Skip to main content

Llwybr

Gwaith Ieuenctid

Mae'r Learning & Skills Improvement Service (LSIS) wedi cytuno ar gynnwys y Llwybr hwn. Dyma'r unig Lwybr Prentisiaeth yn y sector Addysg a Gwasanaethau Gwybodaeth a gymeradwywyd i'w ddefnyddio yng Nghymru sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan Medr.

DYDDIAD CYHOEDDI: 14/12/2021 ACW Fframwaith Rhif. FR04467

Cynnwys y Rhaglen Ddysgu

Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:

  • Cymwysterau,
  • Sgiliau Hanfodol
  • Hyfforddiant yn y gwaith/i ffwrdd o'r gwaith

59 credyd yw’r isafswm credydau gofynnol ar gyfer Llwybr Gwaith Ieuenctid Lefel 2.

60 credyd yw’r isafswm credydau gofynnol ar gyfer Llwybr Gwaith Ieuenctid Lefel 3.

Gofynion mynediad

Rhaid i bawb sy'n ymuno o'r newydd fod yn gwbl ymwybodol o bwrpas Gwaith Ieuenctid. Mae hi felly'n syniad da i'r rhai sy'n ymuno ofyn am gyngor gyrfaoedd a chasglu gwybodaeth am y sector cyn cofrestru ar gyfer y Brentisiaeth. Disgwylir hefyd i'r rhai sy'n ymuno fod â rhywfaint o brofiad blaenorol o Waith Ieuenctid, o bosib ar ffurf gwaith gwirfoddol, cyn cofrestru â'r rhaglen.

Nid oes unrhyw ofynion cymhwyster penodol ar gyfer mynediad i'r Llwybr. Fodd bynnag, dylai person sydd â chymwysterau priodol gynnal asesiad cychwynnol o addasrwydd y dysgwyr i ymuno â’r llwybr, cyn cofrestru.

Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth

Lefel 2: Gwaith Ieuenctid

Lefel 2: Gwaith Ieuenctid Cymwysterau

Rhaid i ddysgwyr gwblhau'r cymhwyster cyfun isod.

Lefel 2 Tystysgrif mewn Ymarfer Gwaith Ieuenctid
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
SEG Awards C00/4041/9 603/5560/8 27 270 Cymhwysedd Saesneg yn Unig
Agored Cymru C00/4071/1 26 260 Cymhwysedd Cymraeg- Saesneg

Edrychwch ar Atodiad 1 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.

Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)

Lefel 2: Gwaith Ieuenctid Lefel Isafswm Gwerth Credyd
Cyfathrebu 2 6
Cymhwyso Rhif 1 6
Llythrennedd Digidol 1 6

Saesneg-Cymraeg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru.

Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith

Llwybr Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith
Lefel 2: Gwaith Ieuenctid 108 365
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)

Tystysgrif Lefel 3 mewn Gwaith Ieuenctid 26 credyd/473 GLH

Amser cyfartalog y brentisiaeth hon yw 14 mis.

Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 Chredyd/60 GLH Lefel 1 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 1 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru

Lefel 3: Gwaith Ieuenctid

Lefel 3: Gwaith Ieuenctid Cymwysterau

Mae'n rhaid i ddysgwyr gwblhau'r cymhwyster cyfun isod

Lefel 3 Tystysgrif mewn Ymarfer Gwaith Ieuenctid
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
SEG Awards C00/4042/0 603/5561/X 27 270 Cymhwysedd Saesneg yn Unig
Agored Cymru C00/4072/0 27 270 Cymhwysedd Cymraeg-Saesneg

Edrychwch ar Atodiad 2 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.

Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)

Lefel 3: Gwaith Ieuenctid Lefel Isafswm Gwerth Credyd
Cyfathrebu 2 6
Cymhwyso Rhif 2 6
Llythrennedd Digidol 2 6

Saesneg-Cymraeg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru.

Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith

Llwybr Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith
Lefel 3: Gwaith Ieuenctid 109 366
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)

Tystysgrif Lefel 3 mewn Gwaith Ieuenctid 27 credyd/475 GLH

Amser cyfartalog y brentisiaeth hon yw 16 mis.

Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru

Gofynion eraill ychwanegol

Gan y bydd y Brentisiaeth yn cynnwys gweithio gyda phlant/pobl ifanc ac/neu oedolion sy'n agored i niwed, bydd yn rhaid i bob newydd-ddyfodiad fod yn barod i dderbyn gwiriad uwch drwy'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).

Rhaid i Ganolfannau sicrhau y cydymffurfir â'r holl ofynion statudol sy'n gysylltiedig â gweithio gyda phlant/pobl ifanc.

Rhaid i bawb sy'n ymuno â'r Brentisiaeth o'r newydd fod yn 16 oed o leiaf ar gyfer Lefel 2 ac yn 18 oed ar gyfer Lefel 3.

Dilyniant

Lefel 2

Mae'r Brentisiaeth Sylfaen yn cynnig sail gadarn o wybodaeth i unigolion a all eu helpu i ddysgu a datblygu eu gyrfaoedd ymhellach ym maes Gwaith Ieuenctid a meysydd cysylltiedig, gan gynnwys dilyniant fertigol i hyfforddiant mwy arbenigol ar lefel 3.

Mae cyfleoedd am ddilyniant penodol yn cynnwys:

Cymwysterau Lefel 3 mewn Ymarfer Gwaith Ieuenctid neu Waith Ieuenctid (gan gynnwys y Brentisiaeth lefel 3 mewn Gwaith Ieuenctid); a chymwysterau Lefel 3 mewn Cyngor ac Arweiniad.

Mae'r Brentisiaeth Sylfaen yn cyd-fynd hefyd â fframwaith sy'n cefnogi dilyniant, drwy gymwysterau Lefel 3 perthnasol, hyd at gyfleoedd i ddilyn cyrsiau lefel uwch a/neu Addysg Uwch, gan gynnwys graddau proffesiynol a chymwysterau ôl-radd mewn Gwaith Ieuenctid.

Ym maes Addysg Uwch, byddai modd dilyn cwrs a fyddai'n arwain at gymhwyster proffesiynol cydnabyddedig y Joint Negotiating Committee mewn Gwaith Ieuenctid a Chymunedol.

Yn ogystal, mae'r Brentisiaeth Sylfaen yn cynnig cyfleoedd i symud ymlaen ar hyd amrywiaeth o lwybrau galwedigaethol eraill, gan gynnwys dilyniant ochrol i gymwysterau lefel 2 eraill mewn meysydd fel hyfforddi chwaraeon a gwaith chwarae.

Lefel 3

Mae'r Brentisiaeth yn cynnig sail gadarn o wybodaeth i unigolion a all eu helpu i ddysgu a datblygu eu gyrfaoedd ymhellach ym maes Gwaith Ieuenctid a meysydd cysylltiedig.

 Er nad oes cymhwyster lefel 4 mewn Ymarfer Gwaith Ieuenctid ar hyn o bryd, mae'r Brentisiaeth yn cynnig dilyniant i amrywiaeth o gymwysterau lefel uwch, gan gynnwys cymwysterau Lefel 4, Prentisiaethau Uwch a Graddau Sylfaen.

Mae'r Brentisiaeth yn cyd-fynd hefyd â llwybr sy'n cefnogi dilyniant hyd at gyrsiau lefel uwch a/neu gyfleoedd Addysg Uwch, gan gynnwys graddau proffesiynol a chymwysterau ôl-radd mewn Gwaith Ieuenctid. Ym maes Addysg Uwch, byddai modd dilyn cwrs a fyddai'n arwain at gymhwyster proffesiynol cydnabyddedig y Joint Negotiating Committee mewn Gwaith Ieuenctid a Chymunedol.

 Yn ogystal, mae'r Brentisiaeth yn cynnig cyfleoedd i symud ymlaen ar hyd amrywiaeth o lwybrau galwedigaethol eraill, gan gynnwys dilyniant ochrol i gymwysterau lefel 3 eraill.

*Mae Bagloriaeth Cymru yn cynnig cymwysterau cyfatebol fel a ganlyn:

 Diploma Sylfaen, Graddau D-G TGAU, NVQ lefel 1 neu gyfwerth

  • Diploma Canolradd, Graddau A-C TGAU, NVQ lefel 2 neu gyfwerth
  • Diploma Uwch, TAG Safon Uwch, NVQ lefel 3 neu gyfwerth

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos dull gweithredol o nodi a chael gwared ar ffactorau sy'n atal mynediad a chynnydd. Dylai Llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion sydd â nodweddion gwarchodedig a'r rhai heb y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

Y nodweddion gwarchodedig a nodir yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared ar wahaniaethu mewn cyflogaeth.

RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau nad ydynt yn gwahaniaethu yn erbyn ymgeiswyr o ran mynediad i'r diwydiant ar sail y naw nodwedd warchodedig hynny.

Mae Gwaith Ieuenctid yn gwerthfawrogi ac yn dathlu cyfraniadau gwahanol unigolion, grwpiau a chymunedau ac yn ymrwymo i'w cefnogi a'u hyrwyddo. Mae addysg a hyfforddiant ar gyfer Gwaith Ieuenctid wedi ymrwymo i ddileu gwahaniaethu, hyrwyddo cyfle cyfartal i bawb sy'n cymryd rhan a meithrin cydberthynas dda rhwng grwpiau amrywiol.

Gall Gwaith Ieuenctid effeithiol fod o gymorth i ymdrin ag anfantais a gwahaniaethu o fewn cymunedau lleol a hyrwyddo Gwaith Ieuenctid fel gyrfa ddeniadol.

Mae angen cynnig llwybrau mynediad hyblyg i'r sector Gwaith Ieuenctid fel rhan o lwybr cydlynus ar gyfer cyfleoedd i ddatblygu Gweithwyr Ieuenctid. Yn fwy penodol, mae angen i'r sector gefnogi ac ymgysylltu â grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol er mwyn sicrhau tegwch ymysg y gweithlu.

Un o'r prif flaenoriaethau felly fydd defnyddio'r llwybr er mwyn helpu i hyrwyddo Gwaith Ieuenctid fel dewis gyrfa ymhlith grwpiau amrywiol nad ydynt o bosibl wedi cael eu denu i'r maes gwaith hwn yn draddodiadol, ac annog cyfranogiad ymhlith amrywiaeth ehangach o grwpiau o ddysgwyr. Bydd amodau mynediad hyblyg hefyd yn helpu i ddenu ymgeiswyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, a thrwy hynny datblygu gweithlu mwy amrywiol o bosib.

Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)

Nid yw Cyfrifoldebau Cyflogaeth a Hawliau (CHC) yn orfodol mwyach. Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16 - 18 oed) yn dilyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.

Cyfrifoldebau

Cyfrifoldeb Darparydd yr Hyfforddiant a'r Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y llwybr hwn yn cael eu bodloni yn unol â Chanllawiau Phrentisiaethau Llywodraeth Cymru/Medr.

Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Medr

Atodiad 1 Lefel 2: Gwaith Ieuenctid

Tystysgrif Lefel 2 mewn Ymarfer Gwaith Ieuenctid (Cymru)

Dyluniwyd y cymhwyster i gynnig llawer o hyblygrwydd i'r dysgwr. I ennill y cymhwyster hwn, mae'n rhaid i'r dysgwr ennill isafswm o 26 credyd. Mae 23 o’r rhain yn orfodol a 3 yn ddewisol.

Mae'r holl gymwysterau yn union yr un fath o ran strwythur a chynnwys er y bydd canllawiau ategol yn amrywio o un sefydliad dyfarnu i'r llall.

Mae cymhwysedd a gwybodaeth wedi'u hintegreiddio i'r cymwysterau hyn ac fe'u hasesir ar wahân. Dyma grynodeb o unedau'r cymhwyster sy'n ymwneud yn bennaf â chymhwysedd, a'r unedau sy'n ymwneud yn bennaf â gwybodaeth, a'r unedau sy'n cynnwys deilliannau dysgu sy'n ymdrin â chymhwysedd a gwybodaeth:

Unedau Gorfodol

  • T/506/9206 – Theori Gwaith Ieuenctid (4 credyd gwybodaeth)
  • J/506/9226 – Diogelu mewn lleoliad Gwaith Ieuenctid (1.5 credyd gwybodaeth a 1.5 credyd cymhwysedd
  • M/506/9219- Datblygiad pobl ifanc (2 gredyd gwybodaeth)
  • F/506/9239 - Ymgysylltu a chyfathrebu â phobl ifanc (1 credyd gwybodaeth ac 1
  • credyd cymhwysedd - 2 gredyd)
  • J/506/9212 - Gwaith grŵp mewn lleoliad Gwaith Ieuenctid (1 credyd gwybodaeth ac 1 credyd cymhwysedd)
  • T/506/9240 - Gweithio gydag ymddygiad heriol mewn lleoliad Gwaith Ieuenctid 2 (1 credyd gwybodaeth ac 1 credyd cymhwysedd)
  • M/506/9172 – Ymarfer sy'n seiliedig ar waith mewn Gwaith Ieuenctid (6 credyd cymhwysedd)
  • Y/506/9232 - Ymarfer myfyriol mewn lleoliad Gwaith Ieuenctid (1 credyd gwybodaeth ac 1 credyd cymhwysedd)

Unedau Dewisol:

  • A/506/9241 – Ymarfer gwrthwahaniaethu mewn Gwaith Ieuenctid (1.5 credyd gwybodaeth a 1.5 credyd cymhwysedd)
  • F/506/9502 – Egwyddorion a gwerthoedd allweddol ar gyfer gweithio gyda phobl ifanc sy'n camddefnyddio sylweddau (1 credyd gwybodaeth ac 1 credyd cymhwysedd)
  • R/506/9214 - Cefnogi pobl ifanc ag anableddau ac anghenion dysgu ychwanegol
  • mewn lleoliad Gwaith Ieuenctid (1.5 credyd gwybodaeth a 1.5 credyd cymhwysedd)
  • Y/506/9215 - Cefnogi gweithgareddau hamdden pobl ifanc mewn lleoliad Gwaith Ieuenctid (1.5 credyd gwybodaeth a 1.5 credyd cymhwysedd)

Uned Ychwanegol:

  • L/504/6160 – Hawliau a chyfrifoldebau cyflogaeth (1.5 credyd gwybodaeth a 1.5
  • credyd cymhwysedd)

Mae'r Dystysgrif Lefel 2 mewn Ymarfer Gwaith Ieuenctid (Cymru) yn cynnwys unedau gorfodol a dewisol.

Dylai aseswyr roi arweiniad i brentisiaid er mwyn sicrhau eu bod yn dewis yr unedau dewisol sydd yn fwyaf addas i'w rôl, eu hanghenion a'u hamgylchiadau

Mae cymhwysedd a gwybodaeth wedi'u hintegreiddio i'r cymhwyster hwn ond mae'n rhaid eu hasesu ar wahân.

Atodiad 2 Lefel 3: Gwaith Ieuenctid

Tystysgrif Lefel 3 mewn Ymarfer Gwaith Ieuenctid (Cymru)

Mae'n rhaid i'r dysgwr ennill 27 credyd er mwyn ennill y cymhwyster. Mae'n rhaid ennill 24 credyd o’r unedau gorfodol a 3 chredyd o blith yr unedau dewisol.

Dyma grynodeb o unedau'r cymhwyster sy'n ymwneud yn bennaf â chymhwysedd, a'r unedau sy'n ymwneud yn bennaf â gwybodaeth, a'r unedau sy'n cynnwys deilliannau dysgu sy'n ymdrin â chymhwysedd yn ogystal â gwybodaeth:

Unedau Gorfodol

  • T/506/9206 - Theori Gwaith Ieuenctid (4 credyd gwybodaeth)
  • J/506/9226 - Diogelu mewn lleoliad Gwaith Ieuenctid (1.5 credyd gwybodaeth a 1.5 credyd cymhwysedd)
  • M/506/9219 - Datblygiad pobl ifanc (2 gredyd gwybodaeth)
  • F/506/9239 - Ymgysylltu a chyfathrebu â phobl ifanc (1 credyd gwybodaeth ac 1 credyd cymhwysedd)
  • A/506/9501 – Gwaith grŵp mewn lleoliad Gwaith Ieuenctid (1.5 credyd gwybodaeth a 1.5 credyd cymhwysedd)
  • A/506/9420 – Gweithio gydag ymddygiad heriol mewn lleoliadau Gwaith Ieuenctid (1 credyd gwybodaeth ac 1 credyd cymhwysedd)
  • A/506/9238 – Ymarfer myfyriol mewn lleoliad Gwaith Ieuenctid (1 credyd gwybodaeth ac 1 credyd cymhwysedd)
  • K/506/9218 – Ymarfer seiliedig ar waith mewn Gwaith Ieuenctid (6 chredyd cymhwysedd)

Unedau Dewisol:

  • D/506/9216 - Sgiliau cyfweld ar gyfer gweithio gyda phobl ifanc (1.5 credyd cymhwysedd a 1.5 credyd gwybodaeth)
  • A/506/9207 – Gwaith Ieuenctid datgysylltiedig ac allgymorth – dealltwriaeth a gwybodaeth (4 credyd gwybodaeth)
  • J/506/9503 – Gwaith Ieuenctid datgysylltiedig ac allgymorth – ymarfer (3 chredyd cymhwysedd)
  • F/506/9208 - Deall rhaglenni cyfnewid mewn lleoliad Gwaith Ieuenctid (5 credyd gwybodaeth)
  • M/506/9236 - Gweithredu rhaglenni cyfnewid mewn lleoliad Gwaith Ieuenctid (6 chredyd cymhwysedd)
  • J/506/9209 - Hwyluso dysgu a datblygiad pobl ifanc drwy fentora (2 gredyd gwybodaeth a 2 gredyd cymhwysedd)
  • A/506/9210 – Egwyddorion cefnogi pobl ifanc mewn perthynas ag iechyd rhywiol a risg beichiogrwydd (2 gredyd gwybodaeth)
  • F/506/9211 - Cefnogi pobl ifanc sy'n geiswyr lloches (3 chredyd gwybodaeth)
  • T/506/9500 - Cefnogi pobl ifanc i gyflawni eu potensial dysgu (1.5 credyd gwybodaeth a 1.5 credyd cymhwysedd)
  • H/506/9184 - Cefnogi pobl ifanc sy'n derbyn gofal, neu sy'n gadael gofal (1.5 credyd gwybodaeth a 1.5 credyd cymhwysedd)
  • Y/506/9196 - Cefnogi pobl ifanc gyda'r broses o bontio i annibyniaeth (1 credyd gwybodaeth ac 1 credyd cymhwysedd
  • D/506/9197 – Atgyfeiriadau a chyfeirio mewn lleoliadau Gwaith Ieuenctid (1.5 credyd gwybodaeth a 1.5 credyd cymhwysedd)
  • K/506/9185 - Cefnogi pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant neu sydd wedi'u heithrio o'r ysgol (1.5 credyd gwybodaeth a 1.5 credyd cymhwysedd)
  • H/506/9234 – Gweithio gyda phobl ifanc i leihau cyfranogiad mewn gweithgareddau gwrthgymdeithasol a/neu droseddol (1.5 credyd gwybodaeth a 1.5 credyd cymhwysedd)
  • H/506/9220 - Deall sut gall Gwaith Ieuenctid gefnogi pobl ifanc sydd â phroblemau iechyd meddwl (2 gredyd gwybodaeth)
  • T/506/9223 - Cefnogi pobl ifanc i ddatblygu, gweithredu ac adolygu cynllun gweithredu (1 credyd gwybodaeth ac 1 credyd cymhwysedd)
  • M/506/9222 - Deall sut gall Gwaith Ieuenctid gefnogi pobl ifanc sy'n wynebu tlodi (1.5 credyd gwybodaeth a 1.5 credyd cymhwysedd)
  • K/506/9221 – Deall sut gall Gwaith Ieuenctid gefnogi pobl ifanc sy'n camddefnyddio sylweddau (2 gredyd gwybodaeth)
  • L/506/9227 – Deall sut mae Gwaith Ieuenctid yn cefnogi pobl ifanc sy'n hoyw, yn lesbiaid, yn ddeurywiol neu'n drawsryweddol (2 gredyd gwybodaeth)
  • F/506/9225 – Deall sut i reoli staff mewn lleoliad Gwaith Ieuenctid (3 chredyd gwybodaeth a 3 chredyd chymhwysedd)
  • A/506/9174 – Hwyluso teithiau ieuenctid a theithiau preswyl (3 chredyd gwybodaeth a 3 chredyd cymhwysedd)
  • F/506/9175 – Gweithio'n effeithiol gyda phobl ifanc sy'n agored i niwed (1.5 credyd gwybodaeth a 1.5 credyd cymhwysedd)
  • J/506/9176 – Cyfranogiad pobl ifanc mewn Gwaith Ieuenctid (1.5 credyd gwybodaeth a 1.5 credyd cymhwysedd
  • L/506/9177 – Archwilio ffydd a gwerthoedd cymunedol mewn lleoliad Gwaith Ieuenctid (3 chredyd gwybodaeth)
  • R/506/9178 – Rheoli perfformiad mewn lleoliad Gwaith Ieuenctid (3 chredyd gwybodaeth)
  • Y/506/9179 – Rheoli cyllideb mewn lleoliad Gwaith Ieuenctid (1 credyd gwybodaeth ac 1 credyd cymhwysedd)
  • L/506/9180– Gwaith Ieuenctid effeithiol seiliedig ar ganlyniadau (1 credyd gwybodaeth ac 1 credyd cymhwysedd) H/506/9217 - Ymarfer gwrthwahaniaethu mewn Gwaith Ieuenctid (3 chredyd gwybodaeth)
  • L/506/9423 – Cefnogi pobl ifanc ag anableddau ac anghenion dysgu ychwanegol mewn lleoliad Gwaith Ieuenctid (1.5 credyd gwybodaeth a 1.5 credyd cymhwysedd)
  • K/506/9235 – Goruchwyliaeth yng nghyd-destun Gwaith Ieuenctid (2 credyd wybodaeth a 2 gredyd cymhwysedd)

 Uned Ychwanegol:

  • L/504/6160 - Hawliau a chyfrifoldebau cyflogaeth (3 chredyd gwybodaeth)

 Mae'r Dystysgrif Lefel 3 mewn Ymarfer Gwaith Ieuenctid (Cymru) yn cynnwys unedau gorfodol a dewisol.

Dylai aseswyr roi arweiniad i brentisiaid er mwyn sicrhau eu bod yn dewis unedau dewisol sydd yn fwyaf addas i'w rôl, eu hanghenion a'u hamgylchiadau.

Mae cymhwysedd a gwybodaeth wedi'u cyfuno o fewn y cymhwyster hwn, ond bydd yn rhaid eu hasesu ar wahân.


Diwygiadau dogfennau

19 Tachwedd 2021