The content
Learning Programme Content
Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:
- Cymwysterau,
- Sgiliau Hanfodol
- Hyfforddiant yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Yr isafswm credyd gofynnol ar gyfer:
Lefel 2 - Cymorth Cymwysiadau Digidol yw 82 credyd.
Lefel 3 - Cymorth Cymwysiadau Digidol yw 102 credyd.
.
Entry requirements
Lefel 2: Cymorth Cymwysiadau Digidol / Lefel 3: Cymorth Cymwysiadau Digidol
Nid oes unrhyw ofynion ychwanegol ar wahân i'r gofynion mynediad cyffredinol ar gyfer Prentisiaethau Sylfaen Lefel 2. Fodd bynnag, bydd y rhan fwyaf o gyflogwyr yn gofyn am radd dda (A*-C) mewn TGAU Saesneg a Mathemateg, fel gofyniad sylfaenol er mwyn cael mynediad.
Nid oes unrhyw amodau mynediad penodol ar gyfer llwybr Prentisiaeth Lefel 3, ond dyma gymwysterau a allai fod yn sail ddefnyddiol i'r Brentisiaeth:
• Dysgu o'r Llwybrau 14 i 19
• Cymwysterau ym Magloriaeth Cymru
• Sgiliau Allweddol Ehangach
• Sgiliau Hanfodol Cymru
• TGAU, cymwysterau Safon Uwch neu Ddiplomas Cenedlaethol mewn pynciau'n gysylltiedig â TGCh
Er nad yw'n orfodol i ymgeisydd fod wedi ennill cymhwyster is ym maes TG cyn cychwyn y Prentisiaethau hyn, gallai hynny fod yn fuddiol. Mae angen dysgu rhai o egwyddorion sylfaenol a sgiliau technegol craidd ym maes TG ar lefel sylfaenol cyn y gellir cymhwyso sgiliau a thechnegau uwch yn effeithiol yn y gweithle. Gellir defnyddio Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol yn dystiolaeth o hyn. Mewn rhai achosion, fodd bynnag, gallai ymgeisydd gael mynediad uniongyrchol i'r Brentisiaeth drwy hyfforddiant neu brofiad blaenorol.
Ar gyfer mwyafrif y rolau prentisiaeth Cymorth Cymwysiadau Digidol mae angen:
- Dysgwyr rhagweithiol, cyflym
- Unigolion sy'n gallu gweithio'n annibynnol neu fel aelod o dîm
- Y gallu i ganolbwyntio ar helpu cwsmeriaid a chydweithwyr i ganfod atebion i broblemau
- Sylw da i fanylder a'r gallu i gyflawni'r hyn y gofynnir amdano, ar yr adeg iawn.
- I unigolion fod yn agored i newid a chanolbwyntio ar ofynion y busnes ar bob achlysur
Byddai rolau ym maes rheoli a gweinyddu data yn gweddu i unigolion:
- sy'n drefnus ac effeithlon
- sy'n dda am ddatrys problemau
- sy'n gallu rheoli tasgau lluosog neu gymhleth
Byddai rolau ym maes cyhoeddi ar y we neu'r diwydiant creadigol yn gweddu i rai:
- Â diddordeb mewn dylunio a chreadigrwydd, gyda dawn i greu cynnyrch sain, fideo a chynnyrch arall amlgyfrwng;
- â sgiliau cyfathrebu a gwaith tîm da
Apprenticeship pathway learning programme(s)
Lefel 2: Cymorth Cymwysiadau Digidol
Lefel 2: Cymorth Cymwysiadau Digidol Cymwysterau
Mae'n rhaid i gyfranogwyr ennill y cymhwyster cyfun isod
Gweler Atodiad 1 am y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.
Essential Skills Wales (ESW)
Lefel 2: Cymorth Cymwysiadau Digidol | Lefel | Minimum Credit Value |
---|---|---|
Communication | 1 | 6 |
Application of number | 1 | 6 |
Digital literacy | 1 | 6 |
Asesir cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn Gymraeg ac yn Saesneg.
On/Off the Job training
Pathway | Minimum On the Job Training Hours | Minimum Off the Job Training Hours |
---|---|---|
Lefel 2: Cymorth Cymwysiadau Digidol | 180 | 240 |
On/Off the Job Qualification details (Minimum Credit & Hours)
64 credyd ar gyfer cymhwysedd a gwybodaeth - Diploma Lefel 2 Agored Cymru mewn Cymorth Cymwysiadau Digidol (Cyfun). 420 yw cyfanswm yr oriau dysgu ar gyfer y Brentisiaeth Sylfaen Cymorth Cymwysiadau Digidol, sy'n cynnwys hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith.
|
On/Off the Job Essential Skills details (Minimum Credit & Hours)
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 1 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 1 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 1 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru
Lefel 3: Cymorth Cymwysiadau Digidol
Lefel 3: Cymorth Cymwysiadau Digidol Cymwysterau
Mae'n rhaid i gyfranogwyr gwblhau'r cymwysterau cyfun isod.
Gweler Atodiad 2 am y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun
Essential Skills Wales (ESW)
Lefel 3: Cymorth Cymwysiadau Digidol | Lefel | Minimum Credit Value |
---|---|---|
Communication | 2 | 6 |
Application of number | 2 | 6 |
Digital literacy | 2 | 6 |
Asesir cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn Gymraeg ac yn Saesneg.
On/Off the Job training
Pathway | Minimum On the Job Training Hours | Minimum Off the Job Training Hours |
---|---|---|
Lefel 3: Cymorth Cymwysiadau Digidol | 260 | 240 |
On/Off the Job Qualification details (Minimum Credit & Hours)
84 credyd ar gyfer cymhwysedd a gwybodaeth - Diploma Lefel 3 Agored Cymru mewn Cymorth Cymwysiadau Digidol (Cyfun).
500 yw cyfanswm yr oriau dysgu ar gyfer y Brentisiaeth Cymorth Cymwysiadau Digidol, sy'n cynnwys hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith.
On/Off the Job Essential Skills details (Minimum Credit & Hours)
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru
Other additional requirements
Amh
Progression
Dilyniant o'r Brentisiaeth Sylfaen Lefel 2 hon mewn: Cymorth Cymwysiadau Digidol:
Mae'r Rhaglen Brentisiaeth Lefel 2 yn cynnig cyfle i brentisiaid llwyddiannus symud ymlaen ymhellach yn eu hastudiaethau a chwblhau rhaglen Brentisiaeth Lefel 3, Graddau Sylfaen, Cymwysterau Cenedlaethol Uwch neu gymhwyster lefel uwch arall. Gall prentisiaid hefyd ddewis parhau â'u swydd a pharhau i ddysgu drwy gwblhau hyfforddiant a chymwysterau technegol neu fusnes ychwanegol.
Dilyniant o'r Brentisiaeth Lefel 3 yma mewn Cymorth Cymwysiadau Digidol:
Mae'r Rhaglen Brentisiaeth Lefel 3 yn cynnig cyfle i brentisiaid llwyddiannus gael astudio ymhellach a mynd rhagddynt i ddilyn rhaglen gradd gysylltiedig.
Gallent ddewis gradd Baglor, gradd Sylfaen, cymhwyster Cenedlaethol Uwch neu gymhwyster lefel uwch arall. Gall prentisiaid hefyd ddewis parhau o fewn eu rôl swydd a dysgu drwy ddilyn hyfforddiant a chymwysterau technegol, busnes neu reoli ychwanegol.
Bydd prentisiaid sydd wedi cwblhau rhaglen brentisiaeth Lefel 3 yn aml wedi symud ymlaen o fewn eu gyrfa i swydd arweinydd tîm neu lefel uwch, gan ddefnyddio eu harbenigedd technegol cynyddol - a llywio a hyfforddi eraill o fewn y sefydliad.
Equality and diversity
Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos sut i fynd ati’n weithredol i nodi a chael gwared â ffactorau sy'n atal mynediad a dilyniant. Dylai llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion a chanddynt nodweddion gwarchodedig a'r rhai nad oes ganddynt y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Y nodweddion gwarchodedig a nodwyd yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, Beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared â gwahaniaethu mewn cyflogaeth.
Mae'n RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr yn nhermau mynediad i'r diwydiant ar sail y naw o nodweddion gwarchodedig hynny.
CYDRADDOLDEB RHYW Mae diffyg cydbwysedd rhwng y rhywiau yn parhau i fod yn broblem sylweddol o fewn y sector TG a Thelathrebu. Mae'r gynrychiolaeth o ferched wedi gostwng o 22% yn 2001 i 16% yn 2016 (51% ar draws Cymru gyfan) Mae'r diffyg cydbwysedd yn gwaethygu ar draws y diwydiant TG, a chyrsiau'n gysylltiedig â TG. Mae Instructus wedi cychwyn nifer o raglenni i annog merched i ystyried gyrfa ym maes TG. OED Y GWEITHLU Oed cyfartalog gweithwyr proffesiynol ym maes TG a Thelathrebu yn y DU yw 39 oed (41 oed ar gyfer gweithwyr yn fwy cyffredinol). Mae 47% yn 40 oed neu'n hŷn, a dim ond 19% sy'n 16-29 oed (gostyngiad o gymharu â 33% yn 2001). Bydd rhaglenni prentisiaeth cryf yn y sector hwn yn helpu i sefydlu cyflenwad o weithwyr proffesiynol medrus a fydd yn symud i rolau swydd lefel uwch mewn 510 o flynyddoedd. ETHNIGRWYDD AC ANABLEDD Mae'r diwydiant technolegau gwybodaeth a chyfathrebu ymhlith diwydiannau mwyaf amrywiol y DU o ran ethnigrwydd, gyda 13% o'r gweithlu (cynnydd o gymharu ag 8% o'r gweithlu yn 2002) yn bobl Ddu, Asiaidd neu Leiafrifol Ethnig o gymharu â 9% ar draws yr economi gyfan. Ceir darpariaeth sylweddol i unigolion ag anableddau drwy'r holl sector TG a Thelathrebu gyda llawer o gyfleoedd amrywiol am yrfaoedd boddhaus ar bob lefel. Mae ystod eang o brentisiaethau TG ar gael i'r rhai a chanddynt wahanol lefelau anabledd.
|
Employment responsibilities and rights
Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach. Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn derbyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.
Responsibilities
Cyfrifoldeb Darparydd yr Hyfforddiant a'r Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu bodloni yn unol â Chanllawiau Prentisiaethau Llywodraeth Cymru.
Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Llywodraeth Cymru
DfES-ApprenticeshipUnit@llyw.cymru
Atodiad 1
Lefel 2: Cymorth Cymwysiadau Digidol
Y berthynas rhwng cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth
Diploma Lefel 2 Agored ar gyfer Cymorth Cymwysiadau Digidol - ceir hyd i Fanyleb y Cymhwyster yn:
https://www.agored.cymru/Unedau-a-Chymwysterau/Cymhwyster/127779
Rhif Cymeradwyo/Dynodi CC: C00/1231/7
Cyfanswm y credydau sy'n ofynnol: 64
Oriau dysgu dan arweiniad (GLH): 265
Cyfanswm Amser y Cymhwyster (TQT): 640 awr
Isafswm y credydau ar lefel y cymhwyster neu'n uwch: 48
Atodiad 2
Lefel 3: Cymorth Cymwysiadau Digidol
Y berthynas rhwng cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth
Diploma Lefel 3 Agored ar gyfer Cymorth Cymwysiadau Digidol - ceir hyd i Fanyleb y Cymhwyster yn:
https://www.agored.cymru/Unedau-a-Chymwysterau/Cymhwyster/127777
Rhif Cymeradwyo/Dynodi CC: C00/1231/4
Cyfanswm y credydau sy'n ofynnol: 84
Oriau dysgu dan arweiniad (GLH): 378
Cyfanswm Amser y Cymhwyster (TQT): 840 awr
Isafswm y credydau ar lefel y cymhwyster neu'n uwch: 63