Mae'r Academi Sgiliau Genedlaethol ar gyfer Bwyd a Diod (NSAFD) a Proskills wedi cytuno ar gynnwys y Llwybr hwn. Dyma'r unig Lwybr Prentisiaeth yn y sector Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch a gymeradwywyd i'w ddefnyddio yng Nghymru sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru.
Cynnwys y Rhaglen Ddysgu
Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:
- Cymwysterau,
- Sgiliau Hanfodol
- Hyfforddiant yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
61 credyd yw'r isafswm credydau gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 2, y Diwydiant Gwydr – Gosod Llenfuriau.
58 credyd yw'r isafswm credydau gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 2, y Diwydiant Gwydr - Gosod Ffasgia Domestig, Soffit ac Estyll Tywydd.
51 credyd yw'r isafswm credydau gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 2, y Diwydiant Gwydr - Prosesu Gwydr.
56 credyd yw'r isafswm credydau gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 2, y Diwydiant Gwydr - Gweithgynhyrchu Gwydr Gwastad.
60 credyd yw'r isafswm credydau gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 2, Gwydro.
77 credyd yw'r isafswm credydau gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 2, y Diwydiant Gwydr - Gosod Systemau Ffotofoltäig.
Gofynion mynediad
Croesewir ymgeiswyr prentisiaeth o amrywiaeth o gefndiroedd amrywiol a rhagwelir y bydd ganddynt bob math o wahanol brofiadau a/neu gymwysterau ac y byddant wedi cyflawni pethau amrywiol. Bydd arddangos dysgu blaenorol perthnasol, trosglwyddadwy yn rhan bwysig o broses dewis Prentis unrhyw gyflogwr.
Bydd disgwyl i ymgeiswyr prentisiaeth fynychu cyfweliad gyda'r cyflogwr / darparwr hyfforddiant i asesu eu haddasrwydd ar gyfer ymuno â'r fframwaith. Mae'r cyfweliad yn gyfle i siarad yn uniongyrchol â'r ymgeisydd a thrafod dysgu a phrofiad blaenorol unigolyn. O'r cyfweliad hwn, bydd y cyflogwr yn gallu penderfynu a yw ymgeisydd yn addas gan ddefnyddio rhai o'r canllawiau canlynol.
Lefel 2
Mae enghreifftiau o ofynion a fydd yn cael eu hystyried fel sail addas ar gyfer mynediad i'r Brentisiaeth yn cynnwys:
- Profiad gwaith neu gyflogaeth flaenorol, wedi'i ategu gan bortffolio o dystiolaeth neu
- Gwaith gwirfoddol neu gymunedol neu
- Prawf o gwblhau cyrsiau heb eu hachredu neu
- Dyfarniadau, Tystysgrifau neu Ddiplomâu mewn diwydiant cysylltiedig megis
Y Diwydiannau Gweithgynhyrchu, Peirianneg, Adeiladu neu Greadigol neu
- Diploma 14-19 mewn Gweithgynhyrchu a Dylunio Cynnyrch, Adeiladu a'r
Amgylchedd Adeiledig neu Creadigol a'r Cyfryngau neu
- Bagloriaeth Cymru - Diploma Sylfaen, Canolradd neu Uwch neu
- TGAU mewn Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth neu
- Safon Uwch mewn Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth
Mae sgiliau llythrennedd a rhifedd yn ddymunol iawn, ac mae'r fframwaith Prentisiaeth Gwydr yn hwyluso datblygiad y sgiliau hyn, a gellir teilwra cymorth dysgu i roi'r cymorth unigol sydd ei angen ar Brentisiaid.
Mae'r sector Gwydr yn amrywio o gynhyrchu ar raddfa fawr a ffatrïoedd gwneuthuriad i stiwdios bach, arbenigol sy'n dylunio fasys gwydr. Mae ystod amrywiol o yrfaoedd ar gael, o swyddi gweithgynhyrchu a phrosesu gwydr i osod ffenestri, drysau a heulfannau mewn eiddo domestig a masnachol. Hefyd, dylunio gwydr arbenigol a gwydr lliw pensaernïol. Ar gyfer gweithwyr gwydr crefft a gwneuthurwyr gwydr lliw, byddai sgiliau a diddordeb mewn gwaith dylunio a chelf yn fanteisiol ond nid yn hanfodol. Bydd rhai rolau swydd (e.e. Gweithiwr Ffwrnais a Chwythwr Gwydr) yn golygu gweithio o dan amodau poeth ac mae llawer o swyddi wedi'u lleoli mewn ffatri.
Ar gyfer yr is-sector gwelliannau i'r cartref, mae'r gallu i weithio gydag offer, bod yn hapus yn gweithio yn yr awyr agored ym mhob tywydd, sylw da i fanylion a gweithio'n dda gyda chwsmeriaid i gyd yn ofynion arferol. Bydd rhai rolau'n golygu bod angen i unigolion weithio yn uchel i fyny.
Ym mhob rôl, mae hyfforddiant yn y gwaith ar gael ac mae gan y rhan fwyaf o gyflogwyr ddiddordeb arbennig mewn ymgeiswyr sy'n gallu dangos brwdfrydedd, sgiliau cyfathrebu da, ymagwedd gadarnhaol a pharodrwydd i weithio'n galed a datblygu sgiliau a gwybodaeth newydd.
Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth
Lefel 2: Y Diwydiant Gwydr - Gosod Llenfuriau
Lefel 2: Y Diwydiant Gwydr - Gosod Llenfuriau Cymwysterau
Rhaid i ddysgwyr gyflawni'r cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth isod.
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
| Lefel 2: Y Diwydiant Gwydr - Gosod Llenfuriau | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
|---|---|---|
| Cyfathrebu | 1 | 6 |
| Cymhwyso Rhif | 1 | 6 |
Saesneg-Cymraeg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
| Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
|---|---|---|
| Lefel 2: Y Diwydiant Gwydr - Gosod Llenfuriau | 254 | 300 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
Llwybr gydag isafswm oriau dysgu = 554 o oriau hyfforddi
Mae'r Brentisiaeth Sylfaen (Lefel 2) yn y Diwydiant Gwydr yn cymryd 12-18 mis i'w chwblhau.
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 1 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 1 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
Lefel 2: Y Diwydiant Gwydr - Gosod Ffasgia Domestig, Soffit ac Estyll Tywydd
Lefel 2: Y Diwydiant Gwydr - Gosod Ffasgia Domestig, Soffit ac Estyll Tywydd Cymwysterau
Rhaid i ddysgwyr gyflawni'r cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth isod.
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
| Lefel 2: Y Diwydiant Gwydr - Gosod Ffasgia Domestig, Soffit ac Estyll Tywydd | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
|---|---|---|
| Cyfathrebu | 1 | 6 |
| Cymhwyso Rhif | 1 | 6 |
Saesneg-Cymraeg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
| Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
|---|---|---|
| Lefel 2: Y Diwydiant Gwydr - Gosod Ffasgia Domestig, Soffit ac Estyll Tywydd | 246 | 300 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
Llwybr gydag isafswm oriau dysgu = 546 o oriau hyfforddi
Mae'r Brentisiaeth Sylfaen (Lefel 2) yn y Diwydiant Gwydr yn cymryd 12-18 mis i'w chwblhau.
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 1 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 1 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
Lefel 2: Y Diwydiant Gwydr - Prosesu Gwydr
Lefel 2: Y Diwydiant Gwydr - Prosesu Gwydr Cymwysterau
Rhaid i ddysgwyr gyflawni'r cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth isod.
| Lefel 2 Tystysgrif mewn Gweithrediadau sy'n Gysylltiedig â Gwydr | |||||
|---|---|---|---|---|---|
| Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
| Lefel 2: Y Diwydiant Gwydr - Prosesu Gwydr | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
|---|---|---|
| Cymhwyso Rhif | 1 | 6 |
Saesneg-Cymraeg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
| Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
|---|---|---|
| Lefel 2: Y Diwydiant Gwydr - Prosesu Gwydr | 178 | 300 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
Llwybr gydag isafswm oriau dysgu = 478 o oriau hyfforddi
Mae'r Brentisiaeth Sylfaen (Lefel 2) yn y Diwydiant Gwydr yn cymryd 12-18 mis i'w chwblhau.
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 1 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 1 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
Lefel 2: Y Diwydiant Gwydr - Gweithgynhyrchu Gwydr Gwastad
Lefel 2: Y Diwydiant Gwydr - Gweithgynhyrchu Gwydr Gwastad Cymwysterau
Rhaid i gyfranogwyr gyflawni'r cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth isod.
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
| Lefel 2: Y Diwydiant Gwydr - Gweithgynhyrchu Gwydr Gwastad | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
|---|---|---|
| Cyfathrebu | 1 | 6 |
| Cymhwyso Rhif | 1 | 6 |
Saesneg-Cymraeg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
| Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
|---|---|---|
| Lefel 2: Y Diwydiant Gwydr - Gweithgynhyrchu Gwydr Gwastad | 187 | 300 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
Llwybr gydag isafswm oriau dysgu = 487 o oriau hyfforddi
Mae'r Brentisiaeth Sylfaen (Lefel 2) yn y Diwydiant Gwydr yn cymryd 12-18 mis i'w chwblhau.
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 1 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 1 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
Lefel 2: Y Diwydiant Gwydr - Gosod Systemau Ffotofoltäig
Lefel 2: Y Diwydiant Gwydr - Gosod Systemau Ffotofoltäig Cymwysterau
Rhaid i ddysgwyr gyflawni'r cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth isod.
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
| Lefel 2: Y Diwydiant Gwydr - Gosod Systemau Ffotofoltäig | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
|---|---|---|
| Cyfathrebu | 1 | 6 |
| Cymhwyso Rhif | 1 | 6 |
Saesneg-Cymraeg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
| Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
|---|---|---|
| Lefel 2: Y Diwydiant Gwydr - Gosod Systemau Ffotofoltäig | 305 | 300 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
Llwybr gydag isafswm oriau dysgu = 605 o oriau hyfforddi
Mae'r Brentisiaeth Sylfaen (Lefel 2) yn y Diwydiant Gwydr yn cymryd 12-18 mis i'w chwblhau.
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 1 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 1 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
Lefel 2: Y Diwydiant Gwydr - Gwydro
Lefel 2: Y Diwydiant Gwydr - Gwydro Cymwysterau
Rhaid i ddysgwyr gyflawni'r cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth isod.
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
| Lefel 2: Y Diwydiant Gwydr - Gwydro | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
|---|---|---|
| Cyfathrebu | 1 | 6 |
| Cymhwyso Rhif | 1 | 6 |
Saesneg-Cymraeg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
| Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
|---|---|---|
| Lefel 2: Y Diwydiant Gwydr - Gwydro | 244 | 300 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
Llwybr gydag isafswm oriau dysgu = 544 o oriau hyfforddi
Mae'r Brentisiaeth Sylfaen (Lefel 2) yn y Diwydiant Gwydr yn cymryd 12-18 mis i'w chwblhau.
.
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 1 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 1 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
Gofynion eraill ychwanegol
Mae llawer o swyddi gwydr/gwydro yn gofyn am sgiliau llaw ac yn cynnwys gweithio gyda'ch dwylo, trin offer trwm a threulio cyfnodau hir yn sefyll; felly mae ffitrwydd corfforol yn bwysig. Bydd gweithio yn yr awyr agored, ym mhob tywydd, ac yn uchel i fyny hefyd yn rhan o'r rôl.
Mae'r gwaith hefyd yn dibynnu'n helaeth ar waith tîm a sgiliau cyfathrebu da. Mae cyflogwyr yn y Diwydiant Gwydr yn rhoi gwerth mawr ar y rhain
Dilyniant
Lefel 2
Dilyniant i mewn i'r llwybr:
Nid oes unrhyw lwybrau mynediad wedi'u diffinio ymlaen llaw i Brentisiaeth Sylfaen y Diwydiant Gwydr ond efallai y bydd newydd-ddyfodiaid i'r diwydiant yn ystyried symud ymlaen o'r meysydd canlynol:
- Cymwysterau seiliedig ar waith megis NVQs neu gymwysterau galwedigaethol cysylltiedig mewn pwnc sy'n ymwneud â’r Diwydiant Gwydr.
- Mae diplomâu sy'n gysylltiedig â gyrfaoedd yn y sector Gwydr ar gael yn eang ac mae pob un ohonynt yn darparu sail dda ar gyfer mynediad i'r llwybr hwn.
- Mae’r Dysgu sy’n rhan o Fagloriaeth Cymru a ddilynir fel rhan o raglen Llwybrau 14-19 Cymru neu unrhyw raglenni perthnasol eraill, sy'n cyfuno hyfforddiant academaidd a galwedigaethol, yn llwybrau cydnabyddedig i mewn i Brentisiaeth.
- Mae cymwysterau TGAU hefyd yn darparu sylfaen gadarn i adeiladu arni, ac mae pynciau fel Celf, Gwyddoniaeth a Dylunio a Thechnoleg yn cael eu hystyried yn ddefnyddiol gan gyflogwyr y sector Gwydr, ynghyd â Saesneg, Mathemateg, TG ac Astudiaethau Busnes.
Bydd y Diploma Sylfaen/Uwch mewn Gweithgynhyrchu a Dylunio Cynnyrch yn darparu llwybr rhagorol i'r sector gweithgynhyrchu Gwydr. Yn ogystal, mae'r Diploma Sylfaen/Uwch mewn Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig hefyd yn darparu llwyfan ardderchog i unigolion sydd â diddordeb mewn symud i mewn i'r diwydiant Gwydr. Mae'r prif ddysgu o'r cymwysterau hyn wedi'i ymgorffori ym Magloriaeth Cymru, a gallai hwn fod yn llwybr addas.
Dilyniant o'r llwybr hwn:
Ar ôl cwblhau'r Brentisiaeth Sylfaen hon, mae sawl opsiwn ar gael i'r ymgeisydd llwyddiannus sy'n dymuno parhau â'i ddatblygiad er mwyn camu ymlaen yn ei yrfa.
- Parhau i ddatblygu eich sgiliau a'ch profiad technegol ac ymdrechu i "fod y gorau" yn y llwybr galwedigaethol rydych chi wedi’i ddewis a bod â balchder yn eich gwaith.
- Cymryd rhan mewn hyfforddiant cwmni mewnol neu ddysgu allanol perthnasol, lle bo hynny ar gael a/neu'n cael ei gynnig.
- Ehangu a datblygu eich sylfaen sgiliau drwy symud ymlaen i rolau swyddi eraill o fewn y
diwydiant Gwydr - "dilyniant llorweddol". Efallai y bydd angen ymgymryd â chymwysterau eraill sy'n gysylltiedig â Gwydr ar Lefel 2 neu 3. Er enghraifft, Prosesu Gwydr, Gweithgynhyrchu Gwydr, Gwydro, Gwydro Modurol, Gosod Llenfuriau neu Arolygu Ffenestriad.
- Symud ymlaen i Brentisiaeth Lefel 3 yn y Diwydiant Gwydr.
- Symud ymlaen i Brentisiaeth Beirianneg gysylltiedig.
- Ymgymryd â Diploma Uwch.
- Ymgymryd â chymwysterau Asesydd a Dilysydd.
- Symud ymlaen i swyddi lefel uwch yn y diwydiant Gwydr fel Uwch- dechnegydd/Gosodwr, rolau Peirianneg neu Arweinydd/Goruchwyliwr Tîm.
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos dull gweithredol o nodi a chael gwared ar ffactorau sy'n atal mynediad a chynnydd. Dylai Llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion sydd â nodweddion gwarchodedig a'r rhai heb y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Y nodweddion gwarchodedig a nodir yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared ar wahaniaethu mewn cyflogaeth.
RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau nad ydyn nhw'n gwahaniaethu yn erbyn ymgeiswyr o ran mynediad i'r diwydiant ar sail y naw nodwedd warchodedig hynny.
TROSOLWG
Wrth i'r sector Gwydr barhau i fabwysiadu technolegau a dyluniadau cynnyrch mwy datblygedig, ac wrth i fesurau rheoli prosesau barhau i wella, bydd angen codi lefelau sgiliau ar draws y sector er mwyn cynnal a gwella cystadleurwydd. Er ei bod yn debygol y bydd gostyngiad ym maint cyffredinol y gweithlu yn y sector yn ystod y degawd nesaf, bydd angen dros 2,500 o bobl ychwanegol o hyd ar ddiwydiannau yng Nghymru yn y blynyddoedd hyd at 2027.
Bydd mwy o alw am unigolion sydd â sgiliau lefel uwch. Nod y Brentisiaeth Gwydr hon yw hyrwyddo amrywiaeth, cyfle a chynhwysiant drwy gynnig cyfleoedd dysgu o safon uchel.
Rhaid i'r Brentisiaeth gael ei chyflwyno mewn amgylcheddau heb ragfarn a gwahaniaethu lle gall pob dysgwr gyfrannu'n llawn a theimlo bod ei gyfraniad at y diwydiant yn cael ei werthfawrogi. Ni ddylai fod unrhyw arferion gwahaniaethol o ran dethol a recriwtio Prentisiaid i'r rhaglen hon.
MATERION
Ar hyn o bryd, nid yw'r diwydiant gwydr yng Nghymru yn denu digon o fenywod, ymgeiswyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol ac ymgeiswyr sydd ag anhawster neu anabledd.
Mae'r diwydiant yn cydnabod nad yw'n manteisio i'r eithaf ar y gronfa hon o dalent sydd heb ei defnyddio, a allai helpu'r diwydiant Gwydr i fynd i'r afael â bylchau a phrinderau sgiliau. Un her allweddol i'r diwydiant Gwydr yng Nghymru yw bod y gweithlu presennol yn heneiddio, gyda phrinder penodol o weithwyr 16-24 oed.
Mae'r strategaeth "Sgiliau sy'n Gweithio i Gymru" yn nodi bod gwaith pellach i'w wneud i fynd i'r afael ag anghenion pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, pobl ag anghenion cymhleth (fel troseddwyr a chyn-droseddwyr) ac oedolion sy'n ddi-waith neu'n economaidd anweithgar.
RHWYSTRAU
Mae'r rhesymau dros yr anghydbwysedd yng nghyfansoddiad presennol gweithlu'r diwydiant Gwydr yn deillio'n bennaf o'i ddelwedd wael yn hanesyddol a chamsyniad bod swyddi yn y diwydiant prosesu yn fudr ac yn beryglus. Nid yw'r ystod eang o gyfleoedd gyrfa heriol ac amrywiol yn y diwydiant Gwydr yn hysbys iawn. Ar hyn o bryd, nid yw'n yrfa o ddewis i lawer o geiswyr gwaith am y tro cyntaf neu'r rhai sy'n ystyried newid gyrfa.
CAMAU GWEITHREDU
Nid yw mynediad at yrfa yn y diwydiant Gwydr yn gyfyngedig ac nid oes unrhyw rwystrau sylweddol i fynediad a dilyniant. Fel ffordd o fynd i'r afael â'r mater o ddenu pobl ifanc i'r diwydiant, mae Proskills wedi datblygu nifer o Raglenni Ysgolion i Mewn i Ddiwydiant. Rhaglenni sy’n cael eu cefnogi gan y diwydiant yw’r rhain sydd wedi'u cynllunio i addysgu ac ennyn diddordeb pobl ifanc ym myd gweithgynhyrchu prosesau ac i godi ymwybyddiaeth o'r cyfleoedd gyrfa cyffrous a heriol sydd ar gael yn y diwydiannau hyn.
Mae Proskills yn mynychu ffeiriau gyrfaoedd a digwyddiadau sgiliau rhanbarthol a chenedlaethol yn rheolaidd er mwyn hyrwyddo Prentisiaethau. Mae hyn yn gyfle delfrydol i fynd i'r afael â'r materion cydraddoldeb ac amrywiaeth.
Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)
Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach. Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn derbyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.
Cyfrifoldebau
Cyfrifoldeb y Darparwr Hyfforddiant a'r Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu cyflawni'n unol â Chanllawiau Llywodraeth Cymru ar Brentisiaethau.
Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Llywodraeth Cymru
DfES-ApprenticeshipUnit@llyw.cymru