Skip to main content

Tata Steel

Tata Steel Logo
Nifer yr cyflogeion:
Lleoliadau:
Sector:

Trosolwg o'r cwmni

Mae gan Tata Steel bresenoldeb byd-eang yn y diwydiant dur. Mae’r cwmni’n cynnig gwybodaeth ac arbenigedd i’r diwydiant ym maes adeiladu a seilwaith, cerbydau, pacio a pheirianneg

Cyfleoedd a gynigir

Pa brentisiaethau maen nhw’n eu cynnig?

Gweithgynhyrchu, peirianneg, rheoli’r gadwyn gyflenwi, gwasanaethau labordy a gwyddorau deunyddiau, masnachol, cyllid, adnoddau dynol, caffael a TG.

Pryd mae Tata Steel fel arfer yn recriwtio prentisiaid?

Mae Tata Steel yn cynnal diwrnodau a nosweithiau agored ym mis Chwefror.

Beth mae Tata Steel yn chwilio amdano mewn ymgeisydd?

I fod yn gymwys am Raglen Brentisiaeth Tata Steel, rhaid i’r ymgeiswyr fod ag o leiaf 5 cymhwyster TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth. Ar gyfer ambell Raglen Brentisiaeth a Phrentisiaeth Uwch, bydd Tata Steel angen cymwysterau ychwanegol fel Safon Uwch.

Pa fath o swyddi all prentisiaid ddisgwyl eu gwneud?

Mae diwrnod pob prentis yn dibynnu ar yr adran maen nhw’n gweithio ynddi - bydd diwrnod gweithgynhyrchydd, er enghraifft, yn dra gwahanol i ddiwrnod prentis yn yr adran gyllid.

Beth yw manteision bod yn brentis gyda Tata Steel?

Mae tua 75% o brentisiaid yn aros ymlaen i weithio gyda’r busnes am o leiaf bum mlynedd ar ôl cwblhau’r cwrs ac yn mynd ymlaen i fwynhau gyrfaoedd llwyddiannus yn y diwydiant dur. Mae Tata Steel wedi meithrin enw da fel un o’r cwmnïau gorau yn y diwydiant.

 

Anabledd Cynhwysol

Ydym, rydym yn rhan o'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd gan Adran Gwaith a Phensiynau'r DU.

Lleoliad

30 Millbank


SW1P 4WY

Prentisiaethau gwag presennol

Os ydych chi'n edrych am rywbeth arall, defnyddiwch yr adnodd chwilio prentisiaethau gwag presennol gan gyflogwyr eraill ar draws Cymru ar y gwasanaeth dod o hyd i brentisiaeth .