Skip to main content

Llwybr

Gwasanaethau Fferyllol

Cytunwyd ar gynnwys y llwybr hwn gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), mewn cydweithrediad â chyflogwyr yn y sector gofal iechyd. Dyma'r unig lwybr prentisiaeth mewn Gwasanaethau Fferyllol yn y sector gofal iechyd sydd wedi'i gymeradwyo i gael ei ddefnyddio yng Nghymru ac sy'n gymwys i gael cyllid gan Medr.

DYDDIAD CYHOEDDI: 01/08/2026 ACW Fframwaith Rhif. FR05115v2

Cynnwys y Rhaglen Ddysgu

Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:

  • Cymwysterau

  • Sgiliau Hanfodol

  • Hyfforddiant yn y gwaith/i ffwrdd o'r gwaith

Yr isafswm gwerth credyd a fydd yn ofynnol ar gyfer y Llwybr Lefel 2 mewn Gwasanaethau Fferyllol yw 43 credyd.

Yr isafswm gwerth credyd a fydd yn ofynnol ar gyfer y Llwybr Lefel 3 mewn Gwasanaethau Fferyllol yw 150 credyd.

Yr isafswm gwerth credyd a fydd yn ofynnol ar gyfer y Llwybr Lefel 4 mewn Gwasanaethau Fferyllol yw 120 credyd.

 

Gofynion mynediad

Bydd ymgeiswyr ar gyfer y brentisiaeth hon yn perthyn i wahanol grwpiau oedran, a byddant yn amrywio o ran 

cefndiroedd a phrofiad.

 

Fel canllaw, gall yr amrywiaeth o lwybrau mynediad i ymgeiswyr gynnwys:

  • gwaith
  • profiad gwaith
  • coleg
  • hyfforddiant a/neu brofiad a all gynnwys portffolio sy'n dangos yr hyn y maent wedi'i wneud

Mae'n bosibl y bydd ymgeiswyr eisoes wedi ennill amrywiaeth o gymwysterau, e.e:

  • Sgiliau Hanfodol Cymru
  • Cymwysterau TGAU
  • Cymhwyster Galwedigaethol Lefel 2 (BTEC) mewn Gwyddoniaeth
  • Bagloriaeth Cymru (nid oes modd trosglwyddo credydau ar hyn o bryd)
  • Bagloriaeth Cymru gyda chymwysterau Prif Ddysgu (nid oes modd trosglwyddo credydau ar hyn o bryd)

Nodweddion personol – bydd cyflogwyr yn chwilio am brentisiaid yn y sector iechyd sydd:

  • Yn dosturiol
  • Yn onest
  • Yn drefnus
  • Yn gydwybodol
  • Yn cadw cyfrinachedd
  • Yn dangos parch
  • Yn ddymunol

 

Byddant hefyd yn disgwyl iddynt:

 

  • Allu gweithio mewn tîm
  • Cyflawni eu dyletswyddau yn drylwyr
  • Dangos brwdfrydedd dros weithio yn y sector fferylliaeth
  • Meddu ar sgiliau llythrennedd, rhifedd a chyfathrebu digonol y bydd y brentisiaeth yn adeiladu arnynt
  • Meddu ar lefel addas o ffitrwydd corfforol i gyflawni rhai agweddau ar y rolau swydd
  • Bod yn fodlon cael gwiriadau gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
  • Bod yn hyblyg gan ei bod yn bosibl y bydd angen gweithio rotâu

 

Mae'n bosibl y bydd gan gyflogwyr unigol yn y sector iechyd ofynion mynediad ychwanegol ar gyfer cyflogaeth, e.e. byddai trwydded yrru gyfredol hefyd yn fanteisiol (ac yn angenrheidiol ar gyfer rhai rolau o bosibl).

 

 

Lefel 3 

Yn ychwanegol at yr uchod – rhaid bodloni'r gofynion mynediad a bennir gan y Cyngor Fferyllol Cyffredinol hefyd.

  • bodloni gofynion penodedig o ran y Saesneg 
  • bodloni gofynion penodedig o ran rhifedd 
  • gofynion academaidd eraill neu brofiad sy'n gyfwerth â chymwysterau cenedlaethol lefel 2 neu uwch
  • y gallu i ddangos gwybodaeth a dealltwriaeth ym maes gwyddoniaeth sy'n addas ar gyfer mynediad i'r cwrs, er enghraifft cymhwyster cenedlaethol lefel 2 neu uwch (megis TGAU Gwyddoniaeth â gradd A*-C, gradd 9-4, neu gymhwyster cyfatebol)
  • ystyriaeth i wiriadau cymeriad da (megis gwiriadau gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd neu wiriadau cyfatebol)
  • archwiliadau iechyd (gwybodaeth am gyflyrau a all effeithio ar ffitrwydd i ymarfer fel hyfforddai a sut y gellid rheoli cyflyrau o'r fath).

Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth

Lefel 2: Gwasanaethau Fferyllol

Lefel 2: Gwasanaethau Fferyllol Cymwysterau

Rhaid i gyfranogwyr ennill un o'r cymwysterau cyfunol isod.

Lefel 2 Tystysgrif mewn Egwyddorion ac Ymarfer ar gyfer Staff Cymorth Fferyllol
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
Pearson Edexcel C00/4170/6 603/6166/9 25 250 Cyfun Saesneg
Open Awards C00/4848/2 603/6809/3 36 360 Cyfun Saesneg

Gweler Atodiad 1 am y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfunol newydd.

Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)

Lefel 2: Gwasanaethau Fferyllol Lefel Isafswm Gwerth Credyd
Cyfathrebu 2 6
Cymhwyso Rhif 2 6
Llythrennedd Digidol 2 6

Cymraeg a Saesneg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru 

Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith

Llwybr Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith
Lefel 2: Gwasanaethau Fferyllol 150 280
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)

Yr amser cyfartalog ar gyfer cwblhau’r Llwybr hwn ar Lefel 2 yw 15 mis

Gwasanaethau Fferyllol - cyfanswm o 43 credyd.

Cymhwyster cyfunol – 25 credyd

Cymwysterau Sgiliau Hanfodol mewn Cyfathrebu, Cymhwyso Rhif a Llythrennedd Digidol – 18 credyd

Lefel 2: I fodloni gofynion y llwybr prentisiaeth hwn, bydd angen i brentis gwblhau cyfanswm o 430 o oriau hyfforddi yn y gwaith ac i ffwrdd o’r gwaith dros gyfartaledd o 12 a 15 mis.

Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
  • 6 chredyd/45 GLH Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/45 GLH Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/45 GLH Lefel 2 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru

Lefel 3: Gwasanaethau Fferyllol

Lefel 3: Gwasanaethau Fferyllol Cymwysterau

Rhaid i gyfranogwyr ennill un o'r cymwysterau cyfunol isod.

Lefel 3: Diploma mewn Egwyddorion ac Ymarfer ar gyfer Technegwyr Fferyllfa
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
Pearson Edexcel C00/3962/0 603/5160/3 132 1320 Cyfun Saesneg
Open Awards C00/4950/5 603/5153/6 132 1320 Cyfun Saesneg

Gweler Atodiad 2 am y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfunol.

Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)

Lefel 3: Gwasanaethau Fferyllol Lefel Isafswm Gwerth Credyd
Cyfathrebu 2 6
Cymhwyso Rhif 2 6
Llythrennedd Digidol 2 6

Cymraeg a Saesneg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru

Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith

Llwybr Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith
Lefel 3: Gwasanaethau Fferyllol 715 965
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)

Gwasanaethau Fferyllol - cyfanswm o 150 credyd.

Cymhwyster cyfunol – 132 credyd

Cymwysterau Sgiliau Hanfodol mewn Cyfathrebu, Cymhwyso Rhif a Llythrennedd Digidol – 18 credyd

Lefel 3: I fodloni gofynion y llwybr prentisiaeth hwn, bydd angen i brentis gwblhau cyfanswm o 1680 o oriau hyfforddi yn y gwaith ac i ffwrdd o’r gwaith dros 24 mis.

 

Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
  • 6 chredyd/45 GLH Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/45 GLH Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/45 GLH Lefel 2 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru

Lefel 4: Technegydd Fferyllfa

Lefel 4: Technegydd Fferyllfa Cymwysterau

Rhaid i gyfranogwyr ennill y cymhwyster cyfunol isod.

Lefel 4: Prentisiaeth Tystysgrif Addysg Uwch mewn Ymarfer Technegydd Fferyllfa
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
University of East Anglia N/A 120 1200 Cyfun Saesneg

Gweler Atodiad 3 am y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfunol.

Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)

Lefel 4: Technegydd Fferyllfa Lefel Isafswm Gwerth Credyd
Cyfathrebu 2 6
Cymhwyso Rhif 2 6
Llythrennedd Digidol 2 6

Cymraeg a Saesneg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru 

Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith

Llwybr Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith
Lefel 4: Technegydd Fferyllfa 600 600

 Gwasanaethau Fferyllol - cyfanswm o 138 credyd.

Cymhwyster cyfunol 120 credyd

Cymwysterau Sgiliau Hanfodol mewn Cyfathrebu, Cymhwyso Rhif a Llythrennedd Digidol – 18 credyd

Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
  • 6 chredyd/45 GLH Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/45 GLH Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/45 GLH Lefel 2 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru

Gofynion eraill ychwanegol

Dim

Rolau swydd

Teitl y swydd

Rôl y swydd

Staff

Cymorth

Fferyllfa

Dan oruchwyliaeth fferyllydd neu dechnegydd fferyllfa cofrestredig, bydd Staff Cymorth Fferyllfa yn helpu i werthu meddyginiaethau dros y cownter, rhoi gwybodaeth i gwsmeriaid am symptomau a chynhyrchion, derbyn a chasglu presgripsiynau, casglu eitemau ynghyd ar gyfer presgripsiynau ac archebu, derbyn a storio stoc fferyllol, yn ogystal â chyflawni sawl gweithgaredd arall o fewn fferyllfa.

Technegydd

Fferyllfa

Gweithwyr proffesiynol cofrestredig sy'n gweithio yn unol â'r safonau rheoleiddiol ar gyfer fferylliaeth a bennir gan y Cyngor Fferyllol Cyffredinol (Gorchymyn Fferylliaeth 2010) yw Technegwyr Fferyllfa.

Maent yn gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau gan optimeiddio cyfraniad meddyginiaethau at sicrhau bod gofal cleifion yn arwain at ganlyniadau a ddymunir sy'n seiliedig ar wybodaeth.

Mae Technegwyr Fferyllfa’n gweithio ym maes fferylliaeth gymunedol i fferyllfeydd annibynnol a nifer o gwmnïau fferylliaeth. Mae llawer ohonynt hefyd yn gweithio yn y gwasanaethau fferylliaeth ysbyty a gofal sylfaenol, a hynny o fewn byrddau iechyd lleol y GIG ac ysbytai preifat.

Caiff rhai Technegwyr Fferyllfa eu cyflogi yn y diwydiant fferyllol, yng Ngharchardai EF, mewn practisau meddygon teulu ac yn y lluoedd arfog. 

Mae amrywiaeth o rolau ar gael i Dechnegwyr Fferyllfa. Gall Technegwyr Fferyllfa weithio mewn meysydd fel clinigau, cartrefi nyrsio, gofal sylfaenol, rheoli meddyginiaethau, gweithgynhyrchu, rheoli ansawdd, hyfforddi staff, technoleg gwybodaeth, caffael nwyddau, treialon clinigol neu wasanaethau gwybodaeth am feddyginiaethau.

Rhagor o wybodaeth am addysg a hyfforddiant ar gyfer Technegwyr Fferyllfa

Rheolwr Gwasanaethau Fferyllol

Mae Rheolwyr Gwasanaethau Fferyllol yn goruchwylio gweithrediadau dyddiol adran fferyllol.  

Byddant yn cydgysylltu â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill er mwyn sicrhau gofal cleifion gan reoli staff dosbarthfa, rheoli stocrestrau a sicrhau cydymffurfiaeth gyfreithiol â deddfwriaeth meddyginiaethau hefyd ar yr un pryd.

Gallant weithio mewn lleoliadau cymunedol, ysbytai neu leoliadau corfforaethol.

 

Dilyniant

Lefel 2

Camu ymlaen i'r llwybr hwn

 

Gweler y Gofynion Mynediad.

 

Camu ymlaen o'r llwybr hwn

 

Mae'n bosibl y gall prentisiaid gamu ymlaen i'r Brentisiaeth Lefel 3 mewn Gwasanaethau Fferyllol ar ôl cwblhau'r Brentisiaeth Sylfaen Lefel 2 mewn Gwasanaethau Fferyllol, er mwyn camu ymlaen i fod yn Dechnegydd Fferyllfa.

Ni ddylid ystyried mai camu i fyny yn unig yw ystyr camu ymlaen. Mewn rhai achosion, mae'n bosibl y bydd camu ymlaen i rôl arall ar yr un lefel yn rhoi llawn cymaint o foddhad drwy gynnig cyfle i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth newydd.

Gall dysgwyr hefyd gamu ymlaen o'r llwybr hwn i gymwysterau pellach sy'n ymwneud yn benodol â chyd-destun eu maes gwaith. Mae amrywiaeth eang o gymwysterau ar gael i'w defnyddio yn y sector iechyd. Gall y rhain gynnwys cymwysterau pellach neu fathau eraill o addysg a hyfforddiant sy'n gysylltiedig â gwaith i gefnogi Datblygiad Proffesiynol Parhaus.

Anogir prentisiaid sy'n awyddus i gamu ymlaen i addysg uwch gwblhau cymwysterau TGAU mewn Saesneg a Mathemateg. Caiff cymwysterau TGAU eu cydnabod yn eang ym mhob rhan o'r sector addysg uwch, ac maent yn helpu i gamu ymlaen i raglenni israddedig ym maes gofal iechyd.

Gellir cael gwybodaeth fanylach a chyngor ynglŷn â gyrfaoedd yn y sector iechyd yn:

Gyrfaoedd GIG Cymru – AaGIC

 

 

Lefel 3

Camu ymlaen i'r llwybr hwn:

 

Gweler yr Amodau Mynediad. Mae'n bosibl y bydd rhai prentisiaid eisoes wedi cwblhau Prentisiaeth Lefel 2 mewn Gwasanaethau Fferyllol.

 

Camu ymlaen o'r llwybr hwn:

 

Ar ôl cwblhau'r llwybr hwn, gall dysgwyr gamu ymlaen i gymwysterau pellach sy'n ymwneud yn benodol â chyd-destun eu maes gwaith. Mae amrywiaeth eang o gymwysterau ar gael i'w defnyddio yn y sector iechyd. Gall y rhain gynnwys cymwysterau pellach, amrywiaeth o gymwysterau addysg uwch, neu fathau eraill o addysg a hyfforddiant sy'n gysylltiedig â gwaith i gefnogi Datblygiad Proffesiynol Parhaus.

Mae'n ofynnol i bob Technegydd Fferyllfa fodloni gofynion cofrestru'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol er mwyn ymarfer.

Ymhlith y gofynion mae:

  • ennill cymhwyster cymeradwy a gydnabyddir gan y Cyngor Fferyllol Cyffredinol 
  • cwblhau o leiaf ddwy flynedd o brofiad seiliedig ar waith perthnasol yn y DU dan oruchwyliaeth, cyfarwyddyd neu arweiniad fferyllydd neu dechnegydd fferyllfa gan fod yn uniongyrchol atebol i'r fferyllydd neu'r technegydd fferyllfa hwnnw am o leiaf 14 awr yr wythnos.

     

Mae'r fframwaith Lefel 3 yn rhoi hyfforddiant sydd wedi bod yn destun proses sicrhau ansawdd i gyrraedd y lefel cymhwysedd sy'n ofynnol gan y Cyngor Fferyllol Cyffredinol.

Bydd yn ofynnol i brentisiaid sy'n awyddus i gamu ymlaen i addysg uwch fodloni'r gofynion ar gyfer gwneud cais a bennir gan sefydliadau unigol.

Gellir cael gwybodaeth fanylach a chyngor ynglŷn â gyrfaoedd yn y sector iechyd yn: Gyrfaoedd GIG Cymru – AaGIC

 

 

Lefel 4

 

Bydd cwblhau'r rhaglen brentisiaeth yn galluogi unigolion i wneud cais i'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol am gael cofrestru fel Technegydd Fferyllfa. Mae Technegydd Fferyllfa yn deitl gwarchodedig ac, yn rhinwedd eu rôl fel gweithwyr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig, mae Technegwyr Fferyllfa yn arbenigwyr ym maes rheoli meddyginiaethau gan weithio yn yr holl sectorau ymarfer fferyllol (ysbytai, gofal sylfaenol, practisau meddygon teulu, fferylliaeth gymunedol a chyfleusterau gwasanaethau technegol). 

 

Mae'r rôl yn cynnwys cwblhau gwiriadau cywirdeb terfynol ar eitemau ar gyfer presgripsiynau, gweithgareddau ar wardiau gan gynnwys cwblhau hanes meddyginiaeth cleifion, optimeiddio meddyginiaethau a blaenoriaethu clinigol, arwain gwasanaethau megis rhoi'r gorau i smygu a rhoi brechiadau rhag y ffliw, cynnal clinigau e.e. iechyd meddwl, caffael, gofal cartref, rheoli timau ac arwain ar ddarparu gwasanaethau.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae'n bwysig bod llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos camau pendant i ganfod a dileu rhwystrau sy'n atal pobl rhag cael mynediad a chamu ymlaen. Dylai llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng personau sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig a phersonau nad ydynt yn eu rhannu, fel y'u diffinnir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

 

Y nodweddion gwarchodedig a nodir yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond mewn perthynas â'r gofyniad i ddileu gwahaniaethu mewn cyflogaeth.

 

RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr o ran mynediad i'r diwydiant ar sail y naw nodwedd warchodedig hynny.

 

Ceir anghydbwysedd o ran rhywedd yn y sector iechyd, sydd â gweithlu benywaidd yn bennaf. Mae pob swydd ar agor i ddynion a menywod, a chânt eu hysbysebu felly. Caiff modelau rôl gwrywaidd eu hyrwyddo mewn modd cadarnhaol drwy ddeunyddiau marchnata, ffotograffau ac astudiaethau achos. Fodd bynnag, erys canfyddiad bod rhai rolau wedi'u bwriadu ar gyfer menywod, a gall hyn anghymell rhai dynion rhag gwneud cais am y swyddi hyn. 

 

Gall cyflogwyr ddylunio rhaglenni prentisiaeth lleol er mwyn annog mwy o ddynion i wneud cais am y rolau hyn ac ymuno â'r gweithlu.  Ar gyfer pob prentisiaeth ym maes iechyd, anogir recriwtio'n lleol er mwyn adlewyrchu'r gymuned leol.

 

Yr hyn sydd yr un mor bwysig â hynny yw ei bod yn rhaid i ni gynyddu niferoedd y siaradwyr Cymraeg ym maes gofal iechyd a gwella mynediad at wasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd hyn yn bodloni disgwyliad y Llywodraeth yn Mwy na Geiriau a'r Cynnig Rhagweithiol, sy'n golygu y bydd pobl yn cael cynnig cymorth, ac yn gallu cael y cymorth hwnnw, drwy gyfrwng y Gymraeg os byddant yn dymuno hynny. 

 

Hefyd, mae'n bosibl y bydd prentisiaid sy'n dilyn y llwybr hwn yn oedolion sy'n ddysgwyr ac sydd wedi bod allan o fyd addysg am gyfnod sylweddol.  Felly, mae'n bwysig bod gan y darparwr addysg/hyfforddiant sy'n cynnig y llwybr hwn systemau cymorth i alluogi dysgwyr i gyflawni hyd eithaf eu potensial a sicrhau y caiff eu hanghenion addysgol eu diwallu drwy ddatblygu rhaglen ddysgu wedi'i phersonoli.  Bydd yn rhaid i brentisiaid gofal iechyd sy'n dilyn y llwybr hwn gael gwybod am yr holl wasanaethau cymorth i ddysgwyr sydd ar gael iddynt.

Dylai'r broses ar gyfer recriwtio prentisiaid i'r rhaglen fod yn un agored sydd ar gael i bawb sy'n bodloni'r meini prawf dethol, waeth beth fo'u rhywedd, eu tarddiad ethnig, eu crefydd/cred, eu cyfeiriadedd rhywiol neu eu hanabledd. Rhaid i gyflogwyr/darparwyr allu dangos nad oes ganddynt arferion gwahaniaethol agored na chudd ym meysydd dethol a chyflogaeth. 

 

Rhaid i'r holl weithgareddau hyrwyddo, dethol a hyfforddi gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol ganlynol megis: 

Deddf Cydraddoldeb 2010 

Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 

Deddf Safonau Gofal 2000 

Deddf Diogelu Data 1998 

Deddf Hawliau Cyflogaeth 1996 

Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 

Deddf Hawliau Dynol 1998 

Deddf Datgelu er Lles y Cyhoedd 1998 (Siarter Chwythu'r Chwiban) 

Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974-1986 

Deddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw (Diwygio) 1976 

Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018

 

Argymhellir y dylai cyflogwyr/darparwyr gynnal cyfweliad ymadael os bydd prentis yn gadael rhaglen cyn ei chwblhau. Yn ystod cyfweliad ymadael dysgwyr, argymhellir y dylid casglu gwybodaeth am ddysgwyr sy'n gadael y rhaglen cyn ei chwblhau, a'i defnyddio i gefnogi'r dysgwyr hynny a datblygu'r ddarpariaeth lle bo angen.

Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)

Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth yn orfodol mwyach.  Fodd bynnag, argymhellir y dylai pob prentis (yn enwedig yn y grŵp oedran 16-18 oed) gael rhaglen sefydlu gan gwmni.

Cyfrifoldebau

Cyfrifoldeb y Darparwr Hyfforddiant a'r Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu cyflawni’n unol â Chanllawiau Llywodraeth Cymru/Medr ar Brentisiaethau.

Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Medr

 

Atodiad 1 Lefel 2 - Tystysgrif mewn Gwasanaethau Fferyllol

Bydd angen i ddysgwyr fodloni gofynion naill ai

  • Pearson Lefel 2 – Tystysgrif mewn Egwyddorion ac Ymarfer ar gyfer Staff Cymorth Fferyllfa cyn y bydd modd dyfarnu'r cymhwyster a chyflawni'r llwybr. Cymhwyster gwybodaeth a chymhwysedd cyfunol yw hwn, ac mae Cymwysterau Cymru wedi ei ddynodi i gael ei ddefnyddio yng Nghymru.

Rhif Cymeradwyo/Dynodi Cymwysterau Cymru: C00/4170/6 Cyfanswm credydau gofynnol: 25

Cyfanswm amser y cymhwyster: 250 awr

https://qualifications.pearson.com/en/qualifications/btec-specialist-and-professional-qualifications/health-optical-and-pharmacy/btec-specialist-principles-and-practice-for-pharmacy-support-staff-l2.html

neu

  • Gwobrau Agored Lefel 2 – Tystysgrif mewn Egwyddorion ac Ymarfer ar gyfer Staff Cymorth Fferyllfa cyn y bydd modd dyfarnu'r cymhwyster a chyflawni'r llwybr. Cymhwyster gwybodaeth a chymhwysedd cyfunol yw hwn, ac mae Cymwysterau Cymru wedi ei ddynodi i gael ei ddefnyddio yng Nghymru.

Rhif Cymeradwyo/Dynodi Cymwysterau Cymru: C00/4848/2 Cyfanswm credydau gofynnol: 36

Cyfanswm amser y cymhwyster: 360 awr

Gwobrau Agored | Tystysgrif Lefel 2 Gwobrau Agored mewn Egwyddorion ac Ymarfer ar gyfer Staff Cymorth Fferyllol (Llwybr Prentisiaeth) (RQF) – Gwobrau Agored

 

Atodiad 2 Lefel 3 - Diploma mewn Egwyddorion ac Ymarfer ar gyfer Technegwyr Fferyllfa

Bydd angen i ddysgwyr fodloni gofynion naill ai

  • Pearson Lefel 3 – Diploma mewn Egwyddorion ac Ymarfer ar gyfer Technegwyr Fferyllfa cyn y bydd modd dyfarnu'r cymhwyster a chyflawni'r llwybr. Cymhwyster gwybodaeth a chymhwysedd cyfunol yw hwn, ac mae Cymwysterau Cymru wedi ei ddynodi i gael ei ddefnyddio yng Nghymru.

Rhif Cymeradwyo/Dynodi Cymwysterau Cymru: C00/3962/0 Cyfanswm credydau gofynnol: 132

Cyfanswm amser y cymhwyster: 1320 awr

BTEC Specialist | Principles and Practice for Pharmacy Technicians (L3) | Pearson qualifications

neu

  • Gwobrau Agored Lefel 3 – Diploma mewn Egwyddorion ac Ymarfer ar gyfer Technegwyr Fferyllfa cyn y bydd modd dyfarnu'r cymhwyster a chyflawni'r llwybr. Cymhwyster gwybodaeth a chymhwysedd cyfunol yw hwn, ac mae Cymwysterau Cymru wedi ei ddynodi i gael ei ddefnyddio yng Nghymru.

Rhif Cymeradwyo/Dynodi Cymwysterau Cymru: C00/4950/5 Cyfanswm credydau gofynnol: 132

Cyfanswm amser y cymhwyster: 1320 awr

Gwobrau Agored | Diploma Lefel 3 Gwobrau Agored mewn Egwyddorion ac Ymarfer ar gyfer Technegwyr Fferyllfa (Cymru) – Gwobrau Agored

Annex 3 - Lefel 4: Tystysgrif Addysg Uwch mewn Ymarfer Technegydd Fferyllfa

Bydd angen i ddysgwyr fodloni gofynion y Dystysgrif Addysg Uwch Lefel 4 ar gyfer Ymarfer Fferyllol cyn y bydd modd dyfarnu'r cymhwyster a chyflawni'r llwybr. Cymhwyster gwybodaeth a chymhwysedd cyfunol yw hwn.

 

Cyfanswm credydau gofynnol: 120

Cyfanswm amser y cymhwyster: 1200 awr

Technegydd fferyllfa – AaGIC

 

 


Diwygiadau dogfennau

23 Medi 2021  
06 Awst 2025 - By Roland Danter   C00/4153/8 NCFE L3 qual removed (TDA date 31-10-2023 expired)
02 Hydref 2026 - By Nicola Beasley   Pathway revision including ESW levels revised