Mae Skills for Health ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru wedi cytuno ar gynnwys y Llwybr hwn. Dyma’r unig Lwybr Prentisiaeth yn y sector Gwasanaethau Gofal Iechyd a gymeradwywyd i’w ddefnyddio yng Nghymru ac sy’n gymwys i dderbyn cyllid gan Medr.
DYDDIAD CYHOEDDI: 02/05/2019 ACW Fframwaith Rhif. FR04422
Cynnwys y Rhaglen Ddysgu
Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:
- Cymwysterau,
- Sgiliau Hanfodol
- Hyfforddiant yn y gwaith/i ffwrdd o'r gwaith
118 credyd yw’r isafswm credydau gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 4 Gweithiwr Cyswllt Gwyddor Gofal Iechyd.
Gofynion mynediad
Dylai prentisiaid:
- Fel rheol, fod yn 18 oed neu hŷn
- Arddangos dysgu blaenorol mewn disgyblaeth gysylltiedig neu brofiad cyfatebol
- Bod wedi cyflawni cymhwyster lefel 3 mewn maes perthnasol neu brofiad cyfatebol.
- Glynu at safonau ymarfer gwyddonol da sy’n nodi safonau ymddygiad, ymarfer ac ymddygiad personol sy’n sail i ddarparu gwyddor gofal iechyd sy’n briodol i’r rôl neu’r gwaith a wneir.
- Dangos brwdfrydedd ynghylch gweithio yn y sector iechyd
- Bod wedi cyflawni sgiliau llythrennedd, rhifedd, cyfathrebu a llythrennedd digidol y bydd y brentisiaeth yn adeiladu arnynt.
- Ymgymryd â gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (mae angen hyn oherwydd mae’n bosibl y bydd prentisiaid yn dod i gysylltiad â phlant, pobl ifanc neu oedolion sy’n agored i niwed))
- Bod yn hyblyg oherwydd mae’n bosibl y bydd gofyniad i weithio sifftiau
- Mae’n bosibl y bydd gan gyflogwyr unigol yn y sector iechyd ofynion ychwanegol o ran mynediad i gyflogaeth e.e. byddai trwydded yrru gyfredol o fantais hefyd (a gallai fod yn angenrheidiol ar gyfer rhai rolau).
Asesiad Cychwynnol:
Bydd darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr yn defnyddio asesiad cychwynnol i nodi unrhyw ddysgu a phrofiad blaenorol fel y gallant deilwra Cynllun Dysgu Unigol Prentisiaid. Ni ddefnyddir yr asesiad cychwynnol hwn i eithrio unrhyw ymgeiswyr. Gall cyflogwyr ddefnyddio proses gyfweld neu ymgeisio ar wahân i asesu priodoldeb unigolion ar gyfer cyflogaeth yn y sector iechyd.
Bydd ymgeiswyr i’r Brentisiaeth hon yn dod o wahanol grwpiau oedran (fel arfer 18 oed a hŷn), o wahanol gefndiroedd a gyda phrofiadau gwahanol.
Fel canllaw, gall ymgeiswyr sicrhau mynediad o amrywiaeth o lwybrau gan gynnwys:
- gwaith
- profiad gwaith
- coleg
- hyfforddiant a/neu brofiad a allai gynnwys portffolio yn dangos yr hyn y maent wedi’i wneud
Mae’n bosibl y bydd yr ymgeiswyr eisoes wedi cyflawni amrywiaeth o gymwysterau ee:
- Sgiliau Hanfodol Cymru
- Prentisiaeth
- Cymwysterau TGAU
- Bagloriaeth Cymru (ni ellir trosglwyddo credydau ar hyn o bryd)
- Bagloriaeth Cymru gyda Phrif Ddysgu (ni ellir trosglwyddo credydau ar hyn o bryd)
- Cymwysterau lefel 3 eraill
Rhaid i brentisiaid sy’n dymuno achredu unrhyw ddysgu blaenorol ddewis opsiynau o fewn y Llwybr a fydd yn rhoi sgiliau a gwybodaeth newydd iddynt.
Nodweddion Personol – Mae cyflogwyr yn edrych am brentisiaid yn y sector iechyd sy’n:
- dosturiol
- gonest
- trefnus
- cydwybodol
- diffwdan
- dangos parch
- dymunol
Maent hefyd yn disgwyl iddynt:
• Allu gweithio mewn tîm
• Cyflawni eu dyletswyddau’n fanwl gywir
Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth
Lefel 4: Gweithiwr Cyswllt Gwyddor Gofal Iechyd
Lefel 4: Gweithiwr Cyswllt Gwyddor Gofal Iechyd Cymwysterau
Rhaid i ddysgwyr gyflawni’r ddau gymhwyster cyfunol a restrir isod.
Lefel 4 BTEC Diploma mewn Gwyddoniaeth Gofal Iechyd | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
Pearson | C00/3831/3 603/2313/9 | 100 | 1000 | Cymhwysedd | Saesneg yn unig |
Edrychwch ar Atodiad 1 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
Lefel 4: Gweithiwr Cyswllt Gwyddor Gofal Iechyd | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
---|---|---|
Cyfathrebu | 2 | 6 |
Cymhwyso Rhif | 2 | 6 |
Llythrennedd Digidol | 2 | 6 |
Saesneg-Cymraeg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru a dylid gosod yr holl Sgiliau Hanfodol o fewn cyd-destun y sector deintyddol.
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
---|---|---|
Lefel 4: Gweithiwr Cyswllt Gwyddor Gofal Iechyd | 1200 | 886 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
Gweithiwr Cyswllt Gwyddor Gofal Iechyd – Cyfanswm o 118 credyd. • Cymhwyster cyfun – 100 credyd • Sgiliau Hanfodol – 18 credyd
Crynodeb o’r hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o’r gwaith
I fodloni gofynion y llwybr prentisiaeth hwn, bydd angen i brentis gwblhau cyfanswm o 2086 o oriau hyfforddi yn y gwaith ac i ffwrdd o’r gwaith – fel arfer dros 24 mis
(Mae’r ffigur hwn yn seiliedig ar: (a) cyfanswm amser y cymhwyster - BTEC 1000 awr, (b) 3 Sgil hanfodol - 180 awr a (c) isafswm o 20 awr o gynefino a mentora a chymorth arall = 1200 awr)
Hyfforddiant i ffwrdd o’r gwaith
Ar gyfer y llwybr prentisiaeth hwn, bydd angen i brentis gwblhau isafswm o 886 o oriau hyfforddi i ffwrdd o’r gwaith. (Mae’r ffigur hwn yn seiliedig ar: (a) 3 Sgil Hanfodol - 180 awr a (b) isafswm o 20 awr o gynefino a mentora a chymorth arall (c) GLH o’r BTEC 686 = 886 awr)
Hyfforddi yn y gwaith
Ar gyfer y llwybr prentisiaeth hwn, bydd angen cwblhau isafswm o 314 o oriau yn y gwaith, fel arfer dros 24 mis. (Mae’r ffigur hwn yn seiliedig ar: cyfanswm o 1200 o oriau ar gyfer y cymhwyster yn (i) uchod namyn yr 886 o oriau i ffwrdd o’r gwaith = 314 o oriau yn y gwaith).
Darperir yr oriau hyfforddi yn y gwaith ac i ffwrdd o’r gwaith drwy un neu fwy o’r dulliau a ganlyn: addysgu unigol ac mewn grwpiau; e-ddysgu; dysgu o bell; hyfforddi; mentora; adborth ac asesu; dysgu ar y cyd/drwy rwydwaith gyda chyfoedion; astudiaeth dan arweiniad.
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 2 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru
Gofynion eraill ychwanegol
Dim
Rolau swydd
Gweithiwr Cyswllt Gwyddor Gofal Iechyd
Cefnogi gwaith Ymarferwyr Gwyddor Gofal Iechyd i gyflawni triniaethau diagnostig, therapiwtig a monitro technegol a gwyddonol sy’n ddiogel ac o safon uchel - o enedigaeth unigolyn hyd ddiwedd oes - mewn rolau swydd mewn ysbytai, practisau cyffredinol a lleoliadau eraill yn y sector gofal iechyd ac ym mhob maes sy’n gysylltiedig â Gwyddor Gofal Iechyd.
Dilyniant
Dilyniant i’r Llwybr hwn
Edrychwch ar y Gofynion Mynediad.
Dilyniant o’r Llwybr hwn
Gall dysgwyr symud ymlaen o’r llwybr hwn i gymwysterau pellach sy’n benodol i’w cyd-destun gwaith a gallai hyn fod mewn gwasanaethau gofal iechyd a gwasanaethau cysylltiedig eraill. Gall y rhain gynnwys cymwysterau neu addysg a hyfforddiant arall sy’n gysylltiedig â gwaith i gefnogi Datblygiad Proffesiynol Parhaus.
Gall dysgwyr hefyd symud ymlaen o’r llwybr hwn i Addysg Uwch ac ymgymryd ag amrywiaeth o raddau cysylltiedig.
Ni ddylid gweld dilyniant fel llwybr fertigol. Mewn rhai achosion, gall symud ymlaen i rôl arall ar yr un lefel fod yr un mod werthfawr oherwydd mae’n cynnig cyfle i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth newydd.
Mae gwybodaeth a chyngor manwl pellach ar yrfaoedd yn y sector iechyd ar gael yma http://www.wales.nhs.uk/cym
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos dull gweithredol o nodi a chael gwared ar ffactorau sy'n atal mynediad a chynnydd. Dylai Llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion sydd â nodweddion gwarchodedig a'r rhai heb y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Y nodweddion gwarchodedig a nodir yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared ar wahaniaethu mewn cyflogaeth.
RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau nad ydynt yn gwahaniaethu yn erbyn ymgeiswyr o ran mynediad i'r diwydiant ar sail y naw nodwedd warchodedig hynny.
Rhaid i gyflogwyr/darparwyr allu arddangos nad oes unrhyw arferion gwahaniaethol amlwg neu gudd wrth ddewis, recriwtio a chyflogi. Rhaid monitro pob gweithgaredd hyrwyddo, dewis a hyfforddi a rhaid iddynt gydymffurfio â deddfwriaeth.
Mae anghydbwysedd rhwng y rhywiau yn y sector iechyd, gan fod mwy o fenywod yn gweithio yn y sector. Mae pob swydd yn agored i ddynion a menywod ac fe’u hysbysebir yn unol â hynny. Mae modelau rôl gwrywaidd yn cael eu hyrwyddo mewn ffordd gadarnhaol drwy ddeunydd marchnata, ffotograffau ac astudiaethau achos. Fodd bynnag, mae rhagdybiaeth o hyd bod rhai rolau swydd ar gyfer menywod a gallai hyn atal rhai dynion rhag ymgeisio i weithio yn y rolau swydd hyn.
Gall cyflogwyr gynllunio rhaglenni prentisiaeth lleol i annog nifer uwch o ymgeiswyr gwrywaidd i’r rolau hyn ac i mewn i’r gweithlu cyfan.
Nid yw Skills for Health yn ymwybodol o unrhyw anghydbwysedd arall mewn perthynas â’r rheiny sy’n ymgymryd â’r Llwybr hwn e.e. gan grwpiau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. Ar gyfer pob prentisiaeth iechyd, anogir recriwtio lleol i adlewyrchu’r gymuned leol.
Bydd Skills for Health yn monitro'r niferoedd sy’n ymgymryd ag unrhyw Brentisiaethau ac yn eu cyflawni a bydd yn cymryd camau i fynd i’r afael ag unrhyw rwystrau i wneud hynny fel rhan o Strategaeth Cymwysterau ein Sector.
Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)
Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach. Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn dilyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.
Cyfrifoldebau
Cyfrifoldeb y Darparwr Hyfforddiant a'r Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu cyflawni’n unol â Chanllawiau Llywodraeth Cymru/Medr ar Brentisiaethau.
Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Medr
Atodiad 1 Lefel 4 - Gweithiwr Cyswllt Gwyddor Gofal Iechyd
Y berthynas rhwng cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth.
Bydd angen i ddysgwyr fodloni gofynion y Diploma BTEC Lefel 4 mewn Gwyddor Gofal Iechyd cyn y gellir dyfarnu’r cymhwyster a chyflawni’r fframwaith. Mae hwn yn gymhwyster gwybodaeth a chymhwysedd cyfun ac fe’i dynodwyd gan Cymwysterau yng Nghymru i’w ddefnyddio yng Nghymru.
• 100 credyd yw’r isafswm credydau gofynnol y mae’n rhaid eu cyflawni
• 51 credyd yw’r isafswm credydau gofynnol y mae’n rhaid eu cyflawni ar Lefel 4 neu uwch
• 37 credyd yw’r cyfanswm gofynnol y mae’n rhaid eu cyflawni
• 63 credyd yw nifer y credydau dewisol y mae’n rhaid eu cyflawni
Mae’r 10 uned ganlynol yn orfodol:
1. Sgiliau ar gyfer Dysgu Gydol Oes
2. Ymarfer Proffesiynol a Gofal sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn
3. Cyd-destun Cyfreithiol a Moesegol Ymarfer
4. Iechyd, Diogelwch a Sicrwydd yn yr Amgylchedd Gwyddor Gofal Iechyd
5. Gwasanaethau Gwyddonol Technegol
6. Cyfathrebu Effeithiol mewn Gofal Iechyd
7. Archwilio, Ymchwil, Datblygu ac Arloesedd
8. Arweinyddiaeth a Gwaith Tîm
9. Addysgu, Dysgu ac Asesu Sgiliau Ymarferol
10. Datblygiad Personol a Phroffesiynol Parhaus
Mae 122 o unedau dewisol ar gael. Bydd yr unedau dewisol a ddewisir yn dibynnu ar y rôl a’r ddisgyblaeth y mae’r prentis yn ymgymryd â nhw. (Edrychwch ar Fanyleb Cymhwyster y Corff Dyfarnu i weld yr unedau sydd ar gael ac unrhyw gyfuniadau o unedau sy’n ofynnol yn y strwythur).
Bydd yr unedau’n parhau i gael eu hadolygu gan gyflogwyr GIG Cymru i nodi pa rai sy’n benodol ac yn gwbl berthnasol i rolau Gwyddor Gofal Iechyd yng Nghymru.