Skip to main content

Pathway summary

Y Cyfryngau Cymdeithasol a Marchnata Digidol

Framework:
Y Cyfryngau Cymdeithasol a Marchnata Digidol
Lefel:
3/4

Os ydych am ddilyn gyrfa yn y diwydiant cyfryngau cymdeithasol a marchnata digidol yna bydd y brentisiaeth hon yn eich rhoi ar y trywydd iawn.   

Yn ystod y brentisiaeth byddwch yn cael yr wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer gweithio ym maes cyfryngau cymdeithasol a marchnata digidol mewn lleoliad busnes.

Byddwch hefyd yn dysgu sgiliau trosglwyddadwy gwerthfawr fel cyfathrebu, gweithio mewn tîm, sgiliau rhyngbersonol a’r gallu i fyfyrio ar ddysgu personol.

Gall tasgau gynnwys creu ac optimeiddio cynnwys ar gyfer y we, defnyddio cyfryngau digidol a chyfryngau cymdeithasol ar gyfer ymgyrchoedd marchnata, optimeiddio geiriau allweddol, rheoli cynnwys a chreu gwefannau. 

Mae cyflogwyr yn ceisio denu ymgeiswyr sydd â diddordeb brwd mewn cyfryngau cymdeithasol a marchnata digidol, ac yn disgwyl i ymgeiswyr feddu ar agwedd gadarnhaol o ran gwaith, ynghyd â sgiliau rhifedd, llythrennedd a TG sylfaenol.

Pathway options and levels

Cyfryngau Cymdeithasol a Marchnata Digidol – Lefel 3

Llwybr 1: Cefnogi rôl Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol Cynorthwyol, Ymgynghorydd Cyfryngau Cymdeithasol, Dadansoddwr Cyfryngau Cymdeithasol, Swyddog Cyfrif Digidol Cynorthwyol, Swyddog Marchnata Digidol Cynorthwyol, Swyddog Cyfathrebu Digidol a Swyddog Ymgysylltu Cymunedol.

Llwybr 2: Cefnogi rôl Swyddog Optimeiddio Peiriannau Chwilio Cynorthwyol, Swyddog Caffael Cynorthwyol, Swyddog Ymgyrchoedd E-bost Cynorthwyol, Cydlynydd Marchnata Ar-lein, Swyddog Marchnata Chwilio Cynorthwyol, Swyddog Marchnata Cynnwys Cynorthwyol, Swyddog Dylunio Gwefannau Cynorthwyol, Swyddog Cynhyrchu Fideos Marchnata Cynorthwyol, Rheolwyr Cynnwys Gwefannau, Swyddog e-Fasnach Cynorthwyol, Swyddog Marchnata Arddangos Cynorthwyol a Swyddog Marchnata Symudol Cynorthwyol.

Cyfryngau Cymdeithasol a Marchnata Digidol – Lefel 4

Llwybr 1: Cefnogi rôl Rheolwr Marchnata Digidol (hysbysebion/ymgyrchoedd), Dadansoddwr Marchnata Digidol, Rheolwr Marchnata e-Fasnach, Rheolwr/Swyddog Gweithredol Marchnata Chwilio, Rheolwr Marchnata Cyfryngau Cymdeithasol, Rheolwr Caffael, Rheolwr Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid, Rheolwr Ymgyrchoedd E-bost, Rheolwr Ymgyrchoedd Digidol i Godi Arian, Rheolwr Marchnata Symudol, Dylunydd Gwefannau, Rheolwr Marchnata Fideo Sianeli Ar-lein, Cyfarwyddwr Fideos Marchnata, a Rheolwr / Cyfarwyddwr Marchnata Digidol (rôl 360 gradd).

Further information

Duration

Lefel 3: 18-24 mis

Lefel 4: 18-24 mis

Progression routes

Lefel 3: Mae llwybrau’n cynnwys

  • Uwch Brentisiaethau Lefel 4
  • Addysg bellach neu addysg uwch gan gynnwys Cymwysterau Uwch Lefel 4, Graddau Sylfaen a Graddau Llawn.

Lefel 4: Mae llwybrau’n cynnwys:

  • Cyflogaeth yn seiliedig ar yr unedau a ddilynir a’r yrfa a ddewisir
  • Cymwysterau lefel uwch
  • Addysg uwch, Graddau Sylfaen neu Raddau Llawn.

Cymwysterau

Lefel 3: Diploma mewn Cyfryngau Cymdeithasol ar gyfer Busnes

Lefel 4: Diploma mewn Marchnata Digidol

What are the entry requirements for this pathway?

All apprenticeship pathways in Wales have entry requirements.
If you are interested in undertaking this pathway – you need to have the following entry level qualification(s);

Lefel 3

Lefel 3:  Does dim gofynion mynediad penodol. Mae cymwysterau a phrofiad a fydd o gymorth i ddysgwyr ddeall y sector cyn dechrau:

  • Cyflawni Prentisiaeth Sylfaenol Lefel 2 Arbenigwr Cymwysiadau TG
  • Gweithwyr Proffesiynol ym meysydd meddalwedd TG, y we a thelathrebu
  • Marchnata
  • Busnes a Gweinyddu
  • Dyfarniadau, Tystysgrifau neu Ddiplomâu y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau
  • TGAU neu Safon Uwch

Lefel 4

Lefel 4: Does dim gofynion mynediad ond byddai’n fantais i ymgeiswyr fod â phrofiad o’r diwydiant neu fod wedi cwblhau Prentisiaeth mewn Cyfryngau Cymdeithasol a Marchnata Digidol (Cymru) yn llwyddiannus.

View full pathway

Document revisions

19 Tachwedd 2021