Mae Skills for Health wedi cytuno ar gynnwys y Llwybr hwn. Dyma’r unig Lwybr Prentisiaeth yn y sectorau nyrsio deintyddol a gymeradwywyd i’w ddefnyddio yng Nghymru sy’n gymwys i dderbyn cyllid gan Medr.
DYDDIAD CYHOEDDI: 25/01/2018 ACW Fframwaith Rhif. FR04132
Cynnwys y Rhaglen Ddysgu
Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:
- Cymwysterau,
- Sgiliau Hanfodol
- Hyfforddiant yn y gwaith/i ffwrdd o'r gwaith
240 credyd yw’r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 5 (Technoleg Ddeintyddol).
Gofynion mynediad
Bydd yr ymgeiswyr i’r Brentisiaeth hon yn dod o grwpiau oedran amrywiol, gyda chefndiroedd a phrofiad gwahanol.
Dylai dysgwyr feddu ar Safon Uwch neu gymhwyster cyfatebol a dylent fod wedi’u cyflogi fel gweithiwr dan hyfforddiant mewn labordy deintyddol.
Er bod mynediad uniongyrchol i’r Llwybr yn bosib, mae’n debygol iawn y bydd yr ymgeiswyr wedi ymgymryd â Phrentisiaeth Uwch mewn galwedigaeth gofal iechyd neu y bydd ganddynt brofiad a/neu gymwysterau cymaradwy.
Fel canllaw, gall ymgeiswyr sicrhau mynediad drwy amrywiaeth o lwybrau gan gynnwys o:
- waith blaenorol mewn iechyd
- coleg
- hyfforddiant a/neu brofiad a allai gynnwys portffolio sy’n dangos yr hyn y maent wedi’i wneud
Mae’n drosedd i gyflogwyr gyflogi pobl sydd wedi’u gwahardd rhag ymgymryd â gweithgareddau gofal iechyd yn fwriadol. Gall cyflogwyr gysylltu â’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd i sicrhau nad ydynt yn gwneud hynny drwy ofyn am wiriad o’r rhestri gwahardd. Mae’n bosibl y bydd prentisiaid ar y Llwybr hwn yn destun y gwiriadau hyn.
Mae’n bosibl y bydd gan gyflogwyr unigol yn y sector iechyd ofynion mynediad ychwanegol i gyflogaeth e.e. byddai trwydded yrru gyfredol hefyd o fantais (a gallai fod yn angenrheidiol ar gyfer rhai rolau).
Dylai prentisiaid:
• Ddangos brwdfrydedd ynghylch gweithio yn y sector iechyd
• Bod yn ofalgar a thosturiol
• Meddu ar sgiliau llythrennedd, rhifedd a chyfathrebu y bydd y brentisiaeth yn adeiladu arnynt
• Meddu ar lefel briodol o ffitrwydd corfforol i berfformio rhai agweddau ar y rolau swydd
• Bod yn hyblyg oherwydd mae’n bosibl y bydd gofyniad i weithio sifftiau
- Cyfathrebu’n effeithiol â defnyddwyr gwasanaeth a chydweithwyr
Bydd cyflogwyr hefyd yn disgwyl i Brentisiaid fod yn:
- Gydwybodol
- Digynnwrf
- Diffwdan
- Dangos parch
- Dymunol ac yn hawdd sgwrsio â nhw
- Trefnus iawn
- Digon hyblyg i allu ymateb i amgylchiadau annisgwyl wrth iddynt godi.
- Gallu gweithio’n effeithiol mewn tîm.
- Manwl gywir wrth ymgymryd â’u dyletswyddau.
- Gallu cyfathrebu’n effeithiol gyda defnyddwyr gwasanaeth a chydweithwyr
Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth
Lefel 5: Technoleg Ddeintyddol
Lefel 5: Technoleg Ddeintyddol Cymwysterau
Rhaid i ddysgwyr gyflawni’r cymwysterau cyfunol isod:
Gradd Sylfaen mewn Technoleg Ddeintyddol (FdSC) | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
Prifysgol Metropolitan Caerdydd | Amherthnasol | 240 | 2400 | Cymhwysedd | Cymraeg a Saesneg |
Edrychwch ar Atodiad1 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
Lefel 5: Technoleg Ddeintyddol | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
---|---|---|
Cyfathrebu | 2 | 6 |
Cymhwyso Rhif | 2 | 6 |
Llythrennedd Digidol | 2 | 6 |
Saesneg-Cymraeg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru a dylid gosod yr holl Sgiliau Hanfodol o fewn cyd-destun y sector deintyddol.
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
---|---|---|
Lefel 5: Technoleg Ddeintyddol | 1400 | 780 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
240 credyd yw cyfanswm y credydau y mae’n rhaid i brentis eu hennill ar gyfer y llwybr hwn.
2180 awr yw cyfanswm yr oriau hyfforddi yn y gwaith ac i ffwrdd o’r gwaith ar gyfer y llwybr hwn.
Rhagwelir y bydd dysgwr arferol yn cymryd 36 mis i gwblhau’r brentisiaeth.
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd/60 GLH ar gyfer Lefel 3 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH ar gyfer Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH ar gyfer Lefel 2 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru
Gofynion eraill ychwanegol
Amherthnasol
Rolau swydd
Technegydd Deintyddol
Mae technegwyr deintyddol yn aelodau o’r tîm deintyddol sydd, ar gyfarwyddyd clinigwr, yn llunio offer adsefydlu a deintyddol penodol. Unwaith y byddant wedi cymhwyso, gall Technegwyr Deintyddol arbenigo mewn orthodonteg, gwarchodaeth, prosthodonteg a gwaith genol-wynebol.
Dilyniant
Llwybrau dilyniant i’r brentisiaeth:
Edrychwch ar yr Amodau Mynediad.
Llwybrau dilyniant o’r Brentisiaeth:
Gall prentisiaid sy’n cwblhau’r llwybr Prentisiaeth hwn gofrestru fel Technegydd Deintyddol gyda’r Cyngor Deintyddol Cyffredinol. Gall y llwybrau dilyniant gynnwys Technegydd Deintyddol Clinigol.
Mae Technegydd Deintyddol yn weithiwr proffesiynol gofal deintyddol ac yn aelod o’r tîm deintyddol sydd, ar gyfarwyddyd Clinigwr Deintyddol, yn llunio offer adsefydlu a deintyddol a wneir yn arbennig ar gyfer yr unigolyn.
Bydd y prentisiaid yn ennill y sgiliau a’r wybodaeth newydd sydd eu hangen arnynt i wneud y swyddi hyn yn ogystal â chael eu paratoi ar gyfer cyflogaeth a dilyniant gyrfaol yn y dyfodol.
Unwaith y bydd y technegwyr deintyddol wedi cymhwyso ac yn brofiadol, gallant arbenigo mewn:
- orthodonteg
- gwarchodaeth (fe’i gelwir yn dechnoleg y goron a’r bont hefyd)
- prosthodonteg
- gwaith genol-wynebol.
Mae angen i dechnegydd deintyddol:
- feddu ar y gallu i ddefnyddio ei ddwylo yn fedrus, ar gyfer gwaith manwl
- gallu canolbwyntio a rhoi sylw agos i fanylion
- gallu defnyddio amrywiaeth o offer llaw ac offer pŵer
- meddu ar rywfaint o allu artistig a’r dychymyg i addasu technegau er mwyn datrys problemau.
Mae technegwyr deintyddol yn gweithio fel rhan o dîm, ond byddant hefyd yn gweithio’n annibynnol heb oruchwyliaeth agos.
Gellir canfod rhagor o wybodaeth fanwl a chyngor ar yrfaoedd yn y sector iechyd yma
http://www.wales.nhs.uk/nhswalesaboutus/workingfornhswales/vacancies
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos dull gweithredol o nodi a chael gwared ar ffactorau sy'n atal mynediad a chynnydd. Dylai Llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion sydd â nodweddion gwarchodedig a'r rhai heb y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Y nodweddion gwarchodedig a nodir yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared ar wahaniaethu mewn cyflogaeth.
RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau nad ydynt yn gwahaniaethu yn erbyn ymgeiswyr o ran mynediad i'r diwydiant ar sail y naw nodwedd warchodedig hynny.
Mae Skills for Health yn disgwyl i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ategu’r broses o recriwtio a chyflogi unrhyw Brentis yn y GIG a thrwy unrhyw gydberthynas dan gontract â sefydliadau nad ydynt yn rhai’r GIG - pa un a ydynt wedi’u cyflogi’n uniongyrchol neu wedi’u cyflogi gan drydydd parti ac yn gwneud lleoliad gwaith yn y GIG. Gellir cyflawni hyn drwy ddefnyddio’r System Cyflawni Cydraddoldeb ar gyfer sefydliadau’r GIG, neu systemau cyflawni cydraddoldeb tebyg sydd ar waith gyda chyflogwyr nad ydynt yn rhai’r GIG neu ddarparwyr addysg. Mae’r defnydd o systemau o’r fath yn sicrhau bod prosesau ar gyfer recriwtio a chofrestru’n cydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol, yn deg, yn gynhwysol ac yn dryloyw; bod y lefelau cyflog yn cael eu pennu’n deg; bod dysgwyr yn rhydd o gamdriniaeth, aflonyddu, bwlio a thrais, ac yn cael eu cefnogi i aros yn iach. Yn fwy na dim, bydd Skills for Health yn ymdrechu i ymwreiddio cydraddoldeb ym mhrosesau mewnol y sefydliad.
Mae anghydbwysedd rhwng y rhywiau yn y sector iechyd, gan fod mwy o fenywod yn gweithio yn y sector. Mae pob swydd yn agored i ddynion a menywod ac fe’u hysbysebir yn unol â hynny. Mae modelau rôl gwrywaidd yn cael eu hyrwyddo mewn ffordd gadarnhaol drwy ddeunydd marchnata, ffotograffau ac astudiaethau achos. Fodd bynnag, mae rhagdybiaeth o hyd bod rhai rolau swydd ar gyfer menywod a gallai hyn atal rhai dynion rhag ymgeisio i weithio yn y rolau swydd hyn. Gall cyflogwyr gynllunio rhaglenni prentisiaeth lleol i annog nifer uwch o ymgeiswyr gwrywaidd i’r rolau hyn ac i mewn i’r gweithlu cyfan.
Ein nod yw gweld dilyniant pob grŵp heb gynrychiolaeth ddigonol. Dylid bod recriwtio agored ar gyfer Prentisiaid i’r rhaglen, sydd ar gael i bawb sy’n bodloni’r meini prawf dewis a nodir, waeth beth fo’u rhywedd, eu tarddiad ethnig, eu crefydd neu eu hanabledd.
Y Gymraeg
Mae Skills for Health yn cydnabod yr egwyddor y dylai’r Gymraeg a’r Saesneg gael eu trin yn gyfartal. Dylid rhoi ystyriaeth i’r rheiny y mae’r Gymraeg yn iaith gyntaf iddynt neu’r rheiny sy’n gallu siarad Cymraeg ac yn dewis gwneud hynny. Dylai Cyrff Dyfarnu, cyflogwyr, Sefydliadau Addysg Uwch a darparwyr hyfforddiant weithredu mewn ffordd gymesur o ran darparu elfennau o raglenni ac elfen asesu’r cymwysterau a ddarperir yng Nghymru yn Gymraeg; ar sail lefel y galw wedi’i sefydlu am y naill iaith a’r llall lle bo angen a/neu lle bo hynny’n angenrheidiol wrth ddarparu’r brentisiaeth hon.
Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)
Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach.
Cyfrifoldebau
Cyfrifoldeb y Darparwr Hyfforddiant a'r Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu cyflawni’n unol â Chanllawiau Llywodraeth Cymru/Medr ar Brentisiaethau.
Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Medr
Atodiad 1 Lefel 5 - Technoleg Ddeintyddol
Gradd Sylfaen mewn Technoleg Ddeintyddol – FdSc
Mae cyfanswm o 12 modiwl ac mae’r holl fodiwlau’n orfodol. Maent yn cael eu hastudio ar ddwy lefel. Dim ond ar ôl cwblhau’r holl fodiwlau ar y lefel gyntaf y gall myfyrwyr symud o’r lefel gyntaf i’r ail lefel.
Mae’r maes llafur wedi’i strwythuro i gynnwys gofynion y Cyngor Deintyddol Cyffredinol ar gyfer cofrestru fel Technegydd Deintyddol.
Mae’r rhaglen yn cynnwys Lefelau 4 a 5, sydd â chyfanswm o 240 credyd, wedi’u hymestyn dros dair blynedd (wedi’u rhannu’n 80 credyd fesul blwyddyn academaidd). Felly, cwblheir Lefel 4 erbyn diwedd semester 1 blwyddyn 2, ac mae lefel 5 yn dechrau ar ddechrau semester 2 blwyddyn 2. Yn ogystal, bydd y myfyrwyr sy’n dechrau ar lefel 4 yn gwneud hynny ym mis Medi bob tro.
Mae pob modiwl yn werth 20 credyd
Blwyddyn Un:
Prosthodonteg Gosodedig A
Anatomeg a Ffisioleg Ddeintyddol
Prosthodonteg y Gellir ei Dynnu A
Paratoi ar gyfer Ymarfer a Dysgu Seiliedig ar Waith A
Blwyddyn Dau:
Prosthodonteg y Gellir ei Dynnu B
Paratoi i Ymarfer a Dysgu Seiliedig ar Waith B
Orthodonteg y Gellir ei Dynnu
Deunyddiau Deintyddol Cymhwysol
Blwyddyn Tri:
Prosthodonteg y Gellir ei Dynnu C
Cynllunio/Gweithgynhyrchu gyda Chymorth Cyfrifiadur mewn Deintyddiaeth
Prosthodonteg Gosodedig B
Paratoi i Ymarfer a Dysgu Seiliedig ar Waith C