- Framework:
- Cyfrifyddu
- Lefel:
- 2/3/4
Diben y fframwaith hwn yw hyfforddi cyfrifwyr lefel technegydd (FfCCh Lefel 4) sy'n gweithio i gwmnïau cyfrifyddu neu mewn isadrannau cyllid o fewn sefydliadau eraill.
Mae'n darparu dull strwythuredig o hyfforddi a datblygu darpar gyfrifwyr sy'n deall anghenion y sefydliad, ei gwsmeriaid a'r sector y maen nhw’n gweithredu ynddo.
Gofynnir i chi ddatgan unrhyw euogfarnau troseddol, methdaliad neu CJJs wrth gofrestru am y cymhwyster cyfrifyddu.
Opsiynau a lefelau llwybrau
Cyfrifeg - Lefel 2
Addas ar gyfer swyddi Cynorthwy-ydd/Clerc Cyfrifon, Ariannwr, Clerc Rheoli Credyd, Cynorthwy-ydd Cyllid, Clerc Llyfr Prynu, Clerc Llyfr Gwerthu.
Cyfrifeg - Lefel 3
Addas ar gyfer swyddi Technegydd Cyfrifyddu dan Hyfforddiant a Chyfrifydd Cynorthwyol.
Cyfrifeg - Lefel 4
Addas ar gyfer swyddi Technegydd Cyfrifyddu a Rheolwr Cyfrifon.
Mwy o wybodaeth
Hyd
Lefel 2: 12 mis
Lefel 3: 12-18 mis
Lefel 4: 12-18 mis
Llwybrau dilyniant
Lefel 2: Mae'r llwybrau'n cynnwys:
- Prentisiaeth Lefel 3
- Cyflogaeth
Lefel 3: Mae'r llwybrau'n cynnwys:
- Cyflogaeth
- Prentisiaeth Uwch mewn Cyfrifeg, y Diploma Lefel 4 annibynnol mewn Cyfrifeg neu'r cymwysterau a'r swyddi canlynol:
- Gradd Sylfaen mewn Cyfrifeg
- Rhaglenni gradd amrywiol mewn Cyfrifeg a Chyllid.
Lefel 4: Mae'r llwybrau'n cynnwys:
- Cyflogaeth
- Gradd Sylfaen mewn Cyfrifeg
- Rhaglenni gradd amrywiol mewn Cyfrifeg a Chyllid.
Cymwysterau
Lefel 2: Diploma Lefel 2 mewn Cyfrifeg Ariannol a Chyfrifeg Rheoli/Tystysgrif Sylfaen Lefel 2 mewn Cyfrifeg
Lefel 3: Diploma Lefel 3 mewn Cyfrifeg Ariannol a Chyfrifeg Rheoli/ Diploma Uwch Lefel 3 mewn Cyfrifeg
Lefel 4: Diploma Proffesiynol Lefel 4 mewn Cyfrifeg/Diploma Lefel 4 mewn Cyfrifeg a Busnes
Beth yw'r gofynion mynediad ar gyfer y llwybr hwn?
Mae gan bob llwybr prentisiaeth yng Nghymru ofynion mynediad. Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn y llwybr hwn – mae angen i chi gael y cymhwyster lefel mynediad canlynol;
Lefel 2
Dim gofynion mynediad ffurfiol ond rhaid i chi hoffi gweithio gyda rhifau a gallu dangos y potensial i ddatblygu sgiliau cyfathrebu da.
Lefel 3
Dim gofynion mynediad ffurfiol. Os nad ydych wedi cwblhau Prentisiaeth Lefel 2 mewn Cyfrifeg, bydd angen cymhwyster TGAU Mathemateg graddau A*- C neu Sgiliau Hanfodol Lefel 1 mewn Cymhwyso Rhif arnoch, neu gymhwyster cyfwerth, sgiliau cyfathrebu da a phrofiad galwedigaethol.
Lefel 4
Dim gofynion mynediad ffurfiol. Os nad ydych wedi cwblhau Prentisiaeth Lefel 2 mewn Cyfrifeg, bydd angen cymhwyster TGAU Mathemateg graddau A*- C neu Sgiliau Hanfodol Lefel 1 mewn Cymhwyso Rhif arnoch, neu gymhwyster cyfwerth, sgiliau cyfathrebu da a phrofiad galwedigaethol.
Gweld llwybr llawn