Mae SEMTA wedi cytuno ar gynnwys y Llwybrau hyn. Dyma'r unig Lwybrau prentisiaeth yn y sector Peirianneg a gymeradwywyd i'w defnyddio yng Nghymru sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru.
Learning Programme Content
Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:
- Cymwysterau,
- Sgiliau Hanfodol
- Hyfforddiant yn y gwaith/i ffwrdd o'r gwaith
Yr isafswm credyd gofynnol ar gyfer:
Lefel 2: Cynnal a Chadw Cledrau yw 77 credyd.
Entry requirements
Gofynion Mynediad Cyffredinol
Mae'r rhan fwyaf o'r ymgeiswyr ar y llwybr hwn yn debygol o fod wedi gadael yr ysgol ar ôl cwblhau eu hastudiaethau TGAU neu Fagloriaeth Cymru ac, mewn rhai achosion, gweithgarwch galwedigaethol perthnasol fel Rhaglen Cyn Prentisiaeth neu brofiad gwaith estynedig.
Yn fwy penodol gallant:
- fod wedi cael profiad gwaith neu fod wedi'u cyflogi'n flaenorol yn y sector rheilffyrdd
- fod wedi cwblhau Diploma 14 i 19 mewn Peirianneg neu
- feddu ar gymwysterau TGAU mewn Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth (gradd D i E neu'n uwch) neu
- feddu ar gymhwyster Bagloriaeth Cymru neu
- fod wedi cwblhau Rhaglen Beirianneg Uwch (y rhaglen Llwybrau at Brentisiaeth gynt) neu
- fod yn awyddus ac wedi'u hysgogi i weithio yn y sector peirianneg rheilffyrdd neu
- fod â meddwl ymarferol ac eisiau gweithio gyda'u dwylo neu
- fod yn barod i ddilyn cwrs hyfforddi yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith, ac i gymhwyso'r hyn a ddysgir yn y gweithle neu
- fod wedi cwblhau Cyn-Brentisiaeth mewn Peirianneg neu faes arall cysylltiedig neu fod wedi cwblhau Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) neu Gymwysterau Sgiliau Hanfodol (CSH) neu
- fod â diddordeb mewn datrys problemau a threfnu gweithgareddau neu
- fod wedi cwblhau profion rhifedd, llythrennedd a sgiliau cyfathrebu sylfaenol a meddu ar ymwybyddiaeth ofodol.
Efallai y bydd gan ymgeiswyr eraill brofiad o weithio yn y sector, a'u bod bellach yn ceisio cymhwyso drwy ddilyn rhaglen brentisiaeth.
Byddai diddordeb arbennig yn cael ei ddangos yn yr ymgeiswyr hynny sydd wedi cael profiad gwaith neu wedi'u cyflogi'n flaenorol yn y sector rheilffyrdd.
Lefel 2: Cynnal a Chadw Cledrau
Nid oes unrhyw ofynion ychwanegol ar wahân i'r gofynion mynediad cyffredinol.
Apprenticeship pathway learning programme(s)
Lefel 2: Cynnal a Chadw Cledrau
Lefel 2: Cynnal a Chadw Cledrau Cymwysterau
Mae'n rhaid i'r cyfranogwyr ennill un o'r cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth a ganlyn:
Lefel 2 Diploma NVQ mewn Peirianneg Rheilffyrdd - Cynnal a Chadw Cledrau | |||||
---|---|---|---|---|---|
Awarding Body | Qualification No. | Credit Value | Total Qualification Time | Combined / Competence / Knowledge | Qualification Assessment Lanaguage(s) |
City & Guilds | C00/0340/2 600/1076/9 | 37 | 370 | Gwybodaeth | Saesneg yn Unig |
EAL | C00/0565/7 601/0198/2 | 37 | 370 | Gwybodaeth | Saesneg yn Unig |
Lefel 2 Tystysgrif mewn Gwybodaeth Sylfaenol am Beirianneg Rheilffyrdd | |||||
---|---|---|---|---|---|
Awarding Body | Qualification No. | Credit Value | Total Qualification Time | Combined / Competence / Knowledge | Qualification Assessment Lanaguage(s) |
City & Guilds | C00/0295/3 501/2174/1 | 28 | 280 | Cyfun | Saesneg yn Unig |
EAL | C00/0565/1 601/0160/X | 28 | 280 | Cyfun | Saesneg yn Unig |
Essential Skills Wales (ESW)
Lefel 2: Cynnal a Chadw Cledrau | Lefel | Minimum Credit Value |
---|---|---|
Communication | 1 | 6 |
Application of number | 1 | 6 |
Asesir cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn Gymraeg ac yn Saesneg.
On/Off the Job training
Pathway | Minimum On the Job Training Hours | Minimum Off the Job Training Hours |
---|---|---|
Lefel 2: Cynnal a Chadw Cledrau | 404 | 366 |
On/Off the Job Qualification details (Minimum Credit & Hours)
65 credyd am gymhwysedd a gwybodaeth
770 yw cyfanswm yr oriau dysgu ar gyfer y Brentisiaeth Sylfaen Cynnal a Chadw Cledrau, sy'n cynnwys hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith.
Tua 18 mis yw hyd y llwybr, yn dibynnu ar yr opsiynau cymhwyster ac uned a ddewisir.
On/Off the Job Essential Skills details (Minimum Credit & Hours)
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 1 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 1 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
Other additional requirements
Dim
Progression
Dilyniant o Lefel 2 - Cynnal a Chadw Cledrau
Ar ôl cwblhau'r Brentisiaeth Sylfaen, gall unigolion barhau i weithio fel Gweithwyr Cledrau neu gallant symud ymlaen i fod yn arweinwyr ac yn oruchwylwyr tîm.
Equality and diversity
Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos sut mae mynd ati'n weithredol i nodi a chael gwared â ffactorau sy'n atal mynediad a dilyniant. Dylai llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion a chanddynt nodweddion gwarchodedig a'r rhai nad oes ganddynt y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Y nodweddion gwarchodedig a nodwyd yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, Beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared â gwahaniaethu mewn cyflogaeth.
Mae'n RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr yn nhermau mynediad i'r diwydiant ar sail y naw o nodweddion gwarchodedig hynny.
Yn y diwydiant peirianneg rheilffyrdd, dim ond tua 4.4% o'r gweithlu sy'n fenywod. Mae canran y gweithlu sy'n Ddu, Asiaidd a Lleiafrifol Ethnig hefyd yn is na'r cyfartaledd cenedlaethol, sef 5%.
Mae SEMTA yn sylweddoli bod cael prentisiaid o amrywiaeth eang o gefndiroedd gwahanol yn esgor ar fanteision o ran hyfforddiant a busnes. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ysgogi pob agwedd ar ddethol a recriwtio prentisiaid. Mae cyfle cyfartal ac amrywiaeth yn cyfeirio at weithredu i gael gwared ag unrhyw wahaniaethu anghyfreithlon neu annheg yn erbyn unrhyw unigolyn neu grŵp.
Mae SEMTA yn dymuno gwneud Ymrwymiad Cydraddoldeb Rhywiol. Mae SEMTA wedi ymrwymo i siarter Prif Weithredwyr Canolfan Adnoddau'r Deyrnas Unedig (UKRC) mewn ymgais i gynyddu nifer yr merched sy'n cael eu recriwtio i'w sectorau a'i rhaglenni allweddol. Oherwydd y bylchau sydd ar y gorwel o ran sgiliau, amcangyfrifir y bydd angen recriwtio a hyfforddi 204,000 o bobl rhwng 2010 a 2016 yn sectorau SEMTA - sef rheilffyrdd (18,700), awyrofod, moduron, trydanol, electroneg, cynnal a chadw, morol, mathemateg, metelau a chynnyrch metel wedi'i beiriannu, deunyddiau adnewyddadwy a gwyddoniaeth.
Yr UKRC yw corff arweiniol y Llywodraeth ar gyfer hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol ym maes Gwyddoniaeth, Peirianneg a Thechnoleg (GPaTh), ac mae siarter y CEO yn ymrwymiad ffurfiol i agenda UKRC i herio tangynrychiolaeth ymhlith merched ym maes GPaTh. Er bod merched i gyfrif am 50% o'r farchnad lafur, maent i gyfrif am lai na 20% o'r farchnad lafur ym maes gwyddoniaeth, peirianneg a thechnoleg.
Cred UKRC mai cydymdrech o fewn y diwydiant SET yw'r unig ffordd o oresgyn rhwystrau'n gysylltiedig â rhyw a geir mewn amgylcheddau sydd wedi’u cysylltu’n draddodiadol â dynion yn bennaf, ac rydym am fod yn rhan o gonsensws newydd a fydd yn creu amgylchedd gwaith cynhwysol i ferched. Yn draddodiadol dynion gwyn yn bennaf sydd yng ngweithlu'r diwydiannau gweithgynhyrchu y mae'r Llwybr hwn yn gweithredu ynddynt. Fodd bynnag, wrth inni wynebu gweithlu sy'n heneiddio a'r tebygolrwydd o brinder sgiliau, mae'n rhaid inni ddenu ymgeiswyr newydd o gronfa recriwtio sy'n llawer mwy amrywiol. Mae hyn yn golygu bod croeso i bob oedolyn a pherson ifanc sy'n ystyried peirianneg a gweithgynhyrchu fel gyrfa.
Mae'n rhaid i ddarparwyr hyfforddiant prentisiaeth gan gynnwys cyflogwyr allu dangos nad oes unrhyw arferion gwahaniaethol amlwg na chudd wrth ddewis a chyflogi prentisiaid. Gellir dangos hyn drwy weithredu Cynllun Cydraddoldeb Sengl (CCS). Mae'r Ddyletswydd Cydraddoldeb newydd (sy'n rhan o'r Bil Cydraddoldeb Sengl) a gyflwynwyd i'r sector cyhoeddus yn ei gwneud hi'n ofynnol i holl gyrff y sector cyhoeddus gyflwyno CCS sy'n cyfuno eu cynlluniau hil, anabledd a rhyw, a dylai holl ddarparwyr hyfforddiant prentisiaeth gydnabod y cynllun hwnnw. Mae gweithredu CCS yn arddangos ymrwymiad y sefydliad i sicrhau cydraddoldeb ac amrywiaeth drwy nodi ffyrdd gwell a newydd o weithio er mwyn sicrhau bod y sefydliad yn fwy effeithlon ac effeithiol wrth fodloni anghenion amrywiol staff a chwsmeriaid.
Mae'n rhaid i bawb sy'n recriwtio prentisiaid, boed golegau, darparwyr hyfforddiant neu gyflogwyr, gydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010, a chymhwyso'r ddeddfwriaeth Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, gan roi ystyriaeth lawn i'r canlynol:
• Deddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw 1975 a'r Cod Ymarfer
• Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976 a'r Cod Ymarfer
• Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 a'r Cod Ymarfer
• Rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogaeth (Crefydd neu Gred) 2003
• Rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogaeth (Cyfeiriadedd Rhywiol) 2003
• Rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogaeth (Oedran) 2006
• Deddf Cydraddoldeb 2010
Mae'n rhaid i ddarparwyr hyfforddiant prentisiaeth a chyflogwyr fynd hefyd ati i fonitro gweithdrefnau cyfle cyfartal a amrywiaeth, a chymryd camau cadarnhaol lle bo angen i sicrhau mynediad a thriniaeth gyfartal i bawb. Mae'n rhaid ystyried prentisiaethau yn llwybr hanfodol i annog a hyrwyddo newid yng nghydraddoldeb ac amrywiaeth y diwydiant Peirianneg yn y tymor hir, felly mae'r amodau mynediad i'r Llwybr hwn yn eithriadol o hyblyg. Dylid gwneud pob ymdrech i gynyddu amrywiaeth ein poblogaeth o brentisiaid.
Employment responsibilities and rights
Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach. Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn derbyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.
Responsibilities
Cyfrifoldeb Darparydd yr Hyfforddiant a'r Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu bodloni yn unol â Chanllawiau Prentisiaethau Llywodraeth Cymru.
Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Llywodraeth Cymru
DfES-ApprenticeshipUnit@llyw.cymru