Mae Lantra wedi cytuno ar gynnwys y Llwybrau hyn. Dyma'r unig Lwybrau prentisiaeth yn y sector Amaeth a'r Amgylchedd a gymeradwywyd i'w defnyddio yng Nghymru sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan Medr.
DYDDIAD CYHOEDDI: 05/10/2016 ACW Fframwaith Rhif. FR03959
Cynnwys y Rhaglen Ddysgu
Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:
- Cymwysterau,
- Sgiliau Hanfodol
- Hyfforddiant yn y gwaith/i ffwrdd o'r gwaith
69 credyd yw'r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Lefel 2 Blodeuwriaeth.
90 credyd yw'r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Lefel 3 Blodeuwriaeth.
Gofynion mynediad
Lefel 2: Blodeuwriaeth
Nid oes unrhyw ofynion mynediad penodol ar gyfer Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 mewn Blodeuwriaeth, ond ceir cymwysterau neu brofiad a fydd yn helpu dysgwyr i ddeall y sector cyn cychwyn:
- Diploma Sylfaen mewn Sgiliau Tir a'r Amgylchedd
- Dyfarniad Lefel 1 mewn Sgiliau Blodeuwriaeth Ymarferol
- Tystysgrif Lefel 1 mewn Blodeuwriaeth Ragarweiniol
- Dyfarniad Lefel 1 mewn Blodeuwriaeth Grefft Greadigol
- Diploma Lefel 1 mewn Blodeuwriaeth
- Profiad o wirfoddoli yn y diwydiant blodeuwriaeth
- Wedi gweithio yn y diwydiant yn y gorffennol, neu'n gweithio ynddo ar hyn o bryd
- TGAU/Safon Uwch
Ceir cyfleoedd am ddilyniant i'r Brentisiaeth Sylfaen Blodeuwriaeth hefyd i ddysgwyr sy'n oedolion a chanddynt brofiad o'r diwydiant Blodeuwriaeth, neu sy'n ystyried newid gyrfa.
Lefel 3: Blodeuwriaeth
Mae'r diwydiant blodeuwriaeth am i'r gofynion mynediad ar gyfer y Brentisiaeth mewn Blodeuwriaeth fod yn hyblyg, ac felly wedi awgrymu y dylid cwblhau un o'r canlynol:
- NVQ Lefel 2 mewn Blodeuwriaeth
- Diploma Lefel 2 mewn Blodeuwriaeth seiliedig ar Waith
- Tystysgrif Lefel 2 mewn Blodeuwriaeth
- Diploma Lefel 2 mewn Blodeuwriaeth
- Tystysgrif Estynedig Lefel 2 mewn Blodeuwriaeth
- Profiad ymarferol o fewn y diwydiant blodeuwriaeth
- 3 TGAU (A*-C) / Safon Uwch.
Dysgwyr sydd wedi cwblhau Bagloriaeth Cymru neu Lwybrau i Brentisiaethau Efallai y byddant wedi cwblhau unedau neu gyrsiau byr a fydd yn cynnwys gwybodaeth danategol tuag at y Brentisiaeth.
Bydd hyn yn cael ei asesu yn ystod asesiad cychwynnol, gan ganiatáu Cydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol lle bo'n briodol.
Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth
Lefel 2: Blodeuwriaeth
Lefel 2: Blodeuwriaeth Cymwysterau
Mae'n rhaid i'r cyfranogwyr ennill un o'r cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth a ganlyn
| Lefel 2 Diploma mewn Blodeuwriaeth seiliedig ar Waith | |||||
|---|---|---|---|---|---|
| Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
| City & Guilds | C00/0200/2 500/8317/X | 47 | 470 | Gwybodaeth | Saesneg yn Unig |
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
| Lefel 2: Blodeuwriaeth | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
|---|---|---|
| Cyfathrebu | 1 | 6 |
| Cymhwyso Rhif | 1 | 6 |
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
| Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
|---|---|---|
| Lefel 2: Blodeuwriaeth | 435 | 150 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
47 credyd ar gyfer cymhwysedd a gwybodaeth - Diploma Lefel 2 mewn Blodeuwriaeth
Cyfanswm yr oriau dysgu sy'n cynnwys hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith ar gyfer y Brentisiaeth Sylfaen mewn Blodeuwriaeth yw 585 o oriau dros gyfnod o 18 mis.
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 1 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
6 credyd/45 GLH ar gyfer Lefel 1 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
Lefel 3: Blodeuwriaeth
Lefel 3: Blodeuwriaeth Cymwysterau
Mae'n rhaid i'r cyfranogwyr ennill un o'r cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth a ganlyn:
| Lefel 3 Diploma mewn Blodeuwriaeth seiliedig ar Waith | |||||
|---|---|---|---|---|---|
| Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
| City & Guilds/NPTC | C00/0981/5 500/9049/5 | 68 | 680 | Gwybodaeth | Saesneg yn Unig |
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
| Lefel 3: Blodeuwriaeth | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
|---|---|---|
| Cyfathrebu | 2 | 6 |
| Cymhwyso Rhif | 2 | 6 |
| Llythrennedd Digidol | 2 | 7 |
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
| Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
|---|---|---|
| Lefel 3: Blodeuwriaeth | 514 | 200 |
Diffinnir hyfforddiant yn y gwaith fel sgiliau, gwybodaeth a chymhwysedd a enillir o fewn dyletswyddau gwaith arferol. Hyfforddiant ydyw sy’n annog ac yn galluogi’r prentis i ddangos sgiliau ymarferol sy’n gysylltiedig â’r swydd ac ymarfer a chymhwyso’r sgiliau hyn yng nghyd-destun y swydd. Bydd y math yma o ddysgu’n cael ei ddarparu yn y gweithle a thrwy brofiad ymarferol o wneud y swydd.
Diffinnir hyfforddiant i ffwrdd o’r gwaith fel gweithgareddau dysgu i ffwrdd o’r dyletswyddau gwaith arferol. Hyfforddiant ydyw sy’n annog ac yn galluogi’r prentis i ddatblygu sgiliau technegol y swydd a datblygu eu gwybodaeth am gysyniadau damcaniaethol ar draws ystod o gyd-destunau a’r farchnad ehangach. Bydd y math yma o ddysgu’n cael ei ddarparu i ffwrdd oddi wrth bwysau uniongyrchol y swydd. Gall gael ei ddarparu yn y gweithle, mewn coleg neu ar safle darparwr hyfforddiant.
Argymhellir bod maint yr hyfforddiant i ffwrdd o’r gwaith yn cyfateb i oddeutu 20% o weithgareddau gwaith. Yn seiliedig ar 1615 o oriau gwaith amser llawn blynyddol, tua 323 o oriau’r flwyddyn fydd hyn.
Gan bod hyd y Brentisiaeth Sylfaen Lefel 2 yn 18 mis byddai hyn yn rhoi cyfanswm o 484 o oriau ar gyfer y brentisiaeth yn ei chyfanrwydd. Gall yr oriau hyn amrywio gan ddibynnu ar brofiad a chyrhaeddiad blaenorol y prentis, a’r amser a gymer i gwblhau’r rhaglen brentisiaeth.
Rhaid i hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o’r gwaith gael ei gofnodi mewn dyddiadur, gweithlyfr, portffolio, cofnodion presenoldeb neu systemau ar-lein. Mae angen i’r dystiolaeth hon gael ei gwirio a’i llofnodi gan yr aseswr a’r cyflogwr.
Dylai hyfforddiant:
Gael ei gynllunio, ei adolygu a’i werthuso ar y cyd rhwng y prentis a thiwtor, athro/athrawes, mentor neu reolwr
Caniatáu mynediad yn ôl y gofyn gan y prentis at diwtor, athro/athrawes, mentor neu reolwr
Cael ei ddarparu yn ystod oriau gwaith dan gontract
Cael ei ddarparu trwy un neu fwy nag un o’r dulliau canlynol: addysgu unigol a grŵp, e-ddysgu, dysgu o bell, cymell, mentora, adborth ac asesu, dysgu cydweithredol/rhwydweithiol gyda chymheiriaid, astudio dan arweiniad.
Hyfforddiant Yn y Gwaith/I Ffwrdd o’r Gwaith
| Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddiant Yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddiant I Ffwrdd o’r Gwaith |
| Lefel 2: Blodeuwriaeth | Yn seiliedig ar oriau gwaith amser llawn blynyddol: 1292 y flwyddyn | Argymhellir 20%, yn seiliedig ar oriau gwaith amser llawn blynyddol: 323 y flwyddyn |
Manylion Cymwysterau I Ffwrdd o’r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
47 o gredydau/570 o oriau TQT ar gyfer y cymhwyster cyfunol gan gynnwys yr Uned Ddewisol Orfodol (211) ar ddyluniadau priodasau.
Manylion Sgiliau Hanfodol I Ffwrdd o’r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
6 chredyd/60 TQT ar gyfer Lefel 1 Sgiliau Hanfodol Cymru Cyfathrebu
6 chredyd/60 TQT ar gyfer Lefel 1 Sgiliau Hanfodol Cymru Cymhwyso Rhif
Hyfforddiant Yn y Gwaith/I Ffwrdd o’r Gwaith
Diffinnir hyfforddiant yn y gwaith fel sgiliau, gwybodaeth a chymhwysedd a enillir o fewn dyletswyddau gwaith arferol. Hyfforddiant ydyw sy’n annog ac yn galluogi’r prentis i ddangos sgiliau ymarferol sy’n gysylltiedig â’r swydd ac ymarfer a chymhwyso’r sgiliau hyn yng nghyd-destun y swydd. Bydd y math yma o ddysgu’n cael ei ddarparu yn y gweithle a thrwy brofiad ymarferol o wneud y swydd.
Diffinnir hyfforddiant i ffwrdd o’r gwaith fel gweithgareddau dysgu i ffwrdd o’r dyletswyddau gwaith arferol. Hyfforddiant ydyw sy’n annog ac yn galluogi’r prentis i ddatblygu sgiliau technegol y swydd a datblygu eu gwybodaeth am gysyniadau damcaniaethol ar draws ystod o gyd-destunau a’r farchnad ehangach. Bydd y math yma o ddysgu’n cael ei ddarparu i ffwrdd oddi wrth bwysau uniongyrchol y swydd. Gall gael ei ddarparu yn y gweithle, mewn coleg neu ar safle darparwr hyfforddiant.
Argymhellir bod maint yr hyfforddiant i ffwrdd o’r gwaith yn cyfateb i tua 20% o weithgareddau gwaith. Yn seiliedig ar 1615 o oriau gwaith amser llawn blynyddol, tua 323 o oriau’r flwyddyn fydd hyn.
Gan bod hyd y Brentisiaeth Lefel 3 yn 24 mis byddai hyn yn rhoi cyfanswm o 646 o oriau ar gyfer y brentisiaeth yn ei chyfanrwydd. Gall yr oriau hyn amrywio gan ddibynnu ar brofiad a chyrhaeddiad blaenorol y prentis, a’r amser a gymer i gwblhau’r rhaglen brentisiaeth.
Rhaid i hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o’r gwaith gael ei gofnodi mewn dyddiadur, gweithlyfr, portffolio, cofnodion presenoldeb neu systemau ar-lein. Mae angen i’r dystiolaeth hon gael ei gwirio a’i llofnodi gan yr aseswr a’r cyflogwr.
Dylai hyfforddiant:
Gael ei gynllunio, ei adolygu a’i werthuso ar y cyd rhwng y prentis a thiwtor, athro/athrawes, mentor neu reolwr
Caniatáu mynediad yn ôl y gofyn gan y prentis at diwtor, athro/athrawes, mentor neu reolwr
Cael ei ddarparu yn ystod oriau gwaith dan gontract
Cael ei ddarparu trwy un neu fwy nag un o’r dulliau canlynol: addysgu unigol a grŵp, e-ddysgu, dysgu o bell, cymell, mentora, adborth ac asesu, dysgu cydweithredol/rhwydweithiol gyda chymheiriaid, astudio dan arweiniad.
Hyfforddiant Yn y Gwaith/I Ffwrdd o’r Gwaith
| Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddiant Yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddiant I Ffwrdd o’r Gwaith |
| Lefel 3: Blodeuwriaeth | Yn seiliedig ar oriau gwaith amser llawn blynyddol: 1292 y flwyddyn | Argymhellir 20%, yn seiliedig ar oriau gwaith amser llawn blynyddol: 323 o oriau’r flwyddyn |
Manylion Cymhwyster I Ffwrdd o’r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
68 o gredydau/680 o oriau TQT ar gyfer y cymhwyster cyfunol
Manylion Sgiliau Hanfodol I Ffwrdd o’r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
7 credyd/70 o oriau TQT ar gyfer Lefel 2 Sgiliau Hanfodol Cymru Cyfathrebu
7 credyd /70 o oriau TQT ar gyfer Lefel 2 Sgiliau Hanfodol Cymru Cymhwyso Rhif
7 credyd /70 o oriau TQT ar gyfer Lefel 2 Sgiliau Hanfodol Cymru Llythrennedd Digidol
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
47 o gredydau/570 o oriau TQT ar gyfer y cymhwyster cyfunol gan gynnwys yr Uned Ddewisol Orfodol (211) ar ddyluniadau priodasau.
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
6 chredyd/60 TQT ar gyfer Lefel 1 Sgiliau Hanfodol Cymru Cyfathrebu
6 chredyd/60 TQT ar gyfer Lefel 1 Sgiliau Hanfodol Cymru Cymhwyso Rhif
Gofynion eraill ychwanegol
Yn ogystal â chyflawni’r cymwysterau cyfunol a nodir uchod, dylai prentisiaid lefel 2 a lefel 3 gwblhau o leiaf un o’r canlynol hefyd:
Cynaliadwyedd yn y diwydiant blodeuwriaeth – lefel 2 – Uned yn y coleg
Agored Cymru – BA32CY025 Gwasanaeth Cwsmeriaid - lefel 2 – Uned 1 credyd
Adnabod cyfleoedd marchnata i gynyddu gwerthiant blodeuwriaeth – lefel 3 – Uned yn y coleg
Agored Cymru – BA33CY013 Gofal Cwsmeriaid a Chyfathrebu – lefel 3 – Uned 1 credyd
Os yw darparwyr, cyflogwyr neu brentisiaid yn dymuno cwblhau opsiwn arall, cysylltwch â Thîm Prentisiaeth Lantra cyn dechrau. Apprenticeships@Lantra.co.uk.
Rolau swydd
Gall Rolau Gwaith ar Lefel 2 (Prentisiaeth Sylfaen) gynnwys:
Blodeuwr | Gall Blodeuwr weithio mewn un o nifer o leoliadau, mewn siop, mewn cwmni digwyddiadau neu i amrywiaeth o sefydliadau manwerthu. Mae Blodeuwr llwyddiannus yn deall egwyddorion dylunio, estheteg, cyfansoddiad a lliw i gyfleu gofynion y cwsmer. Bydd gan Flodeuwr sgiliau gofal cwsmeriaid a gwerthu rhagorol. Rhaid iddynt allu cael yr wybodaeth berthnasol gan gwsmeriaid a throsi hon yn ddyluniad priodol sy’n addas ar gyfer anghenion y cwsmer. Mae Blodeuwr yn ymwybodol pa flodau sydd ar gael ym mha dymhorau o’r flwyddyn, pa flodau sy’n gweithio’n dda pan gânt eu cyfuno â’i gilydd ac mae’n gallu cynnig cyngor a throsi gweledigaeth cleient yn arddangosfeydd sy’n brydferth ac yn gyfareddol. Mae ar y Blodeuwr angen gwybodaeth am enwau botanegol, o ble y ceir deunyddiau, storio a rheoli stoc ffres, a sut i ofalu am ddeunyddiau blodeuol a phlanhigion a’u cyflyru. |
Gallai Rolau Gwaith ar Lefel 3 (Prentisiaeth) gynnwys:
Uwch Flodeuwr | Gall Uwch Flodeuwr weithio mewn un o nifer o leoliadau, mewn siop, mewn cwmni digwyddiadau neu i amrywiaeth o sefydliadau manwerthu. Bydd Uwch Flodeuwr yn dylunio, paratoi a chyflwyno dyluniadau a dyfynbrisiau i’r cwsmer. Bydd yn defnyddio cynlluniau dylunio, brasluniau manwl, neu adnoddau digidol i enghreifftio’r cysyniadau a fydd yn cael eu defnyddio. Bydd angen iddynt ymchwilio i’r opsiynau o ran y ffasiwn ar y pryd y gellid eu defnyddio yn y busnes, eu gwerthuso a’u rhoi ar waith. Byddant yn cynhyrchu dyluniadau i gwrdd â disgwyliadau cwsmeriaid sy’n adlewyrchu’r ffasiwn a datblygiadau arloesol ar y pryd. Bydd gan Uwch Flodeuwr wybodaeth helaeth am enwau botanegol, sut i gael deunyddiau a gwybodaeth fanwl am sut i ofalu am ddeunyddiau blodeuol a phlanhigion a’u cyflyru. Bydd yn cynllunio, yn trefnu ac yn rheoli rotâu gwaith ac yn dyrannu dyletswyddau, gall hefyd gael y cyfle i fentora staff iau. Bydd yn gwerthuso adborth cwsmeriaid i oleuo datblygiad gwerthiant. Bydd yn cynllunio ac yn trefnu dosbarthiad archebion botanegol i sicrhau bod cyfanrwydd cynhyrchion yn cael ei gynnal, ac y cwrddir â therfynau amser. |
ROLAU GWAITH

Dilyniant
Mae’r diwydiant Blodeuwriaeth yn gwerthfawrogi’r Brentisiaeth Sylfaen Lefel 2 fel llwybr mynediad i’r sector ac yng Nghymru mae hefyd wedi datblygu’r brentisiaeth i ddarparu cyfleoedd dilyniant i sicrhau dyfodol y sgiliau a’r wybodaeth yn y diwydiant.
Mae gan brentisiaid sy’n cwblhau’r Brentisiaeth Sylfaen yn llwyddiannus gyfleoedd i gamu ymlaen o fewn y diwydiant trwy gamu ymlaen at y Brentisiaeth Lefel 3 mewn Blodeuwriaeth neu gyrsiau Addysg Bellach eraill megis:
Diploma Lefel 3 mewn Blodeuwriaeth Seiliedig-ar-waith
Tystysgrif Dechnegol Uwch Lefel 3 mewn Blodeuwriaeth
Diploma Lefel 3 mewn Blodeuwriaeth
Diploma Lefel 3 BTEC mewn Blodeuwriaeth
Bydd swyddi nodweddiadol y bydd prentisiaid yn gallu camu ymlaen atynt yn dilyn cwblhau’r Brentisiaeth Sylfaen Lefel 2 yn dibynnu ar y cymwysterau a’r profiad a gafwyd yn ystod y Brentisiaeth Sylfaen ond gallent gynnwys: Blodeuwr.
Bydd swyddi nodweddiadol y bydd prentisiaid yn gallu camu ymlaen atynt yn dilyn cwblhau’r Brentisiaeth Lefel 3 yn dibynnu ar y cymwysterau a’r profiad a gafwyd yn ystod y brentisiaeth ond gallent gynnwys: Uwch Flodeuwr.
I brentisiaid sy’n dymuno parhau i ddatblygu eu sgiliau a chymwysterau y tu hwnt i Lefel 3, mae cyfleoedd yn bodoli i gamu ymlaen ymhellach i gyrsiau Addysg Uwch megis HNC/D, Gradd Sylfaen neu Radd (BSc). Mae enghreifftiau o’r cyrsiau sydd ar gael ledled y DU yn cynnwys:
Diploma Uwch Lefel 4 mewn Blodeuwriaeth Broffesiynol
Diploma Meistr Lefel 5 mewn Blodeuwriaeth Broffesiynol
BA mewn Blodeuwriaeth Broffesiynol a Dylunio Blodeuol
Tystysgrif Sylfaen mewn Blodeuwriaeth Broffesiynol a Dylunio Blodeuol.
Efallai y bydd prentisiaid sydd â’u bryd ar gamu ymlaen yn eu cyflogaeth yn dilyn dysgu ychwanegol yn gallu dod o hyd i swyddi rheoli megis Rheolwr Blodeuwriaeth.
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae’n bwysig bod llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos dull gweithredol o adnabod a dileu rhwystrau i fynediad a chamu ymlaen. Dylai llwybrau hybu cyfle cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig a’r bobl hynny nad ydynt yn eu rhannu fel a nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Y naw nodwedd a warchodir yn gyfreithiol sy’n cael eu nodi yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw:
- oedran,
- anabledd,
- rhywedd,
- ailbennu rhywedd,
- priodas a phartneriaeth sifil
- beichiogrwydd a mamolaeth
- hil,
- crefydd neu gred,
- cyfeiriadedd rhywiol.
Ceir rhai gwahaniaethau pwysig gan ddibynnu pa nodweddion gwarchodedig sy’n berthnasol.
RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â’r ddyletswydd arall dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr o ran mynediad i’r diwydiant yn seiliedig ar y naw nodwedd warchodedig hynny.
Ar hyn o bryd mae cyflogeion yn y diwydiant Blodeuwriaeth yn fenywaidd yn bennaf (94%), sy’n sylweddol uwch na chyfartaledd sectorau o 32% (y DU) o gyflogeion benywaidd, a chyfartaledd Cymru o 29%. Er nad yw’r diwydiant yn rhagwahardd dynion rhag gweithio yn y sector, awgrymir bod yr anghydbwysedd i’w briodoli i ganfyddiad hen ffasiwn am gyflogaeth yn y sector blodeuwriaeth fel diwydiant sydd wedi bod yn cael ei ddominyddu’n draddodiadol gan fenywod, er bod llawer o rolau mewn blodeuwriaeth yn cael eu cyflawni gan ddynion. Mae’n ddiddorol nodi bod cofrestriadau mewn Addysg Bellach ar raglenni dysgu sy’n gysylltiedig â Blodeuwriaeth hefyd yn rhai gan fenywod yn bennaf, ar gyfartaledd o 98% o’i gymharu â chofrestriadau dysgu seiliedig-ar-waith ar 100%. Ceir ystod eang o rolau ymarferol i bobl o bob oedran a gallu ynghyd ag angen cynyddol am bobl â sgiliau i gyflawni swyddi rheoli, uwch-dechnolegol ac arbenigol.
Nid oes rhwystrau gwirioneddol i recriwtio i mewn i’r diwydiant. Efallai fod rhai cyfyngiadau ffisegol mewn rhannau o’r diwydiant blodeuwriaeth gyda symudedd neu wrth godi a chario cewyll o flodau, er na ddylai hyn atal unrhyw un rhag gweithio yn y diwydiant ac na ddylai gael ei ystyried yn rhwystr.
Datrysiadau a gwaith pellach
Mae’r unedau o fewn y Diploma mewn Blodeuwriaeth Seiliedig-ar-waith wedi cael eu hysgrifennu mewn cydweithrediad gyda sefydliadau dyfarnu partner i sicrhau nad oes unrhyw ragfarn ynddynt, eu bod yn hygyrch i’r holl brentisiaid a’u bod yn berthnasol i ystod eang o rolau a busnesau ym maes Blodeuwriaeth.
Oherwydd natur amrywiol y sector Blodeuwriaeth fe ddatblygwyd y Diploma mewn Blodeuwriaeth Seiliedig-ar-waith o’r unedau hyn i ganiatáu’r hyblygrwydd a’r dewis mwyaf posibl o fewn rheolau cyfuno.
Bydd Lantra yn gweithio gyda’r Diwydiant Blodeuwriaeth i hyrwyddo’r angen am gyflogeion medrus. Bydd hyn hefyd yn ystyried yr angen i gynyddu cyfranogiad gwrywaidd ac ethnig yn y diwydiant. Bydd gweithgareddau’n cynnwys:
- Cynyddu ymwybyddiaeth o’r Brentisiaeth Lefel 2 a 3 mewn Blodeuwriaeth gyda mentrau hyrwyddo penodol, gan ganolbwyntio’n arbennig ar grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol megis dynion
- Cynyddu gweithgarwch marchnata a chyfathrebu gan amlygu cyfleoedd i ddilyn ystod eang o yrfaoedd yn y sector ac yn gysylltiedig ag ef
- Defnyddio tudalennau gwe gyrfaoedd Lantra i hysbysu ymgynghorwyr gyrfaoedd a phrentisiaid am y cyfleoedd sydd ar gael yn y diwydiant.
Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)
Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (ERR) yn orfodol mwyach. Ond argymhellir bod yr holl brentisiaid (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn cael rhaglen sefydlu gan y cwmni.
Dylai ERR gael sylw yn ystod y broses sefydlu, cael ei ailadrodd yn fyr fel rhan o’r drefn reolaidd, gyda hyn oll yn cael ei gofnodi.
Cyfrifoldebau
Cyfrifoldeb Darparydd yr Hyfforddiant/y Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu bodloni'n unol â Chanllawiau Prentisiaethau Llywodraeth Cymru/Medr.
Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Medr