a
DYDDIAD CYHOEDDI: 29/01/2019 ACW Fframwaith Rhif. FR04381
Cynnwys y Rhaglen Ddysgu
Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:
- Cymwysterau,
- Sgiliau Hanfodol
- Hyfforddiant yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Yr isafswm credyd gofynnol ar gyfer:
Lefel 6: Prentisiaeth Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol yw 360 credyd.
Lefel 6: Prentisiaeth Gwyddor Data Gymhwysol yw 360 credyd.
Lefel 6: Prentisiaeth Rheoli Seiberddiogelwch Cymhwysol yw 360 credyd.
Gofynion mynediad
Gofynion Mynediad Cyffredinol ar gyfer - Gradd Lefel 6 - Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol/Gwyddor Data Gymhwysol/Rheoli Seiberddiogelwch Cymhwysol
Mae'r llwybr Prentisiaeth Gradd Ddigidol ar Lefel 6 yn addas yn bennaf i ymgeiswyr sydd naill ai wedi cwblhau cymwysterau Safon Uwch sy'n briodol ar gyfer mynediad i'r brifysgol, neu a allai eisoes fod wedi cwblhau prentisiaeth gysylltiedig ar Lefelau 3, 4 neu 5.
Sylwer: Mae ymgeiswyr ar gyfer y llwybr prentisiaeth hwn yn debygol o fod yn 19 oed.
Mae prosesau'n bodoli i sicrhau nad yw ymgeiswyr â gwybodaeth, cymwysterau ac/neu brofiad perthnasol blaenorol yn cael eu rhoi dan anfantais drwy orfod ailddysgu. Bydd colegau a phrifysgolion yn gallu cynghori ynghylch y rheolau cyfredol ar gyfer achredu dysgu blaenorol a chydnabod profiad blaenorol.
Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth
Lefel 6: Prentisiaeth Gradd Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol
Lefel 6: Prentisiaeth Gradd Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol Cymwysterau
Mae'n rhaid i'r cyfranogwyr ennill un o'r cymwysterau cyfun a ganlyn:
BSc (Anrh) Cyfrifiadura (Peirianneg Meddalwedd) | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant | Amh | 360 | 3600 | Cymhwysedd | Saesneg yn Unig |
BSc (Anrh) Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
Prifysgol Abertawe | Amh | 360 | 3600 | Cymhwysedd | Saesneg yn Unig |
Y Brifysgol Agored | Amh | 360 | 3600 | Cymhwysedd | Saesneg yn Unig |
Prifysgol Fetropolitan Caerdydd | Amh | 360 | 3600 | Cymhwysedd | Saesneg yn Unig |
Prifysgol Caerdydd | Amh | 360 | 3600 | Cymhwysedd | Saesneg yn Unig |
Prifysgol Bangor | Amh | 360 | 3600 | Cymhwysedd | Saesneg yn Unig |
BSc (Anrh) Cyfrifiadura | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
Prifysgol Glyndŵr Wrecsam | Amh | 360 | 3600 | Cymhwysedd | Saesneg yn Unig |
BSc (Anrh) Datrysiadau Digidol a Thechnoleg (Peirianneg Meddalwedd) | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
Prifysgol De Cymru | Amh | 360 | 3600 | Cymhwysedd | Saesneg yn Unig |
BSc (Anrh) Datblygu Meddalwedd Cwmwl | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant | Amh | 360 | 3600 | Cymhwysedd | Saesneg yn Unig |
BSc (Anrh) Cyfrifiadura Cwmwl | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant | Amh | 360 | 3600 | Cymhwysedd | Saesneg yn Unig |
Gweler Atodiad 1 am y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
Lefel 6: Prentisiaeth Gradd Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
---|---|---|
Cyfathrebu | 2 | 6 |
Cymhwyso Rhif | 2 | 6 |
Llythrennedd Digidol | 2 | 6 |
Asesir cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
---|---|---|
Lefel 6: Prentisiaeth Gradd Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol | 500 | 900 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
360 credyd ar gyfer cymhwysedd a gwybodaeth
1400 yw cyfanswm yr oriau dysgu ar gyfer Prentisiaeth Gradd Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol, sy'n cynnwys hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith.
Tua 36 mis yw hyd y llwybr.
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru
Lefel 6: Prentisiaeth Gradd Gwyddor Data Gymhwysol
Lefel 6: Prentisiaeth Gradd Gwyddor Data Gymhwysol Cymwysterau
Mae'n rhaid i'r cyfranogwyr ennill un o'r cymwysterau cyfun a ganlyn:
BSc (Anrh) Cyfrifiadura (Systemau Data a Gwybodaeth) | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant | Amh | 360 | 3600 | Cymhwysedd | Saesneg yn Unig |
BSc (Anrh) Gwyddor Data Gymhwysol | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
Prifysgol Fetropolitan Caerdydd | Amh | 360 | 3600 | Cymhwysedd | Saesneg yn Unig |
Prifysgol Bangor | Amh | 360 | 3600 | Cymhwysedd | Saesneg yn Unig |
BSc (Anrh) Datrysiadau Digidol a Thechnoleg (Gwyddor Data) | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
Prifysgol De Cymru | Amh | 360 | 3600 | Cymhwysedd | Saesneg yn Unig |
Edrychwch ar Atodiad 2 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
Lefel 6: Prentisiaeth Gradd Gwyddor Data Gymhwysol | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
---|---|---|
Cyfathrebu | 2 | 6 |
Cymhwyso Rhif | 2 | 6 |
Llythrennedd Digidol | 2 | 6 |
Asesir cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
---|---|---|
Lefel 6: Prentisiaeth Gradd Gwyddor Data Gymhwysol | 500 | 900 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
360 credyd ar gyfer cymhwysedd a gwybodaeth
1400 yw cyfanswm yr oriau dysgu ar gyfer y Brentisiaeth Gradd Gwyddor Data Gymhwysol, sy'n cynnwys hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith.
Tua 36 mis yw hyd y llwybr.
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru
Lefel 6: Rheoli Seiberddiogelwch Cymhwysol
Lefel 6: Rheoli Seiberddiogelwch Cymhwysol Cymwysterau
Mae'n rhaid i'r cyfranogwyr ennill un o'r cymwysterau cyfun a ganlyn:
BSc (Anrh) Cyfrifiadura (Rhwydweithiau Cyfrifiadurol a Seiberddiogelwch) | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant | Amh | 360 | 3600 | Cymhwysedd | Saesneg yn Unig |
BSc (Anrh) Seiberddiogelwch | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
Prifysgol Glyndŵr | Amh | 360 | 3600 | Cymhwysedd | Saesneg yn Unig |
BSc (Anrh) Seiberddiogelwch Cymhwysol | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
Prifysgol Fetropolitan Caerdydd | Amh | 360 | 3600 | Cymhwysedd | Saesneg yn Unig |
Prifysgol Bangor | Amh | 360 | 3600 | Cymhwysedd | Saesneg yn Unig |
Edrychwch ar Atodiad 3 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
Lefel 6: Rheoli Seiberddiogelwch Cymhwysol | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
---|---|---|
Cyfathrebu | 2 | 6 |
Cymhwyso Rhif | 2 | 6 |
Llythrennedd Digidol | 2 | 6 |
Asesir cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
---|---|---|
Lefel 6: Rheoli Seiberddiogelwch Cymhwysol | 500 | 900 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
360 credyd ar gyfer cymhwysedd a gwybodaeth (Cyfun)
1400 yw cyfanswm yr oriau dysgu ar gyfer y Brentisiaeth Gradd Rheoli Seiberddiogelwch Cymhwysol, sy'n cynnwys hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith.
Tua 36 mis yw hyd y llwybr.
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru
Gofynion eraill ychwanegol
Mae ymgeiswyr ar gyfer y llwybr prentisiaeth hwn yn debygol o fod yn 19 oed.
Dilyniant
Dilyniant o'r Brentisiaeth Gradd Lefel 6 - Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol
Dilyniant o'r llwybr hwn ar gyfer y rhai sydd wedi cwblhau prentisiaeth gradd mewn Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol (Lefel 6):
- cyflogaeth fel peiriannydd meddalwedd yn y rolau swydd a nodir yn y fframwaith hwn, neu rolau swydd tebyg
- Graddau Meistr yn y maes arbenigol perthnasol.
Dilyniant o'r Brentisiaeth Gradd Lefel 6 - Gwyddor Data Gymhwysol
Dilyniant o'r llwybr hwn ar gyfer y rhai sydd wedi cwblhau prentisiaeth gradd Gwyddor Data Gymhwysol (Lefel 6):
- cyflogaeth fel gwyddonydd data mewn rolau swydd a nodir yn y fframwaith hwn, neu rolau swydd tebyg
- Graddau Meistr yn y maes arbenigol perthnasol.
Dilyniant o'r Brentisiaeth Gradd Lefel 6 - Rheoli Seiberddiogelwch Cymhwysol
Dilyniant o'r llwybr hwn ar gyfer y rhai sydd wedi cwblhau prentisiaeth gradd Seiberddiogelwch Cymhwysol (Lefel 6):
- cyflogaeth fel dadansoddwr seiberddiogelwch yn y rolau swydd a nodir yn y fframwaith hwn neu mewn rolau swydd tebyg
- Graddau Meistr yn y maes arbenigol perthnasol.
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos sut i fynd ati’n weithredol i nodi a chael gwared â ffactorau sy'n atal mynediad a dilyniant. Dylai llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion a chanddynt nodweddion gwarchodedig a'r rhai nad oes ganddynt y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Y nodweddion gwarchodedig a nodwyd yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, Beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared â gwahaniaethu mewn cyflogaeth.
Mae'n RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr yn nhermau mynediad i'r diwydiant ar sail y naw o nodweddion gwarchodedig hynny.
Ni cheir unrhyw rwystrau o ran mynediad i'r Fframwaith Prentisiaeth Gradd Ddigidol, a bwriedir iddo gynnwys pob dysgwr waeth beth fo'i ryw, oedran, anabledd, cred grefyddol neu darddiad ethnig. Er mwyn bodloni gofynion dysgwyr, gellir defnyddio nifer o wahanol arddulliau dysgu i gyflwyno'r cynnwys sy'n ofynnol ar gyfer dysgu i ffwrdd o'r gwaith.
Ystyrir bod prentisiaethau yn llwybr hanfodol i hyrwyddo ac annog amrywiaeth fwy o unigolion i ymuno â'r diwydiant. Anogir cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant i gynnig cymorth a mentora ychwanegol i sicrhau bod prentisiaid yn cwblhau eu hyfforddiant.
Mae'r adrannau canlynol wedi'u cynnwys i ddisgrifio demograffeg cyfredol y gweithlu (Wrth gyfeirio at ddata cyfeirir at y DU yn ei chyfanrwydd ac at y sectorau TG a Thelathrebu).
Cydraddoldeb Rhyw
Mae diffyg cydbwysedd rhwng y rhywiau yn parhau i fod yn broblem sylweddol o fewn y sector TG a Thelathrebu. O edrych ar rolau swydd proffesiynol ym maes TG a Thelathrebu ar draws yr holl sectorau, gostyngodd y gynrychiolaeth o ferched o 22% yn 2001 i 18% yn 2011. Dylid cymharu hyn â'r gyfran o 48% o ferched a geir yng ngweithlu cyfan y DU.
Fel sy'n wir mewn diwydiant, mae'r diffyg cydbwysedd rhwng y rhywiau i weld yn amlwg ar draws cyrsiau'n gysylltiedig â TG, ac mae'n gwaethygu dros amser drwy'r holl system addysg. Merched yw 15% o ymgeiswyr ar gyrsiau gradd Cyfrifiadura, a 6.5% yw cyfran y merched a wnaeth sefyll Safon Uwch Cyfrifiadura yn 2013, a oedd 1.3 pwynt canran yn is nag yn 2012.
Mae'r ffaith bod menywod wedi'u tangynrychioli ar draws yr holl sector TG a Thelathrebu yn deillio o nifer o achosion. Mae'r rhain yn cynnwys:
- diffyg ymwybyddiaeth (ymhlith unigolion a chynghorwyr gyrfa) ynghylch yr amrywiaeth eang o gyfleoedd gyrfa sydd ar gael
- dryswch wrth addysgu TGCh mewn ysgolion rhwng rolau Defnyddiwr TG a rolau TG proffesiynol.
Oedran y Gweithlu
Mae dadansoddiad o'r cyfnod 2001-2011 yn dangos tuedd newidiol ym mhroffil oedran gweithwyr proffesiynol TG a Thelathrebu. Gostyngodd cyfran y bobl 16-29 oed o 33% yn 2001 i 19% yn 2011.
Amcangyfrifir mai 39 yw oed cyfartalog gweithwyr proffesiynol TG a Thelathrebu sy'n gweithio yn y DU, o gymharu â 41 oed ar gyfer gweithwyr yn fwy cyffredinol. Mae ychydig llai na hanner (47%) y gweithwyr proffesiynol TG a Thelathrebu yn 40 oed neu'n hŷn ac mae llai nag un o bob pump (19%) yn y grŵp oedran 16-29.
Ffactor allweddol sy'n cyfrannu at y ddeinameg newidiol ym maes TG a Thelathrebu yw effaith globaleiddio. Bydd cynnal rhaglenni prentisiaeth cryf yn y sector yn hollbwysig er mwyn sicrhau y gellir rhoi terfyn ar y duedd hon, neu ei gwrthdroi yn y blynyddoedd nesaf, gan sicrhau drwy hynny fod gan y sector gyflenwad o'r gweithwyr proffesiynol medrus sydd eu hangen arno i symud i rolau swydd lefel uwch mewn 5-10 mlynedd.
Ethnigrwydd ac Anabledd
Mae'r diwydiant technolegau gwybodaeth a chyfathrebu ymhlith diwydiannau mwyaf amrywiol y DU o ran ethnigrwydd, gyda 13% o'r gweithlu (cynnydd o gymharu ag 8% o'r gweithlu yn 2002) yn bobl Ddu, Asiaidd neu Leiafrifol Ethnig o gymharu â 9% ar draws yr economi gyfan.
Ceir darpariaeth sylweddol i unigolion ag anableddau drwy'r holl sector TG a Thelathrebu gyda llawer o gyfleoedd amrywiol am yrfaoedd boddhaus ar bob lefel. Mae hyn yn ei dro'n golygu bod prentisiaethau ar gael mewn ystod eang o feysydd i rai â lefelau amrywiol o anabledd.
Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)
Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach. Ond argymhellir bod pob prentis yn derbyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.
Cyfrifoldebau
Cyfrifoldeb Darparydd yr Hyfforddiant a'r Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu bodloni yn unol â Chanllawiau Prentisiaethau Llywodraeth Cymru/Medr.
Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Medr
Atodiad 1
Lefel 6: Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol
Y berthynas rhwng cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth
Dyma gymhwyster gradd cyfun sy'n bodloni'r gofynion gwybodaeth a chymhwysedd, gydag isafswm o 360 credyd, fel y nodir ym manyleb deilliannau llwybr dysgu a sgiliau'r brentisiaeth gradd Digidol a Pheirianneg a Gweithgynhyrchu Uwch, 2019.
Fframwaith Prentisiaeth Gradd Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol - Sgiliau Lefel Uchel a Sgiliau Gwybodaeth
Gall myfyriwr sydd wedi ennill prentisiaeth gradd Peirianneg Meddalwedd:
1 . Ddatblygu'r wybodaeth, y sgiliau a'r cymwyseddau proffesiynol i weithredu mewn amgylchedd peirianneg meddalwedd proffesiynol, drwy ddatblygu ymagwedd broffesiynol at:
- Ddatblygu ac integreiddio meddalwedd dechnegol
- Cydweithio a gwaith tîm
- Ffocws ar gyflawni, gan gynnwys amcangyfrif tasgau prosiect ac olrhain cynnydd prosiectau
- Cyflwyno a chyfathrebu
2. Dylunio datrysiadau meddalwedd priodol mewn cyd-destunau/parthau rhaglen cyfoes perthnasol, ac ystyriaethau pensaernïol gan ddefnyddio ymagweddau at ddatblygu meddalwedd sy'n creu gwerth o safbwynt busnes ac sy'n bodloni gofynion cwsmeriaid.
3. Gwerthfawrogi'r ymagwedd stac llawn at ddatblygu meddalwedd, gan gynnwys sicrhau rhwyddineb i ddefnyddwyr blaen, a bod anghenion systemau data canol a chefn wedi'u bodloni.
4. Adeiladu a phrofi datrysiadau meddalwedd ar gyfer ystod o gymwysiadau/parthau cyd-destunol, drwy ddefnyddio dulliau datblygu cyfoes, gan ddeall sut i gymhwyso dulliau cyfoes fel Agile, DevOps, integreiddio parhaus.
5. Gweithredu dulliau o brofi meddalwedd, gan gynnwys profion uned, a dulliau sy'n seiliedig ar broses fel datblygiad a ysgogir gan ymddygiad neu a ysgogir gan brofion (BDD neu TDD).
6. Creu dogfennau meddalwedd perthnasol gan ddefnyddio arferion cyfoes megis creu dogfennau 'byw'.
7. Cymhwyso modelau, technegau a thechnolegau newydd wrth iddynt godi, a gwerthfawrogi rheidrwydd datblygiad proffesiynol parhaus yn gysylltiedig â hyn.
8. Ymwreiddio gofynion perthnasol ar gyfer cydnerthedd seiberddiogelwch drwy ddulliau rhaglennu amddiffynnol drwy gydol y cylch oes datblygu meddalwedd.
9. Dylunio, datblygu a rhoi cymwysiadau cwmwl ar waith, gan ddefnyddio graddio/perfformiad, a defnyddio peiriannau rhithiol (VMs) vs Cymwysiadau'r We.
10. Bod yn rhugl mewn o leiaf un iaith raglennu berthnasol hyd at safon y diwydiant, yn unol ag anghenion cyflogwr, a'r gallu i gyflawni tasgau ar unrhyw lefel berthnasol yn y stac technegol y maent yn gweithio ynddo.
Gwybodaeth
Gwybodaeth
Dylai myfyriwr sydd wedi ennill prentisiaeth gradd Peirianneg Meddalwedd wybod a deall y canlynol:
1. Damcaniaethau, modelau a thechnegau cyfredol er mwyn adnabod a dadansoddi problem peirianneg meddalwedd a dylunio, datblygu, gweithredu, dilysu a dogfennu meddalwedd, a sut i gymhwyso'r rhain.
2. Yr ystod o safonau a rheoliadau ar gyfer y diwydiant yn gysylltiedig â datblygu meddalwedd, gan gynnwys GDPR.
3. Sut i weithredu preifatrwydd drwy ddyluniad.
4. Sut i ddadansoddi gofynion y cwsmer a blaenoriaethu a chymhwyso'r rhain i ddatblygu cynnyrch meddalwedd sy'n gadarn a diogel, ac y gellir ei ehangu.
5. Sut i gadw'n gyfuwch â datblygiadau technegol a methodolegol mewn arfer peirianneg meddalwedd.
6. Yr ystod o offer safonol o fewn y diwydiant fel amgylcheddau datblygu integredig a rheoli ffynhonnell ac ati, a sut i'w cymhwyso.
7. Yr amgylchedd stac llawn, ac ystod y gwahanol weithgareddau a rolau sy'n cefnogi datblygiad, gan gynnwys:
- Seilwaith systemau (meddalwedd, systemau gweithredu a dibyniaethau)
- Creu, trin a holi cronfeydd data
- Cod API / ôl-weithrediadau
- Dyluniad a chod pen blaen (UX / UI).
8. Y technegau y gellir eu gweithredu i liniaru rhag bygythiadau seiberddiogelwch a phrif ffynonellau ymchwil y diwydiant ar gyfer bygythiadau seiberddiogelwch sy'n peryglu cymwysiadau (ee, deg risg diogelwch uchaf OWASP i gymwysiadau).
9. Egwyddorion patrymau meddalwedd cyfredol a sut i'w cymhwyso.
10. Rheoliadau cyfredol y diwydiant, gan gynnwys preifatrwydd drwy ddyluniad a GDPR.
11. Sut i ddogfennu, adeiladu, cynnal a rhoi cynnyrch a gwasanaethau meddalwedd ar waith, gan gefnogi defnyddwyr go iawn.
12. Sut i gynnal profion meddalwedd gan ddefnyddio profion uned i adolygu, dadfygio a phrofi cod er mwyn canfod a thrwsio bygiau a diffygion, a dulliau proses cyfoes fel datblygiad a ysgogir gan ymddygiad neu brofion (BDD neu TDD)
13. Pwysigrwydd defnyddio technegau negodi, arferion gwaith effeithiol, arweinyddiaeth a chyfathrebu da â rhanddeiliaid mewn amgylchedd nodweddiadol busnes datblygu meddalwedd.
14. Mae'r profiad defnyddiwr hwnnw a thaith lawn y defnyddiwr, gan gynnwys yr holl gyffyrddbwyntiau lle bydd defnyddiwr yn rhyngweithio â chynnyrch neu system feddalwedd yn fewnbynnau pwysig i'r broses o ddatblygu dyluniad meddalwedd.
15. Hanfodion gwasanaethau a hanfodion cwmwl, fel Seilwaith fel Gwasanaeth (IaaS), Llwyfan fel Gwasanaeth (PaaS) a Meddalwedd fel Gwasanaeth (SaaS).
16. Sut i greu a chysylltu setiau data a chymwysiadau a chymhwyso ystyriaethau dylunio cronfeydd data fel mynegeio, cloi, dilyniannu, diogelwch, trafodion, clystyru ac ati.
17. Sut i gyfleu syniadau technegol ar gyfer datblygu meddalwedd wrth ystod o gynulleidfaoedd, ar lafar ac yn ysgrifenedig.
18. Sut i gymhwyso technegau cyflwyno prosiect sy'n briodol i brosiectau peirianneg meddalwedd fel amcangyfrif, adolygu cynlluniau cyflawni a monitro cynnydd datblygu.
19. Gweithredu pensaernïaeth berthnasol a chyfoes ar gyfer meddalwedd, gan gynnwys pensaernïaeth sy'n canolbwyntio ar wasanaeth (SOA) a phensaernïaeth microwasanaethau.
Deilliannau Dysgu a Sgiliau Lefel Isel Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol
Pynciau Dysgu a Sgiliau ar gyfer Peirianneg Meddalwedd
1 . Busnes
1.1 Swyddogaethau, ymddygiad, moeseg a chwrteisi ym myd busnes
1.2 Strategaeth a rheoli busnes
1.3 Diogelu gwybodaeth busnes.
2. Technoleg
2.1 Hanfodion Datblygu Meddalwedd
2.2 Data ac Algorithmau
2.3 Modelu a Dadansoddi Meddalwedd
2.4 Pensaernïaeth Meddalwedd
2.5 Rheoli Gofynion Meddalwedd
2.6 Dylunio Meddalwedd
2.7 Gwirio a Phrofi Meddalwedd
2.8 Proses Datblygu Meddalwedd
2.9 Datblygu Meddalwedd mewn Cyd-destun
2.10 Ffurfweddiad Meddalwedd a Rheoli'r Broses Ryddhau
2.11 Rhoi Meddalwedd ar Waith
2.12 Cynnal Meddalwedd
2.13 Ansawdd Meddalwedd
2.14 Modelu Data, Datblygu Cronfa Ddata a Dadansoddi Data
2.15 Diogelwch Meddalwedd.
3. Rhaglennu Amddiffynnol / Diogelwch Meddalwedd
3.1. Risgiau diogelwch critigol cymwysiadau'r we
3.2. Arferion codio diogel
3.3. Fframweithiau codio a'u manteision.
4. Personol a Rhyngbersonol
4.1 Cyfathrebu
4.2 Rhinweddau personol
4.3 Priodoleddau proffesiynol
4.4 Cyfrifoldebau prosiect
4.5 Gwaith tîm.
Atodiad 2
Lefel 6: Gwyddor Data Gymhwysol
Y berthynas rhwng cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth
Dyma gymhwyster gradd cyfun sy'n bodloni'r gofynion gwybodaeth a chymhwysedd, gydag isafswm o 360 credyd, fel y nodir ym manyleb fframwaith prentisiaethau gradd Gwyddor Data Gymhwysol.
Sgiliau Lefel Uchel a Sgiliau Gwybodaeth
y Fframwaith Prentisiaeth Gradd Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol
Gall myfyriwr prentisiaeth gradd Gwyddor Data:
1 . Datblygu'r wybodaeth, y sgiliau a'r cymwyseddau proffesiynol i weithredu mewn amgylchedd gwyddor data proffesiynol, drwy ddatblygu ymagwedd broffesiynol at:
- Beirianneg data technegol, dadansoddeg data a gwyddor data
- Cydweithio a gwaith tîm
- Cyflawni prosiect data
- Cyflwyno a chyfathrebu
2. Nodi ac egluro'r problemau o flaen sefydliad, a'u trosi'n broblemau gwyddor Data. Dyfeisio atebion a gwneud penderfyniadau o fewn y cyd-destun, drwy ofyn am adborth gan randdeiliaid. Cymhwyso dulliau gwyddonol drwy ddylunio arbrawf, mesur, profi damcaniaethau a chreu canlyniadau. Cydweithio â chydweithwyr i gasglu gofynion.
3. Perfformio peirianneg data: creu a thrafod setiau data i'w dadansoddi. Defnyddio offer a thechnegau i ganfod, cyrchu, archwilio, proffilio, piblinellau, cyfuno, trawsnewid a storio data, a chymhwyso trefniadau llywodraethu (rheoli ansawdd, diogelwch, preifatrwydd) i ddata.
4. Nodi a defnyddio ystod briodol o ieithoedd ac offer rhaglennu i drin, dadansoddi a darlunio data, ac i integreiddio systemau. Dewis strwythurau data ac algorithmau priodol ar gyfer y broblem. Datblygu dadansoddiadau atgynyrchadwy a chod cadarn, gan weithio'n unol â safonau datblygu meddalwedd, gan gynnwys diogelwch, hygyrchedd, ansawdd codau a rheolaeth ar fersiynau.
5. Defnyddio dadansoddiadau a modelau'n sail ar gyfer deilliannau'r sefydliad, ac i wella'r sefydliad, gan adeiladu modelau a dilysu'r canlyniadau drwy brofion ystadegol: cynnal dadansoddiadau ystadegol, dethol nodweddion a pheirianneg nodweddion, dysgu peirianyddol, optimeiddio ac efelychiadau, drwy ddefnyddio'r technegau priodol ar gyfer y broblem.
6. Gweithredu datrysiadau data, gan ddefnyddio pensaernïaeth peirianneg meddalwedd a phatrymau dylunio perthnasol. Gwerthuso rhoi Cwmwl ar waith o gymharu â darpariaeth ar yr eiddo. Asesu'r gwerth am arian a'r Enillion ar Fuddsoddiad. Graddio system i fyny / allan.
7. Canfod, cyflwyno, cyfathrebu a dosbarthu allbynnau'n effeithiol, a chan greu cryn effaith, drwy adrodd storïau mewn modd creadigol, gan deilwra'r neges i'r gynulleidfa. Defnyddio'r cyfrwng gorau ar gyfer pob cynulleidfa, fel testunau technegol, adroddiadau a dangosfyrddau. Darlunio data er mwyn adrodd naratifau ysgogol y gellir gweithred yn eu sgil, sy'n berthnasol ar gyfer nodau'r sefydliad.
8. Datblygu a chynnal perthnasoedd cydweithredol ar raddfa strategol a gweithredol, drwy ddefnyddio dulliau fel empathi trefniadol (dynol, sefydliadol a thechnegol) a meithrin perthnasoedd drwy wrando'n weithredol ac ennyn ymddiriedaeth.
9. Defnyddio technegau ac offer cyflawni prosiect sy'n briodol ar gyfer ei brosiect Gwyddor Data a'i sefydliad. Cynllunio, trefnu a rheoli adnoddau er mwyn cynnal prosiect Gwyddor Data bach llwyddiannus, cyflawni nodau'r sefydliad a galluogi newid effeithiol.
Gwybodaeth
Dylai myfyriwr sydd wedi ennill prentisiaeth gradd Gwyddor Data ddeall:
1 . Cyd-destun Gwyddor Data a'r gymuned Gwyddor Data mewn perthynas â gwyddor cyfrifiadur, ystadegau a pheirianneg meddalwedd. Sut mae carfannau o wahanol feddylwyr yn y disgyblaethau hyn wedi ysgogi ymagweddau newydd at systemau data.
2. Sut mae Gwyddor Data yn gweithredu yng nghyd-destun llywodraethu data, diogelwch data a chyfathrebu. Sut y gellir cymhwyso Gwyddor Data i wella prosesau, gweithrediadau ac allbynnau sefydliad. Sut y gall data a dadansoddiadau arddangos tuedd a rhagfarn. Sut mae moeseg a deddfwriaeth gyfredol ynghylch preifatrwydd yn effeithio ar weithrediad Gwyddor Data.
3. Sut y gellir defnyddio data mewn modd systematig o fewn sefydliad, gan gynnwys:
3.1 Prosesu a storio data, gan gynnwys technolegau cwmwl ac ar yr eiddo.
3.2 Systemau cronfa ddata gan gynnwys prosesu perthynol, warysau data a phrosesu dadansoddol ar-lein, ac ymagweddau "DimSQL"; manteision ac anfanteision pob ymagwedd.
3.3 Gwneud penderfyniadau ar sail data a gwneud defnydd da o dystiolaeth a dadansoddeg wrth wneud penderfyniadau a dewisiadau.
4. Sut i ddylunio, gweithredu ac optimeiddio algorithmau dadansoddol - fel prototeipiau ac ar raddfa gynhyrchu - drwy ddefnyddio:
4.1 Modelau a dulliau ystadegol a mathemategol.
4.2 Dadansoddeg uwch a thechnegau dysgu peirianyddol, efelychiadau ac optimeiddio.
4.3 Cymwysiadau fel golwg gyfrifiadurol a Phrosesu Iaith Naturiol.
4.4 Ymwybyddiaeth o'r cyfyngiadau cyfrifiadurol a chyfyngiadau eraill ar adnoddau'r sefydliad, a'r elfennau lle mae angen cyfaddawdu wrth ddewis modelau, algorithmau ac offer.
4.5 Safonau datblygu, gan gynnwys ymarfer rhaglennu, profi, rheoli ffynonellau.
5. Y tirlun data: sut i gynnal dadansoddiad beirniadol, dehongli ac gwerthuso gwybodaeth gymhleth o setiau data amrywiol:
5.1 Ffynonellau data gan gynnwys ffeiliau, systemau gweithredu, cronfeydd data, gwasanaethau'r we, data agored, data'r llywodraeth, newyddion a'r cyfryngau cymdeithasol, ymhlith eraill.
5.2 Fformatau, strwythurau a dulliau cyflwyno data, gan gynnwys data "anstrwythuredig".
5.3 Patrymau cyffredin mewn data o'r byd go iawn.
Testunau a Deilliannau Lefel Isel y Fframwaith Prentisiaeth Gradd Gwyddor Data Gymhwysol
Pynciau Dysgu a Sgiliau ar gyfer Gwyddor Data Gymhwysol
1 . Busnes
1.1. Swyddogaethau busnes, ymddygiad, moeseg a chwrteisi
1.2. Strategaeth a rheoli busnes
1.3. Diogelwch gwybodaeth busnes
2. Technegau Gwyddor Data
2.1 Dadansoddi problemau data a damcaniaethu
2.2 Dadansoddiad ystadegol
2.3 Peirianneg data
2.4 Rhaglennu data
2.5 Dadansoddi data
2.6 Dysgu peirianyddol cymhwysol
2.7 Darlunio, cyflwyno a chyfathrebu data
2.8 Moeseg data.
3. Personol a rhyngbersonol29
3.1. Cyfathrebu
3.2. Rhinweddau personol
3.3. Rhinweddau proffesiynol
3.4 Cyfrifoldebau prosiect
3.5. Gwaith tîm
Atodiad 3
Lefel 6: Rheoli Seiberddiogelwch Cymhwysol
Y berthynas rhwng cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth
Dyma gymhwyster gradd cyfun sy'n bodloni'r gofynion gwybodaeth a chymhwysedd, gydag isafswm o 360 credyd, fel y nodir ym manyleb fframwaith prentisiaethau gradd Rheoli Seiberddiogelwch Cymhwysol.
Siliau Lefel Uchel a Sgiliau Gwybodaeth
y Fframwaith Prentisiaeth Gradd Seiberddiogelwch Cymhwysol
Gall myfyriwr sydd wedi ennill prentisiaeth gradd Seiberddiogelwch:
1. Datblygu'r wybodaeth, y sgiliau a'r cymwyseddau proffesiynol i weithredu mewn amgylchedd seiberddiogelwch proffesiynol, drwy ddatblygu ymagwedd broffesiynol at:
- Lywodraethu diogelwch gwybodaeth, rheoli risg, datblygu
a rheoli diogelwch gwybodaeth, a rheoli digwyddiadau diogelwch
- Cydweithio a gwaith tîm
- Cyflawni prosiect seiberddiogelwch
- Cyflwyno a chyfathrebu.
2. Cynorthwyo i ddatblygu a gweithredu strategaeth diogelwch gwybodaeth wedi'i halinio â nodau ac amcanion busnes. Nodi ffactorau sy'n effeithio ar y fenter. Datblygu achosion busnes i gyfiawnhau'r buddsoddiad mewn diogelwch gwybodaeth. Nodi gofynion cyfreithiol a rheoleiddiol.
3. Nodi, dadansoddi a gwerthuso bygythiadau a pheryglon diogelwch i system fusnes neu wasanaeth digidol, drwy ddefnyddio ffynonellau allanol perthnasol o gudd-wybodaeth neu gyngor ynghylch bygythiadau.
4. Sefydlu proses ar gyfer dosbarthu a pherchnogaeth ar asedau gwybodaeth. Gweithredu proses asesu risg gwybodaeth systematig a strwythuredig. Sicrhau bod asesiadau effaith busnes yn cael eu cynnal fesul cyfnod. Sicrhau bod gwerthusiadau o fygythiadau a bregusrwydd yn cael eu cynnal yn barhaus. Nodi a gwerthuso rheolaethau a gwrthfesurau diogelwch gwybodaeth. Nodi'r bwlch rhwng y lefelau risg cyfredol a'r lefelau risg a ddymunir er mwyn rheoli risg hyd at lefel dderbyniol. Hysbysu lefelau rheoli priodol am newidiadau o bwys i risg gwybodaeth.
5. Nodi'r gweithgareddau sydd i'w cyflawni o fewn rhaglen diogelwch gwybodaeth. Sicrhau cysondeb rhwng y rhaglen diogelwch gwybodaeth a swyddogaethau sicrwydd eraill. Sicrhau bod safonau, gweithdrefnau a dogfennau eraill i gefnogi polisïau diogelu gwybodaeth yn cael eu cyfleu a'u cynnal. Monitro, mesur, profi ac adrodd ar effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd rheolaethau a chydymffurfiaeth â pholisïau diogelwch gwybodaeth.
6. Nodi, dadansoddi, rheoli ac ymateb yn effeithiol, ac mewn modd rhagweithiol, i ddigwyddiadau diogelwch annisgwyl a allai gael effaith andwyol ar asedau gwybodaeth y fenter ac/neu ei gallu i weithredu.
Gwybodaeth
Dylai myfyriwr sydd wedi ennill prentisiaeth gradd prentisiaeth Seiberddiogelwch wybod a deall:
1 . Sylfeini seiberddiogelwch, ei bwysigrwydd i fusnes a chymdeithas, y ddamcaniaeth a chysyniadau fel: diogelwch, hunaniaeth, cyfrinachedd, hygrededd, argaeledd, bygythiadau, bregusrwydd, risg, perygl a sicrwydd, a'r gydberthynas rhwng y rhain.
2. Deall y gofynion eang ar gyfer rheoli diogelwch gwybodaeth yn effeithiol, a'r elfennau a'r camau sydd eu hangen i ddatblygu strategaeth diogelwch gwybodaeth a chynllun gweithredu i roi'r strategaeth honno ar waith.
3. Deall natur yr wybodaeth sy'n cael ei gwarchod, er mwyn ei dosbarthu ac esbonio effaith peryglu'r wybodaeth honno.
4. Pwysigrwydd rheoli risg fel offeryn i fodloni anghenion busnes a datblygu rhaglen rheoli diogelwch i gefnogi'r anghenion hyn gan reoli risg gwybodaeth hyd at lefel dderbyniol, er mwyn bodloni gofynion y sefydliad o ran busnes a chydymffurfiaeth.
5. Y gofynion eang a'r gweithgareddau sydd eu hangen i greu, rheoli a chynnal rhaglen i weithredu strategaeth diogelwch gwybodaeth. Gall y rhaglen diogelwch gwybodaeth gynnwys cyfres o brosiectau a mentrau i gyflawni'r amcanion y mae'r strategaeth wedi'i llunio i ymdrin â nhw, yn ogystal â threfniadau rheoli a gweinyddu parhaus.
6. Sut i weithredu prosesau ar gyfer ymateb i ddigwyddiadau seiberddiogelwch, a dilyn y rhain pan nodir digwyddiad.
7. Deddfau a moeseg perthnasol - disgrifio safonau diogelwch, rheoliadau a'u goblygiadau; rôl cyfraith trosedd, a chyfreithiau eraill; nodweddion perthnasol allweddol yng nghyfraith y DU ac mewn cyfraith ryngwladol.
8. Y tirlun presennol o fygythiadau, tueddiadau a'u harwyddocâd, gan gynnwys sut i gymhwyso technegau perthnasol i gudd-wybodaeth am fygythiadau.
9. Yr angen i ymwreiddio gofynion cydnerthedd seiberddiogelwch drwy'r holl gylchoedd oes yn natblygiad cymwysiadau a seilwaith.
Pynciau a Deilliannau Lefel Isel y Fframwaith Prentisiaeth Gradd Seiberddiogelwch Cymhwysol
Pynciau Dysgu a Sgiliau ar gyfer Seiberddiogelwch Cymhwysol
1 . Busnes
1.1. Swyddogaethau busnes, ymddygiad, moeseg a chwrteisi
1.2. Strategaeth a rheoli busnes.
2. Cysyniadau a sylfeini diogelwch
2.1 Cysyniadau seiberddiogelwch
2.2 Bygythiadau seiberddiogelwch
2.3 Gwendidau seiberddiogelwch
2.4 Dadansoddi a rheoli bygythiadau mewnol38
2.5 Sicrwydd gwybodaeth
2.6 Diwylliant seiberddiogelwch
2.7 Ymwybyddiaeth o seiberddiogelwch.
3. Llywodraethu diogelwch gwybodaeth
3.1. Yr amgylchedd cyfreithiol, rheoleiddiol a chydymffurfiol
3.2. Rôl sicrwydd wrth reoli'r fenter ddiogel
3.3. Safonau a pholisïau rheoli diogelwch
3.4. Sefydlu strategaeth diogelwch gwybodaeth
3.5. Sefydlu a chynnal fframwaith llywodraethu diogelwch gwybodaeth
3.6. Integreiddio llywodraethu diogelwch gwybodaeth yn nhrefniadau llywodraethu'r fenter
3.7. Sefydlu a chynnal polisïau diogelwch gwybodaeth.
4. Rheoli risg gwybodaeth a chydymffurfiaeth
4.1. Modelu a dadansoddi risg
4.2. Asesu Risg
4.3. Rheoli risg cymhwysol
5. Datblygu a rheoli rhaglenni diogelwch gwybodaeth
5.1. Gweithredu a chynnal rhaglenni diogelwch
5.2. Integreiddio gofynion diogelwch gwybodaeth mewn prosesau mewnol ac mewn contractau 3ydd parti
5.3. Monitro metrigau rhaglenni diogelwch gwybodaeth.
6. Rheoli ac ymchwilio i ddigwyddiadau
6.1. Monitro a dadansoddi diogelwch, a darganfod tresmasu
6.2. Rheoli ac ymdrin â'r ymateb i ddigwyddiadau
6.3. Gwaith fforensig digidol.
7. Personol a rhyngbersonol
7.1. Cyfathrebu
7.2. Rhinweddau personol
7.3. Rhinweddau proffesiynol
7.4. Cyfrifoldebau prosiect
7.5. Gwaith tîm