Hygyrchedd
Defnyddio’r gwasanaeth
Caiff y gwasanaeth hwn ei redeg gan Lywodraeth Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r gwasanaeth hwn. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu:
- newid lliwiau, cyferbynnedd a ffontiau
- nesáu hyd at 300% heb i'r testun orlifo oddi ar y sgrin
- gwe-lywio'r rhan fwyaf o'r gwasanaeth gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- gwe-lywio'r rhan fwyaf o'r gwasanaeth gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
- gwrando ar y rhan fwyaf o'r gwasanaeth gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym hefyd wedi sicrhau bod testun y gwasanaeth mor syml â phosibl i'w ddeall.
Mae cyngor ar gael gan AbilityNet ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd.
Hygyrchedd y gwasanaeth hwn
Gwyddom nad yw rhai rhannau o'r gwasanaeth hwn yn gwbl hygyrch:
• nid yw’r testun yn ail-lifo mewn colofn sengl wrth i chi newid maint ffenestr y porwr
• ni chewch addasu uchder y llinell na'r bylchiad y testun
• nid yw'r rhan fwyaf o ddogfennau PDF hŷn yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllenydd sgrin
• nid oes gan ffrydiau fideo byw gapsiynau
• mae'n anodd trin rhai o'n ffurflenni ar-lein drwy ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
• nid oes modd neidio i'r prif gynnwys wrth ddefnyddio darllenydd sgrin
Beth i'w wneud os na allwch fynd i rannau o'r gwasanaeth hwn
Os ydych angen gwybodaeth o’r y gwasanaeth hwn mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu Braille:
- e-bostiwch GPG-Ymholiadau@llyw.cymru
- ffoniwch 0300 0604400
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn dod yn ôl atoch mewn 3-5 diwrnod.
Os na allwch weld y map ar ein tudalen 'cysylltu â ni ', ffoniwch neu e-bostiwch ni am gyfarwyddiadau.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd â'r gwasanaeth hwn
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y gwasanaeth hwn. Os ydych yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu os ydych yn credu nad ydym yn bodloni gofynion y rheoliadau hygyrchedd, cysylltwch â:
- e-bost GPG-Ymholiadau@llyw.cymru
- ffoniwch 0300 0604400
Gweithdrefn orfodi
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi'r rheoliadau hygyrchedd. Os nad ydych yn hapus â'r ffordd yr ydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).
Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni’n bersonol
Rydym yn darparu gwasanaeth cyfnewid testun i bobl sy'n D/fyddar, sydd â nam ar eu clyw neu sydd â rhwystr lleferydd.
Mae gan ein swyddfeydd ddolenni sain, neu os ydych yn cysylltu â ni cyn eich ymweliad gallwn drefnu dehonglydd iaith arwyddion Prydain (BSL).
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y gwasanaethau hyn
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod ei gwasanaethau’n hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif. 2) 2018.
Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n llawn â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1
Problemau’n ymwneud â thechnoleg
- Nid yw'n bosibl i ddefnyddwyr addasu bylchau testun neu uchder llinell.
Problemau gyda’r testun
- Dim problemau gyda thestun
Problemau gyda dogfennau PDF a dogfennau eraill
- Nid yw llawer o'n dogfennau PDF a Word hŷn yn bodloni safonau hygyrchedd - er enghraifft, mae’n bosibl nad ydynt wedi’umarcio fel eu bod yn hygyrch i feddalwedd darllen sgrin.
- Mae rhai o'n dogfennau PDF a Word yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, mae gennym ni ddogfennau PDF sy’n cynnwys gwybodaeth am sut y gall defnyddwyr gael gafael ar ein gwasanaethau, a ffurflenni a gyhoeddir ar ffurf dogfennau Word. Erbyn mis Medi 2020, rydym yn bwriadu naill ai cywiro’r rhain neu roi tudalennau HTML hygyrch yn eu lle.
- Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud hi'n ofynnol i ni gywiro dogfennau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, nid ydym yn bwriadu cywiro [enghraifft o ddogfen nad yw'n hanfodol].
- Bydd unrhyw ddogfennau PDF neu Word newydd a gyhoeddwn yn bodloni safonau hygyrchedd.
Problemau gyda delweddau, fideo a sain
- Nid ydym yn bwriadu ychwanegu capsiynau at ffrydiau fideo byw oherwydd bod fideo byw wedi'i eithrio rhag cwrdd â'r rheoliadau hygyrchedd. Nodweddion gydag elfennau a thrafodion rhyngweithiol
Sut y profwyd y gwasanaeth hwn
Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ar 23 September 2020.. Cynhaliwyd y prawf gan S8080.
Cynhaliwyd sgan awtomataidd ar gyfer pob gwall WGAG2 AA.
Profwyd:
- prif blatfform ein gwasanaeth, ar gael yn [http://findanapprenticeship.service.gov.wales/]