The content of this Pathway has been agreed by ODAG Consultants Ltd. This is the only Apprenticeship Pathway for IT Solutions Development and Support approved for use in Wales that is eligible for Welsh Government funding.
Cynnwys y Rhaglen Ddysgu
Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:
- Cymwysterau,
- Sgiliau Hanfodol
- Hyfforddiant yn y gwaith/i ffwrdd o'r gwaith
Yr isafswm credyd gofynnol ar gyfer:
Lefel 3 - Datblygu a Chefnogi Datrysiadau TG yw 114 credyd.
Lefel 4 - Datblygu a Chefnogi Datrysiadau TG yw 168 credyd.
Gofynion mynediad
Lefel 3: Datblygu a Chefnogi Datrysiadau TG
Dylai dysgwyr feddu ar gymwysterau (neu brofiad cyfatebol) ar yr un lefelau â'r dyfarniad neu ychydig yn is na'r dyfarniad. Er enghraifft, efallai y bydd gan ymgeiswyr gymhwyster FfCChC ar lefelau 2, 3 neu 4. Yn benodol, byddai cymwysterau ar y lefelau hyn mewn Mathemateg yn fanteisiol.
Fel arall, gall ymgeisydd fod wedi cwblhau Prentisiaeth yn llwyddiannus ar Lefel 2 neu 3 FfCChC. Nid yw'n ofyniad llym bod yn rhaid i ddysgwyr feddu ar gymwysterau Cyfrifiadura neu TG cyn dilyn y llwybr hwn, ond oherwydd gofynion gwybyddol y cymhwyster tanategol, mae'n annhebygol y bydd ymgeiswyr yn llwyddo i gwblhau'r llwybr heb rywfaint o wybodaeth am gyfrifiaduron a phrofiad ohonynt ac/neu brawf o sgiliau deallusol ar lefel briodol.
Mae mwyafrif y cyflogwyr yn y maes hwn yn gofyn am ymgeiswyr sydd:
- yn ddysgwyr rhagweithiol, cyflym;
- yn gallu gweithio mewn tîm ac weithiau ar eu pen eu hunain, yn gallu canolbwyntio ar helpu cwsmeriaid a chydweithwyr i ganfod atebion i broblemau
- yn gallu gweithio'n rhesymegol ac fesul cam, yn aml o dan bwysau yn erbyn dyddiadau terfyn llym
- yn gallu gwneud yr hyn sydd ei angen, pan fo angen
- yn agored i newid ac yn canolbwyntio ar ofynion y busnes ar bob achlysur
Dylai ymgeiswyr fod â diddordeb brwd mewn technolegau digidol a rhywfaint o brofiad o adeiladu a chynnal presenoldeb ar y we.
Lefel 4: Datblygu a Chefnogi Datrysiadau TG
Yn ogystal â'r gofynion mynediad Cyffredinol, bydd angen i ymgeiswyr sydd am gael mynediad i Brentisiaeth Uwch fod wedi cyflawni un o'r canlynol:
- Cymwysterau Safon Uwch, neu gyrhaeddiad addysgol cyfwerth, gan gynnwys y Diploma TG Lefel 3
- Bagloriaeth Cymru neu'r Fagloriaeth Ryngwladol neu Dystysgrif Dechnegol Lefel 3 berthnasol.
- Prentisiaeth (Lefel 3)
- Cyflogaeth o fewn y diwydiant technoleg/telathrebu ers rhai blynyddoedd, ac wedi dangos i'w gyflogwr y gellir disgwyl yn rhesymol iddo gyflawni deilliannau gofynnol y Brentisiaeth Uwch. Gellir ategu hyn drwy dystiolaeth neu ddangos ei fod wedi cyflawni neu berfformio yn y rôl cyn cychwyn y Brentisiaeth Uwch.
Dylai darpar brentisiaid gofio bod Prentisiaeth Uwch yn cyfuno heriau addysg lefel uwch â chyflogaeth amser llawn, a dylent fod yn barod am fwy o waith astudio, a hynny ar lefel uwch, nag a gafwyd yn y Brentisiaeth neu mewn unrhyw gymhwyster arall Lefel 3.
Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth
Lefel 3: Datblygu a Chefnogi Datrysiadau TG
Lefel 3: Datblygu a Chefnogi Datrysiadau TG Cymwysterau
Mae'n rhaid i gyfranogwyr ennill y cymhwyster cyfun isod.
| Lefel 3 - Diploma mewn Datblygu Datrysiadau TG | |||||
|---|---|---|---|---|---|
| Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
| Agored Cymru | C00/1233/2 | 96 | 960 | Cymhwysedd | Saesneg-Cymraeg |
Gweler Atodiad 1 am y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
| Lefel 3: Datblygu a Chefnogi Datrysiadau TG | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
|---|---|---|
| Cyfathrebu | 2 | 6 |
| Cymhwyso Rhif | 2 | 6 |
| Llythrennedd Digidol | 2 | 6 |
Asesir cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
| Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
|---|---|---|
| Lefel 3: Datblygu a Chefnogi Datrysiadau TG | 120 | 480 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
96 credyd ar gyfer cymhwysedd a gwybodaeth - Diploma Lefel 3 Agored Cymru mewn Datblygu Datrysiadau TG (Cyfun).
600 yw cyfanswm yr oriau dysgu ar gyfer y Brentisiaeth Datblygu a Chefnogi Datrysiadau TG, sy'n cynnwys hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith.
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd / 60 GLH Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd / 60 GLH Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd / 60 GLH Lefel 2 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru
Lefel 4: Datblygu a Chefnogi Datrysiadau TG
Lefel 4: Datblygu a Chefnogi Datrysiadau TG Cymwysterau
Mae'n rhaid i gyfranogwyr gwblhau'r cymwysterau cyfun isod.
| Level 4 - Diploma Datblygu Datrysiadau TG | |||||
|---|---|---|---|---|---|
| Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
| Agored Cymru | C00/1233/8 | 150 | 1500 | Cymhwysedd | Saesneg-Cymraeg |
Gweler Atodiad 2 am y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
| Lefel 4: Datblygu a Chefnogi Datrysiadau TG | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
|---|---|---|
| Cyfathrebu | 3 | 6 |
| Cymhwyso Rhif | 3 | 6 |
| Llythrennedd Digidol | 3 | 6 |
Asesir cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
| Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
|---|---|---|
| Lefel 4: Datblygu a Chefnogi Datrysiadau TG | 320 | 1180 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
150 credyd ar gyfer cymhwysedd a gwybodaeth - Diploma Lefel 4 Agored Cymru mewn Datblygu Datrysiadau TG (Cyfun).
1500 yw cyfanswm yr oriau dysgu ar gyfer y Brentisiaeth Uwch Datblygu a Chefnogi Datrysiadau TG, sy'n cynnwys hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith.
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd / 60 GLH Lefel 3 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd / 60 GLH Lefel 3 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd / 60 GLH Lefel 3 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru
Gofynion eraill ychwanegol
Amh
Dilyniant
Dilyniant o'r Brentisiaeth Lefel 3 hon mewn : Datblygu a Chefnogi Datrysiadau TG
Mae'r Rhaglen Brentisiaeth Lefel 3 yn cynnig cyfle i brentisiaid llwyddiannus gael astudio ymhellach a mynd rhagddynt i ddilyn rhaglen gradd gysylltiedig. Gallent ddewis gradd Baglor, gradd Sylfaen, cymhwyster Cenedlaethol Uwch neu gymhwyster lefel uwch arall. Gall prentisiaid hefyd ddewis parhau o fewn eu rôl swydd a dysgu drwy ddilyn hyfforddiant a chymwysterau technegol, busnes neu reoli ychwanegol.
Bydd prentisiaid sydd wedi cwblhau rhaglen brentisiaeth Lefel 3 yn aml wedi symud ymlaen o fewn eu gyrfa i swydd arweinydd tîm neu lefel uwch, gan ddefnyddio eu harbenigedd technegol cynyddol - a llywio a hyfforddi eraill o fewn y sefydliad.
Dilyniant o'r Brentisiaeth Lefel 4 hon mewn Datblygu a Chefnogi Datrysiadau TG:
Ar ôl cwblhau llwybr Prentisiaeth Uwch Lefel 4, bydd prentisiaid yn gallu cwblhau astudiaethau gwybodaeth dilynol a symud ymlaen i gwblhau rhaglenni gradd Anrhydedd llawn.
Neu gymwysterau rôl-benodol eraill a gydnabyddir gan ddiwydiant:
- Hyfforddiant ac achrediad Rheoli Prosiect (PRINCE2, MSP, PMI, APM ac Agile)
- Hyfforddiant ac achrediad Rheoli Gwasanaeth (hyfforddiant ITIL, SDI ac ISO/IEC 2000)
- Hyfforddiant Rheoli a Datblygiad Personol
Mae ystod eang o hyfforddiant technoleg craidd a hyfforddiant gwerthwr hefyd ar gael - sy'n arwain at gymwysterau a gydnabyddir gan y diwydiant.
Bydd rhai cymwysterau'n rhoi'r hawl i fod yn aelod o sefydliad proffesiynol, gan gynnig cyfleoedd i rwydweithio a datblygu gyrfa. Er enghraifft, dod yn aelod o'r sefydliadau proffesiynol a ganlyn.
- Cymdeithas Cyfrifiaduron Prydain (BCS)
- Y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg (IET)
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos sut i fynd ati’n weithredol i nodi a chael gwared â ffactorau sy'n atal mynediad a dilyniant. Dylai llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion a chanddynt nodweddion gwarchodedig a'r rhai nad oes ganddynt y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Y nodweddion gwarchodedig a nodwyd yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, Beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared â gwahaniaethu mewn cyflogaeth.
Mae'n RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr yn nhermau mynediad i'r diwydiant ar sail y naw o nodweddion gwarchodedig hynny.
|
Nid oes unrhyw rwystrau o ran mynediad i Lwybrau Datblygu a Chefnogi Datrysiadau TG, a bwriedir iddynt gynnwys pob dysgwr waeth beth fo'i ryw, ei oedran, ei anabledd neu ei darddiad ethnig. Er mwyn bodloni gofynion dysgwyr, gellir defnyddio nifer o wahanol arddulliau dysgu i gyflwyno'r cynnwys sy'n ofynnol ar gyfer dysgu i ffwrdd o'r gwaith. Mae'n rhaid i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr gydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr yn nhermau mynediad i'r sector, a dyrchafiad o fewn y sector, ar sail y nodweddion gwarchodedig. Mae'r adrannau canlynol wedi'u cynnwys i ddisgrifio demograffeg cyfredol y gweithlu (Mae data'n cyfeirio at y DU gyfan ac at y sector TG a Thelathrebu cyfan, y mae Diogelwch Gwybodaeth yn rhan ohono) CYDRADDOLDEB RHYW Mae diffyg cydbwysedd rhwng y rhywiau yn parhau i fod yn broblem sylweddol o fewn y sector TG. Mae'r ffaith bod menywod wedi'u tangynrychioli yn deillio o nifer o achosion, gan gynnwys:
ETHNIGRWYDD AC ANABLEDD Mae'r diwydiant technolegau gwybodaeth a chyfathrebu ymhlith un o ddiwydiannau mwyaf amrywiol o ran ethnigrwydd yn y DU. Ceir darpariaeth sylweddol i unigolion ag anableddau drwy'r holl sector TG a Thelathrebu gyda llawer o gyfleoedd amrywiol am yrfaoedd boddhaus ar bob lefel. Mae hyn yn ei dro'n golygu bod prentisiaethau ar gael mewn ystod eang o feysydd i rai â lefelau amrywiol o anabledd. |
Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)
Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach. Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn derbyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.
Cyfrifoldebau
Cyfrifoldeb Darparydd yr Hyfforddiant a'r Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu bodloni yn unol â Chanllawiau Prentisiaethau Llywodraeth Cymru.
Gellir cael rhagor o wybodaeth gan:
Llywodraeth Cymru
Atodiad - Lefel 3: Datblygu a Chefnogi Datrysiadau TG
Y berthynas rhwng cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth
Diploma Lefel 3 Agored mewn Datblygu Datrysiadau TG - Ceir hyd i Fanyleb y Cymhwyster yn:
https://www.agored.cymru/Unedau-a-Chymwysterau/Cymhwyster/127782
Rhif Cymeradwyo/Dynodi CC: C00/1233/2
Cyfanswm y credydau sy'n ofynnol: 96
Oriau dysgu dan arweiniad (GLH): 457
Cyfanswm Amser y Cymhwyster (TQT): 960 awr
Isafswm y credydau ar lefel y cymhwyster neu'n uwch: 54
Atodiad 2 - Lefel 4: Datblygu a Chefnogi Datrysiadau TG
Y berthynas rhwng cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth
Diploma Lefel 4 Agored mewn Datblygu Datrysiadau TG - Ceir hyd i Fanyleb y Cymhwyster yn:
https://www.agored.cymru/Unedau-a-Chymwysterau/Cymhwyster/127783
Rhif Cymeradwyo/Dynodi CC: C00/1233/8
Cyfanswm y credydau sy'n ofynnol: 150
Oriau dysgu dan arweiniad (GLH): 700
Cyfanswm Amser y Cymhwyster (TQT): 1500 awr
Isafswm y credydau ar lefel y cymhwyster neu'n uwch: 90