Mae Lantra wedi cytuno ar gynnwys y Llwybrau hyn. Dyma'r unig Lwybrau prentisiaeth yn y sector Amaeth a'r Amgylchedd a gymeradwywyd i'w defnyddio yng Nghymru sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan Medr.
DYDDIAD CYHOEDDI: 05/10/2016 ACW Fframwaith Rhif. FR03959
Cynnwys y Rhaglen Ddysgu
Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:
- Cymwysterau,
- Sgiliau Hanfodol
- Hyfforddiant yn y gwaith/i ffwrdd o'r gwaith
69 credyd yw'r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Lefel 2 Blodeuwriaeth.
90 credyd yw'r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Lefel 3 Blodeuwriaeth.
Gofynion mynediad
Lefel 2: Blodeuwriaeth
Nid oes unrhyw ofynion mynediad penodol ar gyfer Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 mewn Blodeuwriaeth, ond ceir cymwysterau neu brofiad a fydd yn helpu dysgwyr i ddeall y sector cyn cychwyn:
- Diploma Sylfaen mewn Sgiliau Tir a'r Amgylchedd
- Dyfarniad Lefel 1 mewn Sgiliau Blodeuwriaeth Ymarferol
- Tystysgrif Lefel 1 mewn Blodeuwriaeth Ragarweiniol
- Dyfarniad Lefel 1 mewn Blodeuwriaeth Grefft Greadigol
- Diploma Lefel 1 mewn Blodeuwriaeth
- Profiad o wirfoddoli yn y diwydiant blodeuwriaeth
- Wedi gweithio yn y diwydiant yn y gorffennol, neu'n gweithio ynddo ar hyn o bryd
- TGAU/Safon Uwch
Ceir cyfleoedd am ddilyniant i'r Brentisiaeth Sylfaen Blodeuwriaeth hefyd i ddysgwyr sy'n oedolion a chanddynt brofiad o'r diwydiant Blodeuwriaeth, neu sy'n ystyried newid gyrfa.
Lefel 3: Blodeuwriaeth
Mae'r diwydiant blodeuwriaeth am i'r gofynion mynediad ar gyfer y Brentisiaeth mewn Blodeuwriaeth fod yn hyblyg, ac felly wedi awgrymu y dylid cwblhau un o'r canlynol:
- NVQ Lefel 2 mewn Blodeuwriaeth
- Diploma Lefel 2 mewn Blodeuwriaeth seiliedig ar Waith
- Tystysgrif Lefel 2 mewn Blodeuwriaeth
- Diploma Lefel 2 mewn Blodeuwriaeth
- Tystysgrif Estynedig Lefel 2 mewn Blodeuwriaeth
- Profiad ymarferol o fewn y diwydiant blodeuwriaeth
- 3 TGAU (A*-C) / Safon Uwch.
Dysgwyr sydd wedi cwblhau Bagloriaeth Cymru neu Lwybrau i Brentisiaethau Efallai y byddant wedi cwblhau unedau neu gyrsiau byr a fydd yn cynnwys gwybodaeth danategol tuag at y Brentisiaeth.
Bydd hyn yn cael ei asesu yn ystod asesiad cychwynnol, gan ganiatáu Cydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol lle bo'n briodol.
Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth
Lefel 2: Blodeuwriaeth
Lefel 2: Blodeuwriaeth Cymwysterau
Mae'n rhaid i'r cyfranogwyr ennill un o'r cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth a ganlyn
Lefel 2 Diploma mewn Blodeuwriaeth seiliedig ar Waith | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
City & Guilds | C00/0200/2 500/8317/X | 47 | 470 | Gwybodaeth | Saesneg yn Unig |
Lefel 2 Tystysgrif mewn Gwybodaeth am Adwerthu | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
City & Guilds | C00/0182/1 500/7352/7 | 14 | 140 | Cyfun | Saesneg yn Unig |
Lefel 2 Tystysgrif mewn Gwasanaethau Cwsmeriaid | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
City & Guilds | C00/0107/0 500/6329/7 | 13 | 130 | Cyfun | Saesneg yn Unig |
Lefel 2 Dyfarniad mewn Busnes ar gyfer yr Amgylchedd a'r Sector Tir | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
City & Guilds | C00/0284/6 500/9311/3 | 10 | 100 | Cyfun | Saesneg yn Unig |
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
Lefel 2: Blodeuwriaeth | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
---|---|---|
Cyfathrebu | 1 | 6 |
Cymhwyso Rhif | 1 | 6 |
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
---|---|---|
Lefel 2: Blodeuwriaeth | 435 | 150 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
47 credyd ar gyfer cymhwysedd a gwybodaeth - Diploma Lefel 2 mewn Blodeuwriaeth
Cyfanswm yr oriau dysgu sy'n cynnwys hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith ar gyfer y Brentisiaeth Sylfaen mewn Blodeuwriaeth yw 585 o oriau dros gyfnod o 18 mis.
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 1 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
6 credyd/45 GLH ar gyfer Lefel 1 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
Lefel 3: Blodeuwriaeth
Lefel 3: Blodeuwriaeth Cymwysterau
Mae'n rhaid i'r cyfranogwyr ennill un o'r cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth a ganlyn:
Lefel 3 Diploma mewn Blodeuwriaeth seiliedig ar Waith | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
City & Guilds/NPTC | C00/0981/5 500/9049/5 | 68 | 680 | Gwybodaeth | Saesneg yn Unig |
Lefel 3 Dyfarniad mewn Rheoli Busnes ar gyfer yr Amgylchedd a'r Sector Tir | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
City & Guilds | C00/0201/9 500/9232/7 | 10 | 100 | Cyfun | Saesneg yn Unig |
Lefel 3 Tystysgrif mewn Gwasanaethau Cwsmeriaid | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
City & Guilds | C00/0106/6 500/6206/2 | 13 | 130 | Cyfun | Saesneg yn Unig |
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
Lefel 3: Blodeuwriaeth | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
---|---|---|
Cyfathrebu | 2 | 6 |
Cymhwyso Rhif | 2 | 6 |
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
---|---|---|
Lefel 3: Blodeuwriaeth | 514 | 200 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
68 credyd ar gyfer cymhwysedd a gwybodaeth - Diploma Lefel 3 mewn Blodeuwriaeth
Cyfanswm yr oriau dysgu sy'n cynnwys hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith ar gyfer y Brentisiaeth Blodeuwriaeth yw 714 o oriau dros gyfnod o 24 mis.
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
6 credyd/45 GLH ar gyfer Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
Gofynion eraill ychwanegol
Dim
Dilyniant
Mae'r diwydiant Blodeuwriaeth yn rhoi gwerth ar y Brentisiaeth Sylfaen fel llwybr mynediad i'r sector. Yng Nghymru, mae'r diwydiant hefyd wedi datblygu'r Brentisiaeth i gynnig cyfleoedd am ddilyniant er mwyn sicrhau dyfodol y sgiliau a'r wybodaeth o fewn y diwydiant.
Bydd prentisiaid sy'n cwblhau'r Brentisiaeth Sylfaen yn cael cyfle i fynd rhagddynt o fewn y diwydiant, drwy symud ymlaen i'r Brentisiaeth Blodeuwriaeth neu gyrsiau Addysg Bellach eraill, fel:
- Diploma Lefel 3 mewn Blodeuwriaeth seiliedig ar Waith
- Tystysgrif Lefel 3 mewn Blodeuwriaeth
- Diploma Lefel 3 mewn Blodeuwriaeth
- Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Blodeuwriaeth
- Dyfarniad Lefel 3 mewn Blodeuwriaeth.
Bydd y swyddi arferol y bydd prentisiaid yn gallu symud ymlaen iddynt ar ôl cwblhau Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 yn dibynnu ar y cymwysterau a'r profiad a gafwyd yn ystod y Brentisiaeth Sylfaen, ond gallent gynnwys: uwch werthwr blodau/rheolwr siop flodau.
Ar gyfer prentisiaid sy'n dymuno parhau i ddatblygu eu sgiliau a'u cymwysterau y tu hwnt i Lefel 3, ceir cyfleoedd i symud ymlaen ymhellach i gyrsiau Addysg Uwch fel HNC/D, Gradd Sylfaen neu Radd (BSc). Dyma enghreifftiau o gyrsiau sydd ar gael ar draws y DU:
- BA mewn Blodeuwriaeth Broffesiynol
- FdA mewn Blodeuwriaeth Broffesiynol
- FdA mewn Dylunio Blodau Masnachol
fallai y bydd prentisiaid sydd eisiau symud ymlaen yn eu cyflogaeth o'r Brentisiaeth yn gallu canfod swyddi rheoli, fel rheolwr ym maes blodeuwriaeth.
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu arddangos dull gweithredol o nodi a chael gwared â ffactorau sy'n atal mynediad a dilyniant. Dylai llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion a chanddynt nodweddion gwarchodedig a'r rhai nad oes ganddynt y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Y nodweddion gwarchodedig a nodwyd yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, Beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared â gwahaniaethu mewn cyflogaeth.
Mae'n RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr yn nhermau mynediad i'r diwydiant ar sail y naw o nodweddion gwarchodedig hynny.
Menywod yn bennaf yw gweithwyr y diwydiant blodeuwriaeth (94%), sydd yn sylweddol uwch na chyfartaledd y menywod sy'n gweithio yn y sector, sef 32% (y DU) a chyfartaledd Cymru o 29%. Er nad yw'r diwydiant yn atal dynion rhag gweithio yn y sector, awgrymir bod y diffyg cydbwysedd yn deillio o hen ganfyddiad mai diwydiant y mae menywod yn gweithio ynddo yn bennaf yw blodeuwriaeth, er bod dynion yn cyflawni llawer o rolau yn y maes hwnnw. Mae'n ddiddorol mai menywod yn bennaf hefyd sy'n cofrestru ar raglenni dysgu Addysg Bellach yn gysylltiedig â Blodeuwriaeth, sef cyfartaledd o 98% o gymharu â chofrestriadau dysgu seiliedig ar waith o 100%. Ceir ystod o rolau ymarferol i bobl o bob oedran a gallu, ynghyd ag angen cynyddol am reolwyr, technegwyr ac arbenigwyr medrus.
Yn ôl ymchwil Lantra, rhagwelir y bydd angen 110,000 o bobl dros y degawd nesaf ar draws y sector tir. Ar y cyfan, mae'r diwydiant blodeuwriaeth yn cynnwys busnesau bach, y mae llawer ohonynt wedi'u cysylltu â'i gilydd drwy sefydliadau trosglwyddo mawr fel Interflora, Teleflorist neu Flowergram. Mae cyflogwyr yn chwilio am weithwyr sy'n arddangos brwdfrydedd, a chanddynt sgiliau cyflogadwyedd sylfaenol fel y gallu i weithio mewn tîm a sgiliau cyfathrebu.
Nid oes unrhyw rwystrau gwirioneddol sy'n atal pobl rhag cael eu recriwtio i'r diwydiant Efallai y bydd rhai cyfyngiadau ffisegol yn rhannau o'r diwydiant blodeuwriaeth, o ran symudedd neu wrth godi a chario cratiau o flodau, er na ddylai hyn atal rhywun rhag gweithio yn y diwydiant, na chael ei ystyried yn rhwystr.
Penderfyniadau a gwaith pellach Ysgrifennwyd yr unedau o fewn y Diploma mewn Blodeuwriaeth seiliedig ar Waith mewn cydweithrediad â sefydliadau dyfarnu partner, i sicrhau eu bod yn rhydd rhag rhagfarn, yn hygyrch i bob prentis, ac yn berthnasol i ystod eang o rolau a busnesau ym maes Blodeuwriaeth.
Oherwydd natur amrywiol sector Blodeuwriaeth mae'r Diploma mewn Blodeuwriaeth seiliedig ar Waith wedi cael ei ddatblygu o'r unedau hyn, er mwyn caniatáu cymaint o hyblygrwydd a dewis ag sy'n bosibl oddi mewn i'r rheolau cyfuno.
Bydd Lantra yn gweithio gyda Grŵp y Diwydiant Blodeuwriaeth i hyrwyddo'r angen am weithwyr medrus. Yn rhan o hyn rhoddir ystyriaeth hefyd i'r angen i gynyddu cyfranogiad yn y diwydiant ymhlith dynion a phobl o gefndiroedd ethnig. Bydd y gweithgareddau'n cynnwys:
- Cynyddu ymwybyddiaeth o Brentisiaeth Blodeuwriaeth Lefel 2 a 3, drwy gynnal ymgyrchoedd penodol, gan ganolbwyntio'n arbennig ar grwpiau wedi'u tangynrychioli fel dynion.
- Cynyddu marchnata a chyfathrebu mwy i dynnu sylw at y cyfleoedd ymhlith ystod eang o yrfaoedd o fewn y sector, ac yn gysylltiedig â'r sector.
- Defnyddio tudalennau gwe gyrfaoedd Lantra i hysbysu cynghorwyr gyrfa a phrentisiaid ynghylch y cyfleoedd sydd ar gael yn y diwydiant.
Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)
Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach. Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn derbyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.
Cyfrifoldebau
Cyfrifoldeb Darparydd yr Hyfforddiant/y Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu bodloni'n unol â Chanllawiau Prentisiaethau Llywodraeth Cymru/Medr.
Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Medr