Skip to main content

Llwybr

Telathrebu Digidol

a

DYDDIAD CYHOEDDI: 01/09/2023 ACW Fframwaith Rhif. FR05088

Cynnwys y Rhaglen Ddysgu

Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:

  • Cymwysterau,
  • Sgiliau Hanfodol
  • Hyfforddiant yn y gwaith/i ffwrdd o'r gwaith

Yr isafswm credyd gofynnol ar gyfer:

Lefel 3 - Telathrebu Digidol yw 78 credyd.

Lefel 4 - Telathrebu Digidol yw 75 credyd.

Gofynion mynediad

Lefel 3: Telathrebu Digidol:

Nid oes unrhyw amodau penodol er mwyn cael mynediad i lwybrau L3.

Yn gyffredinol, fodd bynnag, dylai dysgwyr feddu ar gymwysterau (neu brofiad cyfatebol) ar yr un lefel â'r dyfarniad neu ychydig yn is na'r dyfarniad. Er enghraifft, efallai y bydd gan ymgeiswyr gymhwyster FfCChC lefel 2, 3 neu 4. Byddai cymwysterau ar y lefelau hyn mewn pynciau STEM yn fanteisiol.

Lefel 4: Telathrebu Digidol:

Gofynion mynediad ar gyfer y llwybr hwn yn ychwanegol at ganllawiau mynediad Lefel 3 Telathrebu Digidol.

 Bydd angen i ymgeiswyr sydd am gael mynediad i Brentisiaeth Uwch fod wedi ennill neu arddangos un o'r canlynol:

  • Cymwysterau Safon Uwch, neu gyrhaeddiad addysgol cyfwerth, gan gynnwys y Diploma TG Lefel 3, Cymraeg neu
  • Bagloriaeth Ryngwladol neu gymwysterau Lefel 3 neu 4 perthnasol eraill
  • Prentisiaeth (Lefel 3)
  • Cyflogaeth o fewn y diwydiant technoleg/telathrebu ers rhai blynyddoedd, ac wedi dangos i'w gyflogwr y gellir disgwyl yn rhesymol iddo gyflawni deilliannau gofynnol y Brentisiaeth Uwch. Gellir ategu hyn drwy dystiolaeth neu ddangos ei fod wedi cyflawni neu berfformio yn y rôl cyn cychwyn y Brentisiaeth Uwch.

Dylai darpar brentisiaid gofio bod Prentisiaeth Uwch yn cyfuno heriau addysg lefel uwch â chyflogaeth amser llawn, a dylent fod yn barod am fwy o waith astudio, a hynny ar lefel uwch, nag a gafwyd yn y Brentisiaeth neu mewn unrhyw gymhwyster arall Lefel 3.

Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth

Lefel 3: Telathrebu Digidol

Lefel 3: Telathrebu Digidol Cymwysterau

Mae'n rhaid i gyfranogwyr ennill y cymhwyster cyfun isod.

Lefel 3: Diploma Telathrebu Digidol
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
Agored Cymru C00/1239/2 60 600 Cymhwysedd Cymraeg-Saesneg

Gweler Atodiad 1 am y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.

Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)

Lefel 3: Telathrebu Digidol Lefel Isafswm Gwerth Credyd
Cyfathrebu 2 6
Cymhwyso Rhif 2 6
Llythrennedd Digidol 2 6

Asesir cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith

Llwybr Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith
Lefel 3: Telathrebu Digidol 428 352
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)

60 credyd ar gyfer cymhwysedd a gwybodaeth - Diploma Lefel 3 mewn Telathrebu Digidol (Cyfun).

780 yw cyfanswm yr oriau dysgu ar gyfer y Brentisiaeth Telathrebu Digidol, sy'n cynnwys hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith.

Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru

Lefel 4: Telathrebu Digidol

Lefel 4: Telathrebu Digidol Cymwysterau

Mae'n rhaid i gyfranogwyr ennill y cymhwyster cyfun isod

Lefel 4: Diploma Telathrebu Digidol
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
Agored Cymru C00/1239/3 75 750 Cymhwysedd Cymraeg-Saesneg

Gweler Atodiad 2 am y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.

Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)

Lefel 4: Telathrebu Digidol Lefel Isafswm Gwerth Credyd
Cyfathrebu 2 6
Cymhwyso Rhif 2 6
Llythrennedd Digidol 2 6

Asesir cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith

Llwybr Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith
Lefel 4: Telathrebu Digidol 503 247
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)

75 credyd am gymhwysedd a gwybodaeth - (Cyfun).

750 yw cyfanswm yr oriau dysgu ar gyfer y Brentisiaeth Uwch Telathrebu Digidol, sy'n cynnwys hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith.

Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru

Gofynion eraill ychwanegol

Amh

Dilyniant

Dilyniant o'r Brentisiaeth Lefel 3 hon mewn Telathrebu Digidol:

Mae'r Rhaglen Brentisiaeth Lefel 3 yn cynnig cyfle i brentisiaid llwyddiannus gael astudio ymhellach a mynd rhagddynt i ddilyn rhaglen gradd gysylltiedig. Gallent ddewis gradd Baglor, gradd Sylfaen, cymhwyster Cenedlaethol Uwch neu gymhwyster lefel uwch arall. Gall prentisiaid hefyd ddewis parhau o fewn eu rôl swydd a dysgu drwy ddilyn hyfforddiant a chymwysterau technegol, busnes neu reoli ychwanegol.

Bydd prentisiaid sydd wedi cwblhau rhaglen brentisiaeth Lefel 3 yn aml wedi symud ymlaen o fewn eu gyrfa i swydd arweinydd tîm neu lefel uwch, gan ddefnyddio eu harbenigedd technegol cynyddol - a llywio a hyfforddi eraill o fewn y sefydliad.

Dilyniant o'r Brentisiaeth Lefel 4 hon mewn Telathrebu Digidol:

Ar ôl cwblhau llwybr Prentisiaeth Uwch Lefel 4, bydd prentisiaid yn gallu cwblhau astudiaethau gwybodaeth dilynol a symud ymlaen i gwblhau rhaglenni gradd Anrhydedd llawn.

Neu gymwysterau rôl-benodol eraill a gydnabyddir gan ddiwydiant:

Hyfforddiant ac achrediad Rheoli Prosiect (PRINCE2, MSP, PMI, APM ac Agile)

  •  Hyfforddiant ac achrediad Rheoli Gwasanaeth (hyfforddiant ITIL, SDI ac ISO/IEC 2000)
  • Hyfforddiant Rheoli a Datblygiad Personol

Mae ystod eang o hyfforddiant technoleg craidd a gwerthu hefyd ar gael - sy'n arwain at gymwysterau a gydnabyddir gan y diwydiant.

Bydd rhai cymwysterau'n rhoi'r hawl i fod yn aelod o sefydliad proffesiynol, gan gynnig cyfleoedd i rwydweithio a datblygu gyrfa. Er enghraifft, dod yn aelod o'r sefydliadau proffesiynol a ganlyn.

• Cymdeithas Cyfrifiaduron Prydain (BCS)

• Y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg (IET)

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos sut i fynd ati’n weithredol i nodi a chael gwared â ffactorau sy'n atal mynediad a dilyniant. Dylai llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion a chanddynt nodweddion gwarchodedig a'r rhai nad oes ganddynt y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

Y nodweddion gwarchodedig a nodwyd yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, Beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared â gwahaniaethu mewn cyflogaeth.

Mae'n RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr yn nhermau mynediad i'r diwydiant ar sail y naw o nodweddion gwarchodedig hynny.

Nid yw'r llwybrau Telathrebu Digidol yn creu unrhyw rwystrau o ran mynediad, a bwriedir iddynt gynnwys pob dysgwr waeth beth fo'i ryw, ei oedran, ei anabledd neu ei darddiad ethnig.

CYDRADDOLDEB RHYW

Mae diffyg cydbwysedd rhwng y rhywiau yn parhau i fod yn broblem sylweddol o fewn y sector TG a Thelathrebu. O edrych ar rolau swydd proffesiynol ym maes TG a Thelathrebu ar draws yr holl sectorau, gostyngodd y gynrychiolaeth o ferched o 22% yn 2001 i 18% yn 2011. Dylid cymharu hyn â'r gyfran o 48% o ferched a geir yng ngweithlu cyfan y DU.

Fel sy'n wir yn y diwydiant, mae anghydbwysedd rhwng y rhywiau yn gyffredin ar draws cyrsiau sy'n gysylltiedig â TG, ac mae hyn yn gwaethygu dros amser drwy gydol y system addysg. 15% o ymgeiswyr ar gyrsiau gradd Cyfrifiadura sy'n ferched, a 6.5% oedd cyfran y merched a wnaeth sefyll Safon Uwch Cyfrifiadura 2013, 1.3 pwynt canran yn is nag yn 2012.

Ceir sawl rheswm pam bod merched wedi'u tangynrychioli ar draws y sector TG a Thelathrebu, gan gynnwys:

  • diffyg ymwybyddiaeth (ymhlith unigolion a chynghorwyr gyrfa) ynghylch yr amrywiaeth eang o gyfleoedd gyrfa sydd ar gael
  • dryswch wrth addysgu TGCh mewn ysgolion rhwng rolau Defnyddiwr TG a rolau TG proffesiynol

OED Y GWEITHLU

Mae dadansoddiad o'r cyfnod 2001-2011 yn dangos tuedd newidiol ym mhroffil oedran gweithwyr proffesiynol TG a Thelathrebu. Gostyngodd cyfran y bobl 16-29 oed o 33% yn 2001 i 19% yn 2011.

Amcangyfrifir mai 39 yw oed cyfartalog gweithwyr proffesiynol TG a Thelathrebu sy'n gweithio yn y DU, o gymharu â 41 oed ar gyfer gweithwyr yn fwy cyffredinol. Mae ychydig llai na hanner (47%) y gweithwyr proffesiynol TG a Thelathrebu yn 40 oed neu'n hŷn ac mae llai nag un o bob pump (19%) yn y grŵp oedran 16-29.

Ffactor allweddol sy'n cyfrannu at y ddeinameg newidiol ym maes TG a Thelathrebu yw effaith globaleiddio. Bydd cynnal rhaglenni prentisiaeth cryf yn y sector yn hollbwysig er mwyn sicrhau y gellir rhoi terfyn ar y duedd hon, neu ei gwrthdroi yn y blynyddoedd nesaf, gan sicrhau drwy hynny fod gan y sector gyflenwad o'r gweithwyr proffesiynol medrus sydd eu hangen arno i symud i rolau swydd lefel uwch mewn 5-10 mlynedd.

ETHNIGRWYDD AC ANABLEDD

Mae'r diwydiant technolegau gwybodaeth a chyfathrebu ymhlith diwydiannau mwyaf amrywiol y DU o ran ethnigrwydd, gyda 13% o'r gweithlu (cynnydd o gymharu ag 8% o'r gweithlu yn 2002) yn bobl Ddu, Asiaidd neu Leiafrifol Ethnig o gymharu â 9% ar draws yr economi gyfan.

Ceir darpariaeth sylweddol i unigolion ag anableddau drwy'r holl sector TG a Thelathrebu gyda llawer o gyfleoedd amrywiol am yrfaoedd boddhaus ar bob lefel. Mae hyn yn ei dro'n golygu bod prentisiaethau ar gael mewn ystod eang o feysydd i rai â lefelau amrywiol o anabledd.

Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)

Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach, ond efallai y bydd hyn yn dal wedi'i gynnwys ar rai llwybrau, ac os nad yw wedi'i nodi'n glir nad yw CHC yn ofynnol, bydd yn dal yn ofynnol cyflwyno cadarnhad bod Prentis wedi cwblhau CHC i ddibenion ardystio Prentisiaeth. 

Argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn derbyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.

Cyfrifoldebau

Cyfrifoldeb Darparydd yr Hyfforddiant a'r Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu bodloni yn unol â Chanllawiau Prentisiaethau Llywodraeth Cymru/Medr.

Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Medr

 

Atodiad 1

Lefel 3: Telathrebu Digidol

Y berthynas rhwng cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth

Agored Cymru Lefel 3: Diploma Telathrebu Digidol - Gellir gweld Manyleb y Cymhwyster yn:

https://www.agored.cymru/Unedau-a-Chymwysterau/Cymhwyster/127792

Rhif Cymeradwyo/Dynodi CC: C00/1239/2

Cyfanswm y credydau sy'n ofynnol: 60

Oriau dysgu dan arweiniad (GLH): 172

Cyfanswm Amser y Cymhwyster (TQT): 600 awr

Isafswm y credydau ar lefel y cymhwyster neu'n uwch: 60

Atodiad 2

Lefel 4: Telathrebu Digidol 

Y berthynas rhwng cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth

Agored Cymru Lefel 4: Diploma Telathrebu Digidol - Gellir gweld Manyleb y Cymhwyster yn:

https://www.agored.cymru/Unedau-a-Chymwysterau/Cymhwyster/127793

Rhif Cymeradwyo/Dynodi CC: C00/1239/3

Cyfanswm y credydau sy'n ofynnol: 75

Oriau dysgu dan arweiniad (GLH): 247

Cyfanswm Amser y Cymhwyster (TQT): 750 awr

Isafswm y credydau ar lefel y cymhwyster neu'n uwch: 66


Diwygiadau dogfennau

23 Tachwedd 2021