Mae Skills for Justice (SFJ) wedi cytuno ar gynnwys y Llwybr hwn. Dyma'r unig Lwybr Prentisiaeth yn y sector Gwasanaethau Cyfreithiol ac Ariannol a gymeradwywyd i'w ddefnyddio yng Nghymru sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru.
Cynnwys y Rhaglen Ddysgu
Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:
- Cymwysterau,
- Sgiliau Hanfodol
- Hyfforddiant yn y gwaith/i ffwrdd o'r gwaith
68 credyd yw’r isafswm credydau gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 4 Technegydd Trawsgludo.
62 credyd yw’r isafswm credydau gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 6 Trawsgludwr.
Gofynion mynediad
Er nad oes gofynion mynediad academaidd sylfaenol, i fod yn llwyddiannus ar y rhaglen, os yn bosibl, byddai’n ddelfrydol petai’r ymgeiswyr yn meddu ar gymhwyster TGAU gradd A-C mewn Saesneg a Mathemateg, ynghyd â rhaglen Brentisiaeth Lefel 2 a Lefel 3 mewn Darparu Gwasanaethau Ariannol (Trawsgludo) neu bwnc generig fel Gwasanaethau i Gwsmeriaid neu Weinyddu Busnes.
Fodd bynnag, mae gan nifer o gyflogwyr ddiddordeb hefyd yn y sgiliau a’r profiad sy’n cael eu hennill drwy gyflogaeth neu waith gwirfoddol. Mae ymddiriedaeth, uniondeb a gonestrwydd oll yn nodweddion sy’n cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr trawsgludo.
Rhaid i ddysgwyr ddatgan unrhyw euogfarnau troseddol, methdaliadau neu Ddyfarniadau Llys Sirol (CCJ) wrth gofrestru ar gyfer y cymhwyster.
Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth
Lefel 4: Technegydd Trawsgludo
Lefel 4: Technegydd Trawsgludo Cymwysterau
Rhaid i ddysgwyr gyflawni un o’r cymwysterau cyfunol isod.
| Lefel 4 Diploma mewn Cyfraith Trosglwyddiad ac Ymarfer | |||||
|---|---|---|---|---|---|
| Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
| SQA | C00/1243/2 603/0173/9 | 50 | 500 | Cymhwysedd | Saesneg yn unig |
Edrychwch ar Atodiad 1 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
| Lefel 4: Technegydd Trawsgludo | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
|---|---|---|
| Cyfathrebu | 2 | 6 |
| Cymhwyso Rhif | 2 | 6 |
| Llythrennedd Digidol | 2 | 6 |
Saesneg-Cymraeg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
| Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
|---|---|---|
| Lefel 4: Technegydd Trawsgludo | 250 | 571 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
Diploma Lefel 4 mewn Cyfraith Trosglwyddo ac Ymarfer – 50 credyd/250 awr;
821 awr yw cyfanswm yr oriau hyfforddi yn y gwaith ac i ffwrdd o’r gwaith ar gyfer y llwybr hwn. Rhagwelir y bydd dysgwr arferol yn cymryd rhwng 24 a 36 mis i’w gwblhau.
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd/60 GLH ar gyfer Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH ar gyfer Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH ar gyfer Lefel 2 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru
Lefel 6: Trawsgludwr
Lefel 6: Trawsgludwr Cymwysterau
Rhaid i ddysgwyr gyflawni’r cymhwyster cyfun isod.
| Lefel 6 Diploma mewn Cyfraith Trosglwyddiad ac Ymarfer | |||||
|---|---|---|---|---|---|
| Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
| SQA | C00/1243/3 603/0174/0 | 44 | 440 | Cymhwysedd | Saesneg yn unig |
Edrychwch ar Atodiad 2 ar gyfer y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
| Lefel 6: Trawsgludwr | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
|---|---|---|
| Cyfathrebu | 2 | 6 |
| Cymhwyso Rhif | 2 | 6 |
| Llythrennedd Digidol | 2 | 6 |
Saesneg-Cymraeg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
| Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
|---|---|---|
| Lefel 6: Trawsgludwr | 218 | 539 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
Diploma Lefel 6 mewn Cyfraith Trosglwyddiad ac Ymarfer - 44 credyd/218 awr
757 awr yw cyfanswm yr oriau hyfforddi yn y gwaith ac i ffwrdd o’r gwaith ar gyfer y llwybr hwn. Rhagwelir y bydd dysgwr arferol yn cymryd rhwng 24 a 36 mis i’w gwblhau.
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
-
6 chredyd/60 GLH ar gyfer Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
-
6 chredyd/60 GLH ar gyfer Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH ar gyfer Lefel 2 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru
Gofynion eraill ychwanegol
Rhaid i ddysgwyr ddatgan unrhyw euogfarnau troseddol, methdaliadau neu Ddyfarniadau Llys Sirol (CCJ) wrth gofrestru ar gyfer y cymhwyster.
Dilyniant
Lefel 4: Technegydd Trawsgludo
Gallai mynediad i’r llwybr fod:
- drwy fynediad uniongyrchol o’r ysgol neu’r coleg ar ôl cwblhau cymwysterau TGAU a/neu Safon Uwch
- o Fagloriaeth Cymru, gan gynnwys y Cymwysterau Prif Ddysgu ar gyfer Gweinyddu Busnes a Gwasanaethau Ariannol a Chyhoeddus
- o raglen seiliedig ar waith fel Llwybrau i Brentisiaethau
- drwy fynediad uniongyrchol o alwedigaeth arall e.e. paragyfreithiwr, gweinyddu, gwasanaethau i gwsmeriaid, etc.
- drwy fynediad uniongyrchol i staff presennol sy’n symud ymlaen o fewn sefydliad
- drwy fynediad uniongyrchol o Brentisiaeth mewn Gwasanaethau Cyfreithiol neu’r llwybr Gweinyddiaeth Gyfreithiol sy’n rhan o’r llwybr Busnes a Gweinyddiaeth
Llwybrau dilyniant o’r llwybr lefel 4 hwn Swyddi:
• Technegydd Trawsgludo
Hyfforddiant a chymwysterau pellach:
• Prentisiaeth Uwch Lefel 6 mewn Trawsgludo
• Prentisiaethau Uwch eraill fel Profiant, Gweithredwr Cyfreithiol neu Reoli
• Cymwysterau gwasanaethau cyfreithiol proffesiynol
• Cymwysterau lefel 4 a 5 mewn rheoli ac arweinyddiaeth
• Cyrsiau addysg uwch fel graddau cymhwyso yn y gyfraith (LLB)
• Cymwysterau addysg bellach ar lefel 5 ac uwch
• Gwneud cais i gofrestru i drwyddedu â Chorff Rheoleiddio
Lefel 6: Trawsgludwr
Llwybrau dilyniant i mewn i’r llwybr lefel 6 hwn Gallai mynediad i’r llwybr hwn fod:
- drwy fynediad uniongyrchol o ysgol neu goleg ar ôl cwblhau cymwysterau Safon Uwch
- o Fagloriaeth Cymru, gan gynnwys Cymwysterau Prif Ddysgu ar gyfer Gweinyddu Busnes a Chyllid a Gwasanaethau Cyhoeddus
- o raglen seiliedig ar waith fel Llwybrau i Brentisiaethau
- drwy fynediad uniongyrchol o alwedigaeth arall e.e. paragyfreithiwr, gweinyddu, gwasanaethau i gwsmeriaid, etc.
- drwy fynediad uniongyrchol i staff presennol sy’n symud ymlaen o fewn sefydliad.
- drwy fynediad uniongyrchol o Brentisiaeth mewn Gwasanaethau Cyfreithiol neu ar ôl cwblhau’r llwybr Gweinyddiaeth Gyfreithiol sy’n rhan o’r llwybr Busnes a Gweinyddiaeth
Llwybrau dilyniant o’r llwybr lefel 6 hwn Swyddi:
- Gwneud cais am Drwydded i Ymarfer ar gyfer gweithgaredd neilltuedig trawsgludo
- Hyfforddiant a chymwysterau pellach:
- Prentisiaethau Uwch eraill fel Rheoli
- Cymwysterau gwasanaethau cyfreithiol proffesiynol
- Cymwysterau ôl-raddedig fel gradd Meistr
- Cael Trwydded i Ymarfer mewn gweithgareddau neilltuedig eraill fel Profiant.
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Y nodweddion gwarchodedig a nodir yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared ar wahaniaethu mewn cyflogaeth.
RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau nad ydyn nhw'n gwahaniaethu yn erbyn ymgeiswyr o ran mynediad i'r diwydiant ar sail y naw nodwedd warchodedig hynny.
Mae materion cydraddoldeb ac amrywiaeth penodol ar draws y sector mewn perthynas â dilyniant a chadw cyflogeion. Er bod menywod a phobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol wedi’u cynrychioli’n dda ymysg israddedigion y gyfraith, nid yw hyn wedi’i adlewyrchu ym mhob rhan o’r proffesiwn.
Mae nifer o’r cwmnïau cyfreithiol corfforaethol mwy yn recriwtio o Rydgrawnt (Oxbridge) bron yn gyfan gwbl (The Law Gazette, 21 Rhagfyr 2010). Mae dosbarthiad y gweithwyr sy’n fenywod ac yn Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn amrywio’n fawr. Er enghraifft, mae menywod i gyfrif am 44% o’r cyfreithwyr mewn practisau preifat, 20% o bartneriaid a 80% o’r cyfreithwyr mewn gwasanaethau iechyd (“A Time of Change: Solicitor’s Firms in England and Wales”, Plesence, Balmer a Moorhead, Cymdeithas y Gyfraith, y Bwrdd Gwasanaethau Cyfreithiol, y Weinyddiaeth Gyfiawnder 2012 ). Mae’r farchnad lafur mewn gweithgareddau cyfreithiol wedi’i dominyddu (o ran y nifer y cyflogeion o leiaf) gan fenywod yn y meysydd amser llawn a rhan-amser fel ei gilydd, ond nid ymysg y rheini sy’n hunangyflogedig.
Mae Datganiad Blynyddol Rheoleiddiol y CLC yn amlygu nifer o ystadegau diddorol am ddyluniad y sector cyfreithiol:
• Mae mwyafrif gweithlu gwasanaethau cyfreithiol y DU yn fenywod; mae 73.7% o’r rheiny sy’n gweithio mewn practisau a reoleiddir gan y CLC yn fenywod.
• Ar lefel uwch, mae dynion yn dominyddu ac yn cynrychioli 26.3% o gyfanswm y gweithlu, ond mae dynion yn gwneud 57.6% o’r rolau rheoli.
Y rhesymau tebygol ddemograffeg y sector hwn yw:
• Canfyddiad bod nifer o rolau o fewn y sector cyfreithiol yn briodol ar gyfer menywod neu ddynion yn unig.
• Mae canfyddiad wedi bod mai’r prif lwybr mynediad i’r gwasanaethau cyfreithiol yw drwy addysg uwch ac felly mae’n bosibl bod grwpiau cymdeithasol penodol dan anfantais wrth geisio cael mynediad i’r sector, fel y rheiny o gefndiroedd llai cefnog.
Y prif fater yn y sector yw diffyg llwybrau mynediad galwedigaethol.
Er mwyn mynd i’r afael â’r materion hyn yn y sector, mae ymwybyddiaeth o lwybrau amgen i mewn i yrfaoedd yn y sector cyfreithiol yn cael ei chodi drwy:
• gynhyrchu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ar yrfaoedd gan gynnwys llwybrau datblygu gyrfa ac astudiaethau achos.
• datblygu prentisiaethau i greu llwybrau dilyniant galwedigaethol i mewn i swyddi o fewn y gwasanaethau cyfreithiol ac wrth ddatblygu o’r swyddi hynny.
Bydd y llwybr hwn yn cynorthwyo i ddarparu llwybrau mynediad newydd i’r sector a fydd yn fwy hygyrch i’r rheiny o gefndiroedd dan anfantais gymdeithasol na’r llwybrau mynediad traddodiadol.
Mae prentisiaethau’n cael eu gweld fel llwybr hanfodol i annog amrywiaeth ehangach o unigolion i mewn i’r diwydiant, felly mae’r amodau mynediad ar gyfer y llwybr hwn yn hyblyg tu hwnt. Mae mentora wedi’i gynnwys i gynnig cymorth ychwanegol ac i gynyddu’r tebygolrwydd y bydd prentisiaid yn aros mewn swyddi, ac mae uned orfodol ar gyfer cydraddoldeb ac amrywiaeth.
Bydd Skills for Justice yn parhau i fonitro nifer y bobl sy’n cofrestru ar gyfer yr holl brentisiaethau ac yn eu cyflawni ac yn cymryd camau i fynd i’r afael ag unrhyw rwystrau i hynny.
Y Gymraeg
Mae Skills for Justice yn cydnabod yr egwyddor y dylid trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal. Dylid rhoi ystyriaeth i’r rheiny sy’n siarad Cymraeg fel iaith gyntaf neu’r rheiny sy’n gallu siarad Cymraeg ac sy’n dymuno gwneud hynny. Mae rhai cwmnïau cyfreithiol yng Nghymru yn awyddus i gyflogi siaradwyr Cymraeg. Dylai Sefydliadau Dyfarnu a darparwyr hyfforddiant fod â dull cymesur o ddarparu elfennau ar y rhaglen ac asesiadau ar gyfer cymwysterau a ddarperir yng Nghymru drwy gyfrwng y Gymraeg; mae hyn yn seiliedig ar lefel y galw sefydledig i ddiwallu anghenion yn y ddwy iaith lle bo angen hynny a/neu lle bo hynny’n angenrheidiol wrth ddarparu’r brentisiaeth hon.
Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)
Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach. Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn dilyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.
Cyfrifoldebau
Cyfrifoldeb y Darparwr Hyfforddiant a'r Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu cyflawni’n unol â Chanllawiau Llywodraeth Cymru ar Brentisiaethau.
Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Llywodraeth Cymru
DfES-ApprenticeshipUnit@llyw.cymru
Atodiad 1 Lefel 4: Technegydd Trawsgludo
Y berthynas rhwng y cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth
Diploma Lefel 4 SQA mewn Cyfraith Trosglwyddiad ac Ymarfer – Mae Manyleb y Cymhwyster ar gael yma:
https://www.sqa.org.uk/sqa/95901.html
Cod SQA: GL7H 53
Cod Ofqual: 603/0173/9
Cod Cymwysterau Cymru: C00/1243/2
Cyfanswm Amser y Cymhwyster: 500 awr
Oriau Dysgu dan Arweiniad: 250
Gwerth credyd: 50
Strwythur y cymhwyster
I gyflawni’r cymhwyster, rhaid i ddysgwyr gwblhau pum uned orfodol, fel y nodir isod:
- HG12 53 A/615/0542 System Gyfreithiol Lloegr 4 6 32
- HG13 53 T/615/0541 Cyfraith Contract 4 12 60
- HG14 53 F/615/0543 Cyfraith Tir 4 12 60
- HG17 53 M/615/0635 Deall Gweithdrefnau Cyfrifyddu ar gyfer Trafodion Trawsgludo 4 8 38
- HG19 53 T/615/0636 Trafodion Trawsgludo Safonol 4 12 60
Atodiad 2 Lefel 6: Trawsgludwr
Y berthynas rhwng y cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth
Diploma Lefel 6 SQA mewn Cyfraith Trosglwyddiad ac Ymarfer – Mae Manyleb y Cymhwyster ar gael yma:
https://www.sqa.org.uk/sqa/95902.html
Cod SQA: GL7K 86
Cod Ofqual: 603/0174/0
Cod Cymwysterau Cymru: C00/1243/3
Cyfanswm Amser y Cymhwyster: 436 awr,
Oriau Dysgu dan Arweiniad: 218
Gwerth Credyd: 44
Strwythur y Cymhwyster
I gyflawni’r cymhwyster, rhaid i ddysgwyr gwblhau tair uned orfodol, fel y nodir isod:
- HG1E 86 T/615/0670 Landlord a Thenant 6 15 75
- HG1F 86 A/615/0671 Cyfraith Trosglwyddiad ac Ymarfer 6 14 68
- HG1G 86 H/615/0678 Rheoli Cyfrifon Cleientiaid a Swyddfeydd (Trawsgludo) 6 15 75