- Framework:
- Y Sector Pŵer
- Lefel:
- 2/3
Mae’r Sector Pŵer yn cynnwys y gweithgareddau sy’n gysylltiedig â chynhyrchu, trawsgludo trydan yn genedlaethol a dosbarthu trydan yn lleol, hyd at ac yn cynnwys, mesurydd y cwsmer.
Mae unigolion â’r nodweddion a’r priodweddau canlynol yn debygol o fod yn addas ar gyfer y Brentisiaeth hon:
- Gall trydan fod yn beryglus iawn os nad yw’n cael ei drin yn gywir, felly mae’ch diogelwch chi, eich cydweithwyr a’r cyhoedd yn hollbwysig yn y swydd hon. Mae’n rhaid i chi fod yn ymwybodol iawn a diogelwch a bydd gennych agwedd gyfrifol iawn at waith.
- Bydd Gweithwyr Gwifrau Uwchben a Pheirianwyr Tyrbinau Gwynt yn gweithio ar uchderau, felly ni fyddai unigolyn sy’n ofn uchder yn addas ar gyfer y rolau hyn.
- Gallai gwaith pob peiriannydd tyrbinau gwynt olygu bod yn rhaid iddo weithio ar y môr o bosibl a threulio cyfnodau maith ar y môr felly dylai ymgeiswyr ar gyfer y rolau hyn fod yn barod i ystyried hyn os oes angen.
- Mae lefel ffitrwydd da yn bwysig i allu gwneud y gwaith yn effeithlon oherwydd bod angen codi a phlygu fel rhan o’r swydd.
- Parodrwydd i weithio yn yr awyr agored ym mhob tywydd.
- Sgiliau ymarferol da ar gyfer trafod adnoddau ac offer a pharodrwydd i weithio’n galed. Mae’r rhain yn swyddi lle mae angen llawer o sgiliau ac mae rhai elfennau yn gofyn am lawer o ganolbwyntio.
- Teithio a bod ar gael 24/7 ar gyfer gwaith brys.
- Meddu ar drwydded yrru (dymunol)
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol a’r gallu i weithio ar eich pen eich hun ac fel rhan o dîm.
- Mae ceblau wedi’u lliwio’n aml ac mae gallu gweld lliwiau yn iawn yn bwysig dan yr amgylchiadau hyn. Os yw darpar ymgeiswyr yn bryderus am ddallineb lliw dylent drafod hyn gyda’r cyflogwr sy’n recriwtio er mwyn nodi unrhyw addasiadau rhesymol y gellir eu gwneud.
- Bydd rhaid gweithio mewn mannau cyfyngedig yn rhai o’r rolau hyn.
- Bydd angen i brentisiaid fod â diddordeb brwd yn y Sector Pŵer ac mewn cyfarpar a rhwydweithiau mecanyddol/trydanol/ffisegol.
Opsiynau a lefelau llwybrau
Sector Pŵer - Lefel 2
Llwybr 1: Addas ar gyfer swyddi Gweithiwr Gwifrau, Gosodwr Trydanol a Chysylltwr Ceblau.
Sector Pŵer – Lefel 3
Llwybr 1: Addas ar gyfer swydd Technegydd Prentis Tyrbinau Gwynt.
Llwybr 2: Addas ar gyfer swyddi Crefftwr/Gosodwr – Crefftwr/Gosodwr Trydanol – Crefftwr/Gosodwr Mecanyddol – Crefftwr/Gosodwr Trydanol a Mecanyddol – Crefftwr/Gosodwr Rheoli ac Offer – Trydanol a Rheoli ac Offer.
Llwybr 3: Addas ar gyfer swyddi Technegydd, Gweithiwr Gwifrau, Cysylltydd Ceblau a Gosodwr Trydanol.
Llwybr 4: Addas ar gyfer swydd Prentis Tyrbinau Gwynt – Gosod a Chomisiynu.
Mwy o wybodaeth
Hyd
Lefel 2: 18 mis
Lefel 3: 18-24 mis
Llwybrau dilyniant
Lefel 2 Mae’r llwybrau’n cynnwys:
- Prentisiaeth Lefel 3
- Cyflogaeth
- Hyfforddiant a datblygu parhaus,
Lefel 3 Mae’r llwybrau’n cynnwys:
- Cyflogaeth
- Hyfforddiant parhaus
- Camu ymlaen fertigol fel: Technegydd Prentis - Technegydd dan Hyfforddiant - Technegydd/ Technegydd Cydrannau - Technegydd Awdurdodedig - Goruchwylydd Safle dan Hyfforddiant - Goruchwylydd Safle - Uwch Oruchwylydd Safle.
- Graddau Sylfaen.
Cymwysterau
Lefel 2: Diploma City & Guilds mewn Peirianneg Pŵer Trydanol
Lefel 3: Diploma NVQ mewn Peirianneg Pŵer Trydanol ar lwybr dewisol.
Beth yw'r gofynion mynediad ar gyfer y llwybr hwn?
Mae gan bob llwybr prentisiaeth yng Nghymru ofynion mynediad. Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn y llwybr hwn – mae angen i chi gael y cymhwyster lefel mynediad canlynol;
Lefel 3
Lefel 2: Dim gofynion mynediad ffurfiol.
Lefel 3
Lefel 3: Dim gofynion mynediad ffurfiol ar gyfer llwybrau 2/3.
Llwybr 1/4: Yn ogystal â’r gofynion mynediad fframwaith cyffredinol, byddai disgwyl i gyflogwyr gynnal Diploma NVQ Lefel 2 mewn Perfformio Gweithrediadau Peirianneg cyn dechrau’r Brentisiaeth. Ni fydd dysgwyr heb y cymhwyster hwn yn cael eu heithrio o’r Brentisiaeth, ond byddai disgwyl iddyn nhw ei gwblhau fel gofyniad cyflogwr ychwanegol o’r fframwaith.
Gweld llwybr llawn