Mae Skills for Health a AaGIC wedi cytuno ar gynnwys y Llwybr hwn. Dyma’r unig Lwybr Prentisiaeth yn y sector Gwasanaethau Gofal Iechyd a gymeradwywyd i’w ddefnyddio yng Nghymru ac sy’n gymwys i dderbyn cyllid gan Medr.
DYDDIAD CYHOEDDI: 01/01/2025 ACW Fframwaith Rhif. FR05118
Cynnwys y Rhaglen Ddysgu
Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:
- Cymwysterau,
- Sgiliau Hanfodol
- Hyfforddiant yn y gwaith/i ffwrdd o'r gwaith
168 credyd yw’r isafswm credydau gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 4 Ymarferydd Ambiwlans Cyswllt.
Gofynion mynediad
Nid oes angen cymwysterau penodol ar gyfer sicrhau mynediad i’r Llwybr prentisiaeth hwn. Dylai prentisiaid:
- Ddangos brwdfrydedd ynghylch gweithio yn y sector iechyd
- Meddu ar sgiliau llythrennedd, rhifedd a chyfathrebu y bydd y brentisiaeth yn adeiladu arnynt
- Meddu ar lefel addas o ffitrwydd corfforol i berfformio rhai agweddau ar y rolau swydd (e.e. cynorthwyo gyda symud a chodi pobl)
- Bod yn barod i ymgymryd â gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
- Bod yn hyblyg oherwydd mae’n bosibl y bydd gofyniad i weithio ar sail rota.
Mae’n bosibl y bydd gan gyflogwyr unigol yn y sector iechyd ofynion mynediad ychwanegol o ran cyflogaeth e.e. byddai trwydded yrru gyfredol hefyd o fantais (a gallai fod yn angenrheidiol ar gyfer rhai rolau).
Asesiad Cychwynnol
Bydd darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr yn defnyddio asesiad cychwynnol i sicrhau bod gan ymgeiswyr gyfle teg i arddangos eu gallu ac i deilwra rhaglenni i ddiwallu anghenion unigol, gan gydnabod cymwysterau a phrofiad blaenorol.
- 5 TGAU Gradd ‘C’ ac uwch, gan gynnwys Mathemateg, Saesneg neu Gymraeg a phwnc Gwyddoniaeth, neu gymwysterau cyfatebol, e.e. cymwysterau NVQ, Cyrsiau Mynediad City & Guilds, Nyrsio.
- Safonau meddygol Grŵp 2 y DVLA ar gyfer gyrru
- Lefel uchel o uniondeb
- Cofnod DBS clir heb unrhyw euogfarnau difrifol
- Natur aeddfed gyda gwytnwch meddyliol ac emosiynol
- Hyderus gydag ymddygiad tosturiol a phroffesiynol
- Trwydded yrru gyfredol ar gyfer Dosbarth C1 gyda mwyafrif o 3 pwynt cymeradwyaeth, a dim euogfarnau am yrru o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau
- Yn barod i weithio sifftiau ac yn gallu eu gweithio
- Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon
- Yn gallu bodloni safon Iechyd Galwedigaethol Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ar gyfer y rôl hon.
Bydd yr ymgeiswyr ar gyfer y Brentisiaeth hon yn dod o grwpiau oedran gwahanol, gyda chefndiroedd a phrofiad gwahanol. Fel canllaw, gall ymgeiswyr sicrhau mynediad o lwybrau amrywiol, gan gynnwys:
• gwaith
• profiad gwaith
• ysgol
• coleg
• hyfforddiant a/neu brofiad a allai gynnwys portffolio yn dangos yr hyn y maent wedi’i wneud
Dylent hefyd:
• Allu gweithio mewn tîm
• Cyflawni eu dyletswyddau yn fanwl gywir
Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth
Lefel 4: Ymarferydd Ambiwlans Cyswllt
Lefel 4: Ymarferydd Ambiwlans Cyswllt Cymwysterau
Rhaid i ddysgwyr gyflawni'r ddau gymhwyster cyfunol isod.
Lefel 3 Tystysgrif mewn Gyrru Ambiwlans Ymateb Brys | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
FAQ | C00/0734/4 601/7335/X | 23 | 230 | Cymhwysedd | Saesneg yn Unig |
FAQ | C00/4531/5 603/7901/7 | 15 | 150 | Cymhwysedd | Saesneg yn Unig |
Edrychwch ar Atodiad 1 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
Lefel 4: Ymarferydd Ambiwlans Cyswllt | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
---|---|---|
Cyfathrebu | 2 | 6 |
Cymhwyso Rhif | 2 | 6 |
Llythrennedd Digidol | 2 | 6 |
Saesneg-Cymraeg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru.
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
---|---|---|
Lefel 4: Ymarferydd Ambiwlans Cyswllt | 1040 | 883 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
I fodloni gofynion y Llwybr prentisiaeth hwn, bydd angen i brentis gwblhau cyfanswm o 1923 o oriau hyfforddi yn y gwaith ac i ffwrdd o’r gwaith dros 18 mis.
Hyffordd i ffwrdd o’r gwaith
Ar gyfer y Llwybr prentisiaeth hwn, bydd angen i brentis gwblhau isafswm o 883 awr (gan gynnwys mentora, gwerthuso, sefydlu, CHC, etc) o oriau hyfforddi i ffwrdd o’r gwaith.
Sut y bydd y gofynion hyn yn cael eu bodloni
Bydd y dysgu i ffwrdd o’r gwaith yn cynnwys:
Diploma Lefel 4 ar gyfer Ymarferwyr Ambiwlans Cyswllt (490 GLH)
Tystysgrif Lefel 3 mewn Gyrru Ambiwlans Ymateb Brys (150 GLH)
Sgiliau Hanfodol Cymru Lefel 2 Cyfathrebu (60 GLH)
Sgiliau Hanfodol Cymru Lefel 2 Cymhwyso Rhif (60 GLH)
Sgiliau Llythrennedd Digidol Lefel 2 (60 GLH)
Cynefino sefydliadol (22 awr)
Mentora (36 awr = 2 awr y mis)
Gwerthuso (5 awr = 2 werthusiad)
Gallai hyfforddiant i ffwrdd o’r gwaith a gyflawnir cyn i’r prentis ddechrau’r brentisiaeth gyfrif tuag at yr hyfforddiant i ffwrdd o’r gwaith sy’n ofynnol ar gyfer y brentisiaeth os y’i gwneir mewn perthynas â chymhwyster achrededig sy’n rhan o’r Llwybr. Mae’n rhaid gwneud cais am dystysgrif cwblhau ar gyfer hyn.
Bydd y dysgu yn y gwaith yn cynnwys:
Diploma Lefel 4 ar gyfer Ymarferwyr Ambiwlans Cyswllt (960 awr)
Tystysgrif Lefel 3 mewn Gyrru Ambiwlans Ymateb Brys (80 awr)
Caiff yr oriau hyfforddi yn y gwaith ac i ffwrdd o’r gwaith eu darparu drwy un neu fwy o’r dulliau canlynol: dysgu unigol ac mewn grŵp; e-ddysgu; dysgu o bell; hyfforddi; mentora; adborth ac asesiad; dysgu ar y cyd/mewn rhwydwaith gyda chyfoedion; astudiaeth dan arweiniad.
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 1 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 1 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 1 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru
Gofynion eraill ychwanegol
Dim
Rolau swydd
Technegydd Meddygol Brys dan Hyfforddiant
Mae Technegydd Meddygol Brys dan Hyfforddiant yn gweithio fel rhan o’r lleoliad Gofal Brys ehangach, mae ganddo gyswllt uniongyrchol â defnyddwyr gwasanaethau, ac mae’n darparu gofal tosturiol o ansawdd uchel. Fel rhan o’r criw ambiwlans, mae’n ymateb i alwadau brys, yn darparu cymorth brys, ac yn gyrru’n ddiogel ar gyflymder uchel.
Dilyniant
Ar ôl cwblhau’r llwybr hwn, gall y dysgwyr symud ymlaen i gymwysterau pellach sy’n benodol i gyd-destun eu gwaith. Mae amrywiaeth o gymwysterau ar gael i’w defnyddio o fewn y sector iechyd. Gallai’r rhain gynnwys cymwysterau pellach, amrywiaeth o gymwysterau Addysg Uwch neu addysg a hyfforddiant arall sy’n gysylltiedig â gwaith i gefnogi eu datblygiad proffesiynol parhaus.
Cynlluniwyd y Diploma Lefel 4 ar gyfer Ymarferwyr Ambiwlans Cyswllt yn benodol i gefnogi’r dilyniant i Raglen Iechyd Proffesiynol Addysg Uwch yn y Brifysgol. Byddai hyn yn caniatáu dilyniant i, er enghraifft:
• BSc (Anrhydedd) Gwyddoniaeth Barafeddygol
• BSc (Anrhydedd) Ymarfer Parafeddygol
Ni ddylid gweld dilyniant fel llwybr fertigol yn unig. Mewn rhai achosion, gall symud ymlaen i rôl arall ar yr un lefel fod yr un mor werthfawr gan ei fod yn cynnig y cyfle i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth newydd.
Ceir rhagor o wybodaeth a chyngor am yrfaoedd yn y sector iechyd yma http://www.wales.nhs.uk/cym
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos dull gweithredol o nodi a chael gwared ar ffactorau sy'n atal mynediad a chynnydd. Dylai Llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion sydd â nodweddion gwarchodedig a'r rhai heb y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Y nodweddion gwarchodedig a nodir yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared ar wahaniaethu mewn cyflogaeth.
RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau nad ydynt yn gwahaniaethu yn erbyn ymgeiswyr o ran mynediad i'r diwydiant ar sail y naw nodwedd warchodedig hynny.
Rhaid i gyflogwyr/darparwyr allu arddangos nad oes unrhyw arferion gwahaniaethol amlwg neu gudd wrth ddewis, recriwtio a chyflogi. Rhaid monitro pob gweithgaredd hyrwyddo, dewis a hyfforddi a rhaid iddynt gydymffurfio â deddfwriaeth.
Mae anghydbwysedd rhwng y rhywiau yn y sector iechyd, gan fod mwy o fenywod yn gweithio yn y sector. Mae pob swydd yn agored i ddynion a menywod ac fe’u hysbysebir yn unol â hynny. Mae modelau rôl gwrywaidd yn cael eu hyrwyddo’n gadarnhaol drwy ddeunydd marchnata, ffotograffau ac astudiaethau achos. Fodd bynnag, mae rhagdybiaeth o hyd bod rhai rolau swydd ar gyfer menywod a gallai hyn atal rhai dynion rhag ymgeisio i weithio yn y rolau swydd hyn.
Gall cyflogwyr gynllunio rhaglenni prentisiaeth lleol i annog nifer uwch o ymgeiswyr gwrywaidd i’r rolau hyn ac i mewn i’r gweithlu cyfan.
Nid yw Skills for Health yn ymwybodol o unrhyw anghydbwysedd arall mewn perthynas â’r rheiny sy’n ymgymryd â’r Llwybr hwn e.e. gan grwpiau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. Ar gyfer pob prentisiaeth iechyd, anogir recriwtio lleol i adlewyrchu’r gymuned leol.
Bydd Skils for Health yn monitro'r rheiny sy’n ymgymryd â’r holl Brentisiaethau ac yn eu cyflawni a bydd yn cymryd camau i fynd i’r afael ag unrhyw rwystrau i’w dilyn a’u cyflawni fel rhan o Strategaeth Cymwysterau ein Sector.
Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)
Nid yw’r Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach. Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn dilyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.
Cyflawni ac asesu
Bydd prentisiaid yn cyflawni’r gofynion Hawliau a Chyfrifoldebau Cyflogeion fel rhan o Raglen Sefydlu Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ac yn cwblhau a chyflawni’r Diploma Lefel 4 ar gyfer Ymarferwyr Ambiwlans Cyswllt.
Cyfrifoldebau
Cyfrifoldeb y Darparwr Hyfforddiant a'r Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu cyflawni’n unol â Chanllawiau Llywodraeth Cymru/Medr ar Brentisiaethau.
Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Medr
Atodiad 1 Lefel 4 - Ymarferydd Ambiwlans Cyswllt
Y berthynas rhwng y cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth.
Cynlluniwyd y Llwybr fel rhaglen seiliedig ar waith, ac mae’n cynnwys dau gymhwyster cyfun gorfodol a fydd yn darparu’r wybodaeth a’r sgiliau i wneud y rôl.
Mae un o’r cymwysterau hyn ar Lefel 4 ac mae’r llall ar Lefel 3. Mae’r Dystysgrif Lefel 3 mewn Gyrru Ambiwlans Ymateb Brys yn sicrhau bod gan y prentis y sgiliau gyrru angenrheidiol i wneud y rôl.
Rhaid i’r dysgwyr gyflawni’r naill gymhwyster cyfunol a’r llall ar gyfer y brentisiaeth hon.
Diploma Lefel 4 ar gyfer Ymarferwyr Ambiwlans Cyswllt
C00/0735/8
C00/4533/3
Tystysgrif Lefel 3 mewn Gyrru Ambiwlans Ymateb Brys
C00/0734/4
FAQ Level 3 Certificate in Emergency Response Ambulance Driving - FutureQuals
C00/4531/5
FAQ Level 3 Certificate in Emergency Response Ambulance Driving (RQF) - FutureQuals