Skip to main content

Llwybr

Gwaith Coed ar y Safle

Mae’r Grŵp Llywio arbenigol a hwyluswyd gan CITB wedi cytuno ar gynnwys y Llwybr hwn Mae’r Llwybr Prentisiaethau Adeiladu hyn yn y sector Adeiladu wedi’u cymeradwyo i’w defnyddio yng Nghymru ac maent yn gymwys i gael cyllid gan Medr.

DYDDIAD CYHOEDDI: 01/08/2022 ACW Fframwaith Rhif. FR05070

Cynnwys y Rhaglen Ddysgu

Bydd darpariaeth y rhaglen dysgu’n cynnwys pedair elfen orfodol:

  • Cymwysterau
  • Sgiliau Hanfodol.
  • Hyfforddiant ar/oddi ar swydd
  • Gofynion ychwanegol Cyflogwr? (sgiliau digidol)

Cyfanswm yr isafswm o werth credyd sydd ei angen ar gyfer Llwybr Lefel 3 (Gwaith Coed ar y Safle) yw 86 credyd.

Gofynion mynediad

rhestr  a - Mae’r brentisiaeth hon yn addas i ddysgwyr sy’n 1:

Rhestr b, ac un neu fwy o'r canlynol 4:

  • Diploma Cenedlaethol Bagloriaeth Cymru
  • Cymhwyster Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu.
  • Diploma Lefel 2 neu 3 yn y Grefft Adeiladu y mae’r brentisiaeth i’w dilyn ynddi.
  • Sgiliau Hanfodol Cymru neu Sgiliau Allweddol mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif ar Lefel 1.
  • TGAU gradd A*-D yn unrhyw ddau o’r canlynol: - pwnc cyfathrebu, mathemateg, ac un ai gwyddoniaeth neu bwnc technegol
  • Gradd A*- D yn TGAU Amgylchedd Adeiledig CBAC.
  • Lefel 2 Teilyngdod  Dyfarniad Galwedigaethol Lefel 1/2 mewn Dylunio'r Amgylchedd Adeiledig.
  • A/AS Amgylchedd Adeiledig, GCE CBAC.
  • Teilyngdod, Pearson BTEC Lefel 1/Lefel 2 Dyfarniad Technegol mewn Adeiladu a’r Amgylched Adeiledig

1 Dim ond un o'r gofynion mynediad o restr b y bydd yn rhaid i unigolion uniongyrchol ar y llwybr Adeiladu Craidd mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu fod wedi'i gyflawni.

2 O 2023 ymlaen ni fydd y Cymhwyster Dilyniant mewn Adeiladu yn gymwys fel opsiwn gofyniad mynediad.

 3 Bydd angen cadarnhad gan y cyflogwr bod gan y dysgwr y profiad o gyflogaeth crefft angenrheidiol.

4 Gall fod gan ddysgwyr profiadol fel y'u diffinnir yn rhestr a hefyd rinweddau neu gyraeddiadau y tu hwnt i gyrhaeddiad cymhwyster y dylid eu hystyried. Ni fydd yn rhaid iddynt ennill un o'r cymwysterau yn rhestr b

Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth

Lefel 3: Gwaith Coed ar y Safle

Lefel 3: Gwaith Coed ar y Safle Cymwysterau

Lefel 2 Cymhwyster Craidd mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
City & Guilds C00/4414/0 41 414 Cyfun English-Welsh

Lle mae dysgwyr wedi cyflawni un o'r gofynion mynediad yn rhestr a, ni fydd angen iddynt ymgymryd â'r Cymhwyster Craidd Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu.
Bydd angen i bob dysgwr fod wedi cyflawni o leiaf un o'r gofynion o restr b ar gyfer mynediad.

Lefel 3 Adeiladu - Gwaith Coed ar y Safle
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
City & Guilds C00/4283/1 86 863 Cymhwysedd Saesneg-Cymraeg

Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)

Lefel 3: Gwaith Coed ar y Safle Lefel Isafswm Gwerth Credyd
Cyfathrebu 2 6
Cymhwyso Rhif 2 6

Ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yw Cymraeg-Saesneg.

Gellir dod o hyd i ddirprwyon ar gyfer Sgiliau Hanfodol Cymru ar bwynt 24 dogfen fframwaith SASW.

the-specification-of-apprenticeship-standards-for-wales-sasw.pdf (gov.wales)

Gweler nodyn a isod ynghylch trefniadau pontio ar gyfer sgiliau hanfodol.

Nodyn a - trefniadau pontio ar gyfer sgiliau hanfodol

Bydd yn ofynnol i ddysgwyr a fydd yn dechrau eu Cymhwyster Sylfaen Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu, Sylfaen Craidd Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu neu Ddilyniant Adeiladu yn 2022 weithio tuag at Sgiliau Hanfodol lefel 2 - Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu yn ystod eu prentisiaeth. 

Ar ôl cwblhau eu prentisiaeth bydd y dysgwr yn anelu at fod wedi cyflawni sgiliau hanfodol lefel 2 yn y ddau bwnc ond pennir ei fod wedi cwblhau ei brentisiaeth os yw wedi llwyddo i basio un o'r sgiliau hanfodol ar lefel 2 a'r llall ar lefel 1.  Bydd hyn, fel yr uchod, yn caniatáu cyfnod pontio digonol a theg i'r dysgwyr hyn.

O fis Awst 2023 bydd yn ofynnol i unrhyw ddysgwr newydd sy'n cychwyn ei Gymhwyster Sylfaen Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu, Sylfaen Craidd Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu neu Ddilyniant Adeiladu lwyddo i basio'r ddau Sgil Hanfodol ar lefel 2 fel rhan o'u prentisiaeth.

Gwasanaethau Adeiladu lwyddo i basio'r ddau Sgil Hanfodol ar lefel 2 fel rhan o'u prentisiaeth.

Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith

Llwybr Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith
Lefel 3: Gwaith Coed ar y Safle 2786 775

Rhagwelir y bydd hyd y Brentisiaeth Gwaith Saer Safle Adeiladu rhwng 2 flynedd (Ôl Cymhwyster Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu) a 3 blynedd (Yn cynnwys y cymhwyster Craidd Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladd).

Canllaw yn unig yw’r ffigyrau uchod a gallant fod yn wahanol ar gyfer gweithwyr profiadol/hŷn yn dibynnu ar faint/natur y profiad perthnasol, ac wedi’u lleihau’n sylweddol ar gyfer y rheini sy’n symud ymlaen o gymwysterau cysylltiedig fel y Cymhwyster Dilyniant.

Gofynion eraill ychwanegol

Gofynion ychwanegol Cyflogwr

Lefel 3: Gwaith Coed ar y SafleLefelIsafswm Gwerth Credyd
Sgiliau Digidol ar gyfer Adeiladu23
  • Mae'r cymhwyster hwn yn cael ei ddatblygu a bydd yn ofynnol pan gaiff ei gymeradwyo gan y Rheoleiddiwr yng Nghymru.

Rolau swydd

Mae'r Fframwaith hwn yn nodi'r safonau a'r meini prawf ar gyfer y Brentisiaeth Lefel 3 mewn Gwaith Coed ar y Safle. Bydd cyflawni holl gydrannau'r Fframwaith hwn yn llwyddiannus yn arwain at ddyfarnu cymhwyster Lefel 3 a chydnabyddiaeth fel Saer Coed cymwys o fewn y sector. Bydd Dyfarniad y Cymhwyster hwn yn galluogi'r dysgwr i wneud cais am Gerdyn Crefft Uwch CSCS.

Mae gan y fframwaith hwn un llwybr:

  • Gwaith Coed ar y Safle

Gweithio ar safle adeiladu neu mewn eiddo domestig a masnachol i fanylebau a roddir gan gyflawni Gosodiad Cyntaf ac Ail osodiad, codi cydrannau sgerbwd strwythurol cymhleth (toeon trawstiau cypledig, to torri traddodiadol).

Cynlluniwyd y Brentisiaeth hon i roi cyfle i unigolion ddatblygu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i gyflawni gwaith Coed mewn adeiladau masnachol, diwydiannol ac adeiladau preswyl gan gynnwys yr holl ddyletswyddau perthnasol.

Ar ôl cwblhau gofynion y Fframwaith hwn dylai fod gan y Prentis, o leiaf, y sgiliau craidd a’r wybodaeth graidd sydd eu hangen i gyflawni gwaith coed ar y safle mewn modd diogel, cynaliadwy a chymwys. Mae manylion y sgiliau i'w datblygu wedi'u hamlinellu yn y manylebau cymhwyster a llawlyfrau cadarnhau cyflogwyr.

Yn ogystal, dylai Prentis hefyd allu:

  • Rhoi barn a chefnogaeth broffesiynol.
  • Herio ymddygiadau / gweithgareddau peryglus.
  • Dangos arloesedd drwy ddynodi meysydd ar gyfer gwella ac awgrymu a/neu ddatblygu datrysiadau arloesol.
  • Dynodi risgiau i’w hun ac eraill a’u rheoli.
  • Cadw’r ardal waith yn lân a thaclus.
  • Rheoli amser yn effeithiol.
  • Meddwl yn rhesymegol ac yn unol â gofynion y sefyllfa gan ddefnyddio rhesymu clir a dilys wrth wneud penderfyniadau i ymgymryd â'r cyfarwyddiadau gwaith.
  • Gweithio’n effeithiol ar ei ben ei hun ac mewn tîm.
  • Gweithio’n unol â gofynion ansawdd.
  • Gweithio’n gynhyrchiol
  • Gweithio’n ddiogel a sicrhau diogelwch eraill.
  • Gweithio o fewn lefel ei gymhwysedd a gwybod pa bryd i ofyn am gyngor gan eraill.

Drwy gydol y broses Brentisiaeth dylai’r Prentis, o leiaf, ddatblygu ac arddangos yr ymddygiadau sy’n dangos ei fod yn gyson:

  1. Pendant
  2. Hyderus
  3. Wedi gwisgo’n addas
  4. Empathi
  5. Teg
  6. Gonest
  7. Rhagweithiol
  8. Cynhyrchiol
  9. Prydlon
  10. Dibynadwy
  11. Parchus (o ran cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiad)

Dilyniant

Nod y Fframwaith hwn yw sicrhau bod y dysgwyr llwyddiannus yn cael:

  • Y Sgiliau a'r Wybodaeth sy’n ofynnol gan y diwydiant i gyflawni cymhwysedd
  • Sgiliau sy’n gysylltiedig â swydd a ddefnyddir yn yr amgylchedd gwaith
  • Gwybodaeth a sgiliau sy'n cyd-fynd ag arferion gwaith, rheoliadau statudol ac anstatudol perthnasol
  • Sgiliau Craidd a Throsglwyddadwy
  • Y sail i ddatblygiad gyrfa

Pan fydd prentisiaid wedi cwblhau’r Fframwaith hwn, mae ganddynt nifer o opsiynau i ddatblygu, gan gynnwys:

  • Galwedigaethol: datblygu eich hun yn y rôl a cheisio am ddyrchafiad
  • Academaidd: defnyddio’r cymwysterau a gafwyd fel sail ar gyfer astudiaeth bellach a mynediad i Addysg Bellach neu Uwch fel bo’n briodol
  • Cyfuniad o opsiynau Galwedigaethol ac Academaidd: ymgymryd ag astudiaeth ran-amser wrth barhau i weithio. Gall hyn fod yn rhan o Brentisiaeth Lefel Uwch (HLA) strwythuredig os yw hyn yn berthnasol/ar gael.

Yn fwy penodol, ar ôl cwblhau’r Brentisiaeth hon mewn Gwaith Coed ar y Safle yn llwyddiannus bydd prentis yn meddu ar y sgiliau a’r wybodaeth, a bydd ganddo’r cymwysterau i:

  • Wneud cais am gerdyn Crefft Uwch CSCS trwy CSCS yn www.cscs.uk.com/
  • Datblygu ar Brentisiaeth Lefel Uwch Berthnasol
  • Datblygu yn ei yrfa gyda hyfforddiant pellach ar gyfer swydd megis, Goruchwyliwr/Rheolwr Safle / Gweithdy ayb

Gellir gweld arweiniad pellach o ran gyrfa ar:

Rhagwelir y bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn datblygu yn y diwydiant Adeiladu mewn swyddi cymwys fel swyddi cyflogedig neu hunangyflogedig, goruchwylwyr, rheolwyr.

Disgwylir i ymgeiswyr cymwys ddysgu’n barhaus, er mwyn cynnal ymwybyddiaeth o'r rheoliadau sy'n effeithio ar y diwydiant a newidiadau/datblygiadau technolegol.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos dull gweithredol o ddynodi a dileu rhwystrau i fynediad a datblygiad. Dylai llwybrau hybu cyfle cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig a’r bobl hynny nad ydynt yn gwneud hynny fel y dynodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

Y nodweddion gwarchodedig a ddynodir yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi’u cynnwys, er, dim ond o ran y gofyniad i ddileu gwahaniaethu mewn cyflogaeth.

RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall o dan y Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr o ran mynediad i'r diwydiant ar sail y naw nodwedd warchodedig hynny.

Er nad yw'r diwydiant adeiladu, yn hanesyddol, wedi bod yn ddewis gyrfa draddodiadol i fenywod. Mae hyn bellach wedi newid, ac mae menywod yn cael eu cefnogi’n well ac yn gweithio’n llwyddiannus yn y diwydiant.

Mae'r cyrff sectoraidd yn gweithio ar lefelau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol i ddynodi a mynd i'r afael â materion yn ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth. Cefnogir y gwaith hwn gan lywodraeth leol/cenedlaethol, cyrff/asiantaethau anllywodraethol ac Undebau perthnasol. 

Mae’n ofynnol bod recriwtio prentisiaid yn agored ac yn deg i bawb sy’n bodloni’r meini prawf dethol, waeth beth fo’u rhyw, tarddiad ethnig, crefydd/cred, cyfeiriadedd rhywiol neu anabledd.

Rhaid i bob partner sy’n ymwneud â darparu’r brentisiaeth a chyflogwyr fod yn ymrwymedig i bolisi cyfle cyfartal ac mae’n rhaid iddynt fod â pholisi a gweithdrefn cyfle cyfartal ffurfiol ar waith.

Rhaid i gyflogwyr/darparwyr allu dangos nad oes unrhyw arferion gwahaniaethol amlwg neu gudd wrth ddethol a chyflogi. Rhaid i bob gweithgaredd hybu, dethol a hyfforddi gydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol megis Deddf Cydraddoldeb 2010.

Bydd darparwyr yn monitro arferion a gweithdrefnau cyfle cyfartal yn eu sefydliad eu hunain ac yn cymryd camau cadarnhaol pan fo angen. Argymhellir hefyd bod cyflogwyr/darparwyr yn cynnal cyfweliad ymadael os yw’r prentis yn gadael y rhaglen cyn ei chwblhau.

Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)

Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (ERR) bellach yn orfodol.  Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp blwyddyn 16 -18) yn cael rhaglen cynefino’r cwmni.

DYSGWYR GYDA DYSLECSIA

Mae CITB fel Datblygwr Fframwaith a Chorff Ardystio ar gyfer Adeiladu, yn cyhoeddi'r canllawiau canlynol ar gyfer dysgwyr sydd wedi cael datganiad bod ganddynt ddyslecsia.

Gall dysgwyr sydd wedi’u hasesu’n broffesiynol gan aseswr dyslecsia ardystiedig a’u ‘datgan’ fel bod yn Dyslecsig fynd i mewn i brentisiaeth gyda Lefel Sgiliau Hanfodol yn is na’r hyn a nodir yn Gofynion Mynediad y Ddogfen Fframwaith. Ar ôl cwblhau'r Fframwaith, os na chyflawnwyd y lefel Sgiliau Hanfodol a osodwyd yn y Fframwaith, bydd angen cynnwys tystiolaeth o'r Datganiad o Anghenion Addysgol Ychwanegol (dyslecsia) i gadarnhau eu statws fel Dyslecsig. Ar ôl derbyn y dystiolaeth hon, bydd Tystysgrif Cwblhau yn cael ei rhoi.

Heb y dystiolaeth a nodir uchod ni fydd Tystysgrif Cwblhau yn cael ei rhoi os na chyrhaeddwyd y lefel Sgiliau Hanfodol a osodwyd yn y Fframwaith.  Gallai hyn effeithio ar ddysgwyr sy’n cwblhau o 2023 ymlaen.

Cyfrifoldebau

Cyfrifoldeb y Darparwr Hyfforddiant a'r Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu cyflawni’n unol ag Arweiniad Prentisiaethau Llywodraeth Cymru/Medr.

Gellir cael mwy o wybodaeth gan: Medr

 


Diwygiadau dogfennau

16 Mawrth 2023