol a’r safonau rheoleiddiol a sefydliadol. |
Rwy’n gyfrifol am ddarparu gwaith o safon yn unol â’r gweithdrefnau cyfreithiol a’r safonau rheoleiddiol a sefydliadol ac am oruchwylio gwaith eraill ar sail ffurfiol a strwythuredig. |
||
Ymwybyddiaeth Fasnachol |
||||
Yn cyfuno arbenigedd masnachol a chyfreithiol i ddod â gwerth i gleientiaid a’r sefydliad, yn arddangos craffter busnes/masnachol, yn rheoli gwaith yn effeithlon ac o fewn y gyllideb, yn dirprwyo gwaith, yn defnyddio adnoddau’n effeithlon ac yn manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd masnachol gan gleientiaid presennol a rhai newydd. |
||||
Rwy’n sicrhau bod fy ngweithgareddau’n cydweddu ag amcanion y tîm a’r adran. |
Rwy’n sicrhau bod fy ngweithgareddau yn fy maes yn cydweddu â strategaeth y sefydliad ac rwy’n cymryd cyfrifoldeb dros eu gweithredu. |
Rwy’n troi strategaeth y sefydliad yn gamau gweithredu allweddol i’w cyflawni, yn sicrhau eu bod yn cael eu rhoi ar waith ac yn monitro eu cynnydd o gymharu â’r cynllun. |
||
|
Mae gennyf ddealltwriaeth eang o’r amgylchedd cyffredin y mae’r sefydliad yn gweithio ynddo iddo a’i gynnyrch a’i wasanaethau allweddol, a gallaf gyfleu’r rhain i gleientiaid. |
Rwy’n nodi’r cyfleoedd i fanteisio i’r eithaf ar fusnes fy nghleient drwy awgrymu gwasanaethau cyfredol ychwanegol, lle y bo’n briodol ac yn berthnasol gwneud hynny, yn unol â chyd-destun ehangach y sefydliad a’r busnes. |
Rwy’n deall ac yn cyfathrebu amrywiaeth eang o wasanaethau cyfreithiol, yn sgil gweithgarwch cystadleuwyr, a allai fod yn berthnasol i anghenion cleientiaid ac rwy’n codi cyfleoedd newydd ar gyfer cynnyrch a gwasanaethau gyda chleientiaid ac uwch aelodau’r sefydliad. |
|
|
Rwy’n arddangos pwysigrwydd elfennau economeg achosion e.e. cyllidebau, bilio a dadansoddi amser wrth wneud fy ngwaith. |
Rwy’n canolbwyntio ar elfennau economaidd y gwasanaethau a gynigir, gan argymell cyfleoedd ar gyfer arbedion effeithlonrwydd. |
Rwy’n cyfrannu at reolaeth ariannol yr achos, gan gynnwys cyllidebau, gwaith sydd ar y gweill, bilio amserol a sicrhau taliadau ac adnabod unrhyw symiau sy’n wahanol. |
|
Rwy’n rheoli nifer o weithgareddau, gan flaenoriaethu amser a chyfathrebu unrhyw wrthdaro posibl o ran amser ac adnoddau. |
Rwy’n blaenoriaethu a rheoli fy ngwaith i a gwaith wedi’i ddirprwyo gyda ffocws ar ei gwblhau o fewn y cwmpas a’r gyllideb, gan ddirprwyo lle y bo’n briodol. |
Rwy’n cyfrannu at reoli ymgysylltiad e.e. gofynion o ran adnoddau a llif gwaith llwyth achosion, er mwyn bodloni amcanion a chyllidebau’r sefydliad. |
|
|
Rwy’n cefnogi datblygiad cynigion, trefnu digwyddiadau a gweithgareddau marchnata a datblygu busnes eraill. |
Rwy’n cefnogi eraill mewn gweithgareddau sy’n sicrhau gwaith gan gleientiaid presennol neu newydd ac wrth farchnata’r sefydliad. |
Rwy’n cyfrannu at droi cyfleoedd yn waith proffidiol newydd a llwyddiannus. |
|
|
Cynrychiolaeth ac Eiriolaeth |
||||
Yn gweithredu fel llysgennad i’r sefydliad a’r proffesiwn cyfreithiol, yn cymryd cyfarwyddiadau, yn meddu ar yr hawliau eirioli priodol, yn paratoi ar gyfer treialon, gwrandawiadau neu negodiadau ac yn cynrychioli cleientiaid yn y rhain, gan gynrychioli buddion cleientiaid yn y ffordd orau. |
||||
Rwy’n cynrychioli’r sefydliad yn fewnol ac yn allanol mewn ffordd bositif. |
Rwy’n llysgennad dros fy sefydliad ar bob achlysur. |
Rwy’n llysgennad dros fy mhroffesiwn a’m sefydliad. |
|
|
|
Rwy’n derbyn y gwaith sydd i’w wneud, gan gyflawni amserlenni priodol a darparu diweddariadau statws rheolaidd. |
Rwy’n cymryd cyfarwyddiadau cywir sy’n ymwneud â materion cyfreithiol gan gydweithwyr a chleientiaid. |
Rwy’n cymryd cyfarwyddiadau cywir sy’n ymwneud â materion cyfreithiol gan gydweithwyr a chleientiaid. |
|
Rwy’n casglu a darparu’r wybodaeth ategol ac yn paratoi amlinelliadau a chyflwyniadau ar gyfer achosion, fel rhan o’r gwaith paratoi ar gyfer treialon, gwrandawiadau, gwaith eirioli neu negodiadau. |
Rwy’n darparu gwybodaeth ategol wrth baratoi ar gyfer treialon, gwrandawiadau, gwaith eirioli neu negodiadau gan gynnwys drafftio areithiau a chyflwyniadau. |
Rwy’n paratoi datganiadau achosion, ceisiadau, datganiadau tystion a brasluniau o ddadleuon ac rwy’n cynrychioli cleientiaid mewn treialon neu wrandawiadau lle bo hawl digonol i ymddangos yn y llys; agor a chloi areithiau, prif holwr, croesholi, ailholi a dadleuon cloi. |
|
|
Rwy’n ymgymryd â negodiadau syml ac yn dylanwadu o blaid yr ateb a ffefrir. |
Rwy’n ymgymryd â negodiadau a gwaith eirioli mwy cymhleth ac yn dylanwadu o blaid yr ateb a ffefrir. |
|
||
Rwy’n arsylwi ac yn cefnogi eiriolaeth yn y meysydd hynny lle nad oes hawl i ymddangos yn y llys. |
Lle y bo’n ofynnol, rwyf wedi gwneud cais am yr hawliau cyfreitha cyfreithiol ac eirioli sy’n berthnasol i'm rôl ac wedi’u sicrhau. |
|
||
Rheoli Perfformiad |
||||
Yn cydweddu â nodau ac amcanion personol, y tîm a’r sefydliad, yn agored i ddysgu ac yn cefnogi gweithgareddau a datblygiad eraill yn y tîm. |
||||
|
Rwy’n gwybod sut mae fy rôI yn cyfrannu at y sefydliad ac rwy’n cwblhau fy amcanion sefydliadol. |
Rwy’n cyfrannu at effeithiolrwydd y tîm drwy gyflawni fy nodau personol a sefydliadol. |
Rwy’n gweithio tuag at nodau’r sefydliad drwy bennu amcanion a thargedau sy’n cydweddu, i’m hunan a’r tîm, lle y bo hynny’n briodol. |
|
|
Rwy’n croesawu safonau perfformio heriol ac yn monitro fy nghynnydd yn eu herbyn. |
Rwy’n pennu disgwyliadau perfformiad realistig i’m hunan sy’n cael effaith ac rwy’n cyflawni yn eu herbyn. |
Rwy’n pennu disgwyliadau perfformiad y gellir eu hehangu i’m hunan, ac i’r tîm lle y bo’n briodol, yn mesur y cynnydd a wneir yn eu herbyn ac yn cymryd camau i gywiro diffygion mewn perfformiad. |
|
|
Rwy’n cyfrannu at weithgareddau’r tîm ac yn arddangos fy ymwybyddiaeth o lwythi gwaith eraill, gan gymryd tasgau ychwanegol lle y bo’n briodol. |
Rwy’n cyfrannu ac yn annog eraill i gyfrannu at berfformiad y tîm, gan gydnabod mewn modd ymwybodol y gwaith da a wneir gan aelodau eraill y tîm. |
Rwy’n ymgysylltu ag unigolion i’w dwyn ynghyd fel un tîm ac rwy’n cymryd cyfrifoldeb priodol dros eu cynhyrchiant. |
|
|
Rwy’n ymroi i ddilyn cymhwyster/cymwysterau sy’n ofynnol neu sy’n cael eu hargymell ac rwy’n gofyn am gyfarwyddyd, adborth a hyfforddiant i wella fy ngallu. |
Rwy’n ymroi i ddilyn y cymhwyster/cymwysterau sy’n ofynnol neu sy’n cael eu hargymell ac rwy’n cyfrannu’n rhagweithiol at unrhyw drafodaeth am ddatblygiad fy ngyrfa neu fy natblygiad personol. |
Rwy’n cefnogi eraill yn eu datblygiad personol, yn darparu gwybodaeth, cyfleoedd i ddatblygu, addysgu, cefnogaeth, hyfforddiant, arweiniad ac adborth. |
|
|
Rwy’n cwblhau fy ngofynion Datblygiad Proffesiynol Parhaus. |
Rwy’n cwblhau fy ngofynion Datblygiad Proffesiynol Parhaus ac yn cefnogi eraill yn eu gweithgareddau datblygu. |
Rwy’n cwblhau fy ngofynion Datblygiad Proffesiynol Parhaus ac yn annog eraill yn eu gweithgareddau Datblygiad Proffesiynol Parhaus. |
. |