Skip to main content

Llwybr

Gweithwyr Proffesiynol TG, Meddalwedd, Y We a Thelathrebu

The content of this Pathway has been agreed by ODAG Consultants Ltd. This is the only Apprenticeship Pathway for IT, Software, Web & Telecoms Professionals approved for use in Wales that is eligible for Welsh Government funding

Cynnwys y Rhaglen Ddysgu

Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:

  • Cymwysterau,
  • Sgiliau Hanfodol
  • Hyfforddiant yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith

Yr isafswm credyd gofynnol ar gyfer:

Lefel 2 - Gweithwyr Proffesiynol TG, Meddalwedd, Y We a Thelathrebu yw 78 credyd.

Lefel 3 - Gweithwyr Proffesiynol TG, Meddalwedd, Y We a Thelathrebu yw 114 credyd.

Lefel 4 - Gweithwyr Proffesiynol TG, Meddalwedd, Y We a Thelathrebu yw 218 credyd.

Gofynion mynediad

Lefel 2: Gweithwyr Proffesiynol TG, Meddalwedd, Y We a Thelathrebu

Ni cheir unrhyw amodau er mwyn cael mynediad i'r llwybr Prentisiaeth hwn, ond byddai cyflogwyr hefyd yn rhoi gwerth ar ennill Bagloriaeth Cymru, neu un o'r Cymwysterau Gwybodaeth a restrir ar gyfer y llwybr Prentisiaeth Lefel 2 hwn. Serch hynny, cydnabyddir nad yw pob un o'r rhain ar gael i'r holl ddarpar brentisiaid, felly nid ydynt yn ofynnol er mwyn cael mynediad i'r llwybr.

Ar gyfer mwyafrif y rolau prentisiaeth o fewn y sector TG a Thelathrebu, mae angen: 

  • i unigolion allu dysgu'n gyflym a bod yn rhagweithiol; gallu gweithio mewn tîm ar eu pen eu hunain weithiau
  • Y gallu i ganolbwyntio ar helpu cwsmeriaid a chydweithwyr i ganfod atebion i broblemau
  • Y gallu i weithio'n rhesymegol ac fesul cam, yn aml o dan bwysau yn erbyn dyddiadau terfyn llym
  • Sylw da i fanylder a'r gallu i gyflawni'r hyn y gofynnir amdano, ar yr adeg iawn.
  • I unigolion fod yn agored i newid a chanolbwyntio ar ofynion y busnes ar bob achlysur

Byddai rolau mewn meysydd fel Datblygu Meddalwedd a'r We yn gweddu i unigolion

  • â diddordeb mewn dylunio a chreadigrwydd, a chanddynt sylw da i fanylder
  • â meddwl mathemategol neu ddadansoddol
  • sy’n meddu ar sgiliau rhesymu a datrys problemau da

Byddai rolau ym maes Gwasanaethau TG yn gweddu i unigolion:

  • sy’n gallu dadansoddi a datrys problemau
  • â diddordeb mewn caledwedd a meddalwedd
  • sy'n mwynhau gweithio at ddyddiadau cau a than bwysau

Byddai rolau ym maes Gwerthu ac Ymgynghori Technegol yn gweddu i unigolion:

  • â gwybodaeth eang am dechnoleg
  • â sgiliau rhyngbersonol rhagorol ac sy'n gyffyrddus wrth roi cyflwyniadau o flaen eraill

Lefel 3: Gweithwyr Proffesiynol TG, Meddalwedd, Y We a Thelathrebu

Nid oes unrhyw amodau ychwanegol sy'n rhwystro mynediad i'r llwybr Prentisiaeth hwn. Bydd yr holl egwyddorion mynediad cyffredinol, fel y nodwyd ar lwybr Lefel 2 hefyd yn berthnasol i'r llwybr Lefel 3 hwn. 

Nid oes unrhyw ofynion ychwanegol ffurfiol ar gyfer Prentisiaethau, ond bydd llawer o gyflogwyr yn gofyn am 5 TGAU (A*-C) neu gymhwyster cyfwerth wrth ymgeisio i gymryd rhan yn y rhaglen.

Byddai cyflogwyr hefyd yn rhoi gwerth am ennill Diploma TG Lefel 2 (ar gyfer pobl ifanc 14-19 oed) neu un o'r Cymwysterau Gwybodaeth a restrir ar gyfer llwybr Lefel 3. Serch hynny, cydnabyddir nad yw pob un o'r rhain ar gael i'r holl ddarpar brentisiaid, felly nid ydynt yn ofynnol er mwyn cael mynediad i'r llwybr.

Lefel 4: Gweithwyr proffesiynol TG, Meddalwedd, y We a Thelathrebu

Ceir rhai amodau ychwanegol er mwyn cael mynediad i'r llwybr Prentisiaeth Uwch hwn. Bydd yr holl egwyddorion mynediad cyffredinol, fel y nodwyd ar lwybr Lefel 2 hefyd yn berthnasol i'r llwybr Lefel 4 hwn. 

Yn ychwanegol at yr amodau mynediad cyffredinol a nodwyd yn Lefel 2, bydd angen i ymgeiswyr sydd am ddilyn Prentisiaeth Uwch fod wedi ennill un o'r canlynol:

  • Cymwysterau Safon Uwch, neu gyrhaeddiad addysgol cyfwerth, gan gynnwys y Diploma TG Lefel 3, Bagloriaeth Cymru neu Fagloriaeth Ryngwladol neu Dystysgrif Dechnegol Lefel 3 berthnasol.
  • Prentisiaeth (Lefel 3)
  • Cyflogaeth o fewn y diwydiant technoleg/telathrebu ers rhai blynyddoedd, ac wedi dangos i'w gyflogwr y gellir disgwyl yn rhesymol iddo gyflawni deilliannau gofynnol y Brentisiaeth Uwch. Gellir ategu hyn drwy dystiolaeth neu ddangos ei fod wedi cyflawni neu berfformio yn y rôl cyn cychwyn y Brentisiaeth Uwch.

Dylai darpar brentisiaid gofio bod Prentisiaeth Uwch yn cyfuno heriau addysg lefel uwch â chyflogaeth amser llawn, a dylent fod yn barod am fwy o waith astudio, a hynny ar lefel uwch, nag a gafwyd yn y Brentisiaeth neu mewn unrhyw gymhwyster arall Lefel 3.

Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth

Lefel 2: Gweithwyr proffesiynol TG, Meddalwedd, y We a Thelathrebu

Lefel 2: Gweithwyr proffesiynol TG, Meddalwedd, y We a Thelathrebu Cymwysterau

Mae'n rhaid i'r cyfranogwyr ennill un o'r cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth a ganlyn:

Lefel 2 - Diploma Cymhwysedd Proffesiynol ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol TG a Thelathrebu
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
Pearson C00/0263/2 501/1290/9 48 480 Gwybodaeth Saesneg yn Unig
City & Guilds C00/0295/7 501/1789/0 48 480 Gwybodaeth Saesneg yn Unig
Lefel 2 - Dyfarniad mewn Systemau ac Egwyddorion TGCh
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
City & Guilds C00/0106/3 500/3475/3 12 120 Cyfun Saesneg yn Unig
Diploma Lefel 2 mewn Cefnogi Systemau TGCh
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
City & Guilds C00/0286/3 501/1430/X 37 370 Cyfun Saesneg yn Unig
Tystysgrif Lefel 2 mewn Systemau ac Egwyddorion TGCh
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
Pearson C00/0244/9 501/1381/1 13 130 Cyfun Saesneg yn Unig

Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)

Lefel 2: Gweithwyr proffesiynol TG, Meddalwedd, y We a Thelathrebu Lefel Isafswm Gwerth Credyd
Cyfathrebu 1 6
Cymhwyso Rhif 1 6
Llythrennedd Digidol 1 6

Asesir cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith

Llwybr Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith
Lefel 2: Gweithwyr proffesiynol TG, Meddalwedd, y We a Thelathrebu 200 110
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)

60 credyd ar gyfer cymhwysedd a gwybodaeth

310 yw cyfanswm yr oriau dysgu ar gyfer Prentisiaeth Lefel 2 Gweithwyr Proffesiynol TG, Meddalwedd, Y We a Thelathrebu, sy'n cynnwys hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith.

Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 1 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 1 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 1 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru

Lefel 3: Gweithwyr Proffesiynol TG, Meddalwedd, Y We a Thelathrebu

Lefel 3: Gweithwyr Proffesiynol TG, Meddalwedd, Y We a Thelathrebu Cymwysterau

Mae'n rhaid i'r cyfranogwyr ennill un o'r cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth a ganlyn:

Diploma Lefel 3 mewn Cymhwysedd Proffesiynol TGCh
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
Pearson C00/0263/3 501/1291/0 72 720 Gwybodaeth Saesneg yn Unig
City & Guilds C00/0295/8 501/1788/9 72 720 Gwybodaeth Saesneg yn Unig
Diploma Lefel 3 Systemau ac Egwyddorion TGCh
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
Pearson C00/0259/3 501/1435/9 37 370 Cyfun Saesneg yn Unig
ystysgrif Lefel 3 mewn Systemau ac Egwyddorion TGCh
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
Pearson C00/0259/2 501/1436/0 24 240 Cyfun Saesneg yn Unig
City & Guilds C00/0106/4 500/3476/5 24 240 Cyfun Saesneg yn Unig
Diploma Atodol TG Lefel 3
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
Pearson C00/0253/0 500/9147/5 60 600 Cyfun Saesneg yn Unig
Diploma Cenedlaethol BTEC mewn TG
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
Pearson C00/0252/8 500/9150/5 120 1200 Cyfun Saesneg yn Unig
Diploma Estynedig BTEC mewn TG
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
Pearson C00/0252/9 500/9149/9 180 1800 Cyfun Saesneg yn Unig
Tystysgrif Estynedig Genedlaethol BTEC Lefel 3 mewn Cyfrifiadura
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
Pearson C00/1142/2 601/7341/5 60 600 Cyfun Saesneg yn Unig
BTEC Tystysgrif Estynedig Genedlaethol Lefel 3 mewn Technoleg Gwybodaeth
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
Pearson C00/0775/8 601/7575/8 48 480 Cyfun Saesneg yn Unig
Diploma Cenedlaethol BTEC Lefel 3 Pearson mewn Technoleg Gwybodaeth
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
Pearson C00/1206/3 603/0455/8 94 940 Cyfun Saesneg yn Unig
Diploma Estynedig Cenedlaethol Lefel 3 BTEC Pearson mewn Technoleg Gwybodaeth
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
Pearson C00/1206/2 603/0454/6 146 1460 Cyfun Saesneg yn Unig

Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)

Lefel 3: Gweithwyr Proffesiynol TG, Meddalwedd, Y We a Thelathrebu Lefel Isafswm Gwerth Credyd
Cyfathrebu 2 6
Cymhwyso Rhif 2 6
Llythrennedd Digidol 2 6

Asesir cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith

Llwybr Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith
Lefel 3: Gweithwyr Proffesiynol TG, Meddalwedd, Y We a Thelathrebu 350 160
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)

96 credyd ar gyfer cymhwysedd a gwybodaeth.

510 yw cyfanswm yr oriau dysgu ar gyfer y Brentisiaeth  Gweithwyr Proffesiynol TG, Meddalwedd, Y We a Thelathrebu, sy'n cynnwys hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith.

Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
  • 6 chredyd / 60 GLH Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd / 60 GLH Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd / 60 GLH Lefel 2 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru

Lefel 4: Gweithwyr Proffesiynol TG, Meddalwedd, Y We a Thelathrebu

Lefel 4: Gweithwyr Proffesiynol TG, Meddalwedd, Y We a Thelathrebu Cymwysterau

Mae'n rhaid i'r cyfranogwyr ennill un o'r cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth a ganlyn:

Diploma Lefel 4 mewn Cymhwysedd Proffesiynol ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol TG a Thelathrebu
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
Pearson C00/0263/4 501/1292/2 80 800 Gwybodaeth Saesneg yn Unig
City & Guilds C00/0295/9 501/1787/7 80 800 Gwybodaeth Saesneg yn Unig
Gradd Sylfaen Cyfrifiadureg
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
Prifysgol Abertawe Amh 240 2400 Cyfun Saesneg yn Unig
Tystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC) Cyfrifiadura Cymhwysol
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
Y Drindod Dewi Sant Amh 120 1200 Cyfun Saesneg yn Unig
FdSc Cyfrifiadura (Rhwydweithio) a gyflwynir gan Grŵp Llandrillo Menai
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
Prifysgol Bangor M649 240 2400 Cyfun Saesneg yn Unig
HNC Cyfrifiadura - Rhan-amser (pob llwybr)
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant 456H-PT 140 1400 Cyfun Saesneg yn Unig
HND Cyfrifiadura
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
Prifysgol De Cymru USWHNDCom 240 2400 Cyfun Saesneg yn Unig

Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)

Lefel 4: Gweithwyr Proffesiynol TG, Meddalwedd, Y We a Thelathrebu Lefel Isafswm Gwerth Credyd
Cyfathrebu 2 6
Cymhwyso Rhif 2 6
Llythrennedd Digidol 2 6

Asesir cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith

Llwybr Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith
Lefel 4: Gweithwyr Proffesiynol TG, Meddalwedd, Y We a Thelathrebu 700 310
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)

200 credyd ar gyfer cymhwysedd a gwybodaeth

1010 yw cyfanswm yr oriau dysgu ar gyfer y Brentisiaeth Uwch  Gweithwyr Proffesiynol TG, Meddalwedd, Y We a Thelathrebu sy'n cynnwys hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith.

Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
  • 6 chredyd / 60 GLH Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd / 60 GLH Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd / 60 GLH Lefel 2 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru

Gofynion eraill ychwanegol

Amh

Dilyniant

Dilyniant o'r Brentisiaeth Lefel 2 hon ar gyfer: Gweithwyr Proffesiynol TG, Meddalwedd, Y We a Thelathrebu :

Er nad yw'n orfodol i brentis gwblhau Prentisiaeth Lefel 2 cyn cychwyn y rhaglen Brentisiaeth, gallai fod yn fuddiol mewn rhai achosion i gychwyn ar Lefel 2, gan fod angen dysgu rhai sgiliau technoleg creiddiol a busnes TG ar lefel sylfaenol cyn y gellir defnyddio sgiliau a thechnegau TG uwch yn effeithiol yn y gweithle.

Ar ôl cwblhau Llwybr Prentisiaeth Lefel 2, gall prentisiaid wedyn symud ymlaen i Brentisiaeth Lefel 3 - neu barhau i weithio a chwblhau amrywiaeth o gymwysterau a hyfforddiant proffesiynol ar gyfer swyddi penodol.

Efallai y bydd rhai prentisiaid yn dewis parhau â'u hastudiaethau technegol a chychwyn astudio cymwysterau proffesiynol/gwerthu swydd-benodol (er enghraifft: gyda Microsoft, Cisco, Oracle, VM Ware neu CompTIA).

Argymhellir symud ymlaen i Lwybrau Lefel 3 a Lefel 4 er mwyn ennill cymwysterau a hyfforddiant technegol pellach a gydnabyddir yn genedlaethol, gan aros yn eich swydd.

Dilyniant o'r Brentisiaeth Lefel 3 hon ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol TG, Meddalwedd, Y We a Thelathrebu:

Mae Rhaglen Brentisiaeth Lefel 3 yn cynnig cyfle i brentisiaid llwyddiannus gael astudio ymhellach a symud ymlaen yn eu hastudiaethau i ddilyn rhaglen gradd mewn pwnc TG cysylltiedig. Gallent ddewis o blith Graddau Baglor, Graddau Lefel 2, Cymwysterau Cenedlaethol Uwch neu gymhwyster lefel uwch arall, mewn meysydd fel Cyfrifiadura, Systemau Gwybodaeth busnes, TG neu Delathrebu. Gall prentisiaid hefyd ddewis parhau o fewn eu rôl swydd a dysgu drwy ddilyn hyfforddiant a chymwysterau technegol, busnes neu reoli ychwanegol.

Bydd prentisiaid sydd wedi cwblhau rhaglen brentisiaeth Lefel 3 yn aml wedi symud ymlaen o fewn eu gyrfa i swydd arweinydd tîm neu lefel uwch, gan ddefnyddio eu harbenigedd technegol cynyddol - a llywio a hyfforddi eraill o fewn y sefydliad.

Dilyniant o'r Brentisiaeth Uwch Lefel 4 hon ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol TG, Meddalwedd, Y We a Thelathrebu:

Ar ôl cwblhau'r llwybr Prentisiaeth Uwch Lefel 4, bydd prentisiaid llwyddiannus yn gallu symud ymlaen o'u hastudiaethau Gradd Lefel 2 a mynd rhagddynt i gwblhau rhaglen gradd Anrhydedd llawn.

Cymwysterau rôl-benodol eraill a gydnabyddir gan y diwydiant:

  • Hyfforddiant ac achrediad Rheoli Prosiect (PRINCE2, MSP, PMI, APM ac Agile)
  • Hyfforddiant ac achrediad Rheoli Gwasanaeth (hyfforddiant ITIL, SDI ac ISO/IEC 2000)
  •  Hyfforddiant Rheoli a Datblygiad Personol
  • Amrywiaeth eang o hyfforddiant ar dechnoleg craidd a gwerthu  - sy'n arwain at gymwysterau a gydnabyddir gan y diwydiant.

Bydd rhai cymwysterau'n rhoi'r hawl i fod yn aelod o sefydliad proffesiynol, gan gynnig cyfleoedd i rwydweithio a datblygu gyrfa.

Er enghraifft, dod yn aelod o'r sefydliadau proffesiynol a ganlyn.

  • Cymdeithas Cyfrifiaduron Prydain (BCS)
  • Y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg (IET)
  • Sefydliad y Gweithwyr Proffesiynol Telathrebu (ITP)

Gallai cyfleoedd dilynol eraill gynnwys dysgu pellach mewn meysydd busnes eraill, fel cyllid, busnes neu werthu.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos sut i fynd ati’n weithredol i nodi a chael gwared â ffactorau sy'n atal mynediad a dilyniant. Dylai llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion a chanddynt nodweddion gwarchodedig a'r rhai nad oes ganddynt y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

Y nodweddion gwarchodedig a nodwyd yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, Beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared â gwahaniaethu mewn cyflogaeth.

Mae'n RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr yn nhermau mynediad i'r diwydiant ar sail y naw o nodweddion gwarchodedig hynny.

Nid oes unrhyw rwystrau o ran mynediad i'r Llwybr Prentisiaeth TG a Thelathrebu, a bwriedir iddo ddarparu ar gyfer pob dysgwr waeth beth fo'i ryw, ei oedran, ei anabledd neu ei darddiad ethnig.

Dyluniwyd y llwybr Prentisiaeth hwn yn bennaf er mwyn helpu newydd-ddyfodiaid i'r gweithlu TG a Thelathrebu, gan sicrhau mynediad teg i bawb sy'n ymgeisio i gymryd rhan yn y rhaglen.

Rydym yn disgwyl i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr gydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010 drwy sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr yn nhermau mynediad i'r sector, na dyrchafiad o fewn y sector.

Mae'r adran ganlynol wedi'i chynnwys i grau darlun o ddemograffeg cyfredol y gweithlu.

CYDRADDOLDEB RHYW

Mae diffyg cydbwysedd rhwng y rhywiau yn parhau i fod yn broblem sylweddol o fewn y sector TG a Thelathrebu. O edrych ar rolau swydd proffesiynol ym maes TG a Thelathrebu ar draws yr holl sectorau, gostyngodd y gynrychiolaeth o ferched o 22% yn 2001 i 17% yn 2009. Dylid cymharu hyn â'r gyfran o 45% o ferched a geir yng ngweithlu cyfan y DU.

Fel sy'n wir mewn diwydiant, mae'r diffyg cydbwysedd rhwng y rhywiau i weld yn amlwg ar draws cyrsiau'n gysylltiedig â TG, ac mae'n gwaethygu dros amser drwy'r holl system addysg. Merched yw 15% o ymgeiswyr ar gyrsiau gradd Cyfrifiadura, ac er bod y nifer gwirioneddol o ferched sy'n sefyll Safon Uwch Cyfrifiadurol wedi gostwng eto, mae'r gyfran wedi aros yn sefydlog ar 10% o'r rhai a gwblhaodd y cymhwyster yn 2009.

Ceir sawl rheswm pam bod merched wedi'u tangynrychioli ar draws y sector TG a Thelathrebu, gan gynnwys:

  • diffyg ymwybyddiaeth (ymhlith unigolion a chynghorwyr gyrfa) ynghylch yr amrywiaeth eang o gyfleoedd gyrfa sydd ar gael
  • dryswch wrth addysgu TGCh mewn ysgolion rhwng rolau Defnyddiwr TG a rolau TG proffesiynol

OED Y GWEITHLU

Mae dadansoddiad o'r cyfnod 2001-2009 yn dangos tuedd newidiol ym mhroffil oedran gweithwyr proffesiynol TG a Thelathrebu. Gostyngodd cyfran y bobl 16-29 oed o 33% yn 2001 i 22% yn 2009.

Mae 44% o weithwyr proffesiynol TG a Thelathrebu bellach yn 40+, o'i gymharu â 31% wyth mlynedd yn ôl. Yn ystod y cyfnod hwn, mae'r cyfrannau ym mhob categori oedran ar draws economi gyffredinol y DU wedi aros yn sefydlog.

Ffactor allweddol sy'n cyfrannu at y ddeinameg newidiol ym maes TG a Thelathrebu yw effaith globaleiddio. Bydd cynnal rhaglenni prentisiaeth cryf yn y sector yn hollbwysig er mwyn sicrhau y gellir rhoi terfyn ar y duedd hon, neu ei gwrthdroi yn y blynyddoedd nesaf, gan sicrhau drwy hynny fod gan y sector gyflenwad o'r gweithwyr proffesiynol medrus sydd eu hangen arno i symud i rolau swydd lefel uwch mewn 5-10 mlynedd.

ETHNIGRWYDD AC ANABLEDD

Mae cymysgedd ethnig y gweithwyr proffesiynol TG a Thelathrebu yn adlewyrchu'r gymysgedd yn y DU yn gyffredinol. Mae 86% yn eu disgrifio eu hunain yn 'Wyn' (o gymharu â 91% ar gyfer yr holl swyddi ym mhob sector yn y DU), a 9% yn Ddu, yn Asiaidd ac yn Lleiafrifol Ethnig (o gymharu â 5% ar gyfer yr holl swyddi).

Gwelwyd cynnydd graddol yng nghyfran y gweithwyr proffesiynol TG a Thelathrebu dros y cyfnod o 8 mlynedd, i 10% yn 2009. Gellir cymharu hyn ag 13% ar gyfer holl swyddi'r DU. Ceir darpariaeth sylweddol i unigolion ag anableddau drwy'r holl sector TG a Thelathrebu gyda llawer o gyfleoedd amrywiol am yrfaoedd boddhaus ar bob lefel. Mae hyn yn ei dro'n golygu bod prentisiaethau ar gael mewn ystod eang o feysydd i rai â lefelau amrywiol o anabledd.

Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)

Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach.  Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn derbyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.

Fodd bynnag, mae CHC yn ofynnol ar gyfer y 3 llwybr yma, a bydd yn dal yn ofynnol cadarnhau bod Prentis wedi cwblhau CHC i ddibenion ardystio Prentisiaeth. 

Cyfrifoldebau

Cyfrifoldeb Darparydd yr Hyfforddiant  a'r Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu bodloni yn unol â Chanllawiau Prentisiaethau Llywodraeth Cymru.

Gellir cael rhagor o wybodaeth gan:

Llywodraeth Cymru

DfES-ApprenticeshipUnit@llyw.cymru


Diwygiadau dogfennau

23 Tachwedd 2021