- Framework:
- Gwaith Ieuenctid
- Lefel:
- 2/3
Mae gweithiwr ieuenctid yn rhywun sy’n defnyddio cysylltiadau cadarnhaol i ymgysylltu â phobl ifanc i hyrwyddo eu datblygiad cymdeithasol, emosiynol a phersonol drwy ddulliau addysg anffurfiol.
Fel Gweithiwr Ieuenctid byddwch yn rhyngweithio â gwasanaethau gwirfoddol, elusennol a statudol fel gwasanaethau ieuenctid, darpariaethau addysg, iechyd, cymdeithasol a chymunedol ac yn ymgysylltu â phartneriaid amrywiol eraill a rhanddeiliaid fel cyllidwyr, teuluoedd, a gweithwyr proffesiynol perthynol.
Byddwch hefyd yn gyfrifol am weithio gyda phobl ifanc i gynllunio, darparu a gwerthuso’r cwricwlwm a’r rhaglenni gwaith ieuenctid gydag unigolion a grwpiau.
Gallech hefyd fod yn gyfrifol am reoli adseiladau, fel safleoedd clybiau ieuenctid a phrosiectau ieuenctid neu unedau symudol ac am reoli cyllideb weithredol prosiectau lle bynnag eu lleoliad a chadw cofnodion ariannol a gweinyddol priodol eraill.
Bydd y Brentisiaeth Sylfaen yn golygu gweithio gyda phlant/pobl ifanc a/neu oedolion bregus felly bydd yn rhaid i chi fod yn barod i gyflawni gwiriadau uwch drwy’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Mae’n rhaid i bob gweithiwr newydd yn y Brentisiaeth Sylfaen fod yn 16 oed o leiaf ac yn gwbl ymwybodol o ddiben gwaith ieuenctid.
Opsiynau a lefelau llwybrau
Gwaith Ieuenctid - Lefel 2
Addas ar gyfer swyddi Cynorthwyydd Clwb Ieuenctid/Gweithiwr Ieuenctid Cynorthwyol/Gweithiwr Ieuenctid/Arweinydd Iau/Gweithiwr Ieuenctid Rhan-amser, Gweithiwr Cymorth Ieuenctid Cynorthwyol (fel y nodir yng JNC 2012).
Gwaith Ieuenctid – Lefel 3
Addas ar gyfer swyddi Arweinydd Clwb Ieuenctid/Gweithiwr Ieuenctid/Arweinydd Ieuenctid Rhan-amser/Swyddog Datblygu Ieuenctid/Swyddog Prosiect Ieuenctid/Dirprwy Arweinydd/Uwch Weithiwr Ieuenctid Rhan-amser/Gweithiwr Prosiect/Gweithiwr Ieuenctid Cyfrifol, Gweithiwr Cymorth Ieuenctid (fel y nodir yng Nghytundeb JNC 2012).
Mwy o wybodaeth
Hyd
Lefel 2: 14 mis
Lefel 3: 16 mis
Llwybrau dilyniant
Lefel 2 Mae’r llwybrau’n cynnwys:
- Cymwysterau Lefel 3 mewn Ymarfer Gwaith Ieuenctid neu Waith Ieuenctid (gan gynnwys Prentisiaeth Lefel 3 mewn Gwaith Ieuenctid) a chymwysterau Lefel 3 mewn Cyngor ac Arweiniad.
- Cyfleoedd Addysg Uwch, gan gynnwys graddau proffesiynol ac ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid.
- Camu ymlaen drwy lwybrau galwedigaethol amrywiol eraill, gan gynnwys camu ymlaen i gymwysterau lefel 2 mewn meysydd fel hyfforddi chwaraeon a gwaith chwarae.
Lefel 3 Mae’r llwybrau’n cynnwys:
- Camu ymlaen i gymwysterau lefel uwch amrywiol, gan gynnwys cymwysterau lefel 4, Prentisiaethau Uwch a Graddau Sylfaen.
- Cyfleoedd Addysg Uwch gan gynnwys graddau proffesiynol a chymwysterau ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid.
Cymwysterau
Lefel 2: Tystysgrif mewn Ymarfer Gwaith Ieuenctid (Cymru)
Lefel 3: Tystysgrif mewn Ymarfer Gwaith Ieuenctid (Cymru)
Beth yw'r gofynion mynediad ar gyfer y llwybr hwn?
Mae gan bob llwybr prentisiaeth yng Nghymru ofynion mynediad. Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn y llwybr hwn – mae angen i chi gael y cymhwyster lefel mynediad canlynol;
Lefel 2
Lefel 2: Dim gofyniad mynediad ffurfiol. Byddai’n fanteisiol os ydych chi wedi cyflawni rhyw fath o waith gwirfoddol mewn lleoliad gwaith ieuenctid, cyn ymrestru ar y rhaglen er nad yw hyn yn rhagofyniad ar gyfer y Brentisiaeth Sylfaen.
Lefel 3
Lefel 3: Dim gofyniad mynediad ffurfiol. Fodd bynnag, disgwylir y bydd gennych chi brofiad blaenorol o waith ieuenctid, a allai fod wedi’i ennill drwy waith gwirfoddol neu leoliadau cyflogaeth eraill, gan gynnwys y Brentisiaeth Sylfaen mewn Gwaith Ieuenctid (ar lefel 2).
Gweld llwybr llawn