Skip to main content

Llwybr

Gweithrediadau Peiriannau

Mae’r Grŵp Llywio arbenigol a hwyluswyd gan CITB wedi cytuno ar gynnwys y Llwybr hwn. Mae’r Llwybr Prentisiaethau Adeiladu hyn yn y sector Adeiladu wedi’u cymeradwyo i’w defnyddio yng Nghymru ac maent yn gymwys i gael cyllid gan Medr.

DYDDIAD CYHOEDDI: 01/08/2022 ACW Fframwaith Rhif. FR05070

Cynnwys y Rhaglen Ddysgu

Bydd darpariaeth y rhaglen dysgu’n cynnwys pedair elfen orfodol:

  • Cymwysterau
  • Sgiliau Hanfodol.
  • Hyfforddiant mewn swydd/i ffwrdd o’r gwaith
  • Gofynion ychwanegol Cyflogwr? (sgiliau digidol)

Cyfanswm yr isafswm o werth credyd sydd ei angen ar gyfer Llwybr Lefel 3 (Gweithrediadau Peiriannau) yw 80 credyd.

Gofynion mynediad

rhestr a - Mae’r brentisiaeth hwn yn addas i ddysgwyr sy’n:

  • 16 oed a hŷn sy’n gweithio yn y grefft ar hyn o bryd ac sydd wedi1:
  • Cyflawni’r Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu

neu

  • Cyflawni y Cymhwyster Dilyniant mewn Adeiladu: 2.

neu

  • cyflawni Tystysgrif neu Ddiploma Lefel 2 neu 3 yn y grefft y mae'r brentisiaeth i'w chyflawni ynddi.

neu

  • 3 blynedd neu fwy o gyflogaeth dilys3 yn y grefft y mae'r brentisiaeth i'w chyflawni ynddi.

Rhestr b, ac un neu fwy o'r canlynol, neu gymwysterau cyfwerth, ar neu uwch lefel y rhestr isod 4:

  • Cymhwyster Sylfaen Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu.
  • Cymhwyster Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu.
  • Diploma Lefel 2 neu 3 mewn Grefft Adeiladu.
  • Diploma Cenedlaethol Bagloriaeth Cymru.
  • Sgiliau Hanfodol Cymru neu Sgiliau Allweddol mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif ar Lefel 1 neu uwch.
  • TGAU gradd A*-D yn unrhyw ddwy o’r canlynol: - pwnc cyfathrebu, mathemateg, ac un ai gwyddoniaeth neu bwnc technegol.
  • Gradd A*- D mewn TGAU Amgylchedd Adeiledig CBAC.
  • Lefel 2 Teilyngdod  Dyfarniad Galwedigaethol Lefel 1/2 mewn Dylunio'r Amgylchedd Adeiledig.
  • A/AS CBAC Amgylchedd Adeiledig, GCE
  • Dyfarniad cymhwyster Lefel 1 Lefel 2 BTEC Pearsons mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig

1 Dim ond un o'r gofynion mynediad o restr b y bydd yn rhaid ei gyflawni i gael mynediad uniongyrchol i'r llwybr Adeiladu Craidd mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu

2 O 2023 ymlaen ni fydd y Cymhwyster Dilyniant yn gymwys fel opsiwn gofyniad mynediad.

3 Bydd angen cadarnhad gan y cyflogwr bod gan y dysgwr y profiad cyflogaeth crefft angenrheidiol.

4 Gall fod gan ddysgwyr profiadol fel y'u diffinnir yn rhestr a hefyd rinweddau neu gyraeddiadau y tu hwnt i gyrhaeddiad cymhwyster y dylid eu hystyried.  Ni fydd yn rhaid iddynt ennill un o'r cymwysterau yn rhestr b.

Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth

Level 2: Craidd Prentisiaeth mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu

Level 2: Craidd Prentisiaeth mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu Cymwysterau

Lefel 2 Llwybr Adeiladu
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
City & Guilds C00/4414/0 41 414 Cyfun Saesneg-Cymraeg

Lle mae dysgwyr wedi cyflawni un o'r gofynion mynediad yn rhestr a, ni fydd angen iddynt ymgymryd â'r Cymhwyster Craidd Adeiladu.
Bydd angen i bob dysgwr fod wedi cyflawni o leiaf un o'r gofynion o restr b i gael mynediad.

Lefel 3 Llwybr Adeiladu
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
City & Guilds C00/4491/9 80 802 Cymhwysedd Saesneg-Cymraeg

Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)

Level 2: Craidd Prentisiaeth mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu Lefel Isafswm Gwerth Credyd
Cyfathrebu 2 6
Cymhwyso Rhif 2 6

Ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yw Cymraeg-Saesneg.

Bydd yn ofynnol i ddysgwyr a fydd yn dechrau eu Cymhwyster Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu, Craidd Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu neu Gymhwyster Dilyniant mewn Adeiladu yn 2022 weithio tuag at Sgiliau Hanfodol lefel 2 - Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu yn ystod eu prentisiaeth. 

Ar ôl cwblhau eu prentisiaeth bydd y dysgwr yn anelu at fod wedi cyflawni sgiliau hanfodol lefel 2 yn y ddau bwnc ond pennir ei fod wedi cwblhau ei brentisiaeth os yw wedi llwyddo i basio un o'r sgiliau hanfodol ar lefel 2 a'r llall ar lefel 1. Bydd hyn, fel yr uchod, yn caniatáu cyfnod pontio digonol a theg i'r dysgwyr hyn.

O fis Awst 2023 bydd yn ofynnol i unrhyw ddysgwr newydd sy'n cychwyn ar ei Sylfaen mewn Peirianneg Adeiladu a Gwasanaethau Adeiladu, Craidd Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu, neu Gymhwyster Dilyniant mewn Adeiladu lwyddo yn y ddau Sgil Hanfodol ar lefel 2 fel rhan o'u prentisiaeth.

Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith

Llwybr Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith
Level 2: Craidd Prentisiaeth mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu 2768 744

Rhagwelir y bydd y Brentisiaeth Gweithrediadau Peiriannau yn para rhwng 2 flynedd (Cymhwyster Ôl-Sylfaen) a 3 blynedd (gan gynnwys Craidd Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu).

Canllaw yn unig yw’r ffigyrau uchod a gallant fod yn wahanol ar gyfer gweithwyr profiadol/hŷn yn dibynnu ar faint/natur y profiad perthnasol, ac wedi’u lleihau’n sylweddol ar gyfer y rheini sy’n symud ymlaen o gymwysterau cysylltiedig.

Rolau swydd

Mae'r Fframwaith hwn yn nodi'r safonau a'r meini prawf ar gyfer y Brentisiaeth Lefel 3 mewn Gweithrediadau Peiriannau. Bydd cyflawni holl gydrannau'r Fframwaith hwn yn llwyddiannus yn arwain at ddyfarnu cymhwyster Lefel 3 a chydnabyddiaeth fel Gweithiwr Peiriannau cymwys yn y sector. Bydd Dyfarniad y Cymhwyster hwn yn galluogi'r dysgwr i wneud cais am Gerdyn Gweithredwr Cymwys. 

Mae gan y fframwaith hwn un llwybr:

  • Gweithrediadau Peiriannau

Gweithio ar safle adeiladu, mewn man cyhoeddus neu ar y priffyrdd gan weithredu offer/peiriannau i drosglwyddo llwythi, cloddio, codi, a symud deunyddiau i fanylebau a roddir.

Cynlluniwyd y Brentisiaeth hon i roi cyfle i unigolion ddatblygu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i gyflawni gwaith gweithiwr peiriannau sy’n defnyddio’r peiriannau canlynol.

  • Dadlwythwr Blaen
  • Triniwr Telesgopig
  • Rholer y gallwch eistedd arno
  • Cloddiwr 180 gradd neu 360 gradd

Ar ôl cwblhau gofynion y Fframwaith hwn, dylai’r Prentis feddu ar y sgiliau craidd a’r wybodaeth graidd sydd eu hangen i gyflawni Gweithrediadau Peiriannau, mewn modd diogel, cynaliadwy a chymwys.  Mae manylion y sgiliau i'w datblygu wedi'u hamlinellu yn y manylebau cymhwyster a llawlyfrau cadarnhau cyflogwyr.

Yn ogystal, dylai Prentis hefyd allu:

  • Rhoi barn a chefnogaeth broffesiynol
  • Herio ymddygiadau/gweithgareddau peryglus
  • Dangos arloesedd drwy ddynodi meysydd ar gyfer gwella ac awgrymu a/neu ddatblygu datrysiadau arloesol.
  • Dynodi risgiau i’w hun ac eraill a’u rheoli
  • Cadw’r ardal waith yn lân a thaclus
  • Rheoli amser yn effeithiol
  • Meddwl yn rhesymegol ac yn unol â gofynion y sefyllfa gan ddefnyddio rhesymu clir a dilys wrth wneud penderfyniadau i ymgymryd â'r cyfarwyddiadau gwaith
  • Gweithio’n effeithiol ar ei ben ei hun ac mewn tîm
  • Gweithio’n unol â gofynion ansawdd
  • Gweithio’n gynhyrchiol
  • Gweithio’n ddiogel a sicrhau diogelwch eraill
  • Gweithio o fewn lefel ei gymhwysedd a gwybod pa bryd i gael cyngor gan eraill.
  • Cymhwyso deddfwriaeth iechyd a diogelwch ac amgylcheddol yn y sector Adeiladu.
  • Creu a meithrin perthnasoedd yn y sector Adeiladu
  • Deall Gofynion technolegol a newidiadau
  • Deall Rheoliadau a Gofynion Statudol ac Anstatudol
  • Deall Arferion gwaith yn unol â gofynion Iechyd a Diogelwch
  • Deall Gweithdrefnau arolygu, profi a chomisiynu

Drwy gydol y broses Brentisiaeth dylai’r Prentis, o leiaf, ddatblygu ac arddangos yr ymddygiadau sy’n dangos ei fod yn gyson:

  1. Pendant
  2. Hyderus
  3. Wedi gwisgo’n addas
  4. Empathi
  5. Teg
  6. Gonest
  7. Rhagweithiol
  8. Cynhyrchiol
  9. Prydlon
  10. Dibynadwy
  11. Parchus (o ran cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant)

Dilyniant

Nod y Fframwaith hwn yw sicrhau bod y dysgwyr llwyddiannus yn ennill:

  • Y Sgiliau a'r Wybodaeth sydd eu hangen ar y diwydiant i gyflawni cymhwysedd
  • Sgiliau sy’n gysylltiedig â swydd a fydd yn cael eu defnyddio yn yr amgylchedd gwaith
  • Gwybodaeth a sgiliau sy'n cyd-fynd ag arferion gwaith, rheoliadau statudol ac anstatudol perthnasol
  • Sgiliau Craidd a Throsglwyddadwy
  • Y sail i ddatblygiad gyrfa

Pan fydd prentisiaid wedi cwblhau’r Fframwaith hwn, mae ganddynt nifer o opsiynau i ddatblygu, gan gynnwys:

  • Galwedigaethol: datblygu eich hun yn y rôl a cheisio am ddyrchafiad
  • Academaidd: defnyddio’r cymwysterau a enillwyd fel sail ar gyfer astudiaeth bellach a mynediad i Addysg Bellach neu Addysg Uwch fel y bo’n briodol
  • Cyfuniad o opsiynau Galwedigaethol ac Academaidd: ymgymryd ag astudiaeth ran-amser wrth barhau i weithio. Gall hyn fod yn rhan o Brentisiaeth Lefel Uwch (HLA) strwythuredig os yw hyn yn berthnasol/ar gael.

Yn fwy penodol, ar ôl cwblhau’r Brentisiaeth hon mewn Gweithrediadau Peiriannau, yn llwyddiannus, bydd prentis yn meddu ar y sgiliau a’r wybodaeth, a bydd ganddo’r cymwysterau i:

  • Gwneud cais am Gerdyn Gweithredwr Cymwys.  Mae rhagor o wybodaeth ac opsiynau ar gael ar www.cscs.uk.com/about/plant-partner-card-schemes/
  • Symud ymlaen i Brentisiaeth Lefel Uwch berthnasol
  • Datblygu yn ei yrfa gyda hyfforddiant pellach ar gyfer swydd megis, Goruchwyliwr/Rheolwr Safle/Gweithdy ayb

Gellir gweld arweiniad pellach o ran gyrfa ar:

Rhagwelir y bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn symud ymlaen yn y diwydiant Adeiladu mewn swyddi cymwys megis swyddi goruchwylwyr, rheolwyr cyflogedig neu hunangyflogedig.

Disgwylir i’r ymgeiswyr cymwys ddysgu’n barhaus er mwyn cynnal ymwybyddiaeth o'r rheoliadau sy'n effeithio ar y diwydiant a newidiadau/datblygiadau technolegol.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos dull gweithredol o nodi a dileu rhwystrau i fynediad a dilyniant. Dylai llwybrau hybu cyfle cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig a’r bobl hynny nad ydynt yn rhannu nodweddion gwarchodedig fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

Y nodweddion gwarchodedig a ddynodir yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oed, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi’u cynnwys, er, dim ond o ran y gofyniad i ddileu gwahaniaethu mewn cyflogaeth.

RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr o ran mynediad i'r diwydiant ar sail y naw nodwedd warchodedig hynny.

Er nad yw’r diwydiant adeiladu, yn hanesyddol, wedi bod yn ddewis gyrfa draddodiadol i fenywod. Mae hyn bellach wedi newid, ac mae menywod yn cael eu cefnogi’n well ac yn gweithio’n llwyddiannus yn y diwydiant.

Mae'r cyrff sectoraidd yn gweithio ar lefelau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol i ddynodi a mynd i'r afael â materion yn ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth. Cefnogir y gwaith hwn gan lywodraeth leol/cenedlaethol, cyrff/asiantaethau anllywodraethol ac Undebau perthnasol. 

Mae’n ofynnol bod recriwtio prentisiaid yn agored ac yn deg i bawb sy’n bodloni’r meini prawf dethol, waeth beth fo’u rhyw, tarddiad ethnig, crefydd/cred, cyfeiriadedd rhywiol neu anabledd.

Rhaid i bob partner sy’n ymwneud â darparu’r brentisiaeth a chyflogwyr fod yn ymrwymedig i bolisi cyfle cyfartal a rhaid iddynt fod â pholisi a gweithdrefn cyfle cyfartal ffurfiol ar waith.

Rhaid i gyflogwyr/darparwyr allu dangos nad oes unrhyw arferion gwahaniaethol amlwg neu gudd wrth ddethol a chyflogi. Rhaid i bob gweithgaredd hyrwyddo, dethol a hyfforddi gydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol megis Deddf Cydraddoldeb 2010.

Bydd darparwyr yn monitro arferion a gweithdrefnau cyfle cyfartal yn eu sefydliad eu hunain ac yn cymryd camau cadarnhaol pan fo angen Argymhellir hefyd bod cyflogwyr/darparwyr yn cynnal cyfweliad ymadael os yw’r prentis yn gadael y rhaglen cyn ei chwblhau.

Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)

Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (ERR) bellach yn orfodol. Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp blwyddyn 16 -18) yn cael rhaglen ymsefydlu gan y cwmni.

Cyfrifoldebau

Cyfrifoldeb y Darparwr Hyfforddiant a'r Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu cyflawni’n unol ag Arweiniad Prentisiaethau Llywodraeth Cymru/Medr.

Gellir cael mwy o wybodaeth gan: Medr


Diwygiadau dogfennau

06 Ebrill 2023