Mae Energy and Utility Skills wedi cytuno ar gynnwys y Llwybr hwn. Dyma'r unig Lwybr Prentisiaeth yn y sector Ynni a gymeradwywyd i'w ddefnyddio yng Nghymru ac sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan Medr.
DYDDIAD CYHOEDDI: 27/03/2023 ACW Fframwaith Rhif. FR05069
Cynnwys y Rhaglen Ddysgu
Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:
Cymwysterau
Sgiliau Hanfodol
Hyfforddiant yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
80 credyd yw'r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 3 Rheoli Ynni.
Mae hyn yn cynnwys:
Cymhwyster cyfun = 62 credyd
Sgiliau Hanfodol Cymru = 18 credyd
18 mis yw hyd y brentisiaeth hon fel arfer, yn dibynnu ar brofiad wrth ddechrau.
Gofynion mynediad
Ar gyfer y Llwybr Lefel 3 mewn Rheoli Ynni, nid oes unrhyw ofynion mynediad heblaw am hyder y cyflogwr a'r darparydd hyfforddiant yng ngallu'r ymgeisydd i wireddu ei botensial o fewn y Brentisiaeth. Gallai cymwysterau a allai ddarparu sylfaen ddefnyddiol ar gyfer y Brentisiaeth gynnwys:
Cymwysterau ym Magloriaeth Cymru
Sgiliau Hanfodol Cymru
cymwysterau TGAU, Safon Uwch neu Ddiplomas Cenedlaethol mewn pynciau cysylltiedig
Cyfleoedd am ddilyniant uniongyrchol ac i drosglwyddo credydau o gymwysterau penodol
- Cymwysterau galwedigaethol, fel: Dyfarniad lefel 2 mewn Deall Ymwybyddiaeth Carbon a Rheoli Ynni.
Prentisiaethau Sylfaen
Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth
Lefel 3: Rheoli Ynni
Lefel 3: Rheoli Ynni Cymwysterau
Mae'n rhaid i gyfranogwyr ennill y cymhwyster cyfun isod.
| Lefel 3 Diploma mewn Rheoli Ynni a Charbon | |||||
|---|---|---|---|---|---|
| Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
| Agored Cymru | C00/4749/2 | 62 | 620 | Cyfun | Saesneg neu Gymraeg |
Gweler Atodiad 1 am y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
| Lefel 3: Rheoli Ynni | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
|---|---|---|
| Cyfathrebu | 2 | 6 |
| Cymhwyso Rhif | 2 | 6 |
| Llythrennedd Digidol | 2 | 6 |
Ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yw Cymraeg a Saesneg
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
| Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
|---|---|---|
| Lefel 3: Rheoli Ynni | Cyfanswm yr oriau hyfforddi yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith - sy'n cynnwys dysgu yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith ar gyfer y Llwybr yw 62 credyd/620 awr. | Cyfanswm yr oriau hyfforddi yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith - sy'n cynnwys dysgu yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith ar gyfer y Llwybr yw 62 credyd/620 awr. |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
18 mis yw hyd y brentisiaeth fel arfer, ac argymhellir bod y prentis yn defnyddio isafswm o 20% o'u horiau cyflogaeth contract drwy gydol eu prentisiaeth ar gyfer hyfforddiant i ffwrdd o'r gwaith. Rhaid i'r hyfforddiant i ffwrdd o'r gwaith fod yn berthnasol i'r Brentisiaeth a rhoi amser i'r prentis ganolbwyntio a datblygu ei wybodaeth a'i sgiliau i sicrhau ei fod yn gymwys yn alwedigaethol ar ôl cwblhau ei Brentisiaeth. Gall yr oriau i ffwrdd o'r gwaith amrywio yn ôl profiad blaenorol a chyrhaeddiad y prentis, a'r amser a gymerir i gwblhau'r rhaglen brentisiaeth.
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
6 chredyd / 60 ODDA Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
6 chredyd / 60 ODDA Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
6 chredyd / 60 ODDA Lefel 2 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru
Gofynion eraill ychwanegol
Dim gofynion eraill.
Rolau swydd
Rhagwelir mai'r DU fydd un o'r marchnadoedd mwyaf cystadleuol ar gyfer sgiliau rheoli ynni dros y 5 i 7 mlynedd nesaf. Mae'r rôl yn hanfodol er mwyn cefnogi sefydliadau i gyflawni amcanion a thargedau lleihau ynni a chostau yng nghyd-destun ymrwymiadau cynaliadwyedd ehangach fel rheoli carbon a dŵr a chyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol. Byddwch yn gweithio gydag amrywiaeth o unigolion, fel cwsmeriaid a chyflenwyr, i gyrchu, dadansoddi a deall gwybodaeth am ddefnydd sefydliadau o ynni a dŵr. Bydd hyn hefyd yn cynnwys adolygu gofynion y gadwyn gyflenwi a sut mae gwastraff yn cael ei reoli. Byddwch yn gallu adnabod cyfleoedd i arbed arian a deall yr heriau allweddol sy'n gysylltiedig ag arbedion effeithlonrwydd ac allyriadau Trafnidiaeth. Byddwch yn adnabod cyfleoedd i arbed arian a lleihau allyriadau carbon ac yn deall sut mae hyn yn berthnasol i strategaeth rheoli ynni'r sefydliad, ei gydymffurfiaeth â rheoliadau a'r gyfraith a'i statws adrodd.
Mae rolau swydd nodweddiadol ar gyfer y llwybr Rheoli Ynni Lefel 3 hwn fel a ganlyn:
Rheolwr Ynni Iau
- Dadansoddwyr Ynni
- Rheolwyr Cyfleusterau
- Timau cyllid sy'n ymwneud â chyllidebau ynni
- Peirianwyr Cylch Oes/Cynnal a Chadw
- Rheolwr Ynni Newydd
- Arbenigwyr Uwchsgilio Ynni
- Hyrwyddwr Ynni/Sero Net/Carbon
- Goruchwyliwr Ynni Adeiladau
Dilyniant
Rheoli Ynni Lefel 3
Llwybrau dilyniant i: Yr amod sylfaenol er mwyn cael mynediad yw hyder y cyflogwr a'r darparydd hyfforddiant yng ngallu'r ymgeisydd i ffynnu a gwireddu ei botensial o fewn y Brentisiaeth.
Dilyniant o:Bydd cwblhau'r rhaglen brentisiaeth hon â'i sgiliau trosglwyddadwy yn galluogi dilyniant i rolau fel Rheolwr Ynni, Uwch Reolwr Ynni, Rheolwr Ynni Siartredig, neu rôl arbenigol fel Rheolwr Caffael Ynni, Rheolwr Effeithlonrwydd Ynni, Rheolwyr Cyfleusterau gyda ffocws ar Reoli Ynni ac ati ar draws ystod eang o sectorau.
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos ymagwedd weithredol at nodi a chael gwared â ffactorau sy'n atal mynediad a dilyniant. Dylai llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion a chanddynt nodweddion gwarchodedig a'r rhai nad oes ganddynt y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Y nodweddion gwarchodedig a nodir yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared â gwahaniaethu mewn cyflogaeth.
Mae'n RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr yn nhermau mynediad i'r diwydiant ar sail y naw o nodweddion gwarchodedig hynny.
Mae'r proffesiwn ynni yn cynnig cyfleoedd gwaith hyblyg a llwybr gyrfa gwych. Nid oes unrhyw rwystrau gwirioneddol i recriwtio i'r diwydiant, er y gallai fod rhai cyfyngiadau ffisegol yn enwedig wrth gael mynediad at beiriannau mewn cyfleusterau er mwyn cymryd darlleniadau a chasglu data. Ni ddylai hyn eithrio unrhyw un oherwydd gallai cyfleoedd fodoli i gael mynediad o bell.
Mae gwybodaeth ychwanegol ar gael: https://www.euskills.co.uk/the-sectors-inclusion-commitment/
Mae Prif Swyddogion Gweithredol o fusnesau blaenllaw'r sector wedi ymrwymo i fynd ati'n rhagweithiol i newid ystadegau amrywiaeth a hyrwyddo eu busnesau ymhlith talent sydd heb gynrychiolaeth ddigonol. Maent wedi ymrwymo i weithio ar draws pob sector i recriwtio a denu gweithlu sy'n adlewyrchu ac yn siarad â'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Byddant yn tynnu sylw at y gwaith gwych sydd eisoes yn cael ei wneud gan y sector a hefyd yn parhau i ysgogi newid drwy ymrwymiad i ddenu, recriwtio a datblygu ei weithlu mewn modd cynhwysol.
Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)
Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach. Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn derbyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.
Cyfrifoldebau
Cyfrifoldeb Darparydd yr Hyfforddiant a'r Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu bodloni yn unol â Chanllawiau Prentisiaethau Llywodraeth Cymru/Medr.
Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Medr
Lefel 3: Diploma mewn Rheoli Ynni a Charbon
ODDA = 335
CAC = 620
Mae'r cymhwyster cyfun hwn yn cynnwys unedau cymhwysedd a gwybodaeth ac yn cynnwys unedau gorfodol a dewisol.
Mae'n ofynnol i ymgeiswyr ennill isafswm o 62 credyd o'r unedau a restrir. Y credyd lleiaf i'w gyflawni ar lefel y cymhwyster neu uwchlaw yw 55 credyd.
Cyflawnir 47 credyd o'r unedau gorfodol a bydd isafswm o 15 o gredydau yn cael eu cyflawni o'r unedau dewisol.
| Teitl yr uned | Lefel | Credyd | Credyd am Gymhwysedd | Credyd am Wybodaeth |
| Egwyddorion Rheoli Ynni a Charbon (M) | 3 | 15 | 0 | 15 |
| Dadansoddi'r Defnydd o Ynni ac Allyriadau Carbon (M) | 3 | 15 | 8 | 7 |
| Newid Ymddygiad o fewn y Gweithle (M) | 3 | 5 | 3 | 2 |
| Rhwydweithio Proffesiynol ar gyfer Rheoli Ynni a Charbon (M) | 3 | 3 | 2 | 1 |
| Iechyd a Diogelwch mewn Amgylchedd Rheoli Ynni (M) | 3 | 3 | 1 | 2 |
| Gwella Ansawdd o fewn Eich Maes Gwaith Eich Hun mewn Rheoli Carbon ac Ynni (M) | 3 | 3 | 2 | 1 |
| Datblygu Perthnasoedd Gwaith â Chydweithwyr (M) | 2 | 3 | 2 | 1 |
| Caffael Ynni (O) | 3 | 4 | 2 | 2 |
| Rheoli Prosiectau Ynni a Charbon (O) | 3 | 7 | 5 | 2 |
| Rheoli Carbon Trafnidiaeth (O) | 3 | 8 | 3 | 5 |
| Rheoli Gwastraff (O) | 3 | 7 | 4 | 3 |
| Ymgysylltu â'r Gymuned (O) | 3 | 2 | 1 | 1 |
| Meddalwedd Taenlenni (O) | 2 | 4 | 4 | 0 |
| Meddalwedd Taenlenni (O) | 3 | 6 | 5 | 1 |