Mae Instructus wedi cytuno ar gynnwys y Llwybr hwn. Dyma'r unig Lwybr Prentisiaeth yn y sector Gwasanaethau Eiddo a gymeradwywyd i'w ddefnyddio yng Nghymru sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan Medr.
DYDDIAD CYHOEDDI: 01/08/2023 ACW Fframwaith Rhif. FR05031v2
Cynnwys y Rhaglen Ddysgu
Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:
- Cymwysterau,
- Sgiliau Hanfodol
- Hyfforddiant yn y gwaith/i ffwrdd o'r gwaith
51 credyd yw’r isafswm credydau gofynnol ar gyfer y Llwybr Lefel 3 mewn Tai.
73 credyd yw’r isafswm credydau gofynnol ar gyfer y Llwybr Lefel 4 mewn Tai.
Gofynion mynediad
Mae cyflogwyr yn ceisio denu ymgeiswyr o amrywiaeth eang o gefndiroedd a gyda gwahanol brofiadau. Efallai y bydd rhai ohonynt wedi cael profiad blaenorol yn y sector, naill ai gyda thâl neu’n ddi-dâl.
Bydd disgwyl i’r ymgeiswyr fod â sgiliau llythrennedd a rhifedd sylfaenol y bydd y brentisiaeth hon yn adeiladu arnynt, a bod yn barod i weithio fel rhan o dîm, cydnabod a gwerthfawrogi amrywiaeth a chyfathrebu ag amrywiaeth eang o gwsmeriaid.
Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth
Lefel 3: Tai
Lefel 3: Tai Cymwysterau
Rhaid i ddysgwyr gyflawni un o’r cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth isod.
| Tystysgrif Lefel 3 mewn Tai | |||||
|---|---|---|---|---|---|
| Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
| City & Guilds | C00/0108/6 | 29 | 290 | Cymhwysedd | Saesneg yn unig |
| Tystysgrif Lefel 3 mewn Arferion Tai | |||||
|---|---|---|---|---|---|
| Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
| Y Sefydliad Tai Siartredig | C00/1208/4 603/1113/7 | 26 | 26 | Gwybodaeth | Saesneg yn Unig |
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
| Lefel 3: Tai | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
|---|---|---|
| Cyfathrebu | 2 | 6 |
| Cymhwyso Rhif | 2 | 6 |
Saesneg-Cymraeg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru.
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
| Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
|---|---|---|
| Lefel 3: Tai | 195 | 150 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
Tai (Lefel 3) – isafswm o 51 credyd/345 awr
26 credyd ar gyfer Cymhwysedd
Isafswm o 13 credyd ar gyfer Gwybodaeth
12 credyd ar gyfer Sgiliau Hanfodol Cymru
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
Lefel 4: Tai
Lefel 4: Tai Cymwysterau
Rhaid i ddysgwyr gyflawni un o’r cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth isod.
| Tystysgrif Lefel 4 mewn Tai | |||||
|---|---|---|---|---|---|
| Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
| Chartered Institute of Housing | C00/5079/4 610/4695 | 36 | 360 | Cymhwysedd | Saesneg - Cymraeg |
| CIH | C00/0760/9 601/8136/9 | 36 | 360 | Cyfun | English/Welsh |
| Diploma Lefel 4 mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth | |||||
|---|---|---|---|---|---|
| Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
| City & Guilds | C00/0497/7 600/5931/X | 37 | 370 | Gwybodaeth | Saesneg - Cymraeg |
| Level 4 NVQ Diploma in Management | |||||
|---|---|---|---|---|---|
| Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
| City & Guilds | C00/0631/0 601/3247/4 | 53 | 530 | Gwybodaeth | English-Welsh |
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
| Lefel 4: Tai | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
|---|---|---|
| Cyfathrebu | 2 | 6 |
| Cymhwyso Rhif | 2 | 6 |
Saesneg-Cymraeg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru.
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
| Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
|---|---|---|
| Lefel 4: Tai | 270 | 90 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
Tai (Lefel 4) – isafswm o 73 credyd/730 awr
36 credyd ar gyfer Cymhwysedd
Isafswm o 37 credyd ar gyfer Gwybodaeth
12 credyd ar gyfer Saesneg a Mathemateg Sgiliau Hanfodol Cymru
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 1 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 1 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
Gofynion eraill ychwanegol
Dim
Dilyniant
Lefel 3: Tai
Dilyniant i’r Brentisiaeth Lefel 3 hon
- Prentisiaeth sylfaen mewn Tai, Gweinyddu Busnes neu Wasanaethau i Gwsmeriaid
- Profiad blaenorol neu waith gwirfoddol yn y sector Tai
- Bagloriaeth Cymru mewn Gwasanaethau Cyhoeddus
Dilyniant o’r brentisiaeth hon
- Tystysgrif/Diploma Lefel 4 mewn Arferion Tai y Sefydliad Tai Siartredig
- Aelodaeth o’r sefydliad proffesiynol, y Sefydliad Tai Siartredig (CIH)
- Symud ymlaen i rolau Rheoli o fewn y sector
- HND a gradd Sylfaen mewn Tai
Lefel 4: Tai
Dilyniant o’r brentisiaeth hon
Aelodaeth o’r sefydliad proffesiynol, y Sefydliad Tai Siartredig (CIH)
Symud ymlaen i rolau Rheoli o fewn y sector
HND a gradd Sylfaen mewn Tai
Ar ôl cwblhau’r brentisiaeth, gall prentisiaid ddod yn aelodau o’r Sefydliad Tai Siartredig fel aelodau sy’n ymarferwyr.
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos dull gweithredol o nodi a chael gwared ar ffactorau sy'n atal mynediad a chynnydd. Dylai Llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion sydd â nodweddion gwarchodedig a'r rhai heb y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Y nodweddion gwarchodedig a nodir yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared ar wahaniaethu mewn cyflogaeth.
RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau nad ydyn nhw'n gwahaniaethu yn erbyn ymgeiswyr o ran mynediad i'r diwydiant ar sail y naw nodwedd warchodedig hynny.
Mae mwy o fenywod yn gweithio yng ngweithlu’r sector Tai yng Nghymru (63%), ac mae’r rhan fwyaf o’r gweithlu’n gweithio amser llawn (87%). Yng Nghymru, mae 67% o’r gweithlu rhwng 25 a 54 oed, gyda 5% rhwng 16 a 24 oed. Mae gan 7.8% o’r gweithlu anabledd. Hoffai’r sector annog rhagor o bobl ifanc a dynion i wneud cais am swyddi o fewn y sector.
Mae’r rhesymau tebygol dros yr anghydbwysedd hwn yn cynnwys:
- Pobl ifanc nad ydynt yn ymwybodol o yrfaoedd o fewn y sector. Nid yw nifer o bobl yn cynllunio gyrfa mewn tai ond yn hytrach maent yn dueddol o ymuno â’r sector ar ddamwain.
- Mae rhagdybiaeth bod y cyfleoedd gyrfaol yn gyfyngedig.
Mae Instructus Skills yn cymryd y camau canlynol i fynd i’r afael â’r problemau amrywiaeth yn y gweithlu:
- Codi ymwybyddiaeth mewn ysgolion am y sector Tai fel gyrfa drwy weithio gyda chynghorwyr gyrfaoedd
- Gweithio gyda sefydliadau proffesiynol i hyrwyddo’r sector
- Defnyddio lluniau nad ydynt yn cydymffurfio â stereoteipiau ar y wefan yrfaoedd ac mewn deunyddiau gyrfaoedd
- Astudiaethau achos yn dangos prentisiaid o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.
Mae prentisiaethau’n cael eu hystyried fel llwybr hanfodol i annog, a hwyluso, mwy o amrywiaeth o unigolion i ymuno â’r diwydiant. Mae cyflogwyr Tai yn dueddol o recriwtio prentisiaid o’u cymunedau lleol, gan wella cynhwysiant cymdeithasol.
Anogir cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant i gynnig cymorth a mentora ychwanegol i sicrhau bod prentisiaid yn cwblhau eu hyfforddiant.
Bydd Instructus Skills yn monitro’r nifer sy’n dechrau ar unrhyw Brentisiaethau ac yn eu cyflawni drwy’r grŵp Cyflogwyr Cymru ac yn parhau i gymryd camau i fynd i’r afael ag unrhyw rwystrau i gofrestru ar gyfer a chyflawni’r Prentisiaethau fel rhan o’n Strategaeth ar Gymwysterau’r Sector.
Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)
Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach. Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn dilyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.
Cyfrifoldebau
Cyfrifoldeb y Darparwr Hyfforddiant a'r Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu cyflawni’n unol â Chanllawiau Llywodraeth Cymru/Medr ar Brentisiaethau.
Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Medr