Mae’r Grŵp Llywio arbenigol a hwyluswyd gan CITB wedi cytuno ar gynnwys y Llwybr hwn Mae’r Llwybr Prentisiaethau Adeiladu hyn yn y sector Adeiladu wedi’u cymeradwyo i’w defnyddio yng Nghymru ac maent yn gymwys i gael cyllid gan Medr.
DYDDIAD CYHOEDDI: 01/08/2022 ACW Fframwaith Rhif. FR05070
Cynnwys y Rhaglen Ddysgu
Bydd darpariaeth y rhaglen dysgu’n cynnwys pedair elfen orfodol:
- Cymwysterau
- Sgiliau Hanfodol.
- Hyfforddiant ar/oddi ar swydd
- Gofynion ychwanegol Cyflogwr (sgiliau digidol)
Cyfanswm yr isafswm o werth credyd sydd ei angen ar gyfer Llwybr Lefel 3 (Paentio ac Addurno) yw 78 credyd.
Gofynion mynediad
rhestr a - Mae’r brentisiaeth hon yn addas i ddysgwyr sy’n 1:
- 16 oed ac yn hŷn sy’n gweithio yn y grefft ar hyn o bryd ac sydd un ai:
- Wedi cyflawni y Cymhwyster Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu neu
- Wedi cyflawni y Cymhwyster Dilyniant mewn Adeiladu Lefel 2 y mae’r brentisiaeth i’w chyflawni ynddi 2 neu
- Gyda Tystysgrif neu Ddiploma Lefel 2 neu 3 yn y grefft y mae'r brentisiaeth i'w dilyn ynddi neu
- Gyda 3 blynedd neu fwy o gyflogaeth ddilys yn y grefft y mae'r brentisiaeth i'w chyflawni ynddi 3.
Rhestr b, ac un neu fwy o'r canlynol 4:
- Diploma Cenedlaethol Bagloriaeth Cymru
- Cymhwyster Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu.
- Diploma Lefel 2 neu 3 yn y Grefft Adeiladu y mae’r brentisiaeth i’w dilyn ynddi.
- Sgiliau Hanfodol Cymru neu Sgiliau Allweddol mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif ar Lefel 1.
- TGAU gradd A*-D yn unrhyw ddau o’r canlynol: - pwnc cyfathrebu, mathemateg, ac un ai gwyddoniaeth neu bwnc technegol
- Gradd A*- D yn TGAU Amgylchedd Adeiledig CBAC.
- Lefel 2 Teilyngdod Dyfarniad Galwedigaethol Lefel 1/2 mewn Dylunio'r Amgylchedd Adeiledig.
- A/AS Amgylchedd Adeiledig, GCE CBAC.
- Teilyngdod, Pearson BTEC Lefel 1/Lefel 2 Dyfarniad Technegol mewn Adeiladu a’r Amgylched Adeiledig
1 Dim ond un o'r gofynion mynediad o restr b y bydd yn rhaid i unigolion uniongyrchol ar y llwybr Adeiladu Craidd mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu fod wedi'i gyflawni.
2 O 2023 ymlaen ni fydd y Cymhwyster Dilyniant mewn Adeiladu yn gymwys fel opsiwn gofyniad mynediad.
3 Bydd angen cadarnhad gan y cyflogwr bod gan y dysgwr y profiad o gyflogaeth crefft angenrheidiol.
4 Gall fod gan ddysgwyr profiadol fel y'u diffinnir yn rhestr a hefyd rinweddau neu gyraeddiadau y tu hwnt i gyrhaeddiad cymhwyster y dylid eu hystyried. Ni fydd yn rhaid iddynt ennill un o'r cymwysterau yn rhestr b
Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth
Lefel 3: Paentio ac Addurno
Lefel 3: Paentio ac Addurno Cymwysterau
Lefel 2 Cymhwyster Craidd mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
City & Guilds | C00/4414/0 | 41 | 414 | Cyfun | Saesneg-Cymraeg |
Lle mae dysgwyr wedi cyflawni un o'r gofynion mynediad yn rhestr a, ni fydd angen iddynt ymgymryd â'r Cymhwyster Craidd Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu.
Bydd angen i bob dysgwr fod wedi cyflawni o leiaf un o'r gofynion o restr b ar gyfer mynediad.
Lefel 3 Adeiladu - Paentio ac Addurno | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
City & Guilds | C00/4327/6 | 78 | 775 | Cymhwysedd | Saesneg-Cymraeg |
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
Lefel 3: Paentio ac Addurno | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
---|---|---|
Cyfathrebu | 2 | 6 |
Cymhwyso Rhif | 2 | 6 |
Ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yw Cymraeg-Saesneg.
Gellir dod o hyd i ddirprwyon ar gyfer Sgiliau Hanfodol Cymru ar bwynt 24 dogfen fframwaith SASW.
the-specification-of-apprenticeship-standards-for-wales-sasw.pdf (gov.wales)
Gweler nodyn a isod ynghylch trefniadau pontio ar gyfer sgiliau hanfodol.
Nodyn a - trefniadau pontio ar gyfer sgiliau hanfodol
Bydd yn ofynnol i ddysgwyr a fydd yn dechrau eu Cymhwyster Sylfaen Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu, Sylfaen Craidd Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu neu Ddilyniant Adeiladu yn 2022 weithio tuag at Sgiliau Hanfodol lefel 2 - Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu yn ystod eu prentisiaeth.
Ar ôl cwblhau eu prentisiaeth bydd y dysgwr yn anelu at fod wedi cyflawni sgiliau hanfodol lefel 2 yn y ddau bwnc ond pennir ei fod wedi cwblhau ei brentisiaeth os yw wedi llwyddo i basio un o'r sgiliau hanfodol ar lefel 2 a'r llall ar lefel 1. Bydd hyn, fel yr uchod, yn caniatáu cyfnod pontio digonol a theg i'r dysgwyr hyn.
O fis Awst 2023 bydd yn ofynnol i unrhyw ddysgwr newydd sy'n cychwyn ei Gymhwyster Sylfaen Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu, Sylfaen Craidd Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu neu Ddilyniant Adeiladu lwyddo i basio'r ddau Sgil Hanfodol ar lefel 2 fel rhan o'u prentisiaeth.
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
---|---|---|
Lefel 3: Paentio ac Addurno | 4221 | 731 |
Rhagwelir y bydd hyd y Brentisiaeth Paentio ac Addurno yn y Diwydiant Adeiladu rhwng 2 flynedd (Ôl Cymhwyster Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu) a 3 blynedd (Yn cynnwys y cymhwyster Craidd Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladd).
Canllaw yn unig yw’r ffigyrau uchod a gallant fod yn wahanol ar gyfer gweithwyr profiadol/hŷn yn dibynnu ar faint/natur y profiad perthnasol, ac wedi’u lleihau’n sylweddol ar gyfer y rheini sy’n symud ymlaen o gymwysterau cysylltiedig fel y Cymhwyster Dilyniant.
Gofynion eraill ychwanegol
Gofynion ychwanegol Cyflogwr
Lefel 3: Paentio ac Addurno | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
Sgiliau Digidol ar gyfer Adeiladu | 2 | 3 |
- Mae'r cymhwyster hwn yn cael ei ddatblygu a bydd yn ofynnol pan gaiff ei gymeradwyo gan y Rheoleiddiwr yng Nghymru.
Rolau swydd
Mae'r Fframwaith hwn yn nodi'r safonau a'r meini prawf ar gyfer y Brentisiaeth Lefel 3 mewn Paentio ac Addurno. Bydd cyflawni holl gydrannau'r Fframwaith hwn yn llwyddiannus yn arwain at ddyfarnu cymhwyster Lefel 3 a chydnabyddiaeth fel Peintiwr ac Addurnwr cymwys yn y sector. Bydd Dyfarniad y Cymhwyster hwn yn galluogi'r dysgwr i wneud cais am Gerdyn Crefft Uwch CSCS.
Mae gan y fframwaith hwn un llwybr:
- Paentio ac Addurno
Gweithio ar safle adeiladu neu mewn eiddo domestig a masnachol i fanylebau penodol yn paratoi arwynebau cefndir ar gyfer paentio ac addurno, rhoi paent ar arwynebau cymhleth gyda brwsh a rholer. Gosod gorchuddion wal i arwynebau cymhleth.
Cynlluniwyd y Brentisiaeth hon i roi cyfle i unigolion ddatblygu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i gyflawni gwaith Paentio ac Addurno mewn adeiladau masnachol, diwydiannol a phreswyl.
Ar ôl cwblhau gofynion y Fframwaith hwn dylai fod gan y Prentis, o leiaf, y sgiliau craidd a’r wybodaeth graidd sydd eu hangen i gyflawni gwaith Paentio ac Addurno mewn modd diogel, cynaliadwy a chymwys. Mae manylion y sgiliau i'w datblygu wedi'u hamlinellu yn y manylebau cymhwyster a llawlyfrau cadarnhau cyflogwyr.
Yn ogystal, dylai Prentis hefyd allu:
- Rhoi barn a chefnogaeth broffesiynol
- Herio ymddygiadau / gweithgareddau peryglus
- Dangos arloesedd drwy ddynodi meysydd ar gyfer gwella ac awgrymu a/neu ddatblygu datrysiadau arloesol.
- Dynodi risgiau i’w hun ac eraill a’u rheoli
- Cadw’r ardal waith yn lân a thaclus
- Rheoli amser yn effeithiol
- Meddwl yn rhesymegol ac yn unol â gofynion y sefyllfa gan ddefnyddio rhesymu clir a dilys wrth wneud penderfyniadau i ymgymryd â'r cyfarwyddiadau gwaith
- Gweithio’n effeithiol ar ei ben ei hun ac mewn tîm
- Gweithio’n unol â gofynion ansawdd
- Gweithio’n gynhyrchiol
- Gweithio’n ddiogel a sicrhau diogelwch eraill
- Gweithio o fewn lefel ei gymhwysedd a gwybod pa bryd i gael cyngor gan eraill.
- Deall Gofynion techneolegol a newidiadau
- Deall Rheoliadau a Gofynion Statudol ac Anstatudol
- Deall Arferion gwaith yn unol â gofynion Iechyd a Diogelwch
- Deall Gweithdrefnau arolygu, profi a chomisiynu
- Cymhwyso deddfwriaeth iechyd a diogelwch ac amgylcheddol yn y sector Adeiladu.
- Creu a meithrin perthnasoedd yn y sector Adeiladu
Drwy gydol y broses Brentisiaeth dylai’r Prentis, o leiaf, ddatblygu ac arddangos yr ymddygiadau sy’n dangos ei fod yn gyson:
- Pendant
- Hyderus
- Wedi gwisgo’n addas
- Empathi
- Teg
- Gonest
- Rhagweithiol
- Cynhyrchiol
- Prydlon
- Dibynadwy
- Parchus (o ran cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant)
Dilyniant
Nod y Fframwaith hwn yw sicrhau bod y dysgwyr llwyddiannus yn ennill:
- Y Sgiliau a'r Wybodaeth sydd eu hangen ar y diwydiant i gyflawni cymhwysedd
- Sgiliau cysylltiedig â swydd a ddefnyddir yn yr amgylchedd gwaith
- Gwybodaeth a sgiliau sy'n cyd-fynd ag arferion gwaith, rheoliadau statudol ac anstatudol perthnasol
- Sgiliau Craidd a throsglwyddadwy
- Y sail i ddatblygiad gyrfa
Pan fydd prentisiaid wedi cwblhau’r Fframwaith hwn, mae ganddynt nifer o opsiynau i ddatblygu, gan gynnwys:
- Galwedigaethol: datblygu eich hun yn y rôl a cheisio dyrchafiad
- Academaidd: defnyddio’r cymwysterau a enillwyd fel sail ar gyfer astudiaeth bellach a mynediad i Addysg Bellach neu Uwch fel y bo’n briodol
- Cyfuniad o opsiynau Galwedigaethol ac Academaidd: ymgymryd ag astudiaeth ran-amser wrth barhau i weithio. Gall hyn fod yn rhan o Brentisiaeth Lefel Uwch (HLA) strwythuredig os yw hyn yn berthnasol/ar gael.
Yn fwy penodol, ar ôl cwblhau’r Brentisiaeth hon mewn Paentio ac Addurno yn llwyddiannus bydd prentis yn meddu ar y sgiliau a’r wybodaeth, a bydd ganddo’r cymwysterau i:
- Wneud cais am gerdyn Crefft Uwch CSCS trwy CSCS yn www.cscs.uk.com/
- Datblygu ar Brentisiaeth Lefel Uwch Berthnasol
- Datblygu yn ei yrfa gyda hyfforddiant pellach ar gyfer swydd megis, Goruchwyliwr/Rheolwr Safle / Gweithdy ayb
Gellir gweld arweiniad pellach o ran gyrfa ar:
- Disgrifiad Swydd, Cyflog a Chymwysterau Peintiwr ac Addurnwr | Am Adeiladu (goconstruct.org)
- Peintiwr ac Addurnwr (llyw.cymru)
Disgwylir dysgu parhaus gan yr ymgeiswyr cymwys er mwyn cynnal ymwybyddiaeth o'r rheoliadau sy'n effeithio ar y diwydiant a newidiadau/datblygiadau technolegol.
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos dull gweithredol o nodi a dileu rhwystrau i fynediad a dilyniant. Dylai llwybrau hybu cyfle cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig a’r bobl hynny nad ydynt yn gwneud hynny fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr o ran mynediad i'r diwydiant ar sail y naw nodwedd warchodedig hynny.
Er nad yw'r diwydiant adeiladu, yn hanesyddol, wedi bod yn ddewis gyrfa draddodiadol i fenywod. Mae hyn bellach wedi newid, ac mae menywod yn cael eu cefnogi’n well ac yn gweithio’n llwyddiannus yn y diwydiant.
Mae'r cyrff sectoraidd yn gweithio ar lefelau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol i nodi a mynd i'r afael â materion yn ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth. Cefnogir y gwaith hwn gan lywodraeth leol/cenedlaethol, cyrff/asiantaethau anllywodraethol ac Undebau perthnasol.
Mae’n ofynnol bod recriwtio prentisiaid yn agored ac yn deg i bawb sy’n bodloni’r meini prawf dethol, waeth beth fo’u rhyw, tarddiad ethnig, crefydd/cred, cyfeiriadedd rhywiol neu anabledd.
Rhaid i bob partner sy’n ymwneud â darparu’r brentisiaeth a chyflogwyr fod yn ymrwymedig i bolisi cyfle cyfartal a rhaid iddynt fod â pholisi a gweithdrefn cyfle cyfartal ffurfiol yn eu lle.
Rhaid i gyflogwyr/darparwyr allu dangos nad oes unrhyw arferion gwahaniaethol amlwg neu gudd wrth ddethol a chyflogi. Rhaid i bob gweithgaredd hyrwyddo, dethol a hyfforddi gydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol megis Deddf Cydraddoldeb 2010.
Bydd darparwyr yn monitro arferion a gweithdrefnau cyfle cyfartal yn eu sefydliad eu hunain ac yn cymryd camau cadarnhaol pan fo angen Argymhellir hefyd bod cyflogwyr/darparwyr yn cynnal cyfweliad ymadael os yw’r prentis yn gadael y rhaglen cyn ei chwblhau.
Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)
Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (ERR) bellach yn orfodol. Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp blwyddyn 16 -18) yn cael rhaglen sefydlu cwmni.
DYSGWYR GYDA DYSLECSIA
Mae CITB fel Datblygwr Fframwaith a Chorff Ardystio ar gyfer Adeiladu, yn cyhoeddi'r canllawiau canlynol ar gyfer dysgwyr sydd wedi cael datganiad bod ganddynt ddyslecsia.
Gall dysgwyr sydd wedi’u hasesu’n broffesiynol gan aseswr dyslecsia ardystiedig a’u ‘datgan’ fel bod yn Dyslecsig fynd i mewn i brentisiaeth gyda Lefel Sgiliau Hanfodol yn is na’r hyn a nodir yn Gofynion Mynediad y Ddogfen Fframwaith. Ar ôl cwblhau'r Fframwaith, os na chyflawnwyd y lefel Sgiliau Hanfodol a osodwyd yn y Fframwaith, bydd angen cynnwys tystiolaeth o'r Datganiad o Anghenion Addysgol Ychwanegol (dyslecsia) i gadarnhau eu statws fel Dyslecsig. Ar ôl derbyn y dystiolaeth hon, bydd Tystysgrif Cwblhau yn cael ei rhoi.
Heb y dystiolaeth a nodir uchod ni fydd Tystysgrif Cwblhau yn cael ei rhoi os na chyrhaeddwyd y lefel Sgiliau Hanfodol a osodwyd yn y Fframwaith. Gallai hyn effeithio ar ddysgwyr sy’n cwblhau o 2023 ymlaen.
Cyfrifoldebau
Cyfrifoldeb y Darparwr Hyfforddiant a'r Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu cyflawni’n unol ag Arweiniad Prentisiaethau Llywodraeth Cymru/Medr.
Gellir cael mwy o wybodaeth gan: Medr