Barclays
- Nifer yr cyflogeion:
- Lleoliadau:
- Sector:
Trosolwg o'r cwmni
Banc defnyddwyr a chyfanwerthwyr trawsiwerydd yw Barclays, sy’n gweithredu mewn dros ddeugain o wledydd gan gyflogi tua 83,500 o bobl.Cyfleoedd a gynigir
Pa brentisiaethau maen nhw’n eu cynnig?
Mae Barclays yn cynnig prentisiaethau mewn sawl maes fel gweithrediadau, amaethyddiaeth a thechnoleg. Bydd pob prentis sy’n llwyddo i gwblhau’r brentisiaeth yn cael swydd barhaol.
Pryd mae Barclays fel arfer yn recriwtio prentisiaid?
Mae Barclays yn recriwtio ar sail ad-hoc, ac mae prentisiaethau newydd yn codi drwy’r amser.
Beth mae Barclays yn chwilio amdano mewn ymgeisydd?
Mae rhai rhaglenni prentisiaeth, ond nid pob un, yn gofyn am bwyntiau TGAU neu UCAS, ond dyma’r cymwysterau academaidd mwyaf fydd eu hangen ar ymgeiswyr. Mae Barclays yn ymfalchïo yn y ffaith ei fod yn cyflogi prentisiaid o bob cefndir, a ddim yn gwahaniaethu yn erbyn ffactorau fel oedran.
Pa fath o swyddi all prentisiaid ddisgwyl eu gwneud?
Gan fod Barclays yn cynnig prentisiaethau mewn amryw o sectorau gwahanol, mae gwaith bob dydd yn amrywio. Bydd pob prentis yn cael profiad mewn cangen yn ogystal ä phrofiad o dasgau penodol i’w maes arbenigol nhw.
Beth yw manteision bod yn brentis gyda Barclays?
Mae Barclays yn ariannu cymwysterau prentis yn llawn, yn ogystal â chynnig cyflog cychwynnol cystadleuol a all gynyddu wrth gamu ymlaen drwy’r brentisiaeth. Mae prentisiaid hefyd yn gweithio’n agos gyda Hyfforddwr Talent, sy’n eu llywio drwy’r brentisiaeth, gyda hyfforddiant a thiwtoriaeth un i un.
Anabledd Cynhwysol
Ydym, rydym yn rhan o'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd gan Adran Gwaith a Phensiynau'r DU.Lleoliad
1 Churchill PlaceE14 5HP
Prentisiaethau gwag presennol
Os ydych chi'n edrych am rywbeth arall, defnyddiwch yr adnodd chwilio prentisiaethau gwag presennol gan gyflogwyr eraill ar draws Cymru ar y gwasanaeth dod o hyd i brentisiaeth .